Yn Ôl Luc 5:1-39

  • Dalfa wyrthiol o bysgod; disgyblion cyntaf (1-11)

  • Iacháu gwahanglaf (12-16)

  • Iesu’n iacháu dyn wedi ei barlysu (17-26)

  • Iesu’n galw Lefi (27-32)

  • Cwestiwn am ymprydio (33-39)

5  Ar un achlysur pan oedd y dyrfa yn gwasgu arno ac yn gwrando ar air Duw, roedd yn sefyll wrth ymyl Llyn Genesaret.* 2  Ac fe welodd ddau gwch wedi eu docio ar lan y llyn, ond roedd y pysgotwyr wedi dod allan ohonyn nhw ac roedden nhw’n golchi eu rhwydi. 3  Aeth ef i mewn i un o’r cychod, yr un oedd yn perthyn i Simon, a gofyn iddo wthio allan o’r tir ychydig. Yna eisteddodd, a dechreuodd ddysgu’r tyrfaoedd o’r cwch. 4  Ar ôl iddo orffen siarad, dywedodd wrth Simon: “Dos allan i’r dŵr dwfn, a gollyngwch eich rhwydi er mwyn dal pysgod.” 5  Ond atebodd Simon: “Athro, gwnaethon ni weithio’n galed drwy’r nos heb ddal dim byd, ond ar dy air di fe wna i ollwng y rhwydi.” 6  Wel, pan wnaethon nhw hyn, fe ddalion nhw nifer fawr iawn o bysgod. Yn wir, dechreuodd eu rhwydi rwygo. 7  Felly dyma nhw’n chwifio eu dwylo ar eu partneriaid yn y cwch arall i ddod i’w helpu nhw, ac fe ddaethon nhw a llenwi’r ddau gwch, nes iddyn nhw ddechrau suddo. 8  Gan weld hyn, syrthiodd Simon Pedr wrth liniau Iesu, a dweud: “Dos i ffwrdd oddi wrtho i, Arglwydd, oherwydd fy mod i’n ddyn pechadurus.” 9  Roedd ef a’r rhai oedd gydag ef wedi eu syfrdanu’n llwyr o weld faint o bysgod roedden nhw wedi eu dal, 10  ac roedd yr un peth yn wir am Iago ac Ioan, meibion Sebedeus, a oedd yn bartneriaid i Simon. Ond dywedodd Iesu wrth Simon: “Stopia fod yn ofnus. O hyn ymlaen byddi di’n dal dynion byw.”* 11  Felly daethon nhw â’r cychod yn ôl i’r lan a gadael popeth a’i ddilyn ef. 12  Ar achlysur arall tra oedd yn un o’r dinasoedd, edrycha! roedd ’na ddyn yn llawn o’r gwahanglwyf! Pan welodd ef Iesu, syrthiodd ar ei wyneb ac ymbil arno: “Arglwydd, os wyt ti eisiau, gelli di fy ngwneud i’n lân.” 13  Felly, gan estyn ei law, dyma’n cyffwrdd â’r dyn, gan ddweud: “Rydw i eisiau! Bydda’n lân.” Ar unwaith diflannodd y gwahanglwyf oddi arno. 14  Yna gorchmynnodd i’r dyn beidio â dweud wrth neb: “Ond dos a dangos dy hun i’r offeiriad, a chyflwyna offrwm er mwyn iti gael dy lanhau, yn union fel y gorchmynnodd Moses, fel tystiolaeth iddyn nhw.” 15  Ond roedd y newyddion amdano yn dal i fynd ar led, a byddai tyrfaoedd mawr yn dod at ei gilydd i wrando ac i gael eu hiacháu oddi wrth eu hafiechydon. 16  Fodd bynnag, byddai ef yn aml yn mynd i lefydd unig i weddïo. 17  Ar un o’r diwrnodau hynny pan oedd yn dysgu, roedd Phariseaid ac athrawon y Gyfraith wedi dod allan o bob pentref yng Ngalilea a Jwdea ac o Jerwsalem ac roedden nhw’n eistedd yno; ac roedd grym Jehofa gydag ef i iacháu. 18  Ac edrycha! roedd dynion yn cario dyn wedi ei barlysu ar stretsier, ac roedden nhw’n ceisio dod ag ef i mewn a’i osod o flaen Iesu. 19  Oherwydd eu bod nhw wedi methu cael ffordd i ddod ag ef i mewn o achos y dyrfa, dyma nhw’n dringo ar y to, tynnu’r teils, a’i ollwng i lawr ar y stretsier i ganol y dyrfa o flaen Iesu. 20  Pan welodd ef eu ffydd, dywedodd: “Ddyn, mae dy bechodau wedi cael eu maddau.” 21  Yna dechreuodd yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid resymu, gan ddweud: “Pwy ydy hwn sy’n cablu? Pwy sy’n gallu maddau pechodau heblaw Duw yn unig?” 22  Ond, yn synhwyro eu meddyliau, dyma Iesu’n eu hateb nhw: “Pam rydych chi’n meddwl fel hyn? 23  Beth sy’n haws, dweud, ‘Mae dy bechodau wedi cael eu maddau,’ neu ddweud, ‘Cod a cherdda’? 24  Ond er mwyn i chi wybod bod gan Fab y dyn awdurdod ar y ddaear i faddau pechodau—” dywedodd wrth y dyn wedi ei barlysu: “Rydw i’n dweud wrthot ti, Cod, cymera dy stretsier, a dos adref.” 25  Ar hynny, safodd i fyny o’u blaenau nhw, cododd yr hyn roedd wedi bod yn gorwedd arno, ac aeth i’w gartref, yn clodfori Duw. 26  Yna roedd pawb yn hollol syfrdan, a dechreuon nhw ogoneddu Duw, ac roedden nhw’n llawn ofn, ac yn dweud: “Rydyn ni wedi gweld pethau rhyfeddol heddiw!” 27  Nawr ar ôl hynny, aeth ef allan a gwelodd gasglwr trethi o’r enw Lefi yn eistedd yn y swyddfa dreth, a dywedodd wrtho: “Dilyna fi.” 28  Ac yn gadael popeth, cododd ef a dechrau ei ddilyn. 29  Yna trefnodd Lefi wledd fawr ar ei gyfer ef yn ei dŷ, ac roedd ’na dyrfa fawr o gasglwyr trethi ac eraill a oedd yn bwyta gyda nhw. 30  Ar hynny, dechreuodd y Phariseaid a’u hysgrifenyddion gwyno wrth ei ddisgyblion, gan ddweud: “Pam rydych chi’n bwyta ac yn yfed gyda chasglwyr trethi a phechaduriaid?” 31  Dyma Iesu’n eu hateb nhw: “Does dim angen meddyg ar y rhai sy’n iach, ond mae angen un ar y rhai sy’n sâl. 32  Rydw i wedi dod i alw, nid pobl gyfiawn, ond pechaduriaid i edifeirwch.” 33  Dywedon nhw wrtho: “Mae disgyblion Ioan yn ymprydio’n aml ac yn gweddïo’n daer, fel y mae disgyblion y Phariseaid, ond mae dy rai di yn bwyta ac yn yfed.” 34  Dywedodd Iesu wrthyn nhw: “Dydych chi ddim yn gallu gwneud i ffrindiau’r priodfab ymprydio tra bydd y priodfab gyda nhw, nac ydych? 35  Ond bydd dyddiau’n dod pan fydd y priodfab yn cael ei gymryd i ffwrdd oddi wrthyn nhw; yna byddan nhw’n ymprydio yn y dyddiau hynny.” 36  Hefyd, adroddodd eglureb wrthyn nhw: “Does neb yn torri darn o frethyn o gôt newydd a’i wnïo ar gôt hen. Os yw’n gwneud hynny, bydd y darn o frethyn newydd yn rhwygo i ffwrdd ac ni fydd y darn o frethyn o’r côt newydd yn debyg i’r hen un. 37  Hefyd, does neb yn rhoi gwin newydd mewn hen grwyn. Os yw’n gwneud hynny, bydd y gwin newydd yn rhwygo’r crwyn a bydd y gwin yn gollwng a’r crwyn yn cael eu difetha. 38  Ond mae’n rhaid rhoi gwin newydd mewn crwyn newydd. 39  Does neb eisiau gwin newydd ar ôl iddo yfed hen win, oherwydd mae’n dweud, ‘Mae’r hen win yn dda.’”

Troednodiadau

Hynny yw, Môr Galilea.
Neu “pobl fyw.”