Yn Ôl Luc 9:1-62

  • Cyfarwyddyd i’r Deuddeg ynglŷn â’r weinidogaeth (1-6)

  • Herod mewn penbleth oherwydd Iesu (7-9)

  • Iesu’n bwydo 5,000 (10-17)

  • Pedr yn adnabod y Crist (18-20)

  • Marwolaeth Iesu’n cael ei rhagfynegi (21, 22)

  • Gwir ddisgyblion (23-27)

  • Gweddnewidiad Iesu (28-36)

  • Bachgen a chythraul ynddo yn cael ei iacháu (37-43a)

  • Marwolaeth Iesu’n cael ei rhagfynegi eto (43b-45)

  • Disgyblion yn dadlau am bwysigrwydd (46-48)

  • Pwy bynnag sydd ddim yn ein herbyn ni o’n plaid ni (49, 50)

  • Pentref yn Samaria yn gwrthod Iesu (51-56)

  • Sut i ddilyn Iesu (57-62)

9  Yna galwodd ef y Deuddeg at ei gilydd a rhoddodd iddyn nhw rym ac awdurdod dros yr holl gythreuliaid ac i iacháu afiechydon. 2  Ac fe wnaeth eu hanfon nhw allan i bregethu Teyrnas Dduw ac i iacháu, 3  ac fe ddywedodd wrthyn nhw: “Peidiwch â chario dim byd ar gyfer y daith, dim ffon, dim bag bwyd, dim bara, dim arian; a pheidiwch â chymryd dau ddilledyn.* 4  Ond le bynnag rydych chi’n mynd i mewn i gartref, arhoswch yno nes y byddwch chi’n gadael y ddinas. 5  A le bynnag nad ydy pobl yn eich derbyn chi, wrth ichi fynd allan o’r ddinas honno, mae’n rhaid ichi ysgwyd y llwch oddi ar eich traed yn dystiolaeth yn eu herbyn nhw.” 6  Yna, ar ôl cychwyn ar y daith, aethon nhw drwy’r ardal o bentref i bentref, gan gyhoeddi’r newyddion da ac iacháu pobl ym mhobman. 7  Nawr clywodd Herod,* rheolwr y rhanbarth,* am bopeth a oedd yn digwydd, ac roedd mewn penbleth oherwydd bod rhai yn dweud bod Ioan wedi cael ei godi o’r meirw, 8  ond eraill yn dweud bod Elias wedi ymddangos, ac eraill wedyn yn dweud bod un o’r hen broffwydi wedi cael ei atgyfodi. 9  Dywedodd Herod: “Fe wnes i dorri pen Ioan. Pwy, felly, ydy’r hwn rydw i’n clywed y fath bethau amdano?” Felly roedd yn ceisio ei weld. 10  Pan ddaeth yr apostolion yn eu holau, dyma nhw’n adrodd wrth Iesu am yr holl bethau roedden nhw wedi eu gwneud. Ar hynny, aeth â nhw gydag ef i ffwrdd oddi wrth bobl i mewn i ddinas o’r enw Bethsaida. 11  Ond, ar ôl dod i wybod am hyn, gwnaeth y tyrfaoedd ei ddilyn. Ac fe roddodd groeso cynnes iawn iddyn nhw a dechrau siarad â nhw am Deyrnas Dduw, ac fe iachaodd y rhai a oedd angen cael eu hiacháu. 12  Roedd y diwrnod yn dod i ben. Nawr daeth y Deuddeg ato a dweud wrtho: “Anfona’r dyrfa i ffwrdd, er mwyn iddyn nhw fedru mynd i mewn i’r pentrefi a’r wlad oddi amgylch i ddod o hyd i rywle i aros a chael bwyd, oherwydd allan yn fan hyn rydyn ni mewn lle unig.” 13  Ond dywedodd ef wrthyn nhw: “Rhowch chithau rywbeth i’w fwyta iddyn nhw.” Fe ddywedon nhw: “Yr unig beth sydd gynnon ni ydy pum torth a dau bysgodyn, oni bai ein bod ni’n hunain yn mynd i brynu bwyd i’r holl bobl hyn.” 14  Yn wir, roedd ’na tua 5,000 o ddynion. Ond dywedodd ef wrth ei ddisgyblion: “Gwnewch iddyn nhw eistedd mewn grwpiau o ryw 50 yr un.” 15  Ac fe wnaethon nhw hynny, ac eisteddodd pawb. 16  Cymerodd nawr y pum torth a’r ddau bysgodyn, edrychodd i fyny i’r nef a’u bendithio nhw. Yna, dyma’n eu torri nhw ac yn dechrau eu rhoi nhw i’r disgyblion er mwyn iddyn nhw eu rhoi nhw i’r dyrfa. 17  Felly gwnaethon nhw i gyd fwyta a chael digon, a chodon nhw’r tameidiau oedd dros ben, 12 llond basged. 18  Yn hwyrach ymlaen, tra oedd ef yn gweddïo ar ei ben ei hun, daeth y disgyblion ato, a gofynnodd ef iddyn nhw: “Pwy mae’r tyrfaoedd yn dweud ydw i?” 19  Fe atebon nhw: “Ioan Fedyddiwr, ond mae eraill yn dweud Elias, a rhai eraill yn dweud fod un o’r hen broffwydi wedi cael ei atgyfodi.” 20  Yna dywedodd ef wrthyn nhw: “Ond chithau, pwy ydych chi’n dweud ydw i?” Atebodd Pedr: “Y Crist a gafodd ei anfon gan Dduw.” 21  Yna, wrth siarad yn gadarn â nhw, gorchmynnodd iddyn nhw beidio â sôn am hyn wrth neb, 22  ond dywedodd yntau: “Mae’n rhaid i Fab y dyn ddioddef llawer a chael ei wrthod gan yr henuriaid a’r prif offeiriaid a’r ysgrifenyddion a chael ei ladd, ac ar y trydydd dydd gael ei atgyfodi.” 23  Yna aeth ymlaen i ddweud wrth bawb: “Os oes unrhyw un eisiau dod ar fy ôl i, gadewch iddo ei wadu ei hun a chodi ei stanc dienyddio* ddydd ar ôl dydd a dal ati i fy nilyn i. 24  Oherwydd bydd pwy bynnag sydd eisiau achub ei fywyd yn ei golli, ond bydd pwy bynnag sy’n colli ei fywyd er fy mwyn i yn ei achub. 25  Mewn gwirionedd, os ydy dyn yn ennill yr holl fyd ond yn colli neu’n niweidio ei fywyd, sut mae hynny’n fuddiol iddo? 26  Oherwydd pwy bynnag sy’n teimlo cywilydd ohono i a fy ngeiriau, bydd Mab y dyn yn teimlo cywilydd o’r person hwnnw pan fydd yn dod yn ei ogoniant ac yng ngogoniant y Tad a’r angylion sanctaidd. 27  Ond yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi, mae ’na rai ohonoch chi sy’n sefyll yma na fydd yn profi blas marwolaeth o gwbl hyd nes iddyn nhw yn gyntaf weld Teyrnas Dduw.” 28  Yn wir, tua wyth diwrnod ar ôl iddo ddweud y geiriau hyn, cymerodd ef Pedr, Ioan, ac Iago gydag ef a dringo i fyny’r mynydd i weddïo. 29  A thra oedd yn gweddïo, newidiodd golwg ei wyneb a disgleiriodd ei ddillad yn llachar wyn. 30  Ac edrycha! roedd ’na ddau ddyn yn sgwrsio ag ef; Moses ac Elias oedden nhw. 31  Ymddangosodd y rhain mewn gogoniant a dechreuon nhw siarad am y ffaith fod Iesu’n gorfod gadael, a bod hyn yn gorfod cael ei gyflawni yn Jerwsalem. 32  Nawr roedd Pedr a’r rhai gydag ef yn cysgu’n drwm, ond ar ôl iddyn nhw ddeffro’n llwyr, fe welson nhw ei ogoniant a’r ddau ddyn yn sefyll gydag ef. 33  Ac wrth i’r rhai hyn fynd i ffwrdd oddi wrtho, dywedodd Pedr wrth Iesu: “Athro, peth da yw inni fod yma. Felly gad inni godi tair pabell, un i ti, un i Moses, ac un i Elias.” Ond doedd ef ddim yn sylweddoli beth roedd yn ei ddweud. 34  Ond tra oedd yn dweud y pethau hyn, dyma gwmwl yn ffurfio ac yn eu gorchuddio nhw. Wrth iddyn nhw fynd i mewn i’r cwmwl, cododd ofn arnyn nhw. 35  Yna daeth llais allan o’r cwmwl, gan ddweud: “Hwn ydy fy Mab, yr un sydd wedi cael ei ddewis. Gwrandewch arno.” 36  Wrth i’r llais siarad, fe welson nhw fod Iesu ar ei ben ei hun. Ond arhoson nhw’n ddistaw a wnaethon nhw ddim sôn wrth neb yn ystod y dyddiau hynny am unrhyw un o’r pethau roedden nhw wedi eu gweld. 37  Y diwrnod wedyn pan ddaethon nhw i lawr o’r mynydd, daeth tyrfa fawr i’w gyfarfod. 38  Ac edrycha! gwnaeth dyn weiddi o’r dyrfa, gan ddweud: “Athro, rydw i’n erfyn arnat ti i edrych ar fy mab, gan mai ef ydy fy unig fab. 39  Ac edrycha! mae ysbryd yn gafael ynddo, ac yn fwyaf sydyn mae fy mab yn gweiddi, ac mae’n achosi iddo gael ffitiau ac i ewyn ddod o’i geg, a dim ond ar ôl ei adael yn gleisiau i gyd y mae’n gadael llonydd iddo. 40  Fe wnes i erfyn ar dy ddisgyblion i’w fwrw allan, ond doedden nhw ddim yn gallu.” 41  Atebodd Iesu drwy ddweud: “O genhedlaeth ddi-ffydd a llwgr, am faint mae’n rhaid imi barhau gyda chi a’ch goddef chi? Tyrd â dy fab yma.” 42  Ond wrth iddo ddod yn nes, taflodd y cythraul ef i’r llawr ac achosi iddo gael ffit yn y ffordd fwyaf ffyrnig. Fodd bynnag, ceryddodd Iesu’r ysbryd aflan ac iacháu’r bachgen a’i roi yn ôl i’w dad. 43  Ac roedden nhw i gyd wedi rhyfeddu at fawredd Duw. Tra oedden nhw i gyd yn rhyfeddu at yr holl bethau roedd ef yn eu gwneud, dywedodd ef wrth ei ddisgyblion: 44  “Gwrandewch yn astud a chofiwch y geiriau hyn, am fod Mab y dyn yn mynd i gael ei fradychu a’i roi yn nwylo dynion.” 45  Ond doedden nhw ddim yn deall beth roedd ef yn ei ddweud. Yn wir, roedd hyn wedi cael ei guddio rhagddyn nhw fel nad oedden nhw’n gallu ei ddeall, ac roedden nhw’n ofni ei holi am y peth hwn. 46  Yna dechreuon nhw ddadlau ymhlith ei gilydd ynglŷn â pha un ohonyn nhw oedd y mwyaf pwysig. 47  Dyma Iesu, oherwydd ei fod yn gwybod beth oedd yn eu calonnau nhw, yn cymryd plentyn bach, a’i osod wrth ei ochr, 48  a dywedodd wrthyn nhw: “Mae pwy bynnag sy’n derbyn y plentyn bach hwn ar sail fy enw i yn fy nerbyn innau hefyd; ac mae pwy bynnag sy’n fy nerbyn i hefyd yn derbyn yr Un a wnaeth fy anfon i. Oherwydd yr un sy’n ymddwyn fel yr un lleiaf pwysig yn eich plith chi ydy’r un sy’n bwysig.” 49  Atebodd Ioan: “Athro, fe welson ni rywun yn bwrw allan gythreuliaid gan ddefnyddio dy enw di, ac fe wnaethon ni geisio ei rwystro, oherwydd nid yw’n dilyn gyda ni.” 50  Ond meddai Iesu wrtho: “Peidiwch â cheisio ei rwystro, oherwydd mae pwy bynnag sydd ddim yn eich erbyn chi o’ch plaid chi.” 51  Wrth i’r amser i Iesu gael ei gymryd i fyny agosáu, roedd yn hollol benderfynol o fynd i Jerwsalem. 52  Felly, anfonodd negeswyr o’i flaen. Ac fe aethon nhw i mewn i bentref yn Samaria i baratoi ar ei gyfer. 53  Ond wnaethon nhw ddim rhoi croeso iddo, oherwydd ei fod yn benderfynol o fynd i Jerwsalem. 54  Pan welodd y disgyblion Iago ac Ioan hyn, dywedon nhw: “Arglwydd, wyt ti eisiau inni alw tân i lawr o’r nef a’u dinistrio nhw?” 55  Ond fe drodd atyn nhw a’u ceryddu. 56  Felly fe aethon nhw i bentref arall. 57  Nawr, wrth iddyn nhw fynd ar hyd y ffordd, dywedodd rhywun wrtho: “Fe wna i dy ddilyn di le bynnag yr ei di.” 58  Ond dywedodd Iesu wrtho: “Mae gan lwynogod* ffeuau ac mae gan adar y nef nythod, ond does gan Mab y dyn unman i roi ei ben i lawr.” 59  Yna dywedodd wrth un arall: “Dilyna fi.” Dywedodd y dyn: “Arglwydd, gad imi fynd a chladdu fy nhad yn gyntaf.” 60  Ond meddai wrtho: “Gad i’r meirw gladdu eu meirw, ond dos di a chyhoedda ym mhobman Deyrnas Dduw.” 61  Ac meddai un arall: “Fe wna i dy ddilyn di, Arglwydd, ond yn gyntaf gad imi ddweud hwyl fawr wrth y rhai yn fy nhŷ.” 62  Dywedodd Iesu wrtho: “Dydy dyn sydd wedi rhoi ei law ar yr aradr ac yn edrych ar y pethau sydd y tu ôl iddo ddim yn addas i Deyrnas Dduw.”

Troednodiadau

Neu “dilledyn ychwanegol.”
Hynny yw, Herod Antipas. Gweler Geirfa.
Llyth., “y tetrarch.”
Gweler Geirfa.
Neu “Mae gan gadnoaid.”