Yn Ôl Marc 2:1-28

  • Iesu’n iacháu dyn wedi ei barlysu (1-12)

  • Iesu’n galw Lefi (13-17)

  • Cwestiwn am ymprydio (18-22)

  • Iesu, “Arglwydd y Saboth” (23-28)

2  Fodd bynnag, ar ôl rhai dyddiau aeth unwaith eto i mewn i Gapernaum, ac aeth y gair ar led ei fod gartref. 2  Ac fe wnaeth cymaint o bobl ymgasglu fel nad oedd lle i neb arall, hyd yn oed wrth y drws, a dechreuodd gyhoeddi’r gair iddyn nhw. 3  Ac fe ddaethon nhw â dyn wedi ei barlysu ato a phedwar dyn yn ei gario. 4  Ond doedden nhw ddim yn gallu dod ag ef yn agos at Iesu oherwydd y dyrfa, felly dyma nhw’n gwneud twll yn y to uwchben Iesu, ac yn gollwng y stretsier i lawr gyda’r dyn wedi ei barlysu yn gorwedd arno. 5  Pan welodd Iesu eu ffydd, dywedodd wrth y dyn a oedd wedi ei barlysu: “Fy mhlentyn, mae dy bechodau wedi cael eu maddau.” 6  Nawr, roedd rhai o’r ysgrifenyddion yno, yn eistedd ac yn rhesymu yn eu calonnau: 7  “Pam mae’r dyn hwn yn siarad fel hyn? Mae’n cablu. Onid Duw ydy’r unig un sy’n gallu maddau pechodau?” 8  Ond synhwyrodd Iesu ar unwaith eu bod nhw’n rhesymu fel hyn ymysg ei gilydd, felly dywedodd wrthyn nhw: “Pam rydych chi’n rhesymu ar y pethau hyn yn eich calonnau? 9  Beth sy’n haws, dweud wrth y dyn sydd wedi ei barlysu, ‘Mae dy bechodau di wedi cael eu maddau,’ neu ddweud, ‘Cod a chymera dy stretsier a cherdda’? 10  Ond er mwyn ichi wybod bod gan Fab y dyn awdurdod i faddau pechodau ar y ddaear—” dywedodd wrth y dyn wedi ei barlysu: 11  “Rydw i’n dweud wrthot ti, Cod, cymera dy stretsier, a dos adref.” 12  Ar hynny, cododd y dyn ac ar unwaith fe gymerodd ei stretsier a cherdded allan o flaen pob un ohonyn nhw. Roedden nhw i gyd yn syfrdan, ac yn gogoneddu Duw, gan ddweud: “Dydyn ni erioed wedi gweld dim byd tebyg i hyn.” 13  Fe aeth allan eto wrth lan y môr, ac roedd yr holl dyrfa yn dal i ddod ato, a dechreuodd eu dysgu nhw. 14  Ac wrth iddo fynd heibio, fe welodd ef Lefi fab Alffeus yn eistedd yn y swyddfa dreth, a dywedodd wrtho: “Dilyna fi.” Ar hynny, cododd a dilynodd ef Iesu. 15  Yn nes ymlaen, roedd yn bwyta pryd o fwyd yn ei dŷ, ac roedd llawer o gasglwyr trethi a phechaduriaid yn bwyta gyda Iesu a’i ddisgyblion, oherwydd roedd llawer ohonyn nhw’n ei ddilyn ef. 16  Pan welodd ysgrifenyddion y Phariseaid ef yn bwyta gyda’r pechaduriaid a’r casglwyr trethi, dechreuon nhw ddweud wrth ei ddisgyblion: “Ydy ef yn bwyta gyda chasglwyr trethi a phechaduriaid?” 17  Ar ôl clywed hyn, dywedodd Iesu wrthyn nhw: “Does dim angen meddyg ar y rhai sy’n gryf, ond mae angen un ar y rhai sy’n sâl. Rydw i wedi dod i alw, nid pobl gyfiawn, ond pechaduriaid.” 18  Nawr roedd disgyblion Ioan a’r Phariseaid yn ymprydio’n rheolaidd. Felly fe ddaethon nhw ato a dweud wrtho: “Pam mae disgyblion Ioan a disgyblion y Phariseaid yn ymprydio’n rheolaidd, ond dydy dy ddisgyblion di ddim yn ymprydio’n rheolaidd?” 19  Felly dywedodd Iesu wrthyn nhw: “Tra bydd y priodfab gyda nhw, does gan ffrindiau’r priodfab ddim rheswm dros ymprydio, nac oes? Cyn belled â bod y priodfab gyda nhw, dydyn nhw ddim yn gallu ymprydio. 20  Ond bydd dyddiau’n dod pan fydd y priodfab yn cael ei gymryd i ffwrdd oddi wrthyn nhw, ac yna, byddan nhw’n ymprydio ar y dydd hwnnw. 21  Does neb yn gwnïo darn o frethyn newydd ar hen gôt. Os oes rhywun yn gwneud hynny, bydd y darn newydd yn tynnu oddi wrth yr hen ddarn, a’r rhwyg yn gwaethygu. 22  Hefyd, does neb yn rhoi gwin newydd mewn hen grwyn. Os oes rhywun yn gwneud hynny, bydd y gwin yn rhwygo’r crwyn, a bydd y gwin a’r crwyn yn cael eu colli. Ond mae gwin newydd yn cael ei roi i mewn i grwyn newydd.” 23  Nawr tra oedd ef yn mynd trwy’r caeau gwenith ar y Saboth, dechreuodd ei ddisgyblion dynnu’r tywysennau gwenith wrth fynd. 24  Felly dywedodd y Phariseaid wrtho: “Edrycha! Pam maen nhw’n gwneud rhywbeth sy’n anghyfreithlon ar y Saboth?” 25  Ond dywedodd ef wrthyn nhw: “Onid ydych chi wedi darllen am beth wnaeth Dafydd pan oedd ef mewn angen a phan oedd ef a’r dynion gydag ef wedi llwgu? 26  Am sut, yn yr hanes am Abiathar y prif offeiriad, y gwnaeth fynd i mewn i dŷ Dduw a bwyta’r bara a oedd wedi ei gyflwyno i Dduw,* rhywbeth nad oedd yn gyfreithlon i unrhyw un ei fwyta heblaw am yr offeiriaid, ac fe roddodd hefyd ychydig o’r bara i’r dynion a oedd gydag ef?” 27  Yna dywedodd ef wrthyn nhw: “Daeth y Saboth i fodolaeth er mwyn dyn ac nid dyn er mwyn y Saboth. 28  Felly Mab y dyn ydy Arglwydd y Saboth hyd yn oed.”

Troednodiadau

Neu “y bara gosod.”