Yn Ôl Mathew 15:1-39

  • Dinoethi traddodiadau dynol (1-9)

  • Llygredd yn dod o’r galon (10-20)

  • Ffydd fawr dynes o Phoenicia (21-28)

  • Iesu’n iacháu llawer o afiechydon (29-31)

  • Iesu’n bwydo 4,000 (32-39)

15  Yna daeth Phariseaid ac ysgrifenyddion o Jerwsalem at Iesu, gan ddweud: 2  “Pam mae dy ddisgyblion yn mynd y tu hwnt i draddodiad ein cyndadau? Er enghraifft, dydyn nhw ddim yn golchi* eu dwylo pan fyddan nhw’n bwyta pryd o fwyd.” 3  Atebodd yntau drwy ddweud wrthyn nhw: “Pam rydych chithau yn camu y tu hwnt i orchymyn Duw oherwydd eich traddodiad? 4  Er enghraifft, dywedodd Duw, ‘Anrhydedda dy dad a dy fam,’ a, ‘Gad i’r sawl sy’n sarhau ei dad neu ei fam gael ei roi i farwolaeth.’ 5  Ond rydych chi’n dweud, ‘Pwy bynnag sy’n dweud wrth ei dad neu ei fam: “Mae beth bynnag sydd gen i, a allai fod o fudd iti, yn rhodd sydd wedi ei chysegru i Dduw,” 6  nid oes rhaid iddo anrhydeddu ei dad o gwbl.’ Felly rydych chi wedi gwneud gair Duw yn ddiwerth oherwydd eich traddodiad. 7  Chi ragrithwyr, gwnaeth Eseia broffwydo’n iawn amdanoch chi pan ddywedodd: 8  ‘Mae’r bobl hyn yn fy anrhydeddu â’u gwefusau, ond mae eu calonnau yn bell oddi wrtho i. 9  Yn ofer y maen nhw’n parhau i fy addoli i, oherwydd eu bod nhw’n dysgu gorchmynion dynion fel athrawiaethau.’” 10  Ar hynny galwodd y dyrfa ato a dywedodd wrthyn nhw: “Gwrandewch a deallwch: 11  Nid beth sy’n mynd i mewn i geg dyn sy’n ei lygru, ond beth sy’n dod allan o’i geg sy’n ei lygru.” 12  Yna daeth y disgyblion ato a dweud wrtho: “Wyt ti’n gwybod bod y Phariseaid wedi eu baglu wrth glywed beth ddywedaist ti?” 13  Atebodd yntau drwy ddweud: “Bydd pob planhigyn na wnaeth fy Nhad nefol ei blannu yn cael ei ddadwreiddio. 14  Gadewch iddyn nhw fod. Arweinwyr dall ydyn nhw. Felly, os bydd dyn dall yn arwain dyn dall, bydd y ddau yn syrthio i mewn i ffos.” 15  Atebodd Pedr: “Gwna’r ddameg yn eglur inni.” 16  Ar hynny dywedodd: “Ydych chi’n dal heb ddealltwriaeth? 17  Onid ydych chi’n ymwybodol fod beth bynnag sy’n mynd i mewn i’r geg yn pasio drwy’r stumog ac yn dod allan? 18  Ond, mae beth bynnag sy’n dod allan o’r geg yn dod o’r galon, a’r pethau hynny sy’n llygru dyn. 19  Er enghraifft, allan o’r galon y daw rhesymu drwg: llofruddio, godinebu, anfoesoldeb rhywiol,* lladrata, camdystiolaethu, cablu. 20  Y pethau hyn sy’n llygru dyn; dydy bwyta pryd o fwyd heb olchi* dwylo ddim yn llygru dyn.” 21  Ar ôl mynd oddi yno, aeth Iesu nawr i ardal Tyrus a Sidon. 22  Ac edrycha! daeth dynes* o Phoenicia a oedd yn byw yn yr ardal honno a gweiddi: “Bydda’n drugarog wrtho i, Arglwydd, Fab Dafydd. Mae fy merch wedi ei meddiannu’n greulon gan gythraul.” 23  Ond ni ddywedodd yr un gair wrthi. Felly daeth ei ddisgyblion ato a dechrau pwyso arno: “Anfona hi i ffwrdd, am ei bod hi’n dal i weiddi ar ein holau.” 24  Atebodd yntau: “Ni ches i fy anfon at neb arall ond at ddefaid coll tŷ Israel.” 25  Ond dyma’r ddynes* yn dod ac yn ymgrymu* o’i flaen, gan ddweud: “Arglwydd, helpa fi!” 26  Wrth ateb dywedodd: “Dydy hi ddim yn iawn i gymryd bara’r plant a’i daflu i’r cŵn bach.” 27  Dywedodd hithau: “Mae hynny’n wir, Arglwydd, ond mewn gwirionedd mae’r cŵn bach yn bwyta’r briwsion sy’n syrthio oddi ar fwrdd eu meistri.” 28  Yna atebodd Iesu hi: “O ddynes,* mawr yw dy ffydd; gad i’r hyn rwyt ti’n ei ddymuno ddigwydd iti.” Ac fe gafodd ei merch ei hiacháu o’r awr honno ymlaen. 29  Ar ôl mynd oddi yno, daeth Iesu gerllaw Môr Galilea, ac ar ôl mynd i fyny’r mynydd, roedd yn eistedd yno. 30  Yna daeth tyrfaoedd mawr ato, gyda phobl a oedd yn gloff, yn anafus, yn ddall, yn fud, a llawer eraill, a’u gosod nhw wrth ei draed, ac fe iachaodd nhw. 31  Felly roedd y dyrfa wedi synnu wrth iddyn nhw weld y rhai mud yn siarad a’r rhai anafus yn cael eu hiacháu a’r rhai cloff yn cerdded a’r rhai dall yn gweld, a dyma nhw’n gogoneddu Duw Israel. 32  Ond galwodd Iesu ei ddisgyblion ato a dweud: “Rydw i’n teimlo piti dros y dyrfa, oherwydd maen nhw eisoes wedi bod gyda mi am dri diwrnod ac maen nhw heb fwyta dim byd. Dydw i ddim eisiau eu hanfon nhw i ffwrdd wedi llwgu, oherwydd efallai bydden nhw’n mynd yn wan ac yn cwympo ar y ffordd.” 33  Fodd bynnag, dywedodd y disgyblion wrtho: “Ble gawn ni ddigon o fara i fodloni tyrfa mor fawr yn y lle unig hwn?” 34  Ar hynny dywedodd Iesu wrthyn nhw: “Sawl torth sydd gynnoch chi?” Dywedon nhw: “Saith, ac ychydig o bysgod bach.” 35  Felly ar ôl dweud wrth y dyrfa am eistedd ar y llawr, 36  cymerodd y saith torth a’r pysgod, ac ar ôl diolch i Dduw, dyma’n eu torri a’u rhoi i’r disgyblion, a gwnaeth y disgyblion eu rhoi nhw i’r tyrfaoedd. 37  A gwnaeth pawb fwyta a chael digon, a chodon nhw saith basged fawr yn llawn tameidiau a oedd dros ben. 38  Roedd 4,000 o ddynion yn bwyta, yn ogystal â merched* a phlant bach. 39  Wedyn, ar ôl anfon y tyrfaoedd i ffwrdd, aeth i mewn i’r cwch a daeth i ardal Magadan.

Troednodiadau

Hynny yw, glanhau yn seremonïol.
Lluosog y gair Groeg porneia. Gweler Geirfa.
Hynny yw, heb eu glanhau yn seremonïol.
Neu “menyw.”
Neu “y fenyw.”
Neu “plygu.”
Neu “fenyw.”
Neu “menywod.”