At y Rhufeiniaid 10:1-21
10 Frodyr, dymuniad* fy nghalon a fy ngweddi daer* ar Dduw ydy bod fy mhobl fy hun yn cael achubiaeth.
2 Rydw i’n gallu tystio bod ganddyn nhw sêl dros Dduw, ond dydyn nhw ddim yn wir yn deall ewyllys Duw.*
3 Oherwydd nad ydyn nhw’n gwybod beth mae Duw’n ei ystyried yn iawn, maen nhw wedi dilyn eu safon eu hunain. O ganlyniad, doedden nhw ddim yn ufudd i safon Duw ynglŷn â’r hyn sy’n iawn.
4 Oherwydd mae Crist wedi dod â’r Gyfraith i ben. Nawr mae pawb sy’n ymarfer ffydd ynddo ef yn cael eu hystyried yn gyfiawn.
5 Mae Moses yn ysgrifennu am sut i gyrraedd cyfiawnder yn ôl y Gyfraith: “Bydd y dyn sy’n gwneud y pethau hyn yn byw trwyddyn nhw.”
6 Ond ynglŷn â’r cyfiawnder sy’n dod o ddangos ffydd, mae Gair Duw yn dweud: “Paid â dweud yn dy galon, ‘Pwy fydd yn mynd i fyny i’r nef?’ hynny yw, i ddod â Christ i lawr,
7 neu, ‘Pwy fydd yn mynd i lawr i’r dyfnder?’ hynny yw, i ddod â Christ i fyny o’r meirw.”
8 Ond beth mae’r ysgrythur yn ei ddweud? “Mae’r gair yn agos atat ti, yn dy geg dy hun ac yn dy galon dy hun.” Mae hyn yn cyfeirio at “air” ffydd, sef yr hyn rydyn ni’n ei bregethu.
9 Oherwydd os wyt ti’n datgan yn gyhoeddus â dy geg fod Iesu yn Arglwydd, ac rwyt ti’n ymarfer ffydd yn dy galon fod Duw wedi ei godi ef o’r meirw, fe fyddi di’n cael dy achub.
10 Oherwydd mae’n rhaid iti ymarfer ffydd yn dy galon er mwyn bod yn gyfiawn, ond rwyt ti’n datgan yn gyhoeddus â dy geg er mwyn cael achubiaeth.
11 Oherwydd mae’r ysgrythur yn dweud: “Ni fydd unrhyw un sydd â ffydd ynddo ef yn cael ei siomi.”
12 Does dim gwahaniaeth rhwng Iddew a Groegwr. Yr un Arglwydd sydd droston ni i gyd. Yn hael, mae ef yn helpu pawb sy’n galw arno.
13 Oherwydd “bydd pawb sy’n galw ar enw Jehofa yn cael eu hachub.”
14 Ond, sut byddan nhw’n galw arno os nad oes ganddyn nhw ffydd ynddo? A sut byddan nhw’n rhoi ffydd ynddo os nad ydyn nhw wedi clywed amdano? A sut byddan nhw’n clywed heb rywun i bregethu?
15 A sut byddan nhw’n pregethu oni bai eu bod nhw wedi cael eu hanfon allan? Mae hi’n union fel mae’r Ysgrythurau’n dweud: “Mor hyfryd ydy traed y rhai sy’n cyhoeddi newyddion da am bethau da!”
16 Ond ni wnaethon nhw i gyd ufuddhau i’r newyddion da. Oherwydd mae Eseia’n dweud: “Jehofa, pwy sydd wedi rhoi ffydd yn yr hyn a glywson nhw gynnon ni?”
17 Felly mae ffydd yn dilyn yr hyn sy’n cael ei glywed, ac mae’r hyn sy’n cael ei glywed yn dod trwy’r gair am Grist.
18 Ond rydw i’n gofyn am Israel, A gawson nhw’r cyfle i glywed? Do, fe gawson nhw. Yn wir, mae’r Ysgrythurau’n dweud: “Aeth eu geiriau allan i’r holl fyd, a gwnaeth eu neges gyrraedd pobl ym mhen draw’r byd.”*
19 Rydw i hefyd yn gofyn, Onid oedd Israel wedi deall? Mae Moses yn ateb yn gyntaf: “Bydda i’n eich gwneud chi’n genfigennus o bobl sydd ddim yn genedl; bydda i’n eich gwneud chi’n ddig oherwydd cenedl sy’n cael ei hystyried yn ffôl.”
20 Yna mae Eseia yn ddewr iawn, ac mae’n dweud: “Ges i fy narganfod gan y rhai nad oedd yn chwilio amdana i; des i’n adnabyddus i’r rhai nad oedd yn gofyn amdana i.”
21 Ond mae’n dweud am Israel: “Drwy’r dydd rydw i wedi estyn allan at bobl anufudd ac ystyfnig.”*
Troednodiadau
^ Neu “ewyllys da.”
^ Neu “erfyniad.”
^ Neu “ond nid yn unol â gwybodaeth gywir.”
^ Neu “drwy’r byd i gyd.”
^ Neu “a gwrthryfelgar.”