At y Rhufeiniaid 2:1-29

  • Barnedigaeth Duw ar Iddewon a Groegiaid (1-16)

    • Sut mae’r gydwybod yn gweithio (14, 15)

  • Yr Iddewon a’r Gyfraith (17-24)

  • Enwaediad y galon (25-29)

2  Felly dim ots pwy wyt ti, does ’na ddim esgus iti os wyt ti’n barnu eraill am wneud yr un pethau rwyt ti’n eu gwneud. Pan wyt ti’n eu barnu nhw, rwyt ti’n dy gondemnio dy hun. 2  Ond pan fydd Duw yn barnu pobl sy’n gwneud pethau o’r fath, rydyn ni’n gwybod bod ei farn yn unol â’r gwir. 3  Wyt ti’n meddwl byddi di’n osgoi barn Duw pan fyddi di’n barnu pobl sy’n gwneud yr un pethau rwyt ti’n eu gwneud? 4  Onid wyt ti’n gwybod ei fod yn dangos iti ei garedigrwydd mawr a’i oddefgarwch a’i amynedd? Onid wyt ti’n sylweddoli bod Duw yn ei garedigrwydd yn ceisio dy helpu di i edifarhau? 5  Ond pan wyt ti’n ystyfnig ac yn gwrthod edifarhau, bydd Duw yn sicr o dy gosbi di ar ddydd ei ddicter pan fydd ef yn datgelu ei farn gyfiawn. 6  Bydd yn gwobrwyo neu’n cosbi* pob un am yr hyn y mae wedi ei wneud. 7  Bydd yn rhoi bywyd tragwyddol i’r rhai sy’n dal ati i wneud daioni.* Mae pobl o’r fath yn ceisio clod ac anrhydedd a bywyd sy’n para am byth. 8  Ar y llaw arall, bydd Duw yn dangos ei lid a’i ddicter tuag at y rhai sy’n hoff iawn o ddadlau* ac sy’n anufudd i’r gwir. 9  Bydd pob person, yn Iddew neu’n Roegwr, sy’n gwneud yr hyn sy’n niweidiol yn dioddef gofid. 10  Ond bydd pawb sy’n gwneud beth sy’n dda yn cael gogoniant ac anrhydedd a heddwch, i’r Iddew yn gyntaf a hefyd i’r Groegwr. 11  Dydy Duw ddim yn dangos ffafriaeth. 12  Bydd yr holl rai a wnaeth bechu heb Gyfraith Moses hefyd yn marw heb gyfraith. Ond bydd yr holl rai a wnaeth bechu o dan y Gyfraith yn cael eu barnu gan y Gyfraith honno. 13  Dydy Duw ddim yn ystyried pobl yn gyfiawn dim ond oherwydd iddyn nhw glywed y Gyfraith. Dim ond y rhai sy’n gwneud beth mae’r Gyfraith yn ei ddweud fydd yn cael eu galw’n gyfiawn. 14  Oherwydd dydy’r Gyfraith ddim gan y rhai sydd ddim yn Iddewon.* Ond pan fyddan nhw’n gwneud yr hyn sy’n dod yn naturiol iddyn nhw ac yn gwneud yr hyn mae’r Gyfraith yn ei ddweud, mae’r bobl hynny yn dangos bod ’na gyfraith ynddyn nhw. 15  Maen nhw’n profi bod yr hyn mae’r Gyfraith yn ei ddysgu wedi cael ei ysgrifennu yn eu calonnau, ac mae eu cydwybod yn cytuno â nhw. Mae eu meddyliau eu hunain yn eu cyhuddo nhw neu hyd yn oed yn eu hesgusodi nhw. 16  Fel hyn y bydd hi yn y dydd pan fydd Duw trwy Iesu Grist yn barnu’r pethau mae dynion wedi eu cadw’n gyfrinachol. Mae hyn i gyd yn rhan o’r newyddion da rydw i’n eu cyhoeddi. 17  Mae rhai ohonoch chi’n eich galw eich hunain yn Iddewon, ac rydych chi’n trystio yn y gyfraith ac yn brolio am eich perthynas â Duw. 18  Rwyt ti’n gwybod ewyllys Duw ac yn derbyn pethau sy’n iawn oherwydd dy fod ti wedi cael dy ddysgu o’r Gyfraith. 19  Rwyt ti’n sicr dy fod ti’n gallu arwain y rhai dall a rhoi goleuni i’r rhai sydd yn y tywyllwch. 20  Rwyt ti’n meddwl dy fod ti’n gallu cywiro’r rhai ffôl a dysgu plant bach oherwydd bod gen ti ddealltwriaeth a gwybodaeth sylfaenol o’r gwir sydd yn y Gyfraith. 21  Ond ti sy’n dysgu eraill, pam dwyt ti ddim yn dy ddysgu dy hun? Rwyt ti’n pregethu, “Paid â dwyn,” ond a wyt ti’n dwyn? 22  Rwyt ti’n dweud, “Paid â godinebu,” ond a wyt ti’n godinebu? Rwyt ti’n dweud dy fod ti’n casáu eilunod, ond a wyt ti’n dwyn o’r deml? 23  Rwyt ti’n falch oherwydd dy fod ti’n gwybod cyfraith Duw, ond a wyt ti’n dwyn gwarth ar Dduw drwy dorri’r Gyfraith? 24  “Mae pobl y byd* yn siarad yn erbyn* enw Duw oherwydd chi,” yn union fel mae’r Ysgrythurau’n dweud. 25  Mae cael dy enwaedu dim ond yn fuddiol pan wyt ti’n dilyn y Gyfraith. Pan wyt ti’n anufudd i’r Gyfraith, mae fel petaset ti ddim wedi cael dy enwaedu. 26  Ond pan fydd person sydd heb gael ei enwaedu yn dilyn gofynion cyfiawn y Gyfraith, oni fydd Duw yn ei ystyried fel petai ef wedi cael ei enwaedu? 27  Rwyt ti wedi cael dy ddysgu am enwaediad ac am y Gyfraith ysgrifenedig, ond dwyt ti ddim yn ei dilyn. Felly pan fydd person sydd heb gael ei enwaedu yn dilyn y Gyfraith, mae ef yn dy gondemnio di. 28  Dydy bod yn Iddew go iawn ddim yn rhywbeth allanol, ac mae enwaediad go iawn yn cynnwys mwy na’r corff. 29  Mae bod yn Iddew go iawn yn cynnwys y person mewnol, ac mae ei enwaediad ef yn golygu enwaediad y galon drwy’r ysbryd glân, nid drwy ddilyn y Gyfraith ysgrifenedig. Mae’r person hwnnw yn cael clod gan Dduw, nid gan bobl.

Troednodiadau

Llyth., “bydd ef yn talu yn ôl.”
Llyth., “dyfalbarhau mewn gwneud daioni.”
Neu “sy’n gecrus.”
Neu “sy’n bobl y cenhedloedd.”
Llyth., “cenhedloedd.”
Llyth., “cablu.”