Ruth 2:1-23

  • Ruth yn casglu ŷd yng nghae Boas (1-3)

  • Ruth a Boas yn cyfarfod (4-16)

  • Ruth yn sôn wrth Naomi am garedigrwydd Boas (17-23)

2  Nawr roedd un o berthnasau Naomi ar ochr ei gŵr yn gyfoethog iawn. Ei enw oedd Boas, o deulu Elimelech. 2  Dywedodd Ruth y Foabes wrth Naomi: “Plîs, gad imi fynd allan i’r caeau a lloffa* y tu ôl i bwy bynnag fydd yn garedig ata i.” Felly dywedodd Naomi wrthi: “Dos, fy merch.” 3  Felly aeth hi allan a dechrau casglu ŷd yn y cae y tu ôl i’r cynaeafwyr. Dyma hi’n digwydd dod ar draws darn o dir oedd yn perthyn i Boas, o deulu Elimelech. 4  Yna, dyma Boas yn cyrraedd o Fethlehem, a dweud wrth y cynaeafwyr: “Bydd Jehofa gyda chi.” A dyma nhw’n ateb: “Bendith Jehofa arnat ti.” 5  Wedyn gofynnodd Boas i’r dyn ifanc oedd yn gyfrifol am y cynaeafwyr: “I ba deulu mae’r ddynes* ifanc hon yn perthyn?” 6  Atebodd y dyn ifanc: “Moabes ydy’r ddynes* ifanc. Daeth hi’n ôl o Moab gyda Naomi. 7  Gofynnodd hi, ‘Plîs ga i loffa rhwng yr ŷd sydd wedi ei gasglu a’i glymu,* ac sydd wedi cael ei adael ar ôl gan y cynaeafwyr?’ Ac mae hi wedi bod ar ei thraed ers ben bore ’ma. Dim ond nawr mae hi’n eistedd i lawr yn y babell i orffwys.” 8  Dywedodd Boas wrth Ruth: “Gwranda, fy merch. Paid â mynd i ffwrdd i gasglu mewn cae arall, paid â mynd i unrhyw le arall; arhosa’n agos at fy merched* ifanc. 9  Cadwa dy lygaid ar y cae maen nhw’n ei gynaeafu, a dos gyda nhw. Rydw i wedi gorchymyn i’r dynion ifanc adael llonydd iti.* Pan wyt ti eisiau diod, dos at y llestri dŵr mae’r dynion ifanc wedi eu llenwi ac yfa ohonyn nhw.” 10  Ar hynny, gwnaeth hi syrthio ar ei gliniau ac ymgrymu, a dweud wrtho: “Pam rwyt ti mor garedig tuag ata i, a pham rwyt ti wedi cymryd sylw ohono i pan ydw i’n dod o wlad estron?” 11  Atebodd Boas: “Rydw i wedi clywed popeth wnest ti dros dy fam-yng-nghyfraith ar ôl i dy ŵr farw, a sut gwnest ti adael dy dad, dy fam, a’r wlad lle cest ti dy eni er mwyn mynd at bobl hollol ddieithr. 12  Gad i Jehofa dy wobrwyo di am beth rwyt ti wedi ei wneud, a gad iti gael cyflog perffaith* gan Jehofa, Duw Israel, yr un rwyt ti wedi cysgodi o dan ei adenydd.” 13  Yna dywedodd hi: “Diolch am fod mor garedig tuag ata i syr, oherwydd rwyt ti wedi fy nghysuro i, ac wedi tawelu fy meddwl gyda dy eiriau,* er nad ydw i’n un o’r merched* sy’n gweithio iti.” 14  Pan oedd hi’n amser bwyta, dywedodd Boas wrthi: “Tyrd yma, bwyta ychydig o fara a’i ddipio yn y finegr.” Felly eisteddodd hi i lawr wrth ymyl y cynaeafwyr. Wedyn, rhoddodd rawn wedi ei rostio* iddi, a gwnaeth hi fwyta nes ei bod hi’n llawn, ac roedd ganddi ychydig dros ben. 15  Pan gododd hi i fynd i gasglu, gorchmynnodd Boas i’w ddynion ifanc: “Gadewch iddi loffa ymysg yr ŷd sydd wedi ei gasglu a’i glymu at ei gilydd, a pheidiwch â’i cham-drin hi. 16  Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n tynnu ychydig o ŷd allan o’r bwndeli a’i adael ar ôl er mwyn iddi hi ei gasglu, a pheidiwch â dweud dim byd i’w stopio hi.” 17  Felly parhaodd hi i gasglu yn y cae hyd nes iddi nosi. Ar ôl iddi ddyrnu’r hyn roedd hi wedi ei gasglu, roedd ganddi tuag effa* o haidd. 18  Yna dyma hi’n ei gymryd ac yn mynd i mewn i’r ddinas, a gwelodd ei mam-yng-nghyfraith yr hyn roedd hi wedi ei gasglu. Hefyd rhoddodd Ruth iddi’r bwyd roedd ganddi dros ben ar ôl iddi fwyta a chael digon. 19  Yna gofynnodd ei mam-yng-nghyfraith iddi: “I le est ti i gasglu heddiw? Lle roeddet ti’n gweithio? Bendith ar yr un wnaeth gymryd sylw ohonot ti.” Felly dyma hi’n sôn wrth ei mam-yng-nghyfraith am yr un gwnaeth hi weithio gydag ef, gan ddweud: “Gwnes i weithio gyda dyn o’r enw Boas heddiw.” 20  Yna dywedodd Naomi wrth ei merch-yng-nghyfraith: “Bendith Jehofa arno, dydy ef ddim wedi stopio dangos ei gariad ffyddlon tuag at y byw na’r meirw.” Aeth hi ymlaen i ddweud: “Mae’r dyn hwnnw yn perthyn i ni. Mae ganddo’r hawl i’n prynu ni allan o’n sefyllfa anodd.” 21  Yna dywedodd Ruth y Foabes: “Dywedodd ef hefyd wrtho i, ‘Arhosa’n agos at fy mhobl ifanc nes iddyn nhw orffen fy nghynhaeaf i gyd.’” 22  Dywedodd Naomi wrth ei merch-yng-nghyfraith Ruth: “Mae’n well i ti, fy merch, fynd allan gyda’i ferched* ifanc yn hytrach na chael dy gam-drin mewn cae arall.” 23  Felly arhosodd hi’n agos at ferched* ifanc Boas a chasglu tan ddiwedd y cynhaeaf haidd a’r cynhaeaf gwenith. Ac roedd hi’n byw gyda’i mam-yng-nghyfraith yr holl amser.

Troednodiadau

Hynny yw, casglu ŷd sy’n weddill ar ôl cynhaeaf.
Neu “mae’r fenyw.”
Neu “ydy’r fenyw.”
Neu efallai, “rhwng yr ysgubau.”
Neu “menywod.”
Neu “beidio â chyffwrdd â ti; beidio â dy aflonyddu.”
Neu “tâl llawn.”
Llyth., “ac wedi siarad â fy nghalon.”
Neu “menywod.”
Neu “wedi ei grasu.”
Tua 22 L.
Neu “gyda’i fenywod.”
Neu “at fenywod.”