At Bwy Arall Gallaf Fynd?
Lawrlwytho:
1. Dwi’n gyfarwydd â bywiol eiriau
Y Bugail Da,
Dwi’n nabod ei lais
A’i ganllawiau yn dda.
Gorffwysfa i’m henaid
Yw esmwythdra ei iau.
Wrth ddilyn y Bugail,
Mor ysgafn yw’r baich.
(CYN-GYTGAN)
Pam byswn i yn gwyro?
A pham byswn i yn crwydro?
Hwn yw fy llwybr i,
Ie, hon yw’r ffordd i mi.
(CYTGAN)
At bwy arall gallaf fynd?
Pwy arall sydd yn cynnig cysur?
At bwy arall gallaf fynd?
Mae llais gwyrdroëdig
Yn arwain at beryg,
Ond Iesu sy’n fy arwain i.
2. Dwi’n ddiogel
Dan wyliadwrus ofal y Mab,
Yn glyd yn y gorlan,
Yn fodlon, yn saff.
Dilynaf ei lais
Hyd dragwyddoldeb ei hun,
A ffoaf rhag llais
Y dieithryn, bob un.
(CYN-GYTGAN)
Pam byswn i yn gwyro?
A pham byswn i yn crwydro?
Hwn yw fy llwybr i,
Ie, hon yw’r ffordd i mi.
(CYTGAN)
At bwy arall gallaf fynd?
Pwy arall sydd yn cynnig cysur?
At bwy arall gallaf fynd?
Mae llais y dieithryn
Yn galw’n ddiderfyn,
Ond Iesu sy’n fy arwain i.
(CYTGAN)
At bwy arall gallaf fynd?
Pwy arall sydd yn cynnig cysur?
At bwy arall gallaf fynd?
Gall llais anghyfarwydd
Fy llarpio’n ddirybudd,
Ond Iesu sy’n fy arwain i.
At bwy arall gallaf fynd?
At bwy arall gwell y gallaf fynd?