Ffrindiau Unwaith Eto
Lawrlwytho:
1. Dwi’n dal mor dynn ar faich mor drwm,
Mae’r boen yn brathu hyd y byw.
Mae’r pwysau mawr ’ma’n drech na fi,
Ac mae’r dal dig fel rwbio halen
ar fy mriw.
(CYTGAN)
O rŵan hyn ei faddau wnaf,
Wna i ffeindio ffordd i rwymo’r clwyf,
I fod yn gyfaill ac yn ffrind,
I fod yn fêts fel oeddem gynt.
2. I ennill brawd, i faddau’n hael,
Bydd rhaid i mi dawelu’r llid.
Maddeuant Duw, a’i gariad ef
Sy’n rhoi y hwb i fwrw ’mlaen—
Mae hi’n hen bryd!
(CYTGAN)
O rŵan hyn ei faddau wnaf,
Wna i ffeindio ffordd i rwymo’r clwyf,
I fod yn gyfaill ac yn ffrind,
I fod yn fêts fel oeddem gynt.
(PONT)
I fod yn ffrindiau—
Y cyntaf gam yw’r gorau un.
A’r chwerw deimlad sydd,
Mi fydd yn troi yn chwarae pur.
3. Dymuniad Duw ydyw inni
Gryfhau ein cyfeillgarwch ni.
Wrth faddau’n hael dwi’n ysgafnhau
Y baich sy’n pwyso’n arw
ar fy nghalon i.
(CYTGAN)
O rŵan hyn ei faddau wnaf,
Wna i ffeindio ffordd i rwymo’r clwyf,
I fod yn gyfaill ac yn ffrind,
I fod yn fêts fel oeddem gynt.
I fod yn ffrind, o rŵan hyn,
I fod yn ffrindiau.