Cân 154
Dyfalbarhawn
-
Rhaid dyfalbarhau;
Ond sut parhawn fel Iesu Grist?
Hoelio’i sylw wnaeth
Ar obaith gogoneddus ddydd.
Ystyriodd, myfyriodd,
A chadarn oedd ei ffydd.
(CYTGAN)
Â’n gilydd daliwn ati.
Yn gadarn awn ymlaen.
Jehofa sy’n ein caru;
Yn ffyddlon, cerdded wnawn hyd ben y daith.
-
Gofid ddaw i’n rhan,
Ac yn ein trallod, wylo wnawn.
 phob cam ymlaen,
At y baradwys agosawn.
Hyfrydwch gwir heddwch
Yw’n gwobr, os parhawn.
(CYTGAN)
Â’n gilydd daliwn ati.
Yn gadarn awn ymlaen.
Jehofa sy’n ein caru;
Yn ffyddlon, cerdded wnawn hyd ben y daith.
-
Cadarn yn ein ffydd
Parhawn yn ddewr i ddal ein tir.
Agos y mae’r dydd
Pan ddaw addewid Duw yn wir;
Llawenydd byd newydd
Gawn weled cyn bo hir.
(CYTGAN)
Â’n gilydd daliwn ati.
Yn gadarn awn ymlaen.
Jehofa sy’n ein caru;
Yn ffyddlon, cerdded wnawn hyd ben y daith.
(Gweler hefyd Act. 20:19, 20; Iago 1:12; 1 Pedr 4:12-14.)