CÂN 61
Ymlaen â Chi, Dystion!
-
1. Llwyr benderfynol yw gweision Duw drwy’r byd
O draethu y Deyrnas er gwaethaf oes ddi-hid.
Cefnogaeth Jehofa sy’n rheidiol
I sefydlu’r efengyl yn gyfreithiol.
(CYTGAN)
Ymlaen â chi Dystion dewr, yng ngwaith Duw parhewch!
Wrth fwrw ymlaen yn hyderus, llawenhewch!
Cyhoeddwch ddyfodiad Paradwys newydd sbon,
Daear gron a fwynha fawr fendithion.
-
2. Ni cheisia gweision i Dduw ei chael hi’n hawdd,
Ac ni wnawn ni ildio pan ddeuwn o dan brawf.
Rhaid cerdded ar lwybr uniondeb,
Camu ’mlaen wnawn gan gynnal ein ffyddlondeb.
(CYTGAN)
Ymlaen â chi Dystion dewr, yng ngwaith Duw parhewch!
Wrth fwrw ymlaen yn hyderus, llawenhewch!
Cyhoeddwch ddyfodiad Paradwys newydd sbon,
Daear gron a fwynha fawr fendithion.
-
3. Nid oes dim parch at sancteiddrwydd enw Duw,
Gwrthodant ei Deyrnas er ei hawdurdod uwch.
Â’n brodyr, parhawn i gydweithio
I gyhoeddi ei enw a’i sancteiddio.
(CYTGAN)
Ymlaen â chi Dystion dewr, yng ngwaith Duw parhewch!
Wrth fwrw ymlaen yn hyderus, llawenhewch!
Cyhoeddwch ddyfodiad Paradwys newydd sbon,
Daear gron a fwynha fawr fendithion.
(Gweler hefyd Ex. 9:16; Phil. 1:7; 2 Tim. 2:3, 4; Iago 1:27.)