O’R ARCHIF
Tystion Jehofa yn Seland Newydd—Cristnogion Heddychlon a Selog?
Ar Hydref 21, 1940, gwnaeth Seland Newydd labelu Tystion Jehofa fel cyfundrefn oedd yn tanseilio’r llywodraeth ac yn berygl i ddiogelwch y cyhoedd. Er bod hyn wedi achosi problemau mawr i Dystion Jehofa, wnaeth ef ddim eu stopio nhw. Er enghraifft, dalion nhw ati i gyfarfod gyda’i gilydd i addoli, er bod ’na risg o gael eu harestio gan yr awdurdodau.
Gwnaeth Andy Clarke, gŵr Tyst o’r enw Mary, sylwi pa mor benderfynol oedd hi i barhau i fynd i’r cyfarfodydd er gwaetha’r bygythiadau. Roedd ef yn poeni y byddai ei wraig yn cael ei harestio wrth fynd i’r cyfarfodydd. Er nad oedd wedi arfer, dechreuodd Andy fynd gyda Mary, a dywedodd wrthi, “Wel, os ydyn nhw am dy arestio di, bydd rhaid iddyn nhw fy arestio i hefyd!” O hynny ymlaen, aeth Andy i bob cyfarfod gyda’i wraig. Ac ymhen amser, daeth yntau’n Dyst. Er bod Tystion wedi cael eu herlid yn Seland Newydd yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd llawer, fel Mary, yn hollol benderfynol o aros yn ffyddlon i Dduw.
Ffynnu o Dan Glo
Un diwrnod, gwnaeth yr heddlu stopio John Murray, oedd yn 78 mlwydd oed, tra oedd ef yn rhannu neges y Beibl o ddrws i ddrws. Barnodd y llys ei fod yn euog o gael rhan mewn gweithgareddau cyfundrefn sy’n tanseilio’r llywodraeth. Cafodd llawer o Dystion eraill eu dwyn o flaen y llysoedd hefyd. Cafodd rhai ddirwy, a chafodd eraill eu carcharu am hyd at dri mis ar y tro.
Roedd y Tystion yn gwrthod mynd i’r fyddin ar sail eu cydwybod oedd wedi ei hyfforddi yn ôl y Beibl. (Eseia 2:4) O ganlyniad, yn ystod y rhyfel, roedden nhw’n wynebu caledi mawr pan gafodd llawer eu galw i’r fyddin. Yn hytrach nag ymuno â’r lluoedd arfog, cafodd tua 80 o Dystion eu hanfon i wersylloedd tan ddiwedd y rhyfel. Hyd yn oed yn y llefydd hynny, er gwaethaf oerfel ofnadwy yn y gaeaf a chael eu cam-drin yn llym, daliodd y brodyr hyn ati i wasanaethu Jehofa yn llawen.
Aeth y Tystion yn y gwersylloedd yn syth ati i drefnu gweithgareddau ysbrydol rheolaidd. Roedden nhw’n gweithredu fel cynulleidfa, gyda chyfarfodydd a threfniadau ar gyfer pregethu i garcharorion eraill. Cafodd y Tystion hyd yn oed caniatâd i gynnal cynulliadau yn rhai o’r gwersylloedd, gydag un o swyddogion y gwersyll yn bresennol. Dysgodd rhai carcharorion wirioneddau’r Beibl yn y gwersylloedd a chael eu bedyddio yno.
Roedd Bruce, mab ’fengaf Mary ac Andy wnaethon ni sôn amdanyn nhw gynt, yn gweld ei amser dan glo fel cyfle i ddysgu mwy am Dduw. Wrth gofio ei amser yno dywedodd, “I mi oedd o fel mynd i’r ysgol, achos o’n i’n gallu cael sgyrsiau dwfn â’r brodyr aeddfed yn y gwersyll a chasglu’r holl wybodaeth oedd ar gael imi.”
Ym 1944, gwnaeth y llywodraeth ystyried rhyddhau rhai o’r Tystion o’r gwersylloedd. Ond, gwrthododd yr awdurdodau milwrol am eu bod nhw’n sicr y byddai’r Tystion yn parhau i siarad ag eraill am eu ffydd petasen nhw’n cael eu rhyddhau. Dywedodd un adroddiad: “Er bod eu cadw nhw yn y gwersylloedd yn cynnig rhyw fesur o reolaeth dros yr eithafwyr hyn, fyddan nhw byth yn newid.”
Ddim yn Berygl i Ddiogelwch y Cyhoedd
Am fod y newyddion am y gwaharddiad wedi lledaenu, daeth rhai pobl yn chwilfrydig am Dystion Jehofa. Ymhen amser, gwnaeth llawer sylweddoli bod Tystion Jehofa ddim yn berygl i ddiogelwch y cyhoedd o gwbl. Gwelon nhw fod y Tystion yn Gristnogion heddychlon, diniwed. O ganlyniad, cynyddodd nifer y Tystion yn Seland Newydd o 320 ym 1939, i 536 ym 1945!
Bob hyn a hyn, roedd swyddogion rhesymol yn cydnabod bod y gwaharddiad ar Dystion Jehofa yn annheg. Gwnaeth un barnwr wrthod achos ar ôl clywed tystiolaeth yn erbyn brawd oedd wedi bod yn pregethu. Dywedodd: “Yn ôl yr hyn rydw i’n ei gredu, a fy nealltwriaeth o’r gyfraith, mae’n hollol hurt ystyried rhywun yn droseddwr am ei fod yn dosbarthu Beiblau.”
Pan gafodd y gwaharddiad ei godi ar ddiwedd y rhyfel, roedd y Tystion yn fwy penderfynol nag erioed i helpu eu cymdogion i ddysgu am Deyrnas Dduw. Ym 1945, dywedodd swyddfa’r gangen mewn llythyr i bob cynulleidfa yn Seland Newydd: “Gad i bob un ohonon ni fod yn llawn tact, yn gyfeillgar, ac yn garedig i bawb. Osgowch ddadleuon a ffraeo. Cofiwch fod y bobl rydyn ni’n eu cyfarfod yn credu’n gryf yn eu daliadau ac yn ceisio byw’n unol â nhw. . . . Mae llawer ohonyn nhw yn ‘ddefaid’ yr Arglwydd a dylen ni eu harwain nhw at Jehofa a’i Deyrnas.”
Heddiw, mae Tystion Jehofa yn Seland Newydd yn parhau i rannu neges y Beibl â phobl leol a thwristiaid. Un diwrnod, mewn dim ond ychydig o oriau, siaradodd grŵp o bedwar o Dystion yn Turangi â 67 o ymwelwyr o 17 o wledydd!
Yn amlwg, mae pobl Seland Newydd yn cydnabod bod Tystion Jehofa yn Gristnogion heddychlon, selog, sy’n gwerthfawrogi beth mae’r Beibl yn ei ddysgu ac yn ceisio byw yn unol â hynny. Mae cannoedd o bobl yn cael eu bedyddio yn Dystion Jehofa bob blwyddyn. Ers 2019, mae dros 14,000 o Dystion wedi bod yn gwasanaethu Jehofa’n llawen yn y wlad hon.
Cyfarfod ar gyfer astudio’r Beibl yn cael ei gynnal rywbryd ar ôl cychwyn y gwaharddiad ym 1940
Celloedd un-dyn mewn gwersyll ar Ynys y Gogledd, Seland Newydd
Gwersyll Hautu, Ynys y Gogledd, Seland Newydd
1949: Grŵp o Dystion oedd wedi cael eu carcharu am eu niwtraliaeth