BYDDWCH YN WYLIADWRUS!
Pwy Gallwch Chi Ei Drystio?—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud?
Mae’n hawdd digalonni pan fydd pobl sydd i fod yn ddibynadwy yn ein siomi. Mae llawer wedi colli ffydd mewn . . .
arweinwyr gwleidyddol sy’n rhoi eu buddiannau eu hunain o flaen anghenion y bobl.
ffynonellau newyddion sy’n cyflwyno gwybodaeth nad yw’n deg nac yn gywir.
gwyddonwyr nad ydyn nhw’n gweithio er lles y cyhoedd.
arweinwyr crefyddol sy’n hyrwyddo gwleidyddiaeth yn lle cynrychioli Duw.
Mae’n iawn i fod yn ofalus am bwy rydyn ni’n ei drystio. Mae’r Beibl yn rhybuddio:
“Paid trystio’r rhai sy’n teyrnasu—dyn meidrol sydd ddim yn gallu achub.”—Salm 146:3.
Rhywun y gallwch ei drystio
Mae’r Beibl yn sôn am rywun y gallwch chi ei drystio’n llwyr: Iesu Grist. Roedd Iesu yn fwy na dyn da a fu farw ganrifoedd yn ôl. Mae Duw wedi penodi Iesu’n i reoli “fel Brenin . . . , a fydd ’na ddim terfyn ar ei Deyrnas.” (Luc 1:32, 33) Iesu ydy Brenin Teyrnas Dduw, llywodraeth sy’n rheoli heddiw o’r nefoedd.—Mathew 6:10.
I weld pam gallwch chi drystio Iesu, darllenwch yr erthyglau “Pwy Yw Brenin Teyrnas Dduw?” a “Beth Fydd Teyrnas Dduw yn ei Gyflawni?”