Brwydro yn Erbyn Unigrwydd Drwy Helpu Eraill—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud
Mae pobl o gwmpas y byd yn teimlo’n unig a’u bod nhw wedi colli cysylltiad ag eraill. Mae rhai arbenigwyr ym maes iechyd yn credu mai un ffordd i frwydro yn erbyn unigrwydd yw drwy helpu pobl eraill.
“Mae helpu eraill mewn angen yn gallu rhoi ystyr i’n bywydau a lleihau teimladau o unigrwydd a diffyg cysylltiad.”—U.S. National Institutes of Health.
Mae’r Beibl yn cynnig cyngor ymarferol ar sut gallwn ni helpu eraill. Mae rhoi ei gyngor ar waith yn gallu ein helpu ni i frwydro yn erbyn unigrwydd.
Beth allwch chi ei wneud?
Byddwch yn hael. Chwiliwch am gyfle i dreulio amser gyda phobl eraill, wyneb yn wyneb. Byddwch yn barod i rannu. Pan wnewch chi hynny, mae’n debyg y bydd eraill yn ddiolchgar, a byddwch yn dod yn ffrindiau.
Egwyddor o’r Beibl: “Parhewch i roi, a bydd pobl yn rhoi i chithau.”—Luc 6:38.
Defnyddiwch eich egni i helpu eraill. Chwiliwch am ffyrdd i helpu eraill sy’n mynd drwy amser anodd. Efallai bydd hynny yn golygu gwrando a chydymdeimlo neu gynnig help ymarferol a fydd yn ysgafnu’r baich.
Egwyddor o’r Beibl: “Mae ffrind yn ffyddlon bob amser; a brawd wedi’i eni i helpu mewn helbul.”—Diarhebion 17:17.
Am fwy o wybodaeth ar sut i gadw perthynas dda ag eraill, gweler yr erthygl “Perthynas â Theulu a Ffrindiau.”