Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

I’r chwith: Gweithwyr cymorth yn helpu adfer tŷ cwpl yn Tsile ar ôl tanau gwyllt. I’r dde: Dwy chwaer yn Nigeria yn derbyn nwyddau cymorth ar ôl llifogydd difrifol yn eu hardal.

SUT MAE EICH CYFRANIADAU YN CAEL EU DEFNYDDIO

Cymorth ar ôl Trychineb yn 2023—“Rydyn Ni Wedi Gweld Cariad Jehofa Gyda’n Llygaid Ein Hunain”

Cymorth ar ôl Trychineb yn 2023—“Rydyn Ni Wedi Gweld Cariad Jehofa Gyda’n Llygaid Ein Hunain”

IONAWR 26, 2024

 Rhagfynegodd y Beibl y byddai “cenedl yn codi yn erbyn cenedl” a byddai trychinebau yn gyffredin yn ystod ‘cyfnod olaf y system hon.’ (Mathew 24:3, 7) Rydyn ni wedi gweld cyflawniad y geiriau hyn yn ystod y flwyddyn wasanaeth 2023. a Ond yng nghanol y rhyfeloedd a’r trychinebau naturiol sydd wedi effeithio ar bron i 100 o wledydd, mae Tystion Jehofa wedi bod yn efelychu cariad Jehofa. Sut?

 Yn ystod blwyddyn wasanaeth 2023, cafodd ein brodyr eu heffeithio gan fwy na 200 o drychinebau a achoswyd gan rymoedd naturiol neu weithgareddau dynol. Mae corfforaethau sy’n cael eu defnyddio gan Dystion Jehofa wedi gwario bron i wyth miliwn o bunnoedd (deg miliwn o ddoleri b) er mwyn rhoi cymorth yn ystod y trychinebau. Roedd yr arian yn dod o gyfraniadau tuag at y gwaith byd-eang. Mae hynny ar ben yr arian a gafodd ei roi gan y brodyr a chwiorydd lleol i helpu pobl yn eu hardaloedd nhw. Ystyriwch sut mae eich cyfraniadau wedi helpu dioddefwyr dau drychineb a gafodd effaith ar ein brodyr.

“Mae Gwir Gariad yn Bodoli”

 Mae rhai ardaloedd yn Nigeria wedi arfer â llifogydd tymhorol. Ond ym mis Hydref 2022 cawson nhw’r llifogydd gwaethaf ers deng mlynedd. Cafodd mwy na 676,000 hectar (1,670,432 erw) o dir amaethyddol ei ddinistrio, ac roedd yn rhaid i fwy na dwy filiwn o bobl adael eu cartrefi. Trefnodd y gangen yn Nigeria i Bwyllgorau Cymorth ar ôl Trychineb estyn cymorth ymarferol ac ysbrydol i’r brodyr yn syth.

Brodyr yn Nigeria yn croesi afonydd a ffyrdd o dan ddŵr er mwyn rhoi nwyddau cymorth

Yr Effaith ar Ein Brodyr a Chwiorydd

  •   7,505 o gyhoeddwyr yn gorfod gadael eu cartrefi

  •   860 o gartrefi wedi eu difrodi neu eu dinistrio

  •   90 Neuadd y Deyrnas ac un Neuadd Cynulliad wedi eu difrodi gan lifogydd

Defnydd o Gyfraniadau

 Cafodd dros £195,000 ($250,000) ei wario ar gymorth ar ôl trychineb, a oedd yn cynnwys:

  •   Bwyd fel reis, ffa a nwdls

  •   Nwyddau cartref fel matresi a rhwydau mosgito

  •   Trwsio neu ailadeiladu cartrefi a gafodd eu difrodi

 Sut roedd ein brodyr yn sicrhau bod y cyfraniadau’n cael eu defnyddio’n ddoeth? Un ffordd oedd drwy archwilio pob adeilad yn ofalus er mwyn penderfynu a oedd yn bosib ei drwsio. Os nad oedd yn bosib, roedd un newydd yn cael ei godi yn ôl cynllun syml a oedd yn gyffredin yn yr ardal.

 Mae’r brodyr a chwiorydd a gafodd help yn ddiolchgar iawn. Dywedodd un chwaer: “Roedd y llif yn troi ein bywydau ben i waered oherwydd collon ni ein ffermydd i gyd a’n cartrefi. Roedden ni mor hapus o weld ein brodyr a chwiorydd yn cyrraedd y diwrnod hwnnw er mwyn ein helpu a rhoi rhywle saff inni aros. Roedden ni’n ddiolchgar iawn o dderbyn bwyd gan y swyddfa gangen. Roedden ni’n gegrwth wrth weld cyflawniad Ioan 13: 34, 35 yn ein bywydau ein hunain. . . . Mae gwir gariad yn bodoli. Rydw i, a fy nheulu i gyd, eisiau diolch o waelod calon i’r brodyr am ddod i’n helpu ar yr union adeg iawn.”

 Sylwodd eraill yn y gymuned ar ein gwaith cymorth. Dywedodd pennaeth cymuned yn Sabagreia, Bayelsa State: “Mae yna lawer o gyfundrefnau ac eglwysi yn y byd, ond dim ond Tystion Jehofa sydd wedi gwneud rhywbeth fel hyn . . . [Eich] cyfundrefn chi yw un o’r rhai gorau yn y byd.”

“Rydyn Ni Wedi Gweld Cariad Jehofa Gyda’n Llygaid Ein Hunain”

 Yn ystod Chwefror 2023, achosodd dros 400 o danau ddifrod ofnadwy yn Tsile. Cafodd dros 430,000 hectar (1,062,553 erw) o dir, yn ogystal â rhai o’r gwasanaethu pwysicaf y wlad eu dinistrio’n llwyr. Roedd rhaid i oddeutu 8,000 o bobl adael yr ardal. Yn fuan ar ôl y trychineb, aeth y swyddfa gangen ati i drefnu ymdrechion cymorth.

Gweithwyr cymorth yn adeiladu cartref newydd i deulu a gollodd eu tŷ

Yr Effaith ar Ein Brodyr a Chwiorydd

  •   222 o gyhoeddwyr yn gorfod gadael eu cartrefi

  •   20 o gartrefi wedi cael eu dinistrio

Defnydd o Gyfraniadau

 Cafodd dros £150,000 ($200,000) ei wario ar gymorth ar ôl trychineb, gan gynnwys:

  •   Bwyd a dŵr

  •   Tanwydd, pethau glanhau, a meddyginiaeth

  •   Trwsio tai a oedd wedi eu difrodi

 Roedd un teulu wedi eu syfrdanu o weld bod popeth oedd ganddyn nhw wedi ei dinistrio, gan gynnwys eu cartref a’u busnes. Nid oedd y teulu bellach yn gallu gwneud bywoliaeth ac roedd gweld y lle roedd eu cartref yn arfer sefyll yn gwneud iddyn nhw deimlo’n drist iawn. Ond o weld y tŷ yn cael ei ailadeiladu, cawson nhw eu calonogi. Roedd derbyn y fath gariad a gofal gan y gwirfoddolwyr yn codi eu calonnau. Cawson nhw gymaint o hwb, penderfynon nhw ymuno yn y gwaith o ailgodi tŷ brawd arall.

 Cafodd y gwaith cymorth argraff fawr iawn ar y brodyr a chwiorydd. Dywedodd un brawd: “Mae’r Pwyllgorau Cymorth ar ôl Trychineb y mae Jehofa wedi eu trefnu yn fendigedig. Y diwrnod ar ôl y trychineb, roedden nhw yn darparu pethau angenrheidiol. Mae’n braf darllen am y cymorth ar ôl trychineb mewn gwledydd eraill. Ond pan fydd yn digwydd i chi, mae’n hollol wahanol. Rydych chi’n gwerthfawrogi’r gyfundrefn yn fwy; sut mae’r brodyr yn efelychu rhinweddau Jehofa; ac eisiau edrych ar ein holau, yn faterol, yn ysbrydol, ac yn emosiynol. Rydyn ni wedi gweld cariad Jehofa gyda’n llygaid ein hunain.”

 Wrth i’r system hon ddod i ben, byddwn yn gweld mwy a mwy o drychinebau. (Luc 21:10, 11) Serch hynny, drwy’r gynulleidfa Gristnogol, rydyn ni’n gweld bod ein Brenin cariadus, Iesu Grist, gyda ni “bob dydd hyd gyfnod olaf y system hon.” (Mathew 28:20) Mae eich cyfraniadau hael i’r gwaith byd-eang, drwy donate.dan124.com a ffyrdd eraill, yn ogystal â’ch amser ac egni, yn dangos eich bod yn cefnogi’r Deyrnas a’i Brenin cariadus. Diolch o’r galon am eich caredigrwydd parhaol.

a Dechreuodd blwyddyn wasanaeth 2023 ar Fedi 1, 2022, a gorffennodd ar Awst 31, 2023.

b Mae’r doleri yn yr erthygl hon yn ddoleri Americanaidd.