SUT MAE EICH CYFRANIADAU YN CAEL EU DEFNYDDIO
Trolïau Sydd “yn Dystiolaeth i’r Holl Genhedloedd”
1 EBRILL, 2023
Mae Tystion Jehofa yn defnyddio trolïau yn eu gweinidogaeth ers mwy na 10 mlynedd bellach. Erbyn hyn, mae’r trolïau’n gyfarwydd i bobl mewn gwledydd ledled y byd. Maen nhw’n hawdd i’w hadnabod ac yn hawdd i’w defnyddio. Efallai y byddwch chi’n cytuno ag Asenata, chwaer o wlad Pwyl, sy’n dweud: “Mae dyluniad y trolïau’n syml ond yn ddeniadol, sy’n golygu eu bod nhw’n hawdd i’w symud ac i’w codi.”
Ydych chi erioed wedi meddwl tybed sut cafodd y trolïau eu dylunio a’u cynhyrchu?
Dyluniad Effeithiol
Yn 2001, gyda chymeradwyaeth y Corff Llywodraethol, dechreuodd ein brodyr a’n chwiorydd yn Ffrainc edrych ar wahanol ddulliau o dystiolaethu’n gyhoeddus, gan gynnwys defnyddio trolïau. Fe wnaethon nhw arbrofi gyda sawl math o droli. Er enghraifft, ceision nhw addasu bagiau teithio a throlïau siopa i gario a hysbysebu ein cyhoeddiadau. Yn y diwedd dewisodd y gangen yn Ffrainc un dyluniad penodol, a hwnnw roedd y cyhoeddwyr yn ei ddefnyddio am flynyddoedd.
Roedd y brodyr yn Ffrainc wrth eu boddau gyda chanlyniadau’r arbrawf yn eu gweinidogaeth gyhoeddus. Felly yn 2011, cymeradwyodd y Corff Llywodraethol gynllun peilot i ddefnyddio trolïau a byrddau wrth dystiolaethu’n gyhoeddus yn Ninas Efrog Newydd. Buan iawn roedd yr arloeswyr a gymerodd ran yn y cynllun yn gweld manteision y trolïau, gan gynnwys y ffaith eu bod nhw mor hawdd i’w symud. Roedden nhw hefyd yn cynnig syniadau am sut i wella’r trolïau. Roedd y fersiynau cynnar wedi eu gwneud o bren, ond roedden nhw’n eithaf trwm i’w symud i fyny ac i lawr grisiau. Felly roedd y fersiwn nesaf yn ysgafnach, ond eto’n ddigon sefydlog i sefyll yn y gwynt heb syrthio. Roedd ganddo olwynion mwy a oedd yn well ar gyfer tir anwastad, a bocs bach ar y cefn i gadw cyhoeddiadau sbâr.
Roedd y cynllun peilot yn llwyddiannus iawn. Felly yn 2012, cafodd y trolïau eu cymeradwyo gan y Corff Llywodraethol i’w defnyddio ledled y byd. Cafwyd hyd i gwmni oedd yn gallu eu cynhyrchu fesul mil gyda deunyddiau cadarn ond ysgafn.
Dros y blynyddoedd mae mân welliannau wedi eu gwneud i ddyluniad y trolïau. Er enghraifft, yn 2015, cafodd gorchudd gyda ffenestr blastig ei ychwanegu i’w ddefnyddio yn y glaw. Mae Dina, sy’n byw yn Georgia, yn ddiolchgar iawn am hyn. Mae hi’n dweud: “Mae gan y troli ei ‘gôt law’ ei hun i gadw’r cyhoeddiadau’n sych.” Yn 2017, cafwyd posteri magnetig mewn rhai ieithoedd. Dywed brawd o’r enw Tomasz o wlad Pwyl: “Ar y dechrau, roedden ni’n arfer gludo posteri yn eu lle. Cymerodd lawer o waith i newid i’r rhai magnetig, ond maen nhw’n wych.” Yn 2019, newidiwyd y deunyddiau a’r broses gynhyrchu unwaith eto, i wneud y trolïau yn fwy cadarn byth.
Cynhyrchu’r Trolïau
Mae’r trolïau yn cael eu cynhyrchu gan un cwmni yn unig a’u hanfon i gynulleidfaoedd drwy’r byd. Ar hyn o bryd, mae un troli’n costio £36 ($43) heb gynnwys costau cludo a chostau eraill. Hyd yn hyn mae mwy na £13 miliwn ($16 miliwn) wedi ei wario ar drolïau, ac mae mwy na 420,000 wedi eu dosbarthu i gynulleidfaoedd drwy’r byd.
Er mwyn defnyddio cyfraniadau ariannol i’r eithaf, mae’r trolïau yn cael eu harchebu fesul llwyth. Bellach mae cynulleidfaoedd yn gallu archebu darnau sbâr er mwyn trwsio’r trolïau yn hytrach na chael un newydd.
Defnyddio’r Trolïau i Dystiolaethu
Mae Tystion o gwmpas y byd yn mwynhau defnyddio’r trolïau. Mae Martina, o Ghana, yn dweud: “Fel arfer yn y weinidogaeth, ni sy’n mynd at bobl i siarad gyda nhw. Y peth dw i’n ei hoffi am dystiolaethu gyda’r troli ydy bod pobl yn gallu dewis dod aton ni. Mae hyd yn oed pobl sy’n cerdded heibio yn gweld ein neges.”
Mewn gwlad arall yn Affrica, aeth dyn at y troli i godi cyhoeddiadau yn ei iaith ei hun. Daeth yn ôl ymhen wythnos gan ddweud: “Dw i wedi darllen pob un o’r cyhoeddiadau gefais. Mae’r wybodaeth hon yn bwysig iawn. Bydda’ i’n sôn amdani wrth fy nheulu yn y pentref lle dw i’n byw.” Roedd ei bentref dros 300 milltir (500 cilomedr) i ffwrdd, ond ddeufis wedyn dyma’r dyn yn dod yn ôl a dweud: “Mae’r bobl yn y pentref wedi darllen y cyhoeddiadau hynny i gyd, ac maen nhw wrth eu boddau gyda’r wybodaeth. Maen nhw eisiau bod yn Dystion Jehofa, ond mae ganddyn nhw nifer o gwestiynau. Er enghraifft, maen nhw’n deall bod angen cael eu bedyddio drwy gael eu trochi yn y dŵr. Ond does dim afon yng nghyffiniau’r pentref. A fydd angen inni ddod yma i gael ein bedyddio?” Trefnodd y Tystion i’r dyn gael cyfarfod arloeswr sydd yn siarad ei iaith. Ers hynny, mae’r ddau wedi bod yn cyfarfod yn rheolaidd i drafod y Beibl.
Mae gweld y trolïau’n cael eu defnyddio i bregethu “drwy’r byd i gyd yn dystiolaeth i’r holl genhedloedd” yn beth cyffrous. (Mathew 24:14) Sut rydyn ni’n talu am gostau cynhyrchu’r trolïau? Drwy gyfraniadau i’r gwaith byd-eang. Mae llawer o’r cyfraniadau hyn yn cael eu gwneud drwy donate.dan124.com. Diolch o’r galon am eich haelioni.