Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

WEDI EI DDYLUNIO?

Glas Gloyw Aeron y Pollia

Glas Gloyw Aeron y Pollia

MAE gan aeron y Pollia condensata, sef planhigyn sy’n tyfu ar draws Affrica, y lliw glas mwyaf dwys a welwyd erioed mewn planhigyn. Ond does dim pigment glas yn yr aeron. Beth sy’n gyfrifol am eu lliw trawiadol?

Ystyriwch: Mae cellfuriau yng nghroen yr aeronen yn cynnwys edafedd sydd wedi eu trefnu fel rhesi o fatsis. Mae’r edafedd hyn yn ffurfio haenau, a phob un haen ar ongl ychydig yn wahanol i’r haen odani, fel bod yr haenau sy’n codi yn llunio patrwm ar ffurf helics neu sbiral. Nid yw’r edafedd eu hunain wedi eu lliwio’n las. Mae’r lliw yn dod o’r ffordd y mae’r edafedd wedi eu gosod, un ar ben y llall. Felly, y strwythur, nid y pigment, sy’n gyfrifol am liw dwys, metelig, a symudliw’r aeronen. Mae’r rhan fwyaf o’r celloedd yn ymddangos yn las. Ond o ongl wahanol, gall rhywun weld lliw gwyrdd, pinc, neu felyn oherwydd mân newidiadau yn yr haenau. Ar ben hynny, o edrych yn ofalus, dydy’r lliwiau ddim yn esmwyth ond yn ymddangos fel eu bod nhw wedi eu picseleiddio, yn debyg i’r lliwiau ar sgrin cyfrifiadur.

Oherwydd nad oes pigment yn aeron y Pollia, maen nhw’n cadw eu lliw hyd yn oed ar ôl iddyn nhw gwympo o’r planhigyn. Yn wir, mae rhai aeron a gasglwyd ganrif a mwy yn ôl yn edrych yr un mor llachar â rhai ffres! Yn ôl yr ymchwilwyr, er nad yw’n bosib bwyta cnawd yr aeron gan mai dim ond hadau sydd ynddyn nhw, maen nhw’n dal i ddenu’r adar o’u cwmpas.

Mae gwyddonwyr yn credu bod pigment aeron y Pollia yn gallu sbarduno syniadau o ran creu cynnyrch fel llifynnau sydd ddim yn colli eu lliw a phapur sy’n anodd ei ffugio.

Beth rydych chi’n ei feddwl? Ai esblygiad sy’n gyfrifol am liw glas gloyw aeron y Pollia? Neu a gafodd yr aeron eu dylunio?