Y FFORDD I HAPUSRWYDD
Pwrpas Mewn Bywyd
MAE BODAU DYNOL YN UNIGRYW—MAEN NHW’N YSGRIFENNU, YN PEINTIO, YN CREU, AC YN MEDDWL AM GWESTIYNAU MAWR BYWYD: Pam mae’r bydysawd yn bodoli? Sut daethon ni i fodolaeth? Beth yw pwrpas bywyd? Pa fath o ddyfodol sy’n ein disgwyl ni?
Mae rhai pobl yn osgoi’r cwestiynau hynny, gan feddwl bod yr atebion y tu hwnt inni. Mae rhai eraill yn dweud does dim pwrpas i gwestiynau o’r fath oherwydd bod bywyd yn gynnyrch esblygiad difeddwl. “Does dim duwiau, dim pwrpas i fywyd,” meddai William Provine, athro prifysgol mewn hanes a bioleg. Fe ychwanegodd: “Does ’na ddim sylfaen ar gyfer moeseg, dim ystyr gwaelodol i fywyd.”
Ond mae rhai pobl yn meddwl bod yr agwedd ffatalaidd honno yn annerbyniol. Maen nhw’n gweld y bydysawd wedi ei reoli gan ddeddfau mathemategol sy’n fanwl gywir. Maen nhw’n rhyfeddu at ddyluniadau gwych natur, ac yn ceisio eu copïo wrth fynd ati i gynhyrchu pethau. Ac mae profiad yn dangos iddyn nhw fod dyluniadau cymhleth ac effeithiol yn arwydd o ddeallusrwydd, nid grymoedd digyfeiriad.
Mae rhesymu o’r fath wedi achosi i rai esblygwyr ailystyried eu safbwynt. Ystyriwch y ddwy esiampl ganlynol:
Y NIWROLAWFEDDYG DR. ALEXEI MARNOV. “Roedd yr ysgolion yr es i iddyn nhw yn dysgu anffyddiaeth ac esblygiad,” meddai. “Roedd pawb oedd yn credu yn Nuw yn cael eu hystyried yn bobl anwybodus.” Ym 1990, fodd bynnag, dechreuodd ailfeddwl ei syniadau.
“Mi ydw i bob amser wedi ceisio defnyddio fy rhesymeg i ddeall pethau,” esboniodd, “gan gynnwys yr ymennydd dynol. Teg yw galw’r ymennydd yn un o’r organau mwyaf rhyfeddol a chymhleth yn y bydysawd cyfan. Ond a gafodd yr ymennydd ei ddylunio i ddysgu gwybodaeth a sgiliau ac yna marw? Doedd dim pwynt na rheswm i hyn. Felly, dechreuais feddwl: ‘Pam rydyn ni yma? Beth yw pwrpas bywyd?’ Ar ôl cryn dipyn o fyfyrio, dyma fi’n dod i gredu bod ’na greawdwr.”
Gwnaeth ceisio darganfod pwrpas bywyd arwain Alexei at astudio’r Beibl. Yn nes ymlaen, gwnaeth ei wraig, a oedd yn feddyg ac yn anffyddwraig, hefyd ddechrau astudio’r Beibl—ar y cychwyn i brofi bod ei gŵr yn anghywir! Erbyn hyn, mae’r ddau ohonyn nhw’n credu yn Nuw ac yn deall beth yw ei bwrpas ar gyfer dynolryw fel y mae’n cael ei esbonio yn yr Ysgrythurau.
Y GWYDDONYDD PLASMA DR. HUABI YIN. Astudiodd Huabi Yin ffiseg, ac roedd hi’n ymchwilio plasma am flynyddoedd lawer. Ystyrir mai plasma yw’r pedwerydd cyflwr mater a bod plasma (fel yn achos yr haul) yn cynnwys yn bennaf electronau ac ïonau positif.
“Bob tro rydyn ni fel gwyddonwyr yn astudio ffenomenau naturiol,” meddai Huabi, “rydyn ni’n wastad yn darganfod bod ’na drefn ryfeddol o ganlyniad i ddeddfau manwl gywir. ‘Sut daeth y deddfau hyn i fod?’ gofynnais. ‘Os oedd tân syml ar gyfer coginio yn gorfod cael ei reoli yn ofalus, pwy sy’n gyfrifol am y deddfau sy’n rheoli’r haul?’ Ymhen amser, des i i’r casgliad mai’r ateb mwyaf rhesymegol oedd brawddeg gyntaf y Beibl: ‘Ar y dechrau cyntaf, dyma Duw yn creu y bydysawd a’r ddaear.’”—Genesis 1:1.
Yn wir, mae gwyddoniaeth wedi taflu goleuni ar lawer o gwestiynau pwysig. Er enghraifft: Sut mae celloedd yr ymennydd yn gweithio? Sut mae’r haul yn cynhyrchu gwres a golau? Ond fel gwnaeth Alexei a Huabi ddarganfod, mae’r Beibl yn ateb y cwestiynau mwyaf pwysig: Pam mae’r bydysawd yn bodoli? Pam mae’n cael ei reoli gan ddeddfau? A pham rydyn ninnau’n bodoli?
Yn achos y ddaear, mae’r Beibl yn dweud: “[Duw] wnaeth y ddaear, ei siapio a’i gosod yn ei lle—nid i fod yn ddiffaith, ond i bobl fyw arni.” (Eseia 45:18) Heb os, mae gan Dduw bwrpas ar gyfer y ddaear, a bydd yr erthygl nesaf yn dangos bod y pwrpas hwnnw yn gysylltiedig â’n gobaith ninnau ar gyfer y dyfodol.