LLWYDDIANT YN WYNEB YR HER
Hanesion Ricardo ac Andres
Mae addysg y Beibl yn beth grymus iawn, ac mae’n gallu newid bywydau er gwell. Dewch inni weld hanesion Ricardo ac Andres.
RICARDO: Wnes i ymuno â gang pan o’n i’n ifanc ac yn ddiniwed. Dim ond 15 o’n i. Cafodd fy ffrindiau ddylanwad mawr arna i. Yn fuan iawn, o’n i eisiau cael fy rhoi mewn carchar am 10 mlynedd! Efallai bod hynny’n swnio’n dwp, ond oedd pobl sydd wedi treulio amser yn y carchar yn cael eu hedmygu a’u parchu yn fy nghymuned i.
Roedd bod yn rhan o gang yn cynnwys cymryd cyffuriau, cael rhyw, a bod yn dreisgar. Wnes i’r pethau hynny i gyd. Un noson, ges i fy nal mewn brwydr gynnau, ac oedd gen i ofn am fy mywyd. Ond, wnes i ddianc heb frifo. Ar ôl hynny, dechreuais feddwl o ddifri am fy mywyd a beth o’n i eisiau ei wneud. Des i i’r casgliad fy mod i eisiau newid fy mywyd. Ond sut? Lle gallwn i droi am help?
Roedd gan y rhan fwyaf o nheulu lot o broblemau, a doedden nhw ddim yn hapus. Ond oedd teulu fy ewythr yn wahanol. Oedden nhw’n bobl dda, ac o’n i’n gwybod eu bod nhw’n byw yn ôl egwyddorion y Beibl. Dw i’n cofio nhw’n sôn wrtho i unwaith mai enw Duw ydy Jehofa. Felly yn fuan ar ôl yr holl saethu, nes i weddïo ar Jehofa, gan ddefnyddio ei enw, a gofyn am help. A wyddoch chi beth? Y diwrnod wedyn, roedd ’na gnoc ar y drws gan un o Dystion Jehofa! Yn y pen draw, gwnaeth y dyn hwnnw ddechrau astudio’r Beibl â mi.
Roedd fy ffrindiau yn dal i ffonio yr un fath ag arfer, i ofyn imi dreulio amser gyda nhw. A rhaid imi ddweud, oedd hi’n anodd dweud na. Ond o’n i’n benderfynol o gario ’mlaen i astudio’r Beibl. O’n i’n gweld bod fy mywyd yn gwella; o’n i’n wirioneddol hapus. A dw i erioed wedi edrych yn ôl.
Dw i’n cofio sôn wrth Dduw mewn gweddi am yr adeg o’n i eisiau treulio 10 mlynedd yn y carchar er mwyn ennill parch y gang. Felly, wnes i ofyn iddo adael imi bregethu’n llawn amser am o leiaf 10 mlynedd. O’n i eisiau helpu eraill yn union fel roedd eraill wedi fy helpu i. Mae Duw yn sicr wedi ateb y weddi honno oherwydd dw i wedi arloesi am dros 17 mlynedd bellach! Ac os ga i ddweud, es i erioed i’r carchar.
Erbyn hyn, mae rhai o fy hen ffrindiau wedi bod yn y carchar am flynyddoedd, ac mae eraill hyd yn oed wedi marw. Dw i mor ddiolchgar i fy nheulu sy’n Dystion am sefyll allan yn wahanol, a byw yn ôl y Beibl. Mae gen i fwy o barch atyn nhw nag oedd gen i at unrhyw un yn y gang. Ac yn fwy na dim, dw i mor ddiolchgar i Dduw am ddangos imi y ffordd orau i fyw.
ANDRES: Ces i fy magu mewn ardal dlawd, lle roedd cyffuriau, llofruddio, a phuteindra yn gyffredin. Roedd fy nhad yn gaeth i alcohol a chocên. Ac roedd ef a mam yn ffraeo ac yn cwffio o hyd.
Pan o’n i dal yn eithaf ifanc, wnes innau ddechrau yfed alcohol a chymryd cyffuriau. O’n i wastad allan ar y stryd yn chwilio am rywbeth i’w ddwyn er mwyn ei werthu. A phan o’n i ychydig yn hŷn, roedd dad eisiau treulio mwy o amser gyda fi. Felly am ryw reswm, dyma fo’n fy nysgu i sut i smyglo cyffuriau a phethau anghyfreithlon eraill i mewn i’r wlad. Wnes i lot o bres yn sydyn drwy werthu’r pethau hynny. Ond un diwrnod, ces i fy nal gan yr heddlu, a fy nedfrydu i bum mlynedd yn y carchar am drio lladd rhywun.
Un bore, roedd ’na gyhoeddiad drwy’r carchar yn dweud bod Tystion Jehofa yn dod i drafod y Beibl. Wnes i benderfynu mynd, ac am fod popeth wnes i glywed yn gwneud sens, wnes i ddechrau astudio’r Beibl gyda nhw. Doedden nhw ddim yn lliwio’r ffeithiau i’w gwneud nhw’n haws i’w clywed. Roedden nhw’n esbonio’r Ysgrythurau fel oedden nhw, ac o’n i’n parchu hynny. Doedden nhw ddim yn dal yn ôl rhag esbonio yn union beth ydy safonau moesol Duw.
Yn fuan, wnes i sylweddoli bod rhaid imi wneud newidiadau. Ond doedd hynny ddim yn hawdd, yn enwedig pan oedd carcharorion eraill yn troi arna i oherwydd doedden nhw ddim yn hoffi beth o’n i’n ei wneud. Felly wnes i weddïo ar Jehofa am nerth a doethineb. Atebodd Jehofa fy ngweddi drwy roi’r dewrder imi allu gwneud safiad, a siarad â nhw am y Beibl.
Pan ddaeth yr adeg imi gael fy rhyddhau, o’n i mor nerfus doeddwn i ddim eisiau gadael! Ond wrth i rai o’r carcharorion ffarwelio, dyma nhw’n dweud, “Dos adref fugail bach.”
Dw i ddim eisiau meddwl sut byddai fy mywyd wedi troi allan petaswn i ddim wedi dod i adnabod Duw. Dw i’n ddiolchgar dros ben bod Duw yn fy ngharu ac wedi gweld fy mhotensial. *
^ Mae ’na fwy o enghreifftiau am sut gall y Beibl newid bywydau ar jw.org. Ewch i LLYFRGELL a chwiliwch am y gyfres erthyglau “Mae’r Beibl yn Newid Bywydau.”