AR Y CLAWR | YDY’R BYD ALLAN O REOLAETH?
Ydy’r Byd yn Wir Allan o Reolaeth?
AR DDECHRAU’R flwyddyn 2017, cyhoeddodd y byd gwyddonol fod y rhagolygon ar gyfer y dyfodol yn dywyll iawn. Ym mis Ionawr, dywedodd grŵp o wyddonwyr fod y byd yn agosáu’n fwy byth at y trychineb gwaethaf a welwyd erioed. Gan ddefnyddio cloc symbolaidd, Cloc Dydd y Farn, i ddangos pa mor agos yw’r byd at drychineb byd-eang, gwnaeth gwyddonwyr symud bys mawr y cloc dri deg eiliad yn ei flaen. Mae Cloc Dydd y Farn bellach yn dangos ei bod hi’n ddau funud a hanner i hanner nos—yn fwy agos at drychineb byd-eang nag y mae hi wedi bod mewn mwy na 60 mlynedd!
Yn 2018, mae gwyddonwyr yn bwriadu asesu unwaith eto pa mor agos ydyn ni i ddiwedd y byd. A fydd Cloc Dydd y Farn yn dangos bod trychineb sy’n hollol wahanol i unrhyw beth arall ar fin digwydd? Beth ydych chi’n ei feddwl? Ydy’r byd allan o reolaeth? Dydy ateb y cwestiwn hwn ddim o reidrwydd yn hawdd. Wedi’r cwbl, dydy hyd yn oed yr arbenigwyr ddim yn gallu cytuno ar y pwnc. Nid pawb sy’n credu bod diwedd mor ddinistriol yn mynd i ddigwydd.
Yn wir, cred miliynau o bobl yw bod y dyfodol yn un disglair. Maen nhw’n honni bod ganddyn nhw dystiolaeth sy’n profi y bydd ein planed yn para am byth a bydd safon ein bywydau yn gwella. Ydy’r dystiolaeth honno’n ddibynadwy? Ydy’r byd allan o reolaeth neu beidio?