DEFFRWCH! Rhif 2 2018 | 12 Cyfrinach Teuluoedd Llwyddiannus
12 Cyfrinach Teuluoedd Llwyddiannus
Rydyn ni’n clywed cryn dipyn am y problemau sy’n gallu chwalu teuluoedd. Ond beth am y pethau sy’n gwneud i deuluoedd lwyddo?
Rhwng 1990 a 2015, mae cyfradd ysgariad yn yr Unol Daleithiau wedi dyblu yn achos pobl sydd yn eu pum degau ac wedi treblu yn achos y rhai sydd dros chwe deg pum mlwydd oed.
Mae rhieni wedi drysu’n lân: Mae rhai arbenigwyr yn argymell y dylid canmol plant drwy’r amser tra bo eraill yn ffafrio ‘cariad cadarn.’
Mae pobl ifanc yn dod i oed heb wybod y sgiliau angenrheidiol ar gyfer llwyddo mewn bywyd.
Er hynny, y ffaith yw . . .
Gall priodas fod yn gwlwm cryf sy’n rhoi boddhad.
Gall rhieni ddysgu sut i ddisgyblu eu plant mewn ffordd gariadus.
Gall pobl ifanc ddysgu’r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw ar gyfer bod yn oedolion.
Sut? Bydd y rhifyn hwn o Deffrwch! yn trafod 12 cyfrinach teuluoedd llwyddiannus.
1: Ymrwymiad
Tri awgrym sy’n gallu helpu cyplau priod i aros gyda’i gilydd.
2: Gwaith Tîm
A ydy chi a’ch cymar yn fwy fel dau berson sy’n rhannu ystafell yn hytrach na bod yn gwpl priod?
3: Parch
Dysgwch pa eiriau a gweithredoedd sy’n hanfodol ar gyfer gwneud yn siŵr bod eich cymar yn teimlo fel ei fod yn cael ei barchu.
4: Maddeuant
Beth all eich helpu i weld y tu hwnt i amherffeithrwydd eich cymar?
5: Cyfathrebu
Tri cham a all eich helpu i agosáu at eich plant.
6: Disgyblaeth
Ydy disgyblaeth yn tanseilio hunan-barch plentyn?
7: Gwerthoedd
Pa werthoedd dylech chi eu dysgu i’ch plant?
8: Esiampl
Os ydych chi eisiau i’ch geiriau gyffwrdd calonnau eich plant, mae’n rhaid iddyn nhw gyd-fynd â’ch gweithredoedd.
9: Hunaniaeth
Sut gall pobl ifanc amddiffyn eu daliadau?
10: Natur Ddibynadwy
Mae ennill hyder eich rhieni yn gam pwysig wrth ddod yn oedolyn.
11: Gweithgarwch
Gall dysgu i weithio’n galed pan ydych chi’n ifanc eich helpu i lwyddo mewn bywyd.
12: Amcanion
Gall cyflawni amcanion godi eich hyder, dod â chi’n agosach at eich ffrindiau, a’ch gwneud chi’n hapus.
Mwy o Help ar Gyfer y Teulu
Gall cyngor y Beibl eich helpu i gael priodas lwyddiannus a theulu hapus.