Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Fel cwmpawd dibynadwy, mae gwerthoedd da yn gallu helpu eich plentyn i benderfynu ar gyfeiriad ei fywyd

AR GYFER RHIENI

7: Gwerthoedd

7: Gwerthoedd

BETH MAE’N EI OLYGU?

Gwerthoedd ydy safonau personol sy’n llywio ein bywydau. Er enghraifft, ydych chi’n ymdrechu i fod yn onest ym mhob peth? Mae’n debyg, felly, eich bod chi eisiau trwytho eich plant yn y gwerthoedd moesol hynny.

Hefyd, mae gwerthoedd yn cynnwys safonau moesegol. Er enghraifft, mae person sydd â moeseg gadarn yn ddiwyd, yn deg, ac yn garedig tuag at eraill—rhinweddau sy’n cael eu datblygu orau pan fydd y person yn dal yn ifanc.

EGWYDDOR FEIBLAIDD: “Dysga blentyn y ffordd orau i fyw; a fydd e ddim yn troi cefn arni pan fydd e’n hŷn.”—Diarhebion 22:6.

PAM MAE’N BWYSIG?

Yn yr oes dechnolegol hon, mae gwerthoedd moesol yn hanfodol. “Mae pethau drwg yn gallu dylanwadu ar ein plant ar unrhyw ddyfais symudol,” meddai mam o’r enw Karyn. “Gall ein plant fod yn eistedd gyda ni ac yn gwylio rhywbeth anweddus!”

EGWYDDOR FEIBLAIDD: ‘Mae pobl aeddfed wedi dysgu i ddefnyddio eu gallu meddyliol i wahaniaethu rhwng yr hyn sy’n dda a’r hyn sy’n ddrwg.’—Hebreaid 5:14.

Mae gwerthoedd moesegol yn hanfodol hefyd. Mae hynny’n cynnwys bod yn gwrtais (drwy ddweud “os gwelwch yn dda” a “diolch”) a bod yn garedig tuag at eraill—gwerthoedd sy’n brin erbyn hyn, oherwydd bod gan bobl fwy o ddiddordeb yn eu dyfeisiau electronig nag sydd ganddyn nhw mewn pobl.

EGWYDDOR FEIBLAIDD: “Yn union fel rydych chi eisiau i ddynion eich trin chi, gwnewch yr un fath iddyn nhw.”—Luc 6:31.

BETH ALLWCH CHI EI WNEUD?

Mynegwch eich gwerthoedd moesol. Er enghraifft, mae ymchwil yn dangos bod rhai sydd yn eu harddegau yn fwy tebygol o beidio â chael rhyw cyn priodi os ydyn nhw wedi cael eu dysgu mewn ffordd glir fod ymddygiad o’r fath yn anghywir.

GAIR I GALL: Defnyddiwch faterion cyfoes i gychwyn trafod gwerthoedd. Er enghraifft, os ydy adroddiad ar y newyddion yn trafod trosedd casineb, gallech ddweud: “Mae’n ofnadwy sut mae rhai pobl yn dangos cymaint o gasineb tuag at eraill. Pam rwyt ti’n meddwl bod pobl yn ymddwyn fel ’na?”

“Mae hi’n llawer mwy anodd i blant ddewis rhwng da a drwg os nad ydyn nhw’n gwybod beth sy’n dda a beth sy’n ddrwg.”—Brandon.

Dysgwch werthoedd moesegol. Gall hyd yn oed plant bach ddysgu dweud “os gwelwch yn dda” a “diolch” a bod yn ystyriol o bobl eraill. “Po fwyaf y mae plant yn gweld eu bod nhw’n rhan o rywbeth sy’n llawer iawn mwy na nhw eu hunain—y teulu, yr ysgol, a’r gymuned—y mwyaf parod y byddan nhw i weithredu mewn ffordd garedig sy’n llesol i bawb ac nid iddyn nhw eu hunain yn unig,” meddai’r llyfr Parenting Without Borders.

GAIR I GALL: Rhowch waith o gwmpas y tŷ iddyn nhw er mwyn helpu eich plant i ddysgu’r gwerth sy’n dod o wasanaethu eraill.

“Os ydy ein plant yn dod i’r arfer o wneud gwaith o gwmpas y tŷ nawr, fyddan nhw ddim yn cael eu dychryn pan fyddan nhw’n byw ar eu pennau eu hunain. Bydd gofalu am wahanol gyfrifoldebau eisoes yn rhan o’u bywydau.”—Tara.