Sut Mae Technoleg yn Effeithio ar Eich Gallu i Ddysgu?
Mae pobl yn dysgu o hyd—p’un ai ar gyfer yr ysgol, y gwaith, neu am resymau eraill. Gall technoleg helpu. Dydy hi erioed wedi bod mor hawdd cael gafael ar gymaint o wybodaeth, a hynny heb orfod gadael eich cartref neu hyd yn oed codi o’ch cadair.
Er hynny, mae llawer sy’n defnyddio technoleg yn aml yn gweld eu bod nhw’n . . .
-
cael trafferth canolbwyntio wrth ddarllen.
-
cael trafferth canolbwyntio ar un peth ar y tro.
-
diflasu’n hawdd pan maen nhw ar eu pennau eu hunain.
BETH DDYLECH CHI EI WYBOD?
DARLLEN
Does gan rai ddim llawer o amynedd darllen erthygl neu lyfr cyfan, felly maen nhw’n darllen drosto yn sydyn.
Efallai bod bwrw golwg sydyn dros rywbeth yn iawn pan fydd angen ateb sydyn i gwestiwn. Ond dydy hynny ddim yn helpu pan fydd angen deall pwnc yn iawn.
RHYWBETH I’W YSTYRIED: Pa mor dda ydych chi am ddarllen darnau hir o destun? Sut gall gwneud hynny eich helpu i ddysgu mwy?—DIARHEBION 18:15.
CANOLBWYNTIO
Mae rhai yn cymryd bod technoleg yn eu galluogi i wneud dau beth ar unwaith—er enghraifft, tecstio ffrindiau wrth astudio. Ond pan mae eu meddwl ar ddau beth, allan nhw ddim gwneud yr un dasg yn dda.
Er bod canolbwyntio yn gofyn am hunanddisgyblaeth, mae’n werth yr ymdrech. “’Dych chi’n gwneud llai o gamgymeriadau, a does dim gymaint o bwysau arnoch chi,” meddai Grace, sydd yn ei harddegau. “Dw i wedi dysgu bod hi’n well canolbwyntio ar un peth ar y tro, ac osgoi’r temtasiwn i wneud mwy nag un peth ar unwaith.”
RHYWBETH I’W YSTYRIED: Ydy technoleg yn ei gwneud hi’n anoddach ichi ddeall a chofio beth rydych chi’n ei ddysgu?—DIARHEBION 17:24.
LLONYDD
Dydy rhai pobl ddim yn hoffi bod ar eu pennau eu hunain, felly maen nhw’n troi at dechnoleg i lenwi’r bwlch. Mae dynes o’r enw Olivia yn cyfaddef: “Dw i’n diflasu o fewn chwarter awr os nad yw i’n checio fy ffôn neu fy nhabled, neu roi’r teledu ymlaen.”
Ond, mae cyfnodau distaw ar eich pen eich hun yn gyfle gwerthfawr ichi feddwl yn ddwfn am bethau. Mae’n rhan hanfodol o ddysgu, nid yn unig ar gyfer pobl ifanc ond hefyd ar gyfer oedolion.
RHYWBETH I’W YSTYRIED: Ydych chi’n defnyddio’r cyfnodau hynny pan fyddwch chi ar eich pen eich hun i feddwl?—1 TIMOTHEUS 4:15.
BETH ALLWCH CHI EI WNEUD?
YSTYRIWCH EICH DEFNYDD O DECHNOLEG
Ym mha ffyrdd gallwch chi ddefnyddio technoleg i’ch helpu chi i ddysgu? Sut gall technoleg amharu ar eich gallu i ganolbwyntio a dysgu?
EGWYDDOR O’R BEIBL: “Dal yn dynn yn beth wyt ti’n ddysgu, paid gollwng gafael.”—DIARHEBION 4:13.