Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

HELP AR GYFER Y RHAI SY’N GALARU

Beth i’w Ddisgwyl?

Beth i’w Ddisgwyl?

Er bod rhai arbenigwyr yn disgrifio galar fel cyfres o gamau penodol, mae pob unigolyn yn galaru yn ei ffordd unigryw ei hun. Ydy hyn yn golygu bod rhai pobl yn teimlo tristwch y golled yn llai neu eu bod nhw’n “mygu” eu teimladau? Nid o reidrwydd. Er bod cydnabod a mynegi galar yn gallu cael effaith sy’n iacháu, does ’na ddim un “ffordd gywir” o alaru. Mae cryn dipyn yn dibynnu ar ddiwylliant, personoliaeth, a phrofiad byw’r unigolyn, ynghyd â natur y golled.

PA MOR DDRWG FYDD HI?

Efallai na fydd y rhai sy’n galaru yn gwybod beth i’w ddisgwyl yn dilyn profedigaeth. Fodd bynnag, mae rhai emosiynau a phroblemau yn gyffredin ac yn gallu cael eu rhagweld. Ystyriwch y canlynol:

Cael eich llethu’n emosiynol. Mae llefain, hiraethu, a theimladau oriog i gyd yn gallu bod yn rhan o’r profiad. Ar ben hynny, gall emosiynau gael eu tanio gan atgofion a breuddwydion byw. Ar y cychwyn, yr ymateb cyntaf ydy sioc ac anghrediniaeth. Mae Tiina yn cofio ei hymateb pan fu farw ei gŵr, Timo, yn fwyaf sydyn. Mae hi’n dweud: “Doeddwn i ddim yn teimlo dim byd ar y cychwyn. Doeddwn i ddim yn gallu crio hyd yn oed. Roeddwn i’n teimlo bod y galar yn drech na fi ac, ar adegau, roeddwn i’n ei chael hi’n anodd anadlu. Doeddwn i ddim yn gallu credu beth oedd wedi digwydd.”

Mae pyliau o orbryder, dicter, ac euogrwydd hefyd yn gyffredin. “Am beth amser ar ôl marwolaeth Eric, ein mab 24 mlwydd oed,” meddai Ivan, “roedd fy ngwraig, Yolanda, a minnau mor flin! Roedd hyn yn ein synnu ni, oherwydd doedden ni ddim wedi meddwl amdanon ni’n hunain fel pobl flin o’r blaen. Roedden ni’n teimlo’n euog hefyd, wrth inni gwestiynu a fydden ni wedi gallu gwneud mwy i helpu ein mab.” Roedd Alejandro, a gollodd ei wraig yn dilyn salwch hir, hefyd yn teimlo’n euog: “Ar y dechrau, roeddwn i’n teimlo fy mod i’n gorfod bod yn berson drwg os oedd Duw yn caniatáu imi ddioddef cymaint â hyn. Yna roeddwn i’n teimlo’n euog, fel petaswn i’n beio Duw am beth ddigwyddodd.” Ac mae Kostas, a ddyfynnwyd yn yr erthygl flaenorol, yn dweud: “Ambell waith roeddwn i’n teimlo’n flin tuag at Sophia am iddi farw. Ac yna roeddwn i’n teimlo’n euog am feddwl fel hynny. Wedi’r cwbl, doedd dim bai arni hi.”

Patrymau meddwl negyddol. Efallai y bydd ’na gyfnodau pan fydd eich meddyliau ar chwâl a ddim yn gwneud llawer o synnwyr. Er enghraifft, gall person sy’n galaru ddychmygu ei bod hi’n bosib i glywed, teimlo, a gweld yr un sydd wedi marw. Neu, efallai, maen nhw’n ei chael hi’n anodd canolbwyntio neu gofio pethau. Mae Tiina yn dweud: “Weithiau roeddwn i yng nghanol sgwrs, ond roedd fy meddwl yn crwydro! Roeddwn i’n anesmwyth fy meddwl, ac yn ail-fyw’r digwyddiadau o amgylch marwolaeth Timo. Roedd peidio â gallu canolbwyntio ynddo’i hun yn achosi stres.”

Mynd i’ch cragen. Gall person sy’n galaru deimlo’n bigog ac yn anghyfforddus yng nghwmni eraill. Mae Kostas yn dweud: “Roeddwn i’n teimlo’n lletchwith yng nghwmni pobl sengl a phobl briod.” Mae gwraig Ivan, Yolanda, yn cofio: “Roedd hi mor anodd bod o gwmpas pobl a oedd yn cwyno am broblemau a oedd yn ymddangos yn ddibwys o’u cymharu â rhai ni! Ac yna roedd gen ti’r rhai a oedd yn dweud wrthyn ni pa mor dda roedd eu plant yn ei wneud. Roeddwn i’n hapus drostyn nhw, ond eto yr un pryd, roedd hi’n anodd imi wrando arnyn nhw. Roedd fy ngŵr a minnau’n deall bod bywyd yn mynd yn ei flaen, ond doedd gennyn ni ddim yr amynedd i ddelio gyda’r peth.”

Problemau iechyd. Mae newidiadau i chwant bwyd, pwysau, a phatrymau cysgu yn gyffredin. Y flwyddyn ar ôl i Aaron golli ei dad, mae’n cofio: “Roeddwn i’n cael trafferth cysgu. Byddwn i’n codi yr un amser bob nos yn meddwl am farwolaeth fy nhad.”

Mae Alejandro yn cofio cael problemau iechyd anesboniadwy: “Mi es i weld y doctor sawl gwaith ac mi ddywedodd fy mod i’n berffaith iach. Roeddwn i’n tybio mai’r galar oedd yn achosi’r symptomau corfforol.” Yn y pen draw, diflannodd y symptomau. Er hynny, roedd penderfyniad Alejandro i fynd i weld y meddyg yn un doeth. Gall galar roi ein system imiwnedd o dan bwysau, gwneud problem iechyd sydd eisoes yn bodoli yn waeth, neu hyd yn oed achosi un newydd.

Cael trafferth gwneud pethau angenrheidiol. Mae Ivan yn cofio: “Yn dilyn marwolaeth Eric, roedden ni’n gorfod rhoi gwybod i berthnasau a ffrindiau a rhai eraill hefyd, fel ei gyflogwr a’i landlord. Hefyd, roedd rhaid cwblhau llawer o ddogfennau cyfreithiol. Ac yna roedd yn rhaid inni fynd drwy eitemau personol Eric. Roedd hyn i gyd yn gofyn inni ganolbwyntio pan oedden ni wedi ymlâdd yn feddyliol, yn gorfforol, ac yn emosiynol.”

I rai, fodd bynnag, mae’r wir her yn dod wedyn, pan fyddan nhw’n gorfod delio â phethau roedd eu hanwylyn wedi arfer delio â nhw. Dyna oedd profiad Tiina, sy’n esbonio: “Timo oedd bob amser yn gofalu am y bancio a materion busnes eraill. Fy nghyfrifoldeb i oedd hyn rŵan, rhywbeth oedd yn gwneud y straen roeddwn i’n ei wynebu’n waeth byth. A fyddwn i’n gallu gwneud hyn i gyd heb wneud smonach o bethau?”

Mae’r holl heriau emosiynol, meddyliol, a chorfforol hyn yn gallu portreadu galar fel rhywbeth dychrynllyd o anodd. Y gwir yw bod poen profedigaeth yn gallu bod yn ddwys iawn, ond mae gwybod hyn ymlaen llaw yn gallu helpu rhywun i ymdopi. Cofiwch, hefyd, nad ydy pawb yn profi pob un o effeithiau posib galar. Ar ben hynny, mae gwybod bod y teimladau dwys sy’n gysylltiedig â galar yn normal yn rhywbeth sy’n gallu rhoi cysur yn wyneb profedigaeth.

A FYDDA’ I’N HAPUS ETO?

Beth i’w ddisgwyl: Dydy dwyster galar ddim yn para am byth; yn y pen draw, bydd yn lleihau. Dydy hyn ddim yn awgrymu bod rhywun yn “gwellhau” yn llwyr neu’n anghofio am y person sydd wedi marw. Fodd bynnag, o dipyn i beth, mae gwewyr galar yn lleddfu. Gall y boen ddod yn ei hôl pan fydd atgofion yn dod i’r cof yn annisgwyl neu ar adegau penodol o’r flwyddyn. Ond, yn y pen draw, mae’r rhan fwyaf o bobl yn cyrraedd rhyw bwynt o gydbwysedd emosiynol ac yn gallu, unwaith eto, ffocysu ar fyw bywyd bob dydd. Mae hyn yn enwedig yn wir pan fydd gan y sawl sy’n galaru gefnogaeth y teulu a’i ffrindiau ac yn cymryd camau rhesymol i ymdopi.

Pa mor hir y bydd yn para? I rai, gall y gwaethaf fod drosodd mewn mater o fisoedd. I lawer, gall blwyddyn neu ddwy fynd heibio cyn iddyn nhw sylweddoli eu bod nhw’n teimlo’n well. Ac mae angen mwy o amser ar rai eraill. * “I mi,” meddai Alejandro, “gwnaeth y galar dwfn bara am oddeutu tair blynedd.”

Byddwch yn amyneddgar gyda chi’ch hun. Cymerwch un diwrnod ar y tro, wrth eich pwysau eich hun, gan wybod na fydd poen galar yn para am byth. Wedi dweud hynny, oes ’na bethau y gallwch chi eu gwneud i leddfu eich galar a hyd yn oed i atal eich galar rhag para yn rhy hir?

Mae’r teimladau dwys sy’n gysylltiedig â galar yn normal

^ Par. 17 Mae nifer bach o unigolion yn gallu profi galar sydd mor ddwys ac estynedig nes iddo arwain at yr hyn a elwir galar “cymhleth” neu “gronig.” Efallai bydd angen i’r rhai hyn fynd i gael help proffesiynol gan rai sy’n arbenigo mewn iechyd meddwl.