Beth Mae’r Bydysawd yn ei Ddweud Wrthon Ni?
Mae’r bydysawd yn parhau i ryfeddu seryddwyr, ac mae’r offer maen nhw’n ei defnyddio i’w astudio yn well nag erioed. Beth maen nhw wedi ei ddarganfod?
Mae ’na drefn i’r bydysawd. “Dydy’r galaethau ddim wedi eu gwasgaru’n flêr drwy’r gofod. Yn hytrach, maen nhw’n dilyn patrwm sy’n debyg i we,” meddai un erthygl y cylchgrawn Astronomy. Sut mae hyn yn bosib? Mae gwyddonwyr yn credu mai rhywbeth anweledig o’r enw mater tywyll yw’r gyfrinach. Mae’r mater tywyll hwn wedi cael ei gymharu â “fframwaith anweledig sy’n dal galaethau, clystyrau o alaethau, ac uwch glystyrau o alaethau yn eu lle.”
Sut daeth y bydysawd i fod mor drefnus? Ydy hi’n debygol bod y fath drefn wedi digwydd ar ei ben ei hun? Sylwch ar beth ddywedodd Alan Sandage. Ef oedd un o “seryddwyr gorau a mwyaf dylanwadol yr 20fed ganrif,” ac roedd yn credu yn Nuw.
Dywedodd, “Dw i’n ei gweld hi’n eithaf annhebygol bod y fath drefn wedi dod o anhrefn. Mae’n rhaid bod ’na ryw egwyddor y tu ôl iddi.”
Mae’r bydysawd wedi ei osod yn berffaith er mwyn cynnal bywyd. Ystyriwch beth mae gwyddonwyr yn ei alw’n rym gwan. Mae’n gwneud i’n haul losgi’n gyson. Petasai’r grym yn wannach, fyddai’r haul byth wedi ffurfio. Petasai’r grym yn gryfach, byddai’r haul wedi diflannu amser maith yn ôl.
Mae’r grym gwan hwnnw yn un o lawer o bethau sydd wedi ei osod yn gywir er mwyn i fywyd bod yn bosib. Dywedodd yr ysgrifennwr gwyddonol Anil Ananthaswamy, petasai hyd yn oed un o’r elfennau hynny wedi bod yn wahanol, “fyddai’r sêr, planedau, a galaethau byth wedi ffurfio. Byddai bywyd wedi bod yn amhosib.”
Mae ’na gartref delfrydol i ddynolryw yn y bydysawd. Mae gan y ddaear yr atmosffer cywir, digon ond nid gormod o ddŵr, a lleuad sydd y maint perffaith i gadw’r ddaear yn ei lle. Yn ôl National Geographic, “Mae ein gwe gymhleth o ddaeareg, ecoleg, a bioleg yn golygu mai’r graig ryfedd hon, y ddaear, ydy’r unig un o fewn cyrraedd sy’n ddelfrydol i bobl fyw arni.” *
Yn ôl un ysgrifennwr, mae cysawd yr haul “yn bell oddi wrth bopeth arall” yn ein galaeth. Ond y pellter hwnnw rhyngon ni a phopeth arall sy’n gwneud bywyd ar y ddaear yn bosib. Petasen ni’n byw yn agosach at sêr eraill—un ai ynghanol ein galaeth neu ar ei hymylon—byddai’r ymbelydredd yn peryglu ein bywydau. Yn hytrach, rydyn ni yma yn rhan orau’r alaeth ar gyfer bywyd.
Ar sail ei wybodaeth wyddonol am y bydysawd a’i rinweddau, daeth y ffisegwr Paul Davies i’r casgliad: “Alla i ddim credu mai ffawd sy’n gyfrifol am ein bodolaeth yn y bydysawd; rhyw ddamwain a ddigwyddodd yn bell yn ôl, neu gyd-ddigwyddiad yn nrama fawr y cosmos. . . . ’Dyn ni yma am reswm.” Dydy Davies ddim yn dysgu bod Duw wedi creu’r bydysawd a’r ddynoliaeth, ond beth rydych chi’n ei feddwl? Mae’n ymddangos bod y bydysawd a’r ddaear wedi cael eu dylunio i wneud bywyd yn bosib. Ydy hynny oherwydd eu bod nhw wedi cael eu dylunio yn y lle cyntaf?
^ Par. 8 Doedd yr erthygl National Geographic hon ddim yn bwriadu awgrymu bod Duw wedi creu’r ddaear a’r ddynoliaeth. Yn hytrach, roedd ond yn sôn am ba mor addas yw’r ddaear i bobl fyw arni.