Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Beth All Gwyddonwyr Ddim ei Ddweud Wrthon Ni?

Beth All Gwyddonwyr Ddim ei Ddweud Wrthon Ni?

Mae gwyddonwyr i weld wedi astudio bron popeth sydd ’na i’w astudio yn y bydysawd. Ond eto, mae ’na lawer o gwestiynau pwysig allan nhw ddim eu hateb.

Ydy gwyddonwyr yn gwybod sut dechreuodd y bydysawd a’r bywyd ynddo? Nac ydyn, yw’r ateb syml. Mae rhai yn dweud bod gwyddonwyr sy’n astudio cosmoleg yn gallu esbonio tarddiad y bydysawd. Ond dywedodd Marcelo Gleiser, athro seryddiaeth yng Ngholeg Dartmouth, sy’n agnostig: “Dydyn ni ddim wedi esbonio tarddiad y bydysawd o gwbl.”

Dywedodd y cylchgrawn Science News rywbeth tebyg mewn erthygl am darddiad bywyd: “Efallai bod hi’n amhosib hoelio yn union sut dechreuodd bywyd ar y ddaear. Mae’r rhan fwyaf o’r cerrig a’r ffosilau allai fod wedi dangos beth ddigwyddodd yn ystod dyddiau cynnar y ddaear wedi hen ddiflannu.” Mae’r sylwadau hynny yn awgrymu bod gwyddoniaeth ddim eto wedi ateb y cwestiwn, Sut dechreuodd y bydysawd a’r bywyd ynddo?

Ond efallai eich bod chi’n meddwl, ‘Os cafodd bywyd ar y ddaear ei ddylunio, pwy ydy’r dylunydd?’ Efallai bod cwestiynau fel hyn hefyd wedi croesi eich meddwl: ‘Os oes Creawdwr doeth a chariadus yn bodoli, pam byddai’n gadael i’r bobl mae wedi eu creu ddioddef? Pam mae ’na gymaint o wahanol grefyddau? Pam byddai’n gadael i’w addolwyr wneud cymaint o bethau drwg?’

All gwyddoniaeth ddim ateb y cwestiynau hynny ar ei phen ei hun. Ond dydy hynny ddim yn golygu na allwch chi gael hyd i atebion rhesymol. Wyddoch chi fod llawer o bobl wedi cael atebion i’w cwestiynau yn y Beibl?

Os hoffech chi wybod pam mae rhai gwyddonwyr, sydd wedi cymryd yr amser i astudio’r Beibl, yn dweud eu bod nhw’n credu mewn Creawdwr, ewch i jw.org/cy. Chwiliwch am “safbwyntiau ar darddiad bywyd.”