SAFBWYNT Y BEIBL
Gamblo
I rai pobl mae gamblo yn dipyn bach o hwyl, ond mae eraill yn dweud ei fod yn beryglus.
A oes rhywbeth o’i le ar gamblo?
MAE RHAI YN DWEUD
Mae llawer o bobl yn teimlo mae hwyl ddiniwed yw gamblo, cyhyd ei fod yn gyfreithlon. Mewn rhai gweledydd, mae’r llywodraeth wedi creu loteri genedlaethol sy’n creu incwm ar gyfer elusennau a phrosiectau sydd o les i’r gymuned.
MAE’R BEIBL YN DWEUD
Nid yw’r Beibl yn cyfeirio yn uniongyrchol at gamblo. Ond mae’n cynnwys nifer o egwyddorion sy’n dangos sut mae Duw yn teimlo amdano.
Yn y bôn, mae gamblo, sef ceisio ennill arian y mae eraill wedi ei golli, yn mynd yn groes i’r rhybudd yn y Beibl bod yr “awydd i gael mwy a mwy o bethau yn beryglus.” (Luc 12:15) Y rheswm mae pobl yn gamblo, mewn gwirionedd, yw’r awydd i gael mwy. Mae’r diwylliant gamblo yn hysbysu’r gwobrau mawr yn frwd ond yn dweud fawr ddim am ba mor brin yw’r siawns o ennill. Maen nhw’n gwybod bod y freuddwyd o fod yn gyfoethog yn perswadio pobl i wario mwy o arian. Yn lle helpu rhywun i beidio â bod yn farus, mae gamblo yn codi’r awydd i gael arian heb weithio amdano.
Yn ei hanfod, mae nod gamblo yn un hunanol, sef ennill arian y mae eraill wedi ei golli. Ond mae’r Beibl yn dweud: “Ddylen ni ddim ceisio’n lles ein hunain, ond lles pobl eraill.” (1 Corinthiaid 10:24) Ac un o’r deg gorchymyn yw: “Paid chwennych . . . dim byd sydd gan rywun arall.” (Exodus 20:17) Pan fydd gamblwr yn rhoi ei fryd ar ennill, yn y bôn y mae’n gobeithio y bydd eraill yn colli eu harian er mwyn iddo ef ennill.
Mae’r Beibl hefyd yn ein rhybuddio ni rhag bod yn ofergoelus a chredu mewn rhyw rym dirgel all ddod â bendithion inni. Yn Israel gynt, roedd rhai yn colli eu ffydd yn Nuw ac yn dechrau “gosod bwrdd i’r duw ‘Ffawd.’” A oedd hyn yn plesio Duw? Nac oedd. Dywedodd wrthyn nhw: “Roeddech chi’n gwneud pethau oeddwn i’n eu casáu, ac yn dewis pethau oedd ddim yn fy mhlesio.”—Eseia 65:11, 12.
Mewn rhai gwledydd, mae’n wir bod arian sy’n cael ei godi gan gamblo cyfreithlon yn cael ei ddefnyddio i dalu am addysg, datblygiad economaidd, a phrosiectau eraill sydd o les i’r gymuned. Ond nid yw hynny’n newid y ffaith bod yr arian wedi ei godi drwy weithgareddau sy’n annog pobl i feddwl mewn ffordd hunanol a gobeithio cael rhywbeth am ddim.
“Paid chwennych . . . dim byd sydd gan rywun arall.”—Exodus 20:17.
Sut gall gamblo gael effaith negyddol?
MAE’R BEIBL YN DWEUD
Mae’r Beibl yn rhybuddio bod “pobl sydd eisiau bod yn gyfoethog yn syrthio i demtasiwn ac yn cael eu trapio gan chwantau ffôl a niweidiol sy’n difetha ac yn dinistrio eu bywydau.” (1 Timotheus 6:9) Chwant am fwy sydd wrth wraidd gamblo. Mae “chwant hunanol” mor niweidiol nes bod y Beibl yn ei gynnwys mewn rhestr o bethau y dylen ni eu hosgoi ar bob cyfrif.—Effesiaid 5:3.
Mae gamblo yn hyrwyddo’r syniad ei bod yn bosib cael arian heb weithio amdano. Gall hyn feithrin cariad at arian—rhywbeth sydd “wrth wraidd pob math o ddrygioni” yn ôl y Beibl. Gall yr awydd am arian fod yn ddylanwad mor gryf nes bod rhywun yn teimlo o dan straen ofnadwy ac yn colli ei ffydd yn Nuw. Mae’r Beibl yn dweud bod pobl sy’n caru arian yn “achosi pob math o loes a galar iddyn nhw eu hunain.”—1 Timotheus 6:10.
Mae pobl sydd bob amser eisiau mwy yn anfodlon ar yr hyn sydd ganddyn nhw ac yn teimlo’n anhapus. “Dydy rhywun sydd ag obsesiwn am arian byth yn fodlon fod ganddo ddigon; na’r un sy’n caru cyfoeth yn hapus gyda’i enillion.”—Pregethwr 5:10.
Mae miliynau sydd wedi dechrau gamblo wedi mynd yn gaeth yn y pen draw. Mae’n broblem eang. Yn ôl rhai amcangyfrifon, yn yr Unol Daleithiau yn unig, y mae miliynau yn gaeth i gamblo.
Mae un ddihareb yn dweud: “Pan mae rhywun yn derbyn etifeddiaeth yn rhy hawdd, fydd dim bendith yn y diwedd.” (Diarhebion 20:21) Mae pobl sy’n gaeth i gamblo wedi mynd i ddyled neu hyd yn oed wedi mynd yn fethdalwyr. Ac maen nhw wedi talu pris uchel o ran eu swyddi, eu priodas, a’u perthynas ag eraill. Gall rhoi egwyddorion y Beibl ar waith helpu rhywun i osgoi effaith niweidiol gamblo ar ei fywyd a’i hapusrwydd.
“Mae pobl sydd eisiau bod yn gyfoethog yn syrthio i demtasiwn ac yn cael eu trapio gan chwantau ffôl a niweidiol sy’n difetha ac yn dinistrio eu bywydau.”—1 Timotheus 6:9.