Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 7

CÂN 15 Molwch Gyntaf-anedig Jehofa!

Maddeuant Jehofa—Beth Mae’n Ei Olygu i Ti

Maddeuant Jehofa—Beth Mae’n Ei Olygu i Ti

“Gyda ti y mae gwir faddeuant.”SALM 130:​4, NWT.

PWRPAS

Byddwn ni’n ystyried rhai eglurebau Beiblaidd sy’n disgrifio’r ffordd unigryw mae Jehofa’n maddau inni. Bydd yr erthygl hon yn ein helpu ni i werthfawrogi maddeuant Jehofa yn fwy byth.

1. Pam mae’n anodd deall beth mae rhywun yn ei olygu pan mae’n dweud “dwi’n maddau iti”?

 A WYT ti erioed wedi’r teimlo’r rhyddhad mawr sy’n dod o glywed rhywun yn dweud ei fod yn maddau iti? Gall hynny fod yn bwerus, yn enwedig os wyt ti’n gwybod dy fod ti wedi brifo rhywun! Ond beth mae’r ymadrodd “dwi’n maddau iti” yn wir yn ei olygu? Ydy’r person gwnest ti ei frifo yn dweud bod eich perthynas wedi ei adfer? Neu, ydy ef yn golygu dydy ef ddim bellach eisiau siarad am y peth? Pan mae pobl yn sôn am faddeuant, maen nhw’n gallu golygu pethau gwahanol iawn.

2. Sut mae maddeuant Jehofa yn cael ei ddisgrifio yn y Beibl? (Gweler hefyd y troednodyn.)

2 Mae’r ffordd y mae Jehofa’n maddau i bobl amherffaith yn hollol unigryw ac yn wahanol iawn i’r ffordd mae pobl yn maddau i’w gilydd. Dywedodd y salmydd: “Gyda ti y mae gwir faddeuant.” a (Salm 130:​4, NWT) Jehofa sy’n gosod y safon ar gyfer gwir faddeuant. Mewn rhai achosion, defnyddiodd ysgrifenwyr y Beibl gair Hebraeg am faddeuant sydd byth yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio maddeuant rhwng pobl.

3. Sut mae maddeuant Jehofa yn wahanol i’n ffordd ni o faddau? (Eseia 55:​6, 7)

3 Pan mae Jehofa’n maddau i rywun, mae’n dileu’r pechod yn gyfan gwbl, a gall y person fwynhau perthynas agos â Jehofa unwaith eto. Rydyn ni mor ddiolchgar bod Jehofa’n barod i faddau inni yn llwyr, dro ar ôl tro.—Darllen Eseia 55:​6, 7.

4. Sut mae Jehofa’n ein helpu ni i ddeall ystyr gwir faddeuant?

4 Gan fod pobl amherffaith yn maddau mewn ffordd wahanol iawn i Jehofa, sut gallwn ni ddeall ei faddeuant? Mae Jehofa’n defnyddio eglurebau hyfryd er mwyn ein helpu ni i ddeall ei ffordd o faddau. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n ystyried rhai ohonyn nhw. Byddan nhw’n dangos inni sut mae Jehofa’n cael gwared ar ein pechod, ac, ar yr un pryd, yn adfer y perthynas sydd wedi cael ei niweidio gan bechod. Wrth inni ystyried yr eglurebau hyn a sut mae Jehofa’n maddau inni mewn cymaint o ffyrdd, bydd ein cariad tuag at ein Tad yn tyfu.

MAE JEHOFA’N CAEL GWARED AR BECHOD

5. Beth sy’n digwydd pan mae Jehofa’n maddau ein pechodau?

5 Yn y Beibl, mae pechodau yn aml yn cael eu disgrifio fel beichiau trwm. Dywedodd y Brenin Dafydd am ei bechodau: “Dw i wedi cael fy llethu gan y drwg wnes i; mae fel baich sy’n rhy drwm i’w gario.” (Salm 38:4) Ond, mae Jehofa’n maddau pechodau pobl edifar. (Salm. 25:18; 32:5) Mae’r gair Hebraeg “maddau” yn yr adnodau hyn yn golygu “i godi” neu “i gario.” Gallwn ni feddwl am Jehofa fel dyn cryf sy’n codi’r baich oddi ar ein hysgwyddau a’i gario i ffwrdd.

“Dyma ti’n maddau’r cwbl” (Salm 32:5)


6. Pa mor bell ydy Jehofa’n cario ein pechodau?

6 Mae’r Beibl yn dweud bod Jehofa’n cario ein pechodau i ffwrdd “mor bell ag y mae’r dwyrain o’r gorllewin.” (Salm 103:12) Does ’na’r un lle bellach i ffwrdd o’r dwyrain na’r gorllewin. Dydyn nhw byth yn cyfarfod ei gilydd. Mewn geiriau eraill, mae Jehofa’n cario ein pechodau i ffwrdd ymhellach nag y gallwn ni fyth ei ddychmygu. Yn wir, mae’r disgrifiad hwn o faddeuant Jehofa yn codi ein calonnau!

“Mor bell ag y mae’r dwyrain o’r gorllewin” (Salm 103:12)


7. Sut mae’r Beibl yn disgrifio beth mae Jehofa’n ei wneud gyda’n pechodau? (Micha 7:​18, 19)

7 Er bod Jehofa’n cario ein beichiau i ffwrdd mewn ffordd ffigurol, ydy ef yn dal yn dynn arnyn nhw? Nac ydy. Ysgrifennodd y Brenin Heseceia fod Jehofa wedi ‘taflu ei holl bechodau tu ôl iddo.’ (Esei. 38:​9, 17) Mae hyn yn golygu bod Jehofa’n taflu pechodau rhywun edifar allan o’i olwg unwaith mae wedi maddau iddyn nhw. Gall yr adnod hefyd gael ei throsi: “Rwyt ti wedi gwneud fy mhechodau fel petai nhw heb ddigwydd yn y lle cyntaf.” Mae Jehofa’n pwysleisio’r syniad hwn mewn eglureb arall yn Micha 7:​18, 19. (Darllen.) Mae’r adnodau hyn yn sôn am Jehofa’n taflu ein pechodau i waelod y môr. Yn adeg y Beibl, byddai wedi bod yn amhosib i rywun cael rhywbeth yn ôl o ddyfnderoedd y môr.

‘Taflu fy holl bechodau tu ôl i ti’ (Esei. 38:17)

“Byddi’n . . . taflu’n pechodau i waelod y môr” (Mich. 7:19)


8. Beth rydyn ni wedi ei ddysgu yn barod?

8 Fel rydyn ni wedi ei ddysgu, pan mae Jehofa’n maddau, mae’n cymryd ein pechodau i ffwrdd yn llwyr, ac felly does dim rhaid inni deimlo’n euog ddim mwy. Dywedodd Dafydd: “Hapus ydy’r rhai y mae eu drwgweithredu wedi cael ei faddau iddyn nhw a’u pechodau wedi cael eu hanghofio. Hapus ydy’r dyn nad ydy Jehofa yn cyfri ei bechod yn ei erbyn.” (Rhuf. 4:​7, 8) Dyna ydy gwir faddeuant!

MAE JEHOFA’N DILEU PECHOD

9. Sut mae’r Beibl yn ein helpu ni i ddeall bod Jehofa’n maddau inni yn llwyr?

9 Trwy aberth Iesu, gall Jehofa ddileu pechodau pobl edifar. Ystyria sut mae’r Beibl yn disgrifio’r ffordd y mae Jehofa’n gwneud hyn. Yn ffigurol, mae’n disgrifio Jehofa yn ein glanhau ni ac yn golchi ein pechodau i ffwrdd. O ganlyniad i hyn, mae’r pechadur yn cael ei buro. (Salm 51:7; Esei. 4:4; Jer. 33:8) Mae Jehofa ei hun yn disgrifio canlyniad y broses: “Os ydy’ch pechodau chi’n goch llachar, gallan nhw droi’n wyn fel yr eira.” (Esei. 1:18) Mae’n beth hynod o anodd i olchi staen coch llachar allan o ddillad. Ond, yn yr eglureb hon, mae Jehofa’n ein sicrhau ni ei fod yn gallu glanhau ein pechodau, fel does dim smotyn ohonyn nhw ar ôl.

“Os ydy’ch pechodau chi’n goch llachar, gallan nhw droi’n wyn fel yr eira” (Esei. 1:18)


10. Pa eglureb arall y mae Jehofa’n ei defnyddio i ddisgrifio ei faddeuant hael?

10 Yn yr erthygl flaenorol, gwnaethon ni esbonio bod ein pechodau yn debyg i ‘ddyledion.’ (Math. 6:12; Luc 11:4) Bob tro rydyn ni’n pechu yn erbyn Jehofa, mae fel petai ein dyled yn cynyddu. Mae ein dyled yn fawr, ond pan mae Jehofa’n maddau inni, mae’n canslo ein dyled. Dydy ef ddim yn mynnu ein bod ni’n talu am y pechodau mae ef wedi eu maddau yn barod. Mae’r eglureb hon yn dod â rhyddhad a llawenydd mawr inni, wrth inni ystyried maddeuant Jehofa!

“Maddau inni ein dyledion” (Math. 6:12)


11. Beth mae’n ei olygu pan mae’r Beibl yn dweud bod ein pechodau wedi cael eu “rhwbio allan”? (Act. 3:19)

11 Mae Jehofa’n mynd ymhellach na chanslo ein dyledion yn unig; mae hefyd yn eu rhwbio nhw allan. (Darllen Actau 3:19.) Dychmyga rywun yn croesi allan dyled. Tu ôl i’r llinell, rwyt ti’n dal yn gallu gweld y rhifau! Ond, mae rhwbio rhywbeth allan yn wahanol. Yn adeg y Beibl, roedden nhw’n defnyddio inc a oedd yn cynnwys carbon, gwm, a dŵr. Roedd hi’n hawdd iawn i rywun ddefnyddio sbwng gwlyb i gael gwared ar yr inc. Felly, pan gafodd dyled ei rhwbio allan, roedd wedi diflannu’n llwyr. I bob golwg, doedd y ddyled erioed wedi bodoli. Mae’n codi ein calonnau i wybod dydy Jehofa ddim yn unig yn canslo ein pechodau, ond yn eu rhwbio nhw allan yn llwyr!—Salm 51:9.

“Er mwyn i’ch pechodau gael eu rhwbio allan” (Act. 3:19)


12. Beth mae’r eglureb am y cwmwl trwchus yn ei olygu i ni?

12 Disgrifiodd Jehofa ffordd arall mae’n maddau inni. Dywedodd: “Bydda i’n dileu dy droseddau gyda chwmwl, a dy bechodau gyda chwmwl trwchus.” (Esei. 44:​22, NWT) Wrth i Jehofa faddau inni, mae fel petai’n defnyddio cwmwl trwchus i guddio ein pechodau fel nad ydyn ni nac ef yn gallu eu gweld nhw.

“Bydda i’n dileu dy droseddau gyda chwmwl” (Esei. 44:​22, NWT)


13. Sut rydyn ni’n teimlo pan mae Jehofa’n maddau ein pechodau?

13 Beth mae hyn yn ei olygu inni? Ar ôl i Jehofa faddau ein pechodau, does dim rhaid inni barhau i deimlo’n euog am weddill ein bywyd. Oherwydd aberth Iesu, mae ein dyledion wedi cael eu canslo’n llwyr. Does dim cofnod ohonyn nhw bellach—dim un smotyn. Dyna beth mae gwir faddeuant Jehofa yn ei olygu.

MAE JEHOFA’N ADFER EIN PERTHYNAS DDA AG EF

Mae maddeuant ein Tad nefol yn caniatáu inni gael perthynas dda ag ef (Gweler paragraff 14)


14. Pam gallwn ni drystio maddeuant Jehofa? (Gweler hefyd y lluniau.)

14 Mae’r gwir faddeuant sy’n dod o Jehofa yn caniatáu inni gael perthynas agos ag ef. Mae’n ein helpu ni i osgoi cael ein llethu gan euogrwydd. Does dim rhaid inni boeni bod Jehofa’n dal dig nac yn chwilio am ffordd i’n cosbi ni. Pam gallwn ni fod yn siŵr na fydd Jehofa byth yn dal dig ar ôl iddo faddau inni? Trwy’r proffwyd Jeremeia, dywedodd Jehofa: “[Rydw i’n] maddau iddyn nhw am y pethau wnaethon nhw o’i le, ac yn anghofio eu pechodau am byth.” (Jer. 31:34) Wrth gyfeirio at y geiriau hyn, defnyddiodd yr apostol Paul ymadrodd tebyg. Dywedodd: “Ni fydda i’n dwyn i gof eu pechodau bellach.” (Heb. 8:12) Ond beth mae hynny’n wir yn ei olygu?

“[Rydw i’n] anghofio eu pechodau am byth” (Jer. 31:34)


15. Beth mae Jehofa’n ei olygu wrth ddweud ei fod wedi anghofio ein pechodau?

15 Yn y Beibl, dydy’r gair “cofio” ddim bob tro’n golygu meddwl am rywbeth sydd wedi digwydd yn y gorffennol. Gall hefyd gyfeirio at rywbeth mae rhywun yn ei wneud. Dywedodd y troseddwr wrth ymyl Iesu ar y stanc: “Iesu, cofia fi pan fyddi di’n mynd i mewn i dy Deyrnas.” (Luc 23:​42, 43) Roedd yn gofyn i Iesu wneud mwy na meddwl amdano. Mae ymateb Iesu yn dangos y byddai’n gweithredu i atgyfodi’r troseddwr. Felly, pan mae Jehofa’n dweud ei fod wedi anghofio ein pechodau, mae’n golygu na fydd yn gweithredu yn ein herbyn ni. Fydd Duw ddim yn ein cosbi ni yn y dyfodol am bechodau y mae ef wedi eu maddau yn barod.

16. Sut mae’r Beibl yn disgrifio’r rhyddid sy’n dod o wir faddeuant?

16 Mae’r Beibl yn defnyddio eglureb arall sy’n ein helpu ni i ddeall y rhyddid sy’n dod o wir faddeuant. Oherwydd ein natur bechadurus, mae’r Beibl yn dweud ein bod ni’n “gaethweision i bechod.” Ond, diolch i faddeuant Jehofa, rydyn ni wedi cael ein “rhyddhau o bechod.” (Rhuf. 6:​17, 18; Dat. 1:5) Ar ôl derbyn maddeuant Jehofa, gallwn ni lawenhau fel caethweision sydd wedi cael eu rhyddhau.

“Ar ôl ichi gael eich rhyddhau o bechod” (Rhuf. 6:18)


17. Sut mae maddeuant yn ein hiacháu ni? (Eseia 53:5)

17 Darllen Eseia 53:5. Mae’r eglureb olaf y byddwn ni’n ei thrafod yn ein cymharu ni â rhywun sydd ag afiechyd difrifol. Trwy aberth ei fab Iesu, mae Jehofa wedi ein hiacháu ni. (1 Pedr 2:24) Mae’r pris gwnaeth Iesu ei dalu yn ei gwneud hi’n bosib i bobl adfer eu perthynas â Jehofa, sydd wedi cael ei niweidio gan salwch ysbrydol. Yn union fel mae person sydd wedi gwella ar ôl bod yn ofnadwy o sâl yn llawenhau yn fawr iawn, rydyn ni’n llawenhau wrth inni gael ein hiacháu yn ysbrydol ac yn gallu plesio Jehofa.

“Am iddo fe gael ei guro cawson ni ein hiacháu” (Esei. 53:5)


SUT MAE MADDEUANT JEHOFA YN EFFEITHIO AR EIN BYWYDAU

18. Beth rydyn ni wedi ei ddysgu o eglurebau’r Beibl am faddeuant Jehofa? (Gweler hefyd y blwch “Sut Mae Jehofa’n Maddau Inni.”)

18 Beth rydyn ni wedi ei ddysgu o eglurebau’r Beibl am faddeuant Jehofa? Pan mae Jehofa’n maddau ein pechodau, mae’n maddau yn llwyr ac ni fydd ef byth yn ein cosbi ni yn y dyfodol amdanyn nhw. Mae hyn yn caniatáu inni fwynhau perthynas dda â’n Tad nefol. Ond, rydyn ni’n gwybod bod maddeuant Jehofa yn anrheg hael mae’n ei roi inni allan o’i gariad, nid oherwydd ein bod ni’n ei haeddu.—Rhuf. 3:24.

19. (a) Pam rydyn ni’n teimlo’n ddiolchgar? (Rhufeiniaid 4:8) (b) Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl nesaf?

19 Darllen Rhufeiniaid 4:8. Rydyn ni mor ddiolchgar mai Jehofa ydy Duw “gwir faddeuant”! (Salm 130:​4, NWT) Ond, mae’n rhaid inni wneud rhywbeth pwysig i dderbyn maddeuant Jehofa. Esboniodd Iesu: “Os ydych chi’n maddau i ddynion eu pechodau, bydd eich Tad nefol yn maddau i chithau hefyd.” (Math. 6:​14, 15) Felly, yn amlwg, mae’n hynod o bwysig inni efelychu maddeuant Jehofa. Bydd yr erthygl nesaf yn dangos sut gallwn ni wneud hynny.

CÂN 46 Diolchwn i Ti, Jehofa

a Mae’r testun gwreiddiol Hebraeg yn defnyddio’r ymadrodd “y maddeuant.” Mae hyn yn awgrymu mai dyma ydy’r unig wir faddeuant, er bod mathau eraill o faddeuant yn bodoli. Mae’r rhan fwyaf o gyfieithiadau o’r Beibl yn methu’r gwahaniaeth pwysig hwn. Ond, mae Cyfieithiad y Byd Newydd yn unigryw oherwydd mae’n cynnwys y manylyn hwn yn Salm 130:4.