Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Sut i Fod yn Ffrind Da

Sut i Fod yn Ffrind Da

A WYT ti erioed wedi teimlo ar dy ben dy hun wrth wynebu problemau? Rydyn ni’n byw mewn dyddiau “hynod o anodd” a allai wneud inni deimlo’n ddigalon ac yn unig. (2 Tim. 3:1) Ond, does dim rhaid inni ddelio â’n problemau ar ein pennau’n hunain. Mae’r Beibl yn dangos ei bod hi’n bwysig inni gael ffrindiau da yn ystod adegau anodd.—Diar. 17:17.

SUT GALL FFRINDIAU DA EIN HELPU NI

Gyda chefnogaeth ei ffrindiau ffyddlon, llwyddodd yr apostol Paul i ddal ati yn ei weinidogaeth er gwaethaf bod o dan arestiad tŷ

Gwnaeth yr apostol Paul elwa’n fawr iawn o help ei ffrindiau wrth iddyn nhw deithio gyda’i gilydd. (Col. 4:​7-11) Pan oedd Paul yn y carchar yn Rhufain, gwnaeth ei ffrindiau ei helpu drwy wneud pethau nad oedd Paul yn gallu eu gwneud. Er enghraifft, daeth Epaffroditus â nwyddau i Paul oddi wrth y brodyr a’r chwiorydd yn Philipi. (Phil. 4:18) Gwnaeth Tychicus anfon llythyrau Paul i wahanol gynulleidfaoedd. (Col. 4:7; gweler y nodyn astudio.) Gyda chefnogaeth ei ffrindiau, llwyddodd Paul i ddal ati yn ei weinidogaeth er gwaethaf bod yn y carchar neu o dan arestiad tŷ. Sut gelli di fod yn ffrind da heddiw?

Mae esiamplau modern yn dangos bod ffrindiau da yn werthfawr iawn. Ystyria brofiad Elisabet, arloeswraig llawn amser yn Sbaen. Pan gafodd ei mam ei diagnosio â chanser difrifol, profodd un chwaer ei bod hi’n ffrind da iddi drwy anfon llawer o negeseuon wedi eu seilio ar y Beibl i galonogi Elisabet. Dywedodd Elisabet: “Gwnaeth y negeseuon hynny roi’r nerth imi wynebu pob dydd heb deimlo’n unig.”—Diar. 18:24.

Gallwn ni nesáu at ein cyd-gredinwyr drwy roi cefnogaeth iddyn nhw yn y gynulleidfa. Er enghraifft, a elli di gynnig i yrru brawd neu chwaer hŷn i’r cyfarfodydd neu ar y weinidogaeth? Os felly, mae’n siŵr byddwch chi i gyd yn cael eich calonogi. (Rhuf. 1:12) Ond, dydy rhai Cristnogion ddim yn gallu gadael eu tai. Sut gallwn ni fod yn ffrind da iddyn nhw?

BYDDA’N FFRIND DA I’R RHAI SY’N GAETH I’W TŶ

Mae gan rai yn y gynulleidfa broblemau iechyd neu amgylchiadau eraill sy’n golygu nad ydyn nhw’n gallu mynd i’r cyfarfodydd mewn person. Ystyria esiampl David, a gafodd ei ddiagnosio â lymffoma. Cafodd driniaeth chemotherapi am dros chwe mis. Yn ystod ei driniaeth, gwnaeth David a’i wraig, Lidia, fynychu’r cyfarfodydd dros fideo-gynadledda.

Pa gefnogaeth a gawson nhw gan eu ffrindiau yn y gynulleidfa? Ar ôl pob cyfarfod, byddai rhai yn y Neuadd yn gwneud ymdrech i siarad â David a Lidia dros fideo-gynadledda. Hefyd, bob tro roedd y ddau ohonyn nhw’n rhoi sylwadau, yn nes ymlaen roedd y brodyr a’r chwiorydd yn anfon negeseuon calonogol atyn nhw. Beth oedd y canlyniad? Roedd David a Lidia yn teimlo’n llai unig.

Treulia amser yn y weinidogaeth gyda’r rhai sy’n gaeth i’w tai

A allwn ni drefnu i bregethu gyda’r rhai sydd ddim yn gallu gadael eu tai? Er mwyn gwneud hyn, efallai bydd angen inni wneud newidiadau bach i’n rwtîn. Trwy wneud hynny, byddan nhw’n teimlo fel nad ydyn ni wedi anghofio amdanyn nhw. (Diar. 3:27) Beth am drefnu i dreulio amser gyda nhw yn tystiolaethu dros y ffôn neu yn ysgrifennu llythyrau? Efallai bydd y rhai sy’n gaeth i’w tŷ yn gallu ymuno â’r cyfarfodydd ar gyfer y weinidogaeth dros fideo-gynadledda. Roedd David a Lidia yn gwerthfawrogi’r trefniad hwn. Esboniodd David: “Roedd bod gyda’r grŵp i gael sgwrs fer a gweddi yn ein calonogi ni’n fawr iawn.” Os yw’n addas, a elli di drefnu i ddod â rhywun sy’n astudio’r Beibl i gartref cyhoeddwr sy’n methu gadael y tŷ i gynnal yr astudiaeth Feiblaidd yno?

Wrth inni weithio gyda’n brodyr a’n chwiorydd sydd ddim yn gallu gadael y tŷ, rydyn ni’n agosáu atyn nhw ac yn gweld eu rhinweddau prydferth. Wrth inni weld sut mae’r rhai hyn yn defnyddio gair Duw i gyffwrdd â chalonnau pobl yn y weinidogaeth, rydyn ni’n nesáu atyn nhw. Wrth inni helpu eraill i fynd i’r cyfarfodydd ac ar y weinidogaeth, efallai byddwn ni’n gwneud ffrindiau newydd.—2 Cor. 6:13.

Cafodd Paul gysur o fod gyda’i ffrind, Titus. (2 Cor. 7:​5-7) Mae’r hanes hwn yn ein hatgoffa ni ein bod ni’n gallu rhoi cysur i eraill, nid yn unig trwy ein geiriau calonogol, ond hefyd drwy dreulio amser gyda nhw a chynnig help ymarferol.—1 Ioan 3:18.

BYDDA’N FFRIND DA YN YSTOD ERLEDIGAETH

Mae ein brodyr a’n chwiorydd yn Rwsia wedi gosod esiampl arbennig wrth gefnogi ei gilydd. Ystyria brofiad Sergey a’i wraig, Tatyana. Gwnaeth yr heddlu chwilio trwy eu cartref ac yna eu cymryd i ffwrdd i’w cwestiynu nhw. Cafodd Tatyana ei rhyddhau’n gyntaf ac fe aeth yn ôl adref. Dywedodd Sergey: “Yn syth ar ôl i Tatyana gyrraedd adref, daeth un chwaer ddewr i’r drws. Yna, fe ddaeth mwy o ffrindiau draw i helpu tacluso’r fflat.”

Mae Sergey hefyd yn dweud: “Rydw i’n hoff iawn o Diarhebion 17:​17, lle mae’n dweud: ‘Mae ffrind yn ffyddlon bob amser; a brawd wedi’i eni i helpu mewn helbul.’ Mae’r geiriau hyn nawr yn golygu mwy imi. Yn ystod yr adeg hon o erledigaeth rydw i wir angen help fy ffrindiau oherwydd nad ydw i’n gallu ymdopi ar fy mhen fy hun. Mae Jehofa wedi rhoi imi ffrindiau sydd wrth fy ochr yn ddewr.” a

Wrth inni wynebu mwy o sefyllfaoedd anodd, mae angen ffrindiau da arnon ni, ac fe fydd yn bwysicach byth inni gael ffrindiau da yn ystod y trychineb mawr. Felly gad inni wneud pob ymdrech i fod yn ffrind da nawr!—1 Pedr 4:​7, 8.