Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 32

Cerdda’n Ostyngedig ac yn Wylaidd Gyda Dy Dduw

Cerdda’n Ostyngedig ac yn Wylaidd Gyda Dy Dduw

“Byw’n wylaidd ac ufudd i dy Dduw.”—MICH. 6:8.

CÂN 31 Cerdda Gyda Duw!

CIPOLWG *

1. Beth ddywedodd Dafydd am ostyngeiddrwydd Jehofa?

YDY hi’n iawn i ddweud bod Jehofa’n ostyngedig? Ydy wir! Ar un adeg, dywedodd Dafydd: “Rwyt wedi fy amddiffyn fel tarian. Mae dy ofal [“dy ostyngeiddrwydd,” NWT] wedi gwneud i mi lwyddo.” (2 Sam. 22:36) Efallai roedd Dafydd yn meddwl am y diwrnod daeth y proffwyd Samuel i dŷ ei dad i eneinio brenin nesaf Israel. Dafydd oedd yr ieuengaf o wyth bachgen; ond ef oedd yr un a gafodd ei ddewis gan Jehofa i gymryd lle’r Brenin Saul.—1 Sam. 16:1, 10-13.

2. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

2 Byddai Dafydd yn sicr o gytuno â geiriau Salm 113 sy’n dweud am Jehofa: “Mae’n plygu i lawr i edrych ar y nefoedd a’r ddaear oddi tano. Mae e’n codi pobl dlawd o’r baw, a’r rhai sydd mewn angen . . . i eistedd gyda’r bobl fawr.” (Salm 113:6-8) Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n dechrau drwy ystyried rhai gwersi pwysig am ostyngeiddrwydd drwy drafod adegau pan ddangosodd Jehofa y rhinwedd hon. Wedyn, byddwn ni’n edrych ar beth gallwn ni ei ddysgu o esiampl y Brenin Saul, y proffwyd Daniel, ac Iesu ynglŷn â bod yn wylaidd.

BETH GALLWN DDYSGU O ESIAMPL JEHOFA?

3. Sut mae Jehofa yn ein trin ni, a beth mae hyn yn ei brofi?

3 Mae Jehofa’n profi ei fod yn ostyngedig yn y ffordd mae’n delio â phobl amherffaith. Nid yn unig y mae’n derbyn ein haddoliad, ond hefyd mae’n edrych arnon ni fel ffrindiau. (Diar. 3:32) Er mwyn gwneud cyfeillgarwch ag ef yn bosib, cymerodd Jehofa y cam cyntaf drwy roi ei Fab yn aberth dros ein pechodau. Mae Jehofa wedi bod yn hynod o drugarog a thosturiol wrthon ni!

4. Beth mae Jehofa wedi ei roi inni, a pham?

4 Ystyria ffordd arall mae Jehofa yn dangos ei fod yn ostyngedig. Ac yntau’n Greawdwr, gallai Jehofa fod wedi dewis droston ni yr hyn byddwn ni’n ei wneud gyda’n bywydau. Ond nid dyna a wnaeth. Creodd ni yn ei ddelw a rhoi ewyllys rhydd inni. Er ein bod yn fach ac yn wan o’i gymharu ag ef, mae Jehofa eisiau inni ei wasanaethu o wirfodd calon am ein bod ni’n ei garu ac yn deall bod ufuddhau iddo er ein lles. (Deut. 10:12; Esei. 48:17, 18) Rydyn ni’n ddiolchgar dros ben fod Jehofa mor ostyngedig!

Iesu yn y nefoedd. Mae rhai o’i gyd-reolwyr yn sefyll wrth ei ochr. Maen nhw i gyd yn edrych ar nifer enfawr o angylion. Mae rhai angylion yn mynd tuag at y ddaear er mwyn gwneud eu haseiniadau. Mae Jehofa wedi dirprwyo awdurdod i bob un yn y llun (Gweler paragraff 5)

5. Sut mae Jehofa yn ein dysgu i fod yn ostyngedig? (Gweler y llun ar y clawr.)

5 Mae Jehofa yn ein dysgu ni i fod yn ostyngedig drwy’r ffordd mae’n ein trin ni. Jehofa yw’r Person doethaf yn y bydysawd. Er hynny, mae’n barod i dderbyn awgrymiadau gan eraill. Er enghraifft, caniataodd Jehofa i’w Fab ei helpu i greu popeth. (Diar. 8:27-30; Col. 1:15, 16) Er mai Jehofa yw’r Goruchaf, mae’n dirprwyo awdurdod i eraill. Er enghraifft, penododd Iesu yn Frenin y Deyrnas, ac fe fydd yn rhoi rhywfaint o awdurdod i’r 144,000 a fydd yn rheoli gyda Iesu. (Luc 12:32) Wrth gwrs, hyfforddodd Jehofa Iesu i fod yn Frenin ac yn Archoffeiriad. (Heb. 5:8, 9) Mae hefyd yn hyfforddi cyd-reolwyr Iesu i gyflawni eu haseiniad, ond dydy ef ddim yn ceisio rheoli pob manylyn o’u gwaith. Yn hytrach, mae ganddo bob hyder y byddan nhw’n gwneud ei ewyllys.—Dat. 5:10.

Rydyn ni’n efelychu Jehofa pan ydyn ni’n hyfforddi eraill ac yn dirprwyo gwaith iddyn nhw (Gweler paragraffau 6-7) *

6-7. Beth gallwn ni ei ddysgu oddi wrth ein Tad nefol ynglŷn â dirprwyo awdurdod i eraill?

6 Os ydy ein Tad nefol—sydd ddim angen help gan neb—yn dirprwyo awdurdod i eraill, oni ddylen ninnau wneud yr un peth? Er enghraifft, a wyt ti’n benteulu neu’n henuriad yn y gynulleidfa? Dilyna esiampl Jehofa drwy ddirprwyo tasgau i eraill a gwrthod yr ysfa i’w meicroreoli. Pan fyddi di’n efelychu Jehofa, nid yn unig y bydd y gwaith yn cael ei wneud, ond byddi di hefyd yn hyfforddi eraill ac yn rhoi hwb i’w hyder. (Esei. 41:10) Beth arall gall y rhai sydd â rhywfaint o awdurdod ei ddysgu oddi wrth Jehofa?

7 Mae’r Beibl yn dangos bod gan Jehofa ddiddordeb ym marn ei feibion angylaidd. (1 Bren. 22:19-22) Rieni, sut gallwch chi efelychu esiampl Jehofa? Beth am ofyn i’ch plant am eu barn nhw ynglŷn â sut i fynd ati i wneud ambell i dasg benodol, a phan fydd yn briodol, derbyniwch eu hawgrymiadau.

8. Ym mha ffordd roedd Jehofa yn amyneddgar ag Abraham a Sara?

8 Mae Jehofa hefyd yn dangos gostyngeiddrwydd drwy fod yn amyneddgar. Er enghraifft, mae’n dangos amynedd pan fydd rhywun sy’n ei wasanaethu yn cwestiynu ei benderfyniadau yn barchus. Gwrandawodd ar Abraham wrth iddo fynegi ei bryderon am y penderfyniad i ddinistrio Sodom a Gomorra. (Gen. 18:22-33) A chofia sut deliodd Jehofa â Sara, gwraig Abraham. Wnaeth ef ddim digio pan chwarddodd hi ar ei addewid y byddai’n beichiogi a hithau mor hen. (Gen. 18:10-14) Yn hytrach, deliodd â hi gydag urddas.

9. Beth gall rhieni a henuriaid ei ddysgu oddi wrth esiampl Jehofa?

9 Os wyt ti’n rhiant neu’n henuriad, beth gelli di ei ddysgu oddi wrth esiampl Jehofa? Ystyria sut rwyt ti’n ymateb pan fydd y rhai o dan dy awdurdod yn cwestiynu dy benderfyniadau. A fyddi di’n brysio i amddiffyn dy benderfyniad? Neu a fyddi di’n ceisio deall eu safbwynt nhw? Bydd teuluoedd a chynulleidfaoedd yn sicr ar eu hennill pan fydd y rhai mewn awdurdod yn efelychu Jehofa. Hyd yma, rydyn ni wedi trafod yr hyn y gallwn ei ddysgu am ostyngeiddrwydd oddi wrth esiampl Jehofa. Nawr, gad inni weld beth gallwn ei ddysgu am wyleidd-dra o esiamplau yng Ngair Duw.

BETH GALLWN NI EI DDYSGU ODDI WRTH ESIAMPLAU ERAILL?

10. Sut mae Jehofa’n defnyddio esiamplau pobl eraill er mwyn ein dysgu ni?

10 Ac yntau’n Dduw sy’n ein harwain, mae Jehofa wedi rhoi esiamplau yn ei Air er mwyn ein dysgu. (Esei. 30:20, 21) Rydyn ni’n dysgu wrth inni fyfyrio ar hanesion y rhai yn y Beibl a ddangosodd rinweddau duwiol gan gynnwys gwyleidd-dra. Rydyn ni hefyd yn dysgu oddi wrth y rhai a fethodd â dangos y fath rinweddau da.—Salm 37:37; 1 Cor. 10:11.

11. Beth gallwn ni ddysgu oddi wrth esiampl ddrwg Saul?

11 Meddylia am beth ddigwyddodd i’r Brenin Saul. Pan oedd yn ddyn ifanc, roedd yn wylaidd. Roedd yn ymwybodol o’i gyfyngiadau, a daliodd yn ôl rhag derbyn mwy o gyfrifoldebau. (1 Sam. 9:21; 10:20-22) Eto, ymhen amser, aeth yn feiddgar gan wneud pethau nad oedd ganddo’r hawl i’w gwneud. Dechreuodd ymddwyn fel hyn yn fuan ar ôl iddo ddod yn frenin. Ar un achlysur, collodd ei amynedd wrth ddisgwyl am y proffwyd Samuel. Yn lle ymddiried yn Jehofa i weithredu ar ran y bobl, offrymodd losgoffrwm er nad oedd ganddo’r hawl i wneud hynny. O ganlyniad, collodd Saul ffafr Jehofa ac yn y pen draw, y frenhiniaeth. (1 Sam. 13:8-14) Mae’n beth doeth inni ddysgu oddi wrth yr esiampl rybuddiol hon ac osgoi ymddwyn yn feiddgar.

12. Sut dangosodd Daniel wyleidd-dra?

12 Yn groes i esiampl ddrwg Saul, ystyria esiampl dda’r proffwyd Daniel. Drwy gydol ei fywyd, arhosodd Daniel yn ostyngedig ac yn wylaidd, gan droi at Jehofa am arweiniad bob amser. Er enghraifft, pan gafodd ei ddefnyddio gan Jehofa i ddehongli breuddwyd Nebwchadnesar, wnaeth Daniel ddim cymryd y clod. Yn hytrach, rhoddodd y gogoniant a’r clod i gyd i Jehofa. (Dan. 2:26-28) Beth yw’r wers i ni? Os yw’r brodyr yn mwynhau ein hanerchiadau, neu os ydyn ni’n cael llwyddiant yn y weinidogaeth, mae’n rhaid inni gofio rhoi’r clod i gyd i Jehofa. Dylen ni gydnabod yn wylaidd na fydden ni’n gallu gwneud y pethau hyn heb gymorth Jehofa. (2 Cor. 4:7) Os gwnawn ni hynny, byddwn ni hefyd yn efelychu esiampl dda Iesu. Sut felly?

13. Beth rydyn ni’n ei ddysgu am wyleidd-dra o eiriau Iesu yn Ioan 5:19, 30?

13 Er ei fod yn Fab perffaith i Dduw, dibynnodd Iesu ar Jehofa. (Darllen Ioan 5:19, 30.) Wnaeth ef erioed geisio cipio awdurdod oddi ar ei Dad nefol. Mae Philipiaid 2:6 yn dweud wrthon ni nad oedd Iesu hyd yn oed wedi meddwl “ceisio gwneud ei hun yn gydradd â Duw.” Deallodd Iesu ei gyfyngiadau a pharchodd awdurdod ei Dad.

Roedd Iesu yn cydnabod ac yn parchu terfynau ei awdurdod (Gweler paragraff 14)

14. Pan ofynnwyd i Iesu wneud rhywbeth a oedd y tu hwnt i’w awdurdod, beth oedd ei ymateb?

14 Ystyria ymateb Iesu pan ddaeth y disgyblion Iago ac Ioan ato gyda’u mam i ofyn am fraint a oedd y tu hwnt i awdurdod Iesu i’w rhoi. Heb oedi, dywedodd Iesu mai dim ond ei Dad nefol oedd yn gallu penderfynu pwy fyddai’n eistedd bob ochr i Iesu yn y Deyrnas. (Math. 20:20-23) Dangosodd Iesu ei fod yn parchu ei gyfyngiadau. Roedd yn wylaidd. Aeth ef erioed y tu hwnt i’r hyn roedd Jehofa wedi gorchymyn iddo ei wneud. (Ioan 12:49) Sut gallwn ni efelychu esiampl dda Iesu?

Sut gallwn ni efelychu gwyleidd-dra Iesu? (Gweler paragraffau 15-16) *

15-16. Sut gallwn ni roi cyngor y Beibl yn 1 Corinthiaid 4:6 ar waith?

15 Efelychwn esiampl Iesu o wyleidd-dra drwy roi cyngor y Beibl yn 1 Corinthiaid 4:6 ar waith. Yno, mae’n dweud wrthon ni am ‘beidio mynd y tu hwnt i beth mae’r ysgrifau sanctaidd yn ei dweud.’ Felly, pan fydd rhywun yn gofyn inni am gyngor, ddylen ni byth geisio gwthio ein safbwynt ein hunain arno, na dweud y peth cyntaf sy’n dod i’n meddyliau. Yn hytrach, dylen ni gyfeirio ei sylw at y cyngor yn y Beibl a’n llenyddiaeth Feiblaidd. Drwy wneud hynny, byddwn ni’n cydnabod ein cyfyngiadau. Bydd hyn yn dangos ein bod yn ostyngedig ac yn deall bod cyngor Jehofa wastad yn well na’n cyngor ein hunain.—Dat. 15:3, 4.

16 Yn ogystal ag anrhydeddu Jehofa, mae ’na resymau da eraill dros fod yn wylaidd. Nawr, byddwn ni’n trafod sut gall bod yn ostyngedig ac yn wylaidd ein gwneud ni’n llawen, a’n helpu i gyd-dynnu’n dda ag eraill.

SUT RYDYN NI’N ELWA O FOD YN OSTYNGEDIG AC YN WYLAIDD

17. Pam mae pobl ostyngedig a gwylaidd yn llawen?

17 Pan fyddwn ni’n ostyngedig ac yn wylaidd, rydyn ni’n fwy tebygol o fod yn llawen. Pam felly? Pan fyddwn ni’n derbyn bod ’na rai pethau na allwn ni mo’u gwneud, byddwn ni’n ddiolchgar am unrhyw help a gawn ni gan eraill. Er enghraifft, meddylia am yr adeg pan iachaodd Iesu’r deg dyn gwahanglwyfus. Dim ond un ohonyn nhw aeth yn ôl at Iesu i ddiolch iddo am ei wella o’i afiechyd ofnadwy—rhywbeth fyddai’r dyn byth wedi gallu ei wneud ar ei ben ei hun. Roedd y dyn gostyngedig a gwylaidd hwn yn ddiolchgar am yr help a gafodd, a rhoddodd y clod i Dduw amdano.—Luc 17:11-19.

18. Sut mae bod yn ostyngedig a gwylaidd yn ein helpu i gyd-dynnu’n dda ag eraill? (Rhufeiniaid 12:10)

18 Mae pobl ostyngedig a gwylaidd yn tueddu i gyd-dynnu’n dda ag eraill, ac yn fwy tebygol o gael ffrindiau agos. Pam? Maen nhw’n ddigon parod i gydnabod bod gan eraill rinweddau hyfryd, ac i ddangos hyder ynddyn nhw. Mae pobl ostyngedig a gwylaidd yn hapus i weld eraill yn llwyddo yn eu haseiniadau, ac yn gyflym i’w canmol a dangos parch tuag atyn nhw.—Darllen Rhufeiniaid 12:10.

19. Beth yw rhai o’r rhesymau y dylen ni osgoi balchder?

19 Ar y llaw arall, mae pobl falch yn ei chael hi’n anodd canmol eraill, oherwydd bod well ganddyn nhw gael y clod. Maen nhw’n fwy tebygol o gymharu eu hunain ag eraill a bod yn gystadleuol. Yn hytrach na hyfforddi eraill a rhoi awdurdod iddyn nhw, maen nhw’n fwy tebygol o ddweud, “Os wyt ti eisiau gwneud rhywbeth yn iawn”—yn y ffordd sy’n eu plesio nhw—“mae’n rhaid iti wneud ef dy hun.” Mae person balch yn dueddol o fod yn uchelgeisiol ac yn genfigennus. (Gal. 5:26) Yn aml, dydy pobl fel hyn ddim yn gallu cadw eu ffrindiau’n hir. Os ydyn ni’n synhwyro bod gynnon ni broblem gyda balchder, dylen ni weddïo’n daer ar Jehofa am ei help i ‘chwyldroi ein ffordd o feddwl,’ fel na fydd yr agwedd ddrwg hon yn gwreiddio’n ddwfn yn ein personoliaeth.—Rhuf. 12:2.

20. Pam dylen ni fod yn wylaidd a gostyngedig?

20 Rydyn ni’n ddiolchgar iawn am esiampl Jehofa! Gwelwn ei ostyngeiddrwydd yn y ffordd mae’n delio â’i weision, ac rydyn ni eisiau ei efelychu. Yn ogystal â hyn, rydyn ni eisiau efelychu’r rhai a wasanaethodd Jehofa yn wylaidd yn adeg y Beibl. Gad inni wastad roi i Jehofa y clod a’r anrhydedd y mae’n eu haeddu. (Dat. 4:11) Os gwnawn ni’r pethau hyn i gyd, gallwn fod yn ffrindiau i Jehofa am byth, am ei fod yn caru pobl wylaidd a gostyngedig.

CÂN 123 Ymostwng yn Ffyddlon i’r Drefn Theocrataidd

^ Par. 5 Mae rhywun gostyngedig yn drugarog ac yn dosturiol. Felly mae’n gywir i ddweud bod Jehofa yn ostyngedig. Fel bydd yr erthygl hon yn ei ddangos, gallwn ddysgu sut i fod yn ostyngedig oddi wrth esiampl Jehofa. Byddwn ni hefyd yn ystyried beth gallwn ni ddysgu am wyleidd-dra oddi wrth y Brenin Saul, y proffwyd Daniel, ac Iesu.

^ Par. 58 DISGRIFIADAU O’R LLUNIAU: Henuriad yn cymryd amser i hyfforddi brawd ifanc i edrych ar ôl mapiau’r gynulleidfa. Yn hwyrach ymlaen, dydy’r henuriad ddim yn meicroreoli’r brawd ifanc ond mae’n caniatáu iddo gyflawni ei aseiniad ar ei ben ei hun.

^ Par. 62 DISGRIFIADAU O’R LLUNIAU: Chwaer yn gofyn i henuriad a fyddai’n briodol i dderbyn gwahoddiad i fynd i briodas mewn eglwys. Dydy’r henuriad ddim yn rhoi ei farn ei hun, ond mae’n trafod ambell egwyddor Feiblaidd â hi.