ERTHYGL ASTUDIO 31
Wyt Ti’n Edrych Ymlaen at “y Ddinas Sy’n Aros am Byth”?
“Roedd Abraham yn edrych ymlaen at fyw yn y ddinas roedd Duw wedi ei chynllunio a’i hadeiladu, sef y ddinas sy’n aros am byth.”—HEB. 11:10.
CÂN 22 Mae’r Deyrnas Wedi ei Sefydlu—Gad Iddi Ddod!
CIPOLWG *
1. Beth mae llawer wedi ei aberthu, a pham?
MAE miliynau o bobl Dduw heddiw wedi gwneud aberthau. Mae llawer o frodyr a chwiorydd wedi dewis aros yn sengl. Mae cyplau priod wedi gohirio cael plant. Ac mae teuluoedd wedi cadw eu bywydau’n syml. Mae pob un ohonyn nhw wedi gwneud y penderfyniadau hyn am un rheswm pwysig—maen nhw eisiau gwneud cymaint ag y gallan nhw i wasanaethu Jehofa. Maen nhw’n fodlon, ac yn sicr y bydd Jehofa yn rhoi popeth angenrheidiol iddyn nhw. A fyddan nhw’n cael eu siomi? Na fyddan! Sut rydyn ni’n gwybod hynny? Un rheswm yw fod Jehofa wedi bendithio Abraham, sy’n “dad i bawb sy’n credu.”—Rhuf. 4:11.
2. (a) Yn ôl Hebreaid 11:8-10, 16, pam roedd Abraham yn fodlon gadael Ur? (b) Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?
2 O’i wirfodd, gadawodd Abraham ei fywyd cyfforddus yn ninas Ur. Pam? Am ei fod yn edrych ymlaen at “y ddinas sy’n aros am byth.” (Darllen Hebreaid 11:8-10, 16.) Beth yw’r “ddinas” honno? Pa heriau a wynebodd Abraham wrth iddo ddisgwyl i’r ddinas honno gael ei hadeiladu? A sut gallwn ninnau fod fel Abraham a’r rhai yn ein hoes ni sydd wedi dilyn ei esiampl?
BETH YW’R “DDINAS SY’N AROS AM BYTH”?
3. Beth yw’r ddinas roedd Abraham yn edrych ymlaen ati?
3 Y ddinas roedd Abraham yn edrych ymlaen ati yw Teyrnas Dduw. Mae’r Deyrnas honno yn cynnwys Iesu Grist a 144,000 o Gristnogion eneiniog. Mae Paul yn galw’r Deyrnas yn “ddinas y Duw byw! Dyma’r Jerwsalem Heb. 12:22; Dat. 5:8-10; 14:1) Dysgodd Iesu ei ddisgyblion i weddïo am y Deyrnas hon, ac i ofyn am iddi ddod fel bod ewyllys Duw yn cael ei wneud ar y ddaear fel yn y nef.—Math. 6:10.
nefol!” (4. Yn ôl Genesis 17:1, 2, 6, faint roedd Abraham yn ei wybod am y ddinas, neu’r Deyrnas, a addawodd Duw?
4 A oedd Abraham yn gwybod y manylion ynglŷn â sut byddai Teyrnas Dduw yn cael ei threfnu? Nac oedd. Am ganrifoedd lawer, roedd y manylion hynny yn “gynllun dirgel.” (Eff. 1:8-10; Col. 1:26, 27) Ond gwyddai Abraham y byddai rhai o’i ddisgynyddion yn frenhinoedd, am fod Jehofa wedi addo hynny iddo. (Darllen Genesis 17:1, 2, 6.) Roedd ffydd Abraham yn addewidion Duw mor gryf, roedd fel petai ei fod yn gallu gweld yr Un Eneiniog, neu’r Meseia, a fyddai’n Frenin Teyrnas Dduw. Dyna pam y gallai Iesu ddweud wrth Iddewon yr adeg honno: “Roedd Abraham, eich tad, yn gorfoleddu wrth feddwl y câi weld yr amser pan fyddwn i’n dod; fe’i gwelodd, ac roedd wrth ei fodd.” (Ioan 8:56) Yn amlwg, gwyddai Abraham y byddai rhai o’i ddisgynyddion yn rhan o Deyrnas oedd â chefnogaeth Jehofa, ac roedd yn fodlon disgwyl i Jehofa gyflawni’r addewid hwnnw.
5. Sut rydyn ni’n gwybod bod Abraham yn edrych ymlaen at y ddinas mae Duw wedi ei chynllunio?
5 Sut dangosodd Abraham ei fod yn edrych ymlaen at y ddinas, neu’r Deyrnas, mae Duw wedi ei chynllunio? Yn gyntaf, ni wnaeth Abraham ymuno ag unrhyw Deyrnas ar y ddaear. Arhosodd yn grwydryn, gan ddewis peidio â setlo mewn un lle a chefnogi brenin dynol. Ar ben hynny, wnaeth Abraham ddim ceisio sefydlu ei Deyrnas ei hun. Yn hytrach, daliodd ati i ufuddhau i Jehofa a disgwyl iddo gyflawni Ei addewid. Drwy wneud hynny, dangosodd Abraham ffydd anhygoel yn Jehofa. Gad inni ystyried rhai o’r heriau a wynebodd a gweld beth gallwn ni ei ddysgu o’i esiampl.
PA HERIAU A WYNEBODD ABRAHAM?
6. Sut fath o ddinas oedd Ur?
6 Gadawodd Abraham ddinas a oedd yn weddol ddiogel, soffistigedig, a chyfforddus. Roedd waliau anferth yn ei hamddiffyn, yn ogystal â ffos ar dair o’i
hochrau. Roedd pobl Ur yn ysgrifenwyr a mathemategwyr medrus. Ac mae’n ymddangos fod llawer o bobl wedi mynd yno i fasnachu; mae llawer o ddogfennau busnes wedi cael eu darganfod ar y safle. Roedd tai preifat wedi eu gwneud o frics, a’u waliau wedi eu plastro a’u gwyngalchu. Roedd gan rai o’r cartrefi hyn 13 neu 14 ystafell o amgylch cwrt â llawr carreg.7. Pam roedd rhaid i Abraham ymddiried yn Jehofa i’w amddiffyn ef a’i deulu?
7 Roedd rhaid i Abraham ymddiried yn Jehofa i’w amddiffyn ef a’i deulu. Pam? Cofia fod Abraham a Sara wedi gadael eu cartref diogel a chyfforddus yn ninas Ur er mwyn byw mewn pebyll yng nghefn gwlad Canaan. Bellach, doedd gan Abraham a’i deulu ddim waliau trwchus na ffosydd dwfn i’w hamddiffyn. Yn hytrach, gallai eu gelynion ymosod arnyn nhw’n hawdd.
8. Beth ddigwyddodd i Abraham ar un adeg?
8 Roedd Abraham yn gwneud ewyllys Duw, ond ar un adeg, doedd ganddo ddim digon o fwyd ar gyfer ei deulu. Roedd newyn difrifol yn y wlad roedd Jehofa wedi eu hanfon nhw iddi. Am fod y newyn mor ddrwg, penderfynodd Abraham symud ei deulu i’r Aifft am gyfnod. Ond tra oedd yn yr Aifft, cymerodd Pharo, rheolwr y wlad, ei wraig oddi wrtho. Dychmyga faint roedd Abraham yn pryderu cyn i Jehofa berswadio’r Pharo i ddychwelyd Sara at Abraham.—Gen. 12:10-19.
9. Pa broblemau oedd gan Abraham yn ei deulu?
9 Doedd bywyd teuluol Abraham ddim yn hawdd. Roedd ei wraig annwyl, Sara, yn methu cael plant. Roedden nhw’n drist am ddegawdau oherwydd hynny. Yn y pen draw, rhoddodd Sara ei morwyn, Hagar, i Abraham er mwyn iddi gael plant dros Abraham a Sara. Ond pan ddaeth Hagar yn feichiog gydag Ismael, dechreuodd hi edrych i lawr ar Sara. Aeth y sefyllfa mor ddrwg rhyngddyn nhw nes i Sara hel Hagar o’r cartref.—Gen. 16:1-6.
10. Beth ddigwyddodd rhwng Ismael ac Isaac a allai fod wedi ei gwneud hi’n anodd i Abraham ymddiried yn Jehofa?
10 Ymhen amser, daeth Sara’n feichiog, a rhoi mab i Abraham a roddodd yr enw Isaac iddo. Roedd Abraham yn caru ei ddau fab, Ismael ac Isaac. Ond oherwydd bod Ismael wedi trin Isaac yn wael, roedd rhaid i Abraham yrru Ismael a Hagar i ffwrdd. (Gen. 21:9-14) Flynyddoedd wedyn, gofynnodd Jehofa i Abraham aberthu Isaac. (Gen. 22:1, 2; Heb. 11:17-19) Yn y ddau achos, roedd rhaid i Abraham ymddiried yn Jehofa i gyflawni Ei addewidion ynglŷn â’i feibion yn y pen draw.
11. Pam roedd rhaid i Abraham ddisgwyl yn amyneddgar ar Jehofa?
11 Drwy gydol y cyfnod hwn, roedd rhaid i Abraham ddysgu disgwyl yn amyneddgar ar Jehofa. Pan adawodd ef a’i deulu Ur, mae’n debyg ei fod dros ei 70. (Gen. 11:31–12:4) Ac am tua chan mlynedd, roedd yn byw mewn pebyll ac yn teithio o gwmpas gwlad Canaan. Bu farw Abraham pan oedd yn 175. (Gen. 25:7) Ond wnaeth ef ddim gweld Jehofa yn cyflawni Ei addewid i roi’r wlad roedd yn teithio drwyddi i’w ddisgynyddion. A wnaeth ef ddim byw yn ddigon hir i weld y ddinas, sef Teyrnas Dduw, yn cael ei sefydlu. Er hynny, pan fu farw Abraham, roedd wedi “byw bywyd llawn” a bodlon. (Gen. 25:8) Er gwaetha’r holl heriau a wynebodd, cadwodd Abraham ei ffydd yn gryf, ac roedd yn fodlon disgwyl ar Jehofa. Pam roedd ef yn gallu dal ati? Oherwydd drwy gydol bywyd Abraham, gwnaeth Jehofa ei amddiffyn a’i drin fel ffrind.—Gen. 15:1; Esei. 41:8; Iago 2:22, 23.
12. Beth rydyn ni’n edrych ymlaen ato, a beth byddwn ni’n ei ystyried?
Dat. 12:7-10) Disgwyl ydyn ni am iddi gael rheolaeth lwyr dros y ddaear. Wrth inni ddisgwyl i hynny ddigwydd, efallai bydd rhaid inni wynebu problemau tebyg i Abraham a Sara. Ydy gweision Jehofa yn ein hoes ni wedi llwyddo i efelychu esiampl Abraham? Mae’r hanesion bywyd yn y Tŵr Gwylio yn profi bod llawer heddiw wedi dangos ffydd ac amynedd fel Abraham. Gad inni ystyried rhai o’r hanesion hynny a gweld beth gallwn ni ei ddysgu.
12 Fel Abraham, edrychwn ymlaen at y ddinas sy’n aros am byth. Ond dydyn ni ddim yn disgwyl iddi gael ei hadeiladu. Cafodd Teyrnas Dduw ei sefydlu ym 1914, ac mae ganddi eisoes reolaeth lwyr dros y nefoedd. (EFELYCHU ESIAMPL ABRAHAM
13. Beth rwyt ti’n ei ddysgu o brofiad y Brawd Bill?
13 Bydda’n fodlon i aberthu pethau. Os ydyn ni am flaenoriaethu dinas Duw, y Deyrnas, yn ein bywydau, mae’n rhaid inni fod fel Abraham, a oedd yn barod i wneud aberthau er mwyn plesio Duw. (Math. 6:33; Marc 10:28-30) Ystyria esiampl brawd o’r enw Bill Walden. * Ym 1942, roedd Bill ar fin graddio o brifysgol yn yr Unol Daleithiau gyda gradd mewn peirianneg pensaernïol, pan ddechreuodd astudio gyda Thystion Jehofa. Gwnaeth un o athrawon Bill drefnu iddo gael swydd ar ôl graddio, ond fe wrthododd Bill. Esboniodd ei fod wedi penderfynu gwneud mwy yng ngwasanaethu Duw yn hytrach na chanolbwyntio ar yrfa seciwlar. Yn fuan wedyn, cafodd Bill ei alw i’r fyddin. Gwrthododd yn barchus, ac o ganlyniad, cafodd ddirwy o $10,000 a’i ddedfrydu i’r carchar am bum mlynedd. Cafodd ei ryddhau ar ôl tair blynedd. Yn hwyrach, cafodd ei wahodd i Ysgol Gilead a gwasanaethodd fel cenhadwr yn Affrica. Yna, priododd Bill Eva, a gwnaethon nhw wasanaethu gyda’i gilydd yn Affrica, oedd yn golygu aberthu rhai pethau. Sawl blwyddyn wedyn, aethon nhw’n ôl i’r Unol Daleithiau i ofalu am fam Bill. Wrth grynhoi hanes ei fywyd, dywedodd Bill: “Dw i mor hapus ac yn hynod o ddiolchgar pan dw i’n meddwl am y fraint fendigedig dw i wedi ei chael o wasanaethu Jehofa am dros 70 mlynedd. Dw i’n diolch iddo’n aml am fy helpu i wneud ei wasanaeth yn yrfa imi.” A elli di wneud gyrfa o wasanaethu Jehofa’n llawn amser?
14-15. Beth rwyt ti’n ei ddysgu o brofiad y Brawd Aristotelis a’r Chwaer Eleni?
14 Paid â disgwyl y bydd dy fywyd heb broblemau. O esiampl Abraham, dysgwn fod hyd yn oed y rhai sy’n gwasanaethu Jehofa drwy gydol eu bywyd yn gorfod delio â phroblemau. (Iago 1:2; 1 Pedr 5:9) Roedd hyn yn wir ym mywyd Aristotelis Apostolidis. * Cafodd ei fedyddio ym 1946 yng Ngwlad Groeg ac ym 1952 dyweddïodd â chwaer o’r enw Eleni, ac roedden nhw eisiau gwasanaethu Jehofa’n llawn gyda’i gilydd. Ond, aeth Eleni yn sâl, a chafodd ei diagnosio â thiwmor ar yr ymennydd. Cafodd y tiwmor ei dynnu, ond ychydig o flynyddoedd ar ôl i’r cwpl briodi, daeth y tiwmor yn ei ôl. Cafodd hi lawdriniaeth eto, ond o ganlyniad i hynny, roedd Eleni wedi ei pharlysu’n rhannol, a chollodd rywfaint o’i gallu i siarad. Arhosodd hi’n selog yn y weinidogaeth er gwaethaf ei salwch ac erledigaeth gan y llywodraeth.
15 Gofalodd Aristotelis am ei wraig am 30 mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwn, gwasanaethodd fel henuriad, gweithiodd ar bwyllgorau cynhadledd, a helpodd i adeiladu Neuadd Cynulliad. Yna, ym 1987, cafodd Eleni ei hanafu mewn damwain tra oedd hi’n pregethu. Roedd hi mewn coma am dair blynedd cyn iddi farw. Esboniodd Aristotelis yr effaith cafodd y profiadau hyn arno drwy ddweud: “Dros y blynyddoedd, mae amgylchiadau anodd a digwyddiadau annisgwyl wedi gofyn am gymaint o ddycnwch a dyfalbarhad. Ond eto, mae Jehofa wastad wedi rhoi’r nerth dw i angen i drechu’r problemau hyn.” (Salm 94:18, 19) Mae Jehofa wir yn caru’r rhai sy’n gwneud popeth allan nhw yn ei wasanaeth er gwaethaf eu problemau!
16. Pa gyngor da roddodd y Brawd Nathan i’w wraig?
* Dywedodd fod ei gŵr cyntaf wedi dweud rhywbeth wrthi rai wythnosau cyn iddo farw a wnaeth ei helpu hi i ddyfalbarhau’n llawen. “Gwnaeth Nathan fy atgoffa i fod ein gobaith yn sicr ar ôl inni farw, a fydd dim angen inni ddioddef poen eto. Yna, wnaeth o fy annog: ‘Edrycha tua’r dyfodol, oherwydd dyna lle mae dy wobr.’ . . . Aeth ymlaen i ddweud: Arhosa’n brysur—tria ddefnyddio dy fywyd i wneud pethau da i eraill. Bydd hyn yn dy helpu i fod yn llawen.’” Dyna gyngor ymarferol ydy aros yn brysur yn gwneud pethau da i eraill a bod yn “llawen wrth feddwl am y cwbl sydd gan Dduw ar eich cyfer chi”!—Rhuf. 12:12.
16 Canolbwyntia ar y dyfodol. Canolbwyntiodd Abraham ar y gwobrwyon fyddai Jehofa yn eu rhoi iddo yn y dyfodol, a gwnaeth hyn ei helpu i ymdopi â’i broblemau. Ceisiodd y Chwaer Audrey Hyde gadw’r un agwedd bositif, er bod ei gŵr cyntaf, Nathan H. Knorr, wedi marw o ganser, a datblygodd ei hail ŵr, Glen Hyde, Alzheimer’s.17. (a) Pam dylen ni ganolbwyntio ar y dyfodol? (b) Sut bydd dilyn yr esiampl yn Micha 7:7 yn ein helpu i fwynhau bendithion yn y dyfodol?
17 Heddiw, mae gynnon ni fwy o reswm nag erioed i ganolbwyntio ar y dyfodol. Mae’r hyn sy’n digwydd yn y byd yn dangos ein bod ni yn rhan olaf dyddiau diwethaf y system hon. Yn fuan, fydd dim angen inni ddisgwyl mwyach i Deyrnas Dduw reoli dros y byd i gyd. Ymysg yr holl fendithion byddwn ni’n eu mwynhau fydd gweld ein hanwyliaid yn cael eu hatgyfodi. Bryd hynny, bydd Jehofa yn gwobrwyo Abraham am ei ffydd a’i amynedd drwy ddod ag ef a’i deulu yn ôl yn fyw ar y ddaear. A fyddi di yno i’w croesawu nhw? Byddi, os wyt ti, fel Abraham, yn barod i wneud aberthau ar gyfer Teyrnas Dduw, yn cadw dy ffydd er gwaethaf problemau, ac yn dysgu i ddisgwyl yn amyneddgar ar Jehofa.—Darllen Micha 7:7.
CÂN 74 Ymunwch yng Nghân y Deyrnas!
^ Par. 5 Wrth inni ddisgwyl i addewidion Duw ddod yn wir, gallwn ni golli amynedd, a hyd yn oed colli ffydd. Pa wersi gallwn ni eu dysgu oddi wrth Abraham a fydd yn helpu ni i fod yn benderfynol o ddisgwyl yn amyneddgar i Jehofa gyflawni ei addewidion? A sut mae gweision Jehofa yn ein hoes ni wedi gosod esiampl dda?
^ Par. 13 Mae hanes bywyd y Brawd Bill wedi ei gyhoeddi yn rhifyn Rhagfyr 1, 2013 y Tŵr Gwylio Saesneg, tt. 8-10.
^ Par. 14 Mae hanes bywyd y Brawd Aristotelis wedi ei gyhoeddi yn rhifyn Chwefror 1, 2002 y Tŵr Gwylio Saesneg, tt. 24-28.
^ Par. 16 Mae hanes bywyd y Chwaer Audrey wedi ei gyhoeddi yn rhifyn Gorffennaf 1, 2004 y Tŵr Gwylio Saesneg, tt. 23-29.
^ Par. 56 DISGRIFIAD O’R LLUNIAU: Cwpl oedrannus yn dal ati i wasanaethu Jehofa’n ffyddlon er gwaethaf problemau. Maen nhw’n cadw eu ffydd yn gryf drwy ganolbwyntio ar addewidion Jehofa am y dyfodol.