ERTHYGL ASTUDIO 7
CÂN 51 I Dduw Mae Ein Hymgysegriad!
Gwersi Gallwn Ni Eu Dysgu o’r Nasareaid
“Trwy gydol ei gyfnod fel Nasaread bydd yn sanctaidd i’r ARGLWYDD.”—NUM. 6:8, BCND.
PWRPAS
Bydd yr erthygl hon yn ein helpu ni weld sut gall esiampl y Nasareaid ein helpu ni i wasanaethu Jehofa gydag ysbryd o hunanaberth a dewrder.
1. Pa agwedd dda mae pobl Jehofa wedi ei dangos drwy gydol hanes?
A WYT ti’n trysori dy berthynas gyda Jehofa? Wrth gwrs dy fod ti! A dwyt ti ddim ar dy ben dy hun. Ers amser maith yn ôl, mae llawer o bobl wedi teimlo’r un fath. (Salm. 104:33, 34) Mae llawer wedi aberthu rhywbeth er mwyn addoli Jehofa. Roedd hyn yn wir yn achos rhai o’r Israeliaid a oedd yn cael eu hadnabod fel Nasareaid. Pwy oedden nhw, a beth gallwn ni ei ddysgu o’u hesiamplau?
2. (a) Pwy oedd y Nasareaid? (Numeri 6:1, 2) (b) Pam dewisodd rhai o’r Israeliaid wasanaethu fel Nasareaid?
2 Mae’r gair “Nasaread” yn dod o derm Hebraeg sy’n golygu “Un Sydd Wedi Ei Gysegru” neu “Un Sydd ar Wahân.” Roedd y Nasareaid yn Israeliaid selog a oedd yn gwneud aberthau personol er mwyn gwasanaethu Jehofa mewn ffordd arbennig. Gwnaeth Gyfraith Moses ganiatáu i ddyn neu ddynes wneud addewid i Jehofa, gan ddewis i fyw fel Nasaread am gyfnod o amser. a (Darllen Numeri 6:1, 2.) Roedd yr adduned hon yn golygu dilyn canllawiau unigryw doedd dim rhaid i weddill yr Israeliaid eu dilyn. Pam byddai rhywun yn dewis gwneud hyn? Oherwydd cariad mawr tuag at Jehofa a diolchgarwch am Ei holl fendithion.—Deut. 6:5; 16:17.
3. Sut mae pobl Jehofa heddiw yn debyg i’r Nasareaid?
3 Ar ôl i Gyfraith Moses gael ei disodli gan ‘gyfraith Crist,’ doedd pobl Dduw ddim yn gallu bod yn Nasareaid bellach. (Gal. 6:2; Rhuf. 10:4) Ond yn union fel y Nasareaid, gall pobl Jehofa ddangos eu bod nhw dal eisiau gwasanaethu Jehofa gyda’u holl galon, enaid, feddwl, a nerth. (Marc 12:30) Rydyn ni’n gwneud addewid gwirfoddol drwy ymgysegru ein hunain i Jehofa. Mae hynny’n golygu ymostwng i ewyllys Jehofa a bod yn fodlon gwneud aberthau. Wrth inni edrych ar sut gwnaeth y Nasareaid gadw eu haddewid, gallwn ni ddysgu gwersi pwysig ynglŷn â sut i gadw ein haddewid ni. b (Math. 16:24) Gad inni edrych ar rai esiamplau.
BYDDA’N HUNANABERTHOL
4. Yn ôl Numeri 6:3, 4, sut cafodd agwedd hunanaberthol y Nasareaid ei phrofi?
4 Darllen Numeri 6:3, 4. Roedd rhaid i’r Nasareaid osgoi alcohol ac unrhyw beth oedd wedi dod o winwydden fel grawnwin a rhesins. Byddai pobl eraill wedi mwynhau’r pethau hyn, a doedd dim byd yn bod gyda nhw. Mae’r Beibl yn dweud bod “gwin i godi calon” yn anrheg gan Jehofa. (Salm. 104:14, 15) Ond, gwnaeth y Nasareaid roi’r gorau i’r pethau hyn. Roedd yn aberth. c
5. Beth gwnaeth Madián a Marcela benderfynu ei aberthu, a pham?
5 Rydyn ni hefyd yn gwneud aberthau er mwyn addoli Jehofa. Er enghraifft, gad inni edrych ar esiampl Madián a Marcela. d Roedden nhw’n mwynhau bywyd cyfforddus. Roedd gan Madián swydd dda a oedd yn caniatáu iddyn nhw fyw mewn fflat hyfryd. Ond er mwyn gwneud mwy yng ngwasanaeth Jehofa, penderfynon nhw i newid rhai pethau. Dywedon nhw: “Wnaethon ni ymdrech i stopio gwario cymaint o bres. Gwnaethon ni hefyd symud i fflat llai, a gwerthu’r car.” Doedd dim rhaid i Madián a Marcela aberthu’r pethau hyn. Ond oherwydd eu bod nhw wedi dewis gwneud hyn, roedd ganddyn nhw’r amgylchiadau i ehangu eu gweinidogaeth. Maen nhw’n hapus ac yn fodlon gyda’u penderfyniadau.
6. Pam mae Cristnogion heddiw yn gwneud aberthau? (Gweler hefyd y llun.)
6 Heddiw mae Cristnogion yn teimlo’n hapus pan maen nhw’n gwneud aberthau personol er mwyn treulio mwy o amser yn gwneud pethau theocrataidd. (1 Cor. 9:3-6) Mae rhai yn dewis peidio â phrynu tŷ, cadw anifeiliaid anwes, neu gael y swydd berffaith. Mae llawer wedi gohirio priodi a chael plant. Mae eraill wedi mynd i wasanaethu lle mae’r angen yn fwy, hyd yn oed os ydy hynny’n golygu byw yn bell o’u teulu. Mae llawer ohonon ni yn fwy na fodlon i wneud yr aberthau hyn oherwydd ein bod ni eisiau rhoi ein gorau glas i Jehofa. Dydy Jehofa ddim yn gorfodi inni aberthu’r pethau hyn, a dydy’r pethau eu hunain ddim yn anghywir. Ond mae Jehofa’n gwerthfawrogi pob aberth rwyt ti’n ei wneud yn ei wasanaeth, yn fawr neu’n fach.—Heb. 6:10.
BYDDA’N FODLON I FOD YN WAHANOL
7. Beth gallai fod wedi ei gwneud hi’n anodd i Nasaread gadw ei addewid? (Numeri 6:5) (Gweler hefyd y llun.)
7 Darllen Numeri 6:5. Roedd rhaid i bob Nasaread addo peidio â thorri ei wallt. Roedd hynny’n dangos ei fod yn ildio yn llwyr i Jehofa. Os oedd rhywun yn gwasanaethu fel Nasaread am gyfnod hir, byddai hyd ei wallt yn gwneud iddo sefyll allan. Byddai wedi bod yn haws i Nasaread gadw ei adduned petai eraill yn cefnogi ei benderfyniad. Ond yn anffodus, roedd ’na gyfnod o amser pan doedd y Nasareaid ddim yn cael eu cefnogi gan eraill. Dyna ddigwyddodd yn ystod cyfnod y proffwyd Amos. Ceisiodd Israeliaid gwrthgiliol ‘wneud i’r Nasareaid yfed gwin’ fel eu bod nhw’n torri eu haddewid i gadw draw oddi wrth alcohol. (Amos 2:12) Roedd bod yn wahanol a chadw eu haddewid fel Nasareaid yn gofyn am ddewrder.
8. Sut gwnaeth profiad Benjamin dy galonogi di?
8 Gyda help Jehofa, gallwn ninnau hefyd sefyll allan yn wahanol a dangos dewrder hyd yn oed os ydyn ni’n swil. Gad inni edrych ar esiampl bachgen 10 mlwydd oed o’r enw Benjamin, Tyst yn Norwy. Penderfynodd ei ysgol drefnu digwyddiad i gefnogi Wcráin. Cafodd y plant eu gofyn i ganu cân ac i wisgo dillad yr un lliw â baner Wcráin. Gwnaeth Benjamin benderfynu peidio ag ymuno, gan gadw pellter synhwyrol ohono. Ond, sylwodd un o’r athrawon arno, a gweiddi yn uchel ar Benjamin: “Mae’n rhaid iti ymuno â ni nawr. Rydyn ni i gyd yn aros amdanat ti!” Ond dywedodd Benjamin yn ddewr: “Rydw i’n niwtral, a dydw i ddim yn ymuno â phethau gwleidyddol. Mae llawer o Dystion Jehofa wedi cael eu carcharu oherwydd maen nhw wedi gwrthod mynd i ryfel.” Gwnaeth yr athrawes dderbyn yr esboniad ac esgusodi Benjamin o’r digwyddiad. Ond gofynnodd eraill yn ei ddosbarth pam doedd ef ddim yn ymuno â nhw. Roedd Benjamin yn nerfus ac ar fin crio, ond dywedodd yn ddewr yr un peth gwnaeth ef ei ddweud wrth yr athrawes. Ar ôl ysgol, wrth siarad â’i rieni, dywedodd Benjamin roedd ef yn teimlo bod Jehofa wedi ei helpu i wneud safiad dros ei ffydd.
9. Sut gallwn ni wneud Jehofa’n hapus?
9 Oherwydd ein penderfyniad i wasanaethu Jehofa, rydyn ni’n sefyll allan yn wahanol. Mae gadael i bobl wybod ein bod ni’n Dystion Jehofa yn y gweithle neu yn yr ysgol yn gofyn am ddewrder. Wrth i’r byd hwn a’i agwedd waethygu, byddwn ni’n ei chael hi’n fwy ac yn fwy anodd i fyw yn ôl egwyddorion y Beibl a rhannu’r gwir gyda phobl. (2 Tim. 1:8; 3:13) Cofia, pan ydyn ni’n dangos dewrder wrth sefyll allan yn wahanol, rydyn ni’n gwneud Jehofa’n hapus.—Diar. 27:11; Mal. 3:18.
CADWA JEHOFA YN GYNTAF YN DY FYWYD
10. Sut roedd y gorchymyn yn Numeri 6:6, 7 yn gallu bod yn her i’r Nasareaid?
10 Darllen Numeri 6:6, 7. Doedd Nasareaid ddim yn cael mynd yn agos at gorff marw. Efallai dydy hynny ddim yn swnio fel aberth mawr. Ond i Nasaread, byddai hyn wedi bod yn anodd tu hwnt, yn enwedig pan fyddai perthynas yn marw. Yn yr adeg honno, roedd arferion claddu yn gofyn i bobl fynd yn agos at y corff. (Ioan 19:39, 40; Act. 9:36-40) Byddai addewid y Nasareaid yn tarfu ar yr arfer hwnnw. Hyd yn oed pan oedd eu teuluoedd yn galaru, dangosodd y Nasareaid ffydd gref drwy lynu wrth eu haddewid. Roedd Jehofa yn wir yn eu helpu nhw i drechu’r heriau hyn.
11. Beth dylai Cristion fod yn benderfynol o’i wneud wrth ddelio gyda materion teuluol? (Gweler hefyd y llun.)
11 Fel Cristnogion, rydyn ni’n cymryd ein hymgysegriad i Jehofa o ddifri. Mae hyn yn effeithio ar faterion teuluol. Rydyn ni’n gweithio’n galed i ofalu am ein teuluoedd, ond os ydy’r teulu yn gofyn inni fynd yn erbyn beth mae Jehofa eisiau inni ei wneud, rydyn ni’n rhoi egwyddorion Jehofa yn gyntaf. (Math. 10:35-37; 1 Tim. 5:8) Weithiau, mae hyn yn golygu aberthu ychydig bach o’r heddwch yn y teulu er mwyn plesio Jehofa.
12. Sut gwnaeth Alexandru ddelio â sefyllfa deuluol anodd?
12 Gad inni edrych ar esiampl Alexandru a’i wraig Dorina. Ar ôl astudio’r Beibl am flwyddyn, penderfynodd Dorina stopio ac roedd hi eisiau i Alexandru wneud yr un peth. Ond mewn ffordd barchus a phwyllog, dywedodd ei fod eisiau parhau i astudio. Doedd Dorina ddim yn hapus, a cheisiodd orfodi Alexandru i stopio. Pan oedd Dorina yn ei feirniadu ac yn ei drin yn gas, meddyliodd sawl gwaith am roi’r gorau i astudio. Dywedodd Alexandru ei fod wedi ceisio deall ymateb Dorina, ond roedd yn anodd iddo. Parhaodd i roi Jehofa yn gyntaf, gan ddal ati i ddangos parch a chariad tuag at ei wraig. Oherwydd ei esiampl wych, gwnaeth Dorina ddechrau astudio unwaith eto, a daeth hi i mewn i’r gwir.—Gweler y fideo ar jw.org Alexandru and Dorina Văcar: “Love Is Patient and Kind” o’r gyfres “Y Gwir yn Newid Bywydau.”
13. Sut gallwn ni ddangos cariad tuag at Jehofa a’n teulu?
13 Creodd Jehofa y teulu, ac mae ef eisiau inni gael teulu hapus. (Eff. 3:14, 15) Os ydyn ni wir eisiau bod yn hapus, mae’n rhaid inni wneud pethau ffordd Jehofa. Paid byth ag anghofio bod Jehofa yn wir yn gwerthfawrogi dy ymdrechion hunanaberthol. Felly, dal ati i addoli ef ac i edrych ar ôl dy deulu a’u trin nhw gyda pharch a chariad.—Rhuf. 12:10.
HELPU EIN GILYDD I EFELYCHU’R NASAREAID
14. Pwy yn enwedig dylen ni geisio ei galonogi?
14 Mae’n rhaid i bawb sy’n penderfynu gwasanaethu Jehofa fod yn barod i wneud aberthau allan o gariad. Ond ar adegau, gall hyn fod yn anodd. Sut gallwn ni helpu ein gilydd i gael agwedd o’r fath? Drwy ddefnyddio ein geiriau i galonogi ein gilydd. (Job 16:5) Oes ’na rai yn dy gynulleidfa sy’n ceisio symleiddio eu bywydau er mwyn gwneud mwy o weithgareddau theocrataidd? Neu oes ’na bobl ifanc sy’n sefyll i fyny am eu ffydd, er bod hynny’n peth anodd ei wneud? Beth am fyfyrwyr neu gyd-gredinwyr sy’n ymdrechu i aros yn ffyddlon er gwaethaf gwrthwynebiad gan eu teuluoedd? Gad inni gymryd pob cyfle i galonogi ein brodyr a’n chwiorydd annwyl, a dweud wrthyn nhw ein bod ni’n gwerthfawrogi’r dewrder a’r ysbryd hunanaberthol maen nhw’n eu dangos.—Philem. 4, 5, 7.
15. Sut mae rhai wedi cefnogi eraill sy’n gwasanaethu’n llawn amser?
15 Weithiau gall y cyfle godi inni roi help ymarferol i’n cyd-Gristnogion sy’n gwasanaethu’n llawn amser. (Diar. 19:17; Heb. 13:16) Dyna beth roedd un chwaer annwyl o Sri Lanca eisiau ei wneud ar ôl cael dipyn bach mwy o arian yn ei phensiwn. Roedd hi eisiau helpu dwy arloeswraig ifanc i ddal ati er gwaetha’r sefyllfa economaidd. Felly penderfynodd roi swm o arian iddyn nhw bob mis i helpu gyda chostau ffôn. Am ysbryd hyfryd!
16. Beth gallwn ni ei ddysgu o’r Nasareaid?
16 Gallwn ni ddysgu llawer gan esiampl dda y Nasareaid! Ond mae eu hadduned hefyd yn datgelu rhywbeth am ein Tad nefol, Jehofa. Mae’n gwybod ein bod ni eisiau ei blesio a gwneud aberthau i fyw yn unol â’n hymgysegriad. Mae’n dangos parch aton ni drwy adael inni fynegi ein cariad ato o’n gwirfodd. (Diar. 23:15, 16; Marc 10:28-30; 1 Ioan 4:19) Rydyn ni’n dysgu o’r Nasareaid bod Jehofa’n sylwi ar yr aberthau rydyn ni i gyd yn eu gwneud yn ein gwasanaeth iddo ac yn ein caru ni. Gad inni i gyd fod yn benderfynol o ddal ati yn ein gwasanaeth i Jehofa a rhoi ein gorau glas iddo.
SUT BYDDET TI’N ATEB?
-
Sut gwnaeth y Nasareaid brofi eu bod nhw’n ddewr ac yn hunanaberthol?
-
Sut gallwn ni helpu ein gilydd i efelychu’r Nasareaid?
-
Beth rydyn ni’n ei ddysgu o’r Nasareaid am yr hyder sydd gan Jehofa ynon ni?
CÂN 124 Bythol Ffyddlon
a Er bod Jehofa wedi dewis rhai pobl i fod yn Nasareaid, mae’n debyg bod y rhan fwyaf ohonyn nhw yn Israeliaid a oedd wedi gwirfoddoli i wasanaethu am gyfnod.—Gweler y blwch “ Nasareaid a Gafodd Eu Penodi Gan Jehofa.”
b Weithiau mae ein cyhoeddiadau wedi cymharu’r Nasareaid â’r rhai sy’n gwasanaethu Jehofa yn llawn amser. Ond, yn yr erthygl hon, byddwn ni’n canolbwyntio ar sut gall pob un o bobl Jehofa efelychu’r Nasareaid.
c Yn ôl pob golwg, doedd gan y Nasareaid ddim cyfrifoldebau neu waith ychwanegol i’w gwneud er mwyn cyflawni eu hadduned.
d Gweler yr erthygl “Gwnaethon Ni Benderfynu Symleiddio Ein Bywydau” o’r gyfres “Profiadau Tystion Jehofa” ar jw.org.
e DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae Nasaread yn sefyll ar ben to ac yn gwylio angladd anwylyn. Dydy ef ddim yn gallu cymryd rhan oherwydd ei addewid.