Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 16

Gwranda, Dysga, a Dangosa Dosturi

Gwranda, Dysga, a Dangosa Dosturi

“Stopiwch fod mor arwynebol wrth farnu; barnwch yn gywir bob amser.”—IOAN 7:24.

CÂN 101 Cydweithio Mewn Undod

CIPOLWG *

1. Pa wirionedd Beiblaidd am Jehofa sy’n ein cysuro?

A FYDDET ti’n hoffi i bobl dy farnu di ar sail lliw dy groen, siâp dy wyneb, neu faint dy gorff? Na fyddet, mae’n debyg. Am gysur, felly, ydy gwybod nad ydy Jehofa yn ein barnu ar sail yr hyn y mae llygaid dynol yn ei weld! Er enghraifft, pan edrychodd Samuel ar feibion Jesse, ni welodd yr hyn a welodd Jehofa. Roedd Jehofa wedi dweud wrth Samuel y byddai un o feibion Jesse yn dod yn frenin ar Israel. Ond pa un? Pan welodd Samuel fab hynaf Jesse, Eliab, dywedodd: “Dw i’n siŵr mai hwnna ydy’r un mae’r ARGLWYDD wedi ei ddewis yn frenin.” Roedd Eliab yn edrych fel brenin. “Ond dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrtho, ‘Paid cymryd sylw o pa mor dal a golygus ydy e. Dw i ddim wedi ei ddewis e.’” Y wers? Ychwanegodd Jehofa: “Mae pobl yn edrych ar y tu allan, ond mae’r ARGLWYDD yn edrych ar sut berson ydy rhywun go iawn.”—1 Sam. 16:1, 6, 7.

2. Yn unol â geiriau Ioan 7:24, pam na ddylen ni farnu rhywun ar sail y ffordd mae’n edrych? Eglura.

2 Fel pobl amherffaith, mae gennyn ni i gyd dueddiad i farnu eraill ar sail y ffordd maen nhw’n edrych. (Darllen Ioan 7:24.) Ond dim ond ychydig rydyn ni’n ei ddysgu am rywun o’r hyn a welwn â’n llygaid. Er enghraifft, mae ’na derfyn i faint gall hyd yn oed meddyg medrus a phrofiadol ei ddysgu jest o edrych ar y claf. Mae’n rhaid iddo wrando’n astud er mwyn dysgu am hanes meddygol y claf, ei deimladau, a beth yw ei symptomau. Efallai bydd y meddyg hefyd yn trefnu sgan pelydr X er mwyn gweld y tu mewn i’r claf. Fel arall, gallai’r meddyg gamddiagnosio’r symptomau. Mewn ffordd debyg, allwn ni ddim deall ein brodyr a’n chwiorydd yn iawn drwy edrych arnyn nhw’n unig. Mae’n rhaid inni geisio edrych dan yr wyneb, ac ystyried y person mewnol. Wrth gwrs, ni allwn ni ddarllen calonnau, felly fyddwn ni byth yn deall eraill cystal ag y mae Jehofa. Ond gallwn ni wneud ein gorau i efelychu Jehofa. Sut?

3. Sut bydd yr hanesion Beiblaidd yn yr erthygl hon yn ein helpu i efelychu Jehofa?

3 Sut mae Jehofa yn trin ei addolwyr? Mae’n gwrando arnyn nhw. Mae’n ystyried eu cefndir a’u hamgylchiadau. Ac mae’n tosturio wrthyn nhw. Wrth inni drafod sut y gwnaeth Jehofa hynny yn achos Jona, Elias, Hagar, a Lot, gad inni weld sut gallwn ni efelychu Jehofa yn y ffordd rydyn ni’n trin ein brodyr a’n chwiorydd.

GWRANDA’N ASTUD

4. Beth allai wneud inni feddwl yn negyddol am Jona?

4 Oherwydd nad ydyn ni’n gwybod popeth am sefyllfa Jona, gallen ni ddod i’r casgliad nad oedd yn ddibynadwy, neu ei fod yn anffyddlon hyd yn oed. Cafodd orchymyn uniongyrchol gan Jehofa i fynd i bregethu neges o farn yn Ninefe. Ond yn hytrach nag ufuddhau, teithiodd Jona ar long i’r cyfeiriad arall, “oddi wrth yr ARGLWYDD.” (Jona 1:1-3) A fyddet ti wedi rhoi cyfle arall i Jona gyflawni ei aseiniad? Efallai ddim. Eto, gwelodd Jehofa resymau dros wneud hynny.—Jona 3:1, 2.

5. Beth rwyt ti’n ei ddysgu am Jona o’i eiriau yn Jona 2:1, 2, 9?

5 Dangosodd Jona drwy ei weddi sut fath o berson yr oedd mewn gwirionedd. (Darllen Jona 2:1, 2, 9.) Heb os, gweddïodd Jona ar Jehofa lawer gwaith. Mae’r weddi a ofynnodd o fol y pysgodyn yn ein helpu i ddeall fod mwy i Jona na dyn a redodd i ffwrdd o aseiniad. Mae ei eiriau’n dangos ei fod yn ostyngedig, yn ddiolchgar, ac yn benderfynol o ufuddhau i Jehofa. Does dim syndod felly fod Jehofa wedi edrych y tu hwnt i weithredoedd Jona, wedi ateb ei weddi, ac wedi parhau i’w ddefnyddio fel proffwyd!

Os ydyn ni’n gwrando a chael y ffeithiau, gallwn ni fod yn fwy tosturiol (Gweler paragraff 6) *

6. Pam mae hi’n werth yr ymdrech inni wrando’n astud?

6 Er mwyn gwrando’n astud ar eraill, mae’n rhaid inni fod yn ostyngedig ac yn amyneddgar. Mae hi’n werth yr ymdrech am o leiaf dair rheswm. Yn gyntaf, byddwn ni’n llai tebygol o neidio i’r casgliad anghywir am rywun. Yn ail, gallwn ni ddod i ddeall teimladau a chymhellion ein brodyr, a bydd hynny yn ein helpu i fod yn fwy tosturiol. Ac yn drydydd, gallen ni helpu’r person i ddysgu rhywbeth amdano’i hun. Weithiau, dydyn ni ddim yn deall hyd yn oed ein teimladau ein hunain yn iawn nes inni eu mynegi mewn geiriau. (Diar. 20:5) Mae henuriad yn Asia yn cyfaddef: “Dw i’n cofio gwneud y camgymeriad o siarad cyn gwrando. Dywedais wrth chwaer fod angen iddi wella safon ei hatebion yn y cyfarfodydd. Yn nes ymlaen, dysgais ei bod hi’n cael trafferth darllen, a bod ateb yn y cyfarfod yn gofyn am ymdrech fawr ganddi.” Mae hi’n hynod o bwysig fod pob henuriad yn gwrando ac yn cael y ffeithiau cyn rhoi cyngor!—Diar. 18:13.

7. Beth rwyt ti’n ei ddysgu o’r ffordd y gwnaeth Jehofa drin Elias?

7 Mae rhai o’n brodyr a’n chwiorydd yn ei chael hi’n anodd siarad am eu teimladau oherwydd eu cefndir, eu diwylliant, neu eu personoliaeth. Sut gallwn ni ei gwneud hi’n haws iddyn nhw agor eu calonnau inni? Cofia’r ffordd y gwnaeth Jehofa drin Elias pan redodd i ffwrdd oddi wrth Jesebel. Aeth llawer o ddyddiau heibio cyn i Elias dywallt ei galon o flaen ei Dad nefol, a gwrandawodd Jehofa yn astud. Yna, fe anogodd Elias a rhoddodd waith pwysig iddo ei wneud. (1 Bren. 19:1-18) Efallai y bydd amser hir yn mynd heibio cyn bydd ein brodyr a’n chwiorydd yn teimlo’n ddigon cyfforddus i siarad â ni, dim ond pan wnân nhw hynny y byddwn ni’n gallu deall eu gwir deimladau. Os ydyn ni’n efelychu Jehofa drwy fod yn amyneddgar, gallwn ni ennyn eu hyder. Yna, pan fyddan nhw’n barod i fynegi eu teimladau, dylen ni wrando’n astud.

DOD I ADNABOD DY FRODYR A CHWIORYDD

8. Yn ôl Genesis 16:7-13, sut helpodd Jehofa Hagar?

8 Fe wnaeth Hagar, morwyn Sarai, ymddwyn yn ffôl ar ôl iddi ddod yn wraig i Abram. Daeth hi’n feichiog, ac yna dechreuodd edrych i lawr ar Sarai, a oedd heb gael plant. Aeth y sefyllfa mor ddrwg rhyngddyn nhw nes i Hagar redeg i ffwrdd. (Gen. 16:4-6) O’n safbwynt amherffaith, gallai Hagar ymddangos fel dim mwy na dynes sbeitlyd a oedd yn haeddu cael ei chosbi. Ond gwelodd Jehofa fwy ynddi. Anfonodd angel ati. Pan ddaeth yr angel o hyd iddi, fe’i helpodd i newid ei hagwedd, ac fe’i bendithiodd hi. Synhwyrodd Hagar fod Jehofa wedi bod yn ei gwylio, a’i fod yn gwybod popeth am ei sefyllfa. Cafodd ei hysgogi i’w ddisgrifio fel “y Duw sy’n edrych arna i . . . y Duw sy’n edrych ar fy ôl i.”—Darllen Genesis 16:7-13.

9. Beth ystyriodd Jehofa wrth ddelio â Hagar?

9 Beth welodd Jehofa yn Hagar? Roedd yn hollol ymwybodol o’i chefndir a’r holl dreialon roedd hi wedi eu hwynebu. (Diar. 15:3) Eifftes oedd hi, yn byw mewn cartref Hebreig. A oedd hi’n teimlo fel dieithryn weithiau? A oedd hi’n methu ei theulu a’i mamwlad? Nid y hi oedd unig wraig Abram. Am gyfnod, roedd gan rai dynion ffyddlon fwy nag un wraig. Ond nid dyna oedd pwrpas gwreiddiol Jehofa. (Math. 19:4-6) Does dim rhyfedd felly fod trefniant o’r fath wedi achosi cenfigen a chasineb yn y teulu. Er nad oedd Jehofa yn esgusodi amarch Hagar tuag at Sarai, gallwn ni fod yn sicr ei fod wedi ystyried cefndir a sefyllfa Hagar ac felly wedi ei thrin yn garedig.

Ceisia ddod i adnabod dy frodyr a chwiorydd yn well (Gweler paragraffau 10-12) *

10. Sut gallwn ni ddod i adnabod ein brodyr a’n chwiorydd yn well?

10 Gallwn ni efelychu Jehofa drwy geisio deall ein gilydd. Ceisia ddod i adnabod dy frodyr a chwiorydd yn well. Siarada â nhw cyn ac ar ôl y cyfarfodydd, gweithia gyda nhw yn y weinidogaeth, ac os bosib, gwahodda nhw draw am bryd o fwyd. Pan wnei di hynny, efallai byddi di’n dysgu fod y chwaer sy’n ymddangos yn anghyfeillgar yn swil, fod y brawd roeddet ti’n meddwl oedd yn faterol yn hael, neu fod y teulu sy’n aml yn hwyr i’r cyfarfodydd yn goddef gwrthwynebiad. (Job 6:29) Wrth gwrs, dylen ni beidio â bod yn ‘fusneslyd.’ (1 Tim. 5:13) Ond, mae hi’n dda inni wybod ychydig am ein brodyr a’n chwiorydd a’r amgylchiadau sydd wedi siapio eu personoliaeth.

11. Pam mae hi’n bwysig i henuriaid adnabod y defaid yn dda?

11 Mae’n rhaid i henuriaid yn enwedig wybod cefndir y brodyr a’r chwiorydd dan eu gofal. Ystyria esiampl brawd o’r enw Artur oedd arfer gwasanaethu fel arolygwr cylchdaith. Aeth gyda henuriad arall i weld chwaer oedd yn ymddangos yn swil. “Dysgon ni fod ei gŵr wedi marw ychydig ar ôl iddyn nhw briodi,” meddai Artur. “Er gwaethaf yr heriau, mi wnaeth hi lwyddo i ddysgu ei dwy ferch i garu Jehofa a’i wasanaethu’n ffyddlon. Ond rŵan, roedd hi’n colli ei golwg, ac yn dioddef o iselder. Er hynny, parhaodd ei chariad tuag at Jehofa, a’i ffydd ynddo, yn gryf. Sylweddolon ni fod gennyn ni lawer i’w ddysgu o esiampl dda’r chwaer hon.” (Phil. 2:3) Roedd yr arolygwr cylchdaith hwn yn dilyn esiampl Jehofa. Mae Ef yn adnabod ei ddefaid, ac yn deall eu poen. (Ex. 3:7) Mae henuriaid sy’n adnabod y defaid yn dda mewn gwell sefyllfa i’w helpu.

12. Sut gwnaeth chwaer o’r enw Yip Yee elwa ar ddod i adnabod chwaer yn ei chynulleidfa?

12 Pan wyt ti’n dod i ddeall cefndir brawd neu chwaer sy’n mynd dan dy groen, byddi di’n fwy tebygol o gydymdeimlo â’r person hwnnw. Ystyria esiampl. “Roedd un chwaer yn fy nghynulleidfa yn siarad yn uchel iawn,” meddai Yip Yee, sy’n byw yn Asia. “Teimlais ei bod hi braidd yn anghwrtais. Ond pan weithiais gyda hi ar y weinidogaeth, dysgais yr oedd hi’n arfer helpu ei rhieni i werthu pysgod yn y farchnad. Roedd rhaid iddi siarad yn uchel er mwyn denu cwsmeriaid.” Ychwanegodd Yip Yee: “Dysgais fod rhaid imi ddod i adnabod fy mrodyr a chwiorydd yn well er mwyn eu deall.” Mae’n gofyn am ymdrech i ddod i adnabod dy frodyr yn well. Ond eto, drwy ddilyn cyngor y Beibl i agor dy galon yn llydan, byddi di’n efelychu Jehofa, sy’n caru ‘pobl o bob math.’—1 Tim. 2:3, 4; 2 Cor. 6:11-13.

DANGOSA DOSTURI

13. Fel mae Genesis 19:15, 16 yn ei ddweud, beth wnaeth yr angylion pan roedd Lot yn llusgo ei draed, a pham?

13 Ar adeg bwysig iawn yn ei fywyd, roedd Lot yn araf i ufuddhau i gyfarwyddiadau Jehofa. Aeth dau angel at Lot a dweud wrtho am adael Sodom gyda’i deulu. Pam? Dywedon nhw: “Dŷn ni’n mynd i ddinistrio’r ddinas.” (Gen. 19:12, 13) Y bore wedyn, roedd Lot a’i deulu yn dal yn eu cartref. Felly, rhybuddiodd yr angylion Lot eto. Ond, “roedd yn llusgo’i draed.” Efallai bydden ni’n barnu Lot fel dyn di-hid, neu anufudd hyd yn oed. Fodd bynnag, ni stopiodd Jehofa geisio ei achub. Oherwydd “roedd yr ARGLWYDD mor drugarog ato,” dyma’r angylion yn cydio yn nwylo Lot a’i deulu ac yn eu harwain allan o’r ddinas.—Darllen Genesis 19:15, 16.

14. Pam efallai roedd Jehofa wedi tosturio wrth Lot?

14 Mae ’na nifer o resymau posib pam y tosturiodd Jehofa wrth Lot. Efallai ei fod wedi bod yn gyndyn o adael ei dŷ am ei fod yn ofni’r bobl y tu allan i’r ddinas. Roedd ’na beryglon eraill hefyd. Mae’n debyg fod Lot yn gwybod am y ddau frenin a oedd wedi syrthio i byllau tar mewn dyffryn cyfagos. (Gen. 14:8-12) Ac yntau’n ŵr ac yn dad, mae’n rhaid fod Lot wedi pryderu am ei deulu. Yn ogystal, roedd Lot yn gyfoethog, felly hwyrach fod ganddo dŷ crand yn Sodom. (Gen. 13:5, 6) Wrth gwrs, doedd yr un o’r pethau hyn yn esgusodi Lot am beidio ag ufuddhau i Jehofa ar unwaith. Ond, edrychodd Jehofa y tu hwnt i gamgymeriad Lot, ac roedd yn ei ystyried yn ddyn oedd yn “ceisio gwneud beth oedd yn iawn.”—2 Pedr 2:7, 8.

Drwy wrando, gallwn ni ddod i ddeall sut gallwn ni ddangos tosturi (Gweler paragraffau 15-16) *

15. Yn hytrach na barnu rhywun ar sail ei weithredoedd, beth dylen ni ei wneud?

15 Yn hytrach na barnu rhywun ar sail ei weithredoedd, gwna dy orau i ddeall sut mae’n teimlo. Ceisiodd Veronica, chwaer yn Ewrop, wneud union hynny. Dywedodd: “Roedd un chwaer wastad i weld mewn hwyliau drwg. Roedd hi’n aml yn cadw ar wahân i eraill. Weithiau, roedd ofn gyda fi siarad â hi. Ond meddyliais, ‘Petaswn i yn ei sefyllfa hi, byddwn innau angen ffrind.’ Felly penderfynais ofyn iddi sut oedd hi’n teimlo. A dechreuodd hi dywallt ei chalon! Nawr, dw i’n deall llawer iawn mwy amdani hi.”

16. Pam dylen ni weddïo am help i feithrin tosturi?

16 Yr unig berson sy’n ein deall ni’n llwyr ydy Jehofa. (Diar. 15:11) Felly, gofynna iddo dy helpu i weld yn eraill yr hyn y mae ef yn ei weld, ac i ddeall sut i dosturio wrthyn nhw. Gweddïo a helpodd chwaer o’r enw Anzhela i fod yn fwy tosturiol. Roedd chwaer yn ei chynulleidfa wedi dod yn anodd cyd-dynnu â hi. Mae Anzhela’n cyfaddef: “Byddai hi wedi bod yn ddigon hawdd syrthio i’r fagl o feirniadu’r chwaer a’i hosgoi. Ond yna gofynnais i Jehofa fy helpu i gydymdeimlo â hi.” A wnaeth Jehofa ateb gweddi Anzhela? Ychwanegodd hi: “Aethon ni allan ar y gwaith pregethu gyda’n gilydd, a siarad wedyn am oriau. Gwrandewais arni gyda thosturi. Nawr, mae fy nghariad tuag ati yn gryfach, a dw i’n benderfynol o’i helpu hi.”

17. Beth dylen ni fod yn benderfynol o’i wneud?

17 Elli di ddim dewis a dethol pa frodyr a chwiorydd sy’n haeddu dy dosturi cariadus. Mae pob un ohonyn nhw yn wynebu problemau, fel y gwnaeth Jona, Elias, Hagar, a Lot. Mewn nifer o achosion maen nhw wedi achosi’r problemau hynny iddyn nhw eu hunain. Ond, y gwir amdani yw, rydyn ni i gyd wedi gwneud hynny rywbryd neu’i gilydd. Mae’n rhesymol, felly, i Jehofa ofyn inni ddangos cydymdeimlad at ein gilydd. (1 Pedr 3:8) Pan ufuddhawn i Jehofa, byddwn ni’n cryfhau undod ein teulu byd-eang rhyfeddol. Felly, wrth inni ddelio â’n gilydd, boed inni fod yn benderfynol o wrando, dysgu, a dangos tosturi.

CÂN 87 Dere! Cei Di Dy Adfywio!

^ Par. 5 A ninnau’n bobl amherffaith, mae gennyn ni dueddiad i neidio i gasgliadau am bobl a’u cymhellion. Ar y llaw arall, mae Jehofa yn gweld y galon, gan “edrych ar sut berson ydy rhywun go iawn.” (1 Sam. 16:7) Bydd yr erthygl hon yn trafod y ffordd gariadus yr aeth ati i helpu Jona, Elias, Hagar a Lot. A bydd yn ein helpu i efelychu Jehofa yn y ffordd rydyn ninnau’n trin ein brodyr a’n chwiorydd.

^ Par. 52 DISGRIFIADAU O’R LLUNIAU: Brawd hŷn yn cynhyrfu o weld brawd iau yn cyrraedd yn hwyr i’r cyfarfod, ond wedyn, mae’n darganfod mai’r rheswm fod y brawd yn hwyr oedd am ei fod wedi cael damwain car.

^ Par. 54 DISGRIFIADAU O’R LLUNIAU: Er bod arolygwr y grŵp gweinidogaeth wedi cymryd bod y chwaer yn oeraidd ac yn bell i ffwrdd, dysgodd yn hwyrach ei bod hi’n swil ac yn anghyfforddus o gwmpas pobl nad ydy hi’n eu hadnabod yn dda.

^ Par. 56 DISGRIFIADAU O’R LLUNIAU: Pan ddaeth chwaer i adnabod chwaer arall yn well, fe sylweddolodd hi nad oedd hi’n bwdlyd ac yn ddi-hid fel roedd hi’n ei feddwl y tro cyntaf iddyn nhw gwrdd yn y Neuadd.