HANES BYWYD
“Bellach Dw i’n Caru’r Weinidogaeth!”
GES i fy magu yn nhref wledig Balclutha, ar ynys ddeheuol Seland Newydd. Pan o’n i’n blentyn, o’n i’n teimlo’n agos at Jehofa ac o’n i wrth fy modd yn y gwir. Doedd y cyfarfodydd byth yn faich ac roedd y gynulleidfa yn hafan gynnes lle o’n i’n teimlo’n saff ac yn hapus. Er fy mod i’n swil, o’n i’n mwynhau’r weinidogaeth bob wythnos. Wnes i ddim dal yn ôl rhag pregethu i ffrindiau ysgol ac eraill. O’n i’n falch o fod yn un o Dystion Jehofa, ac yn 11 oed, wnes i gysegru fy mywyd i Dduw.
COLLI FY LLAWENYDD
Yn anffodus, yn fuan yn fy arddegau, dechreuodd fy mherthynas gynnes â Jehofa oeri. Oedd hi’n ymddangos bod gan fy ffrindiau ysgol y rhyddid i wneud beth bynnag oedden nhw eisiau, ac o’n i’n meddwl fy mod i’n colli allan. Roedd rheolau fy rhieni a safonau Cristnogol yn dechrau dod yn faich, ac roedd wneud unrhyw beth ysbrydol yn waith caled. Er fy mod i wastad wedi credu bod Jehofa’n bodoli, wnes i ddechrau teimlo’n ysbrydol wag.
Eto, wnes i osgoi mynd yn anweithredol drwy wneud y mymryn lleiaf i Jehofa. Oeddwn i byth yn paratoi, felly ar yr adegau pan o’n i’n mynd i bregethu, o’n i’n cael trafferth dechrau neu gynnal sgwrs. O ganlyniad, roedd fy ngweinidogaeth yn anffrwythlon a doeddwn i ddim yn ei fwynhau, ac oedd hynny ond yn ychwanegu at fy nheimladau negyddol. Byddwn i’n gofyn i fi fy hyn, ‘Sut yn y byd gall rhywun wneud hyn wythnos ar ôl wythnos, fis ar ôl mis?’
Erbyn imi droi yn 17, o’n i’n ysu i fod yn annibynnol. Felly, wnes i godi ’mhac, gadael
cartref, a symud i Awstralia. Oedd gweld fi’n mynd yn anodd i fy rhieni. Mi oedden nhw’n poeni, ond oedden nhw’n meddwl y byddwn i’n cadw fy rwtîn ysbrydol.Yn Awstralia, o’n i’n gwneud llai byth i Jehofa. O’n i ond yn mynd i gyfarfod bob hyn a hyn. O’n i’n tueddu bod yn ffrindiau â phobl ifanc a oedd, fel fi, yn hapus i fynd i gyfarfod un noson a mynd allan i yfed a dawnsio mewn clybiau y noson wedyn. Wrth edrych yn ôl, dw i’n sylweddoli oedd gen i un droed yn y gwir, ac un yn y byd, a doeddwn i ddim yn teimlo fy mod i’n perthyn i’r naill na’r llall.
GWERS ANNISGWYL OND GWERTHFAWR
Tua dwy flynedd wedyn, wnes i gyfarfod chwaer a wnaeth, heb iddi sylwi, wneud imi feddwl o ddifri am y ffordd o’n i’n byw fy mywyd. O’n i’n rhannu tŷ gyda phum chwaer sengl, a wnaethon ni wahodd arolygwr y gylchdaith a’i wraig, Tamara, i aros gyda ni am wythnos. Tra oedd ei gŵr yn brysur yn gwneud pethau ar gyfer y gynulleidfa, treuliodd Tamara amser gyda ni ferched yn chwerthin ac yn sgwrsio am yn ail. O’n i’n hoffi hynny. Oedd hi mor hawdd ymwneud â hi, ac yn wastad yn barod i wrando. O’n i’n rhyfeddu bod rhywun mor ysbrydol yn gallu bod yn gymaint o hwyl.
Roedd Tamara yn fwrlwm o frwdfrydedd. Roedd ei chariad tuag at y gwir a’r weinidogaeth yn heintus. Roedd hi wrth ei bodd yn rhoi ei gorau i Jehofa, tra o’n i’n anhapus yn rhoi’r mymryn lleiaf iddo. Cafodd ei hagwedd bositif a’i hapusrwydd diffuant argraff fawr ar fy mywyd. Gwnaeth ei hesiampl hi dynnu fy sylw at wirionedd pwysig: Mae Jehofa yn dymuno ein bod ni i gyd yn ei wasanaethu “yn llawen . . . gan ddathlu!”—Salm 100:2.
AILGYNNAU FY NGHARIAD TUAG AT Y WEINIDOGAETH
O’n i eisiau yr un fath o lawenydd ag oedd gan Tamara, ond i gael hynny, oedd rhaid imi wneud newidiadau mawr. Wnaeth pethau ddim newid dros nos, ond dechreuais gymryd camau bach. Wnes i ddechrau paratoi ar gyfer y weinidogaeth, ac arloesi’n gynorthwyol o bryd i’w gilydd. Gwnaeth hynny helpu i dawelu fy nerfau a gwneud imi
deimlo’n fwy hyderus. Wrth imi ddefnyddio’r Beibl yn amlach yn y weinidogaeth, des i i fwynhau’r gwaith pregethu yn fwy. Cyn bo hir, o’n i’n arloesi’n gynorthwyol bob mis.Dechreuais ddewis ffrindiau o bob oedran oedd yn gwneud yn dda yn y gwir ac yn mwynhau gwasanaethu Jehofa. Gwnaeth eu hesiamplau da helpu imi feddwl am beth oedd yn bwysicaf yn fy mywyd ac i ddatblygu rwtîn ysbrydol da. Wnes i ddechrau mwynhau’r weinidogaeth yn fwy byth, ac yn y pen draw, gwasanaethu fel arloeswraig llawn amser. Am y tro cyntaf ers blynyddoedd, o’n i’n teimlo’n hapus ac yn gyfforddus yn y gynulleidfa.
CAEL HYD I BARTNER ARLOESI PARHAOL
Flwyddyn wedyn, wnes i gyfarfod Alex, rhywun caredig a diffuant oedd yn caru Jehofa a’r weinidogaeth. Roedd yn gwasanaethu fel gwas gweinidogaethol ac roedd wedi bod yn arloesi am chwe mlynedd. Roedd Alex hefyd wedi gwasanaethu am rai misoedd ym Malawi, lle’r oedd yr angen yn fwy. Yno, wnaeth ef dreulio amser gyda chenhadon a gafodd argraff fawr arno a’i annog i ddal ati i roi Jehofa’n gyntaf yn ei fywyd.
Yn 2003, priododd Alex a minnau, a ’dyn ni wedi dal ati yn y weinidogaeth llawn amser ers hynny. ’Dyn ni wedi dysgu llawer o wersi hyfryd, ac mae Jehofa wedi ein bendithio ni mewn nifer o wahanol ffyrdd.
DRWS I FENDITHION PELLACH
Yn 2009, cawson ni ein gwahodd i wasanaethu fel cenhadon yn Nwyrain Timor, gwlad fechan yn archipelago Indonesia. Roedden ni wedi ein syfrdanu, ein cyffroi, ac yn nerfus, i gyd ar yr un pryd. Bum mis yn ddiweddarach, cyrhaeddon ni’r brifddinas, Dili.
Roedd bywyd yn wahanol iawn i’r hyn oedden ni wedi arfer ag ef. Roedd rhaid inni addasu i ddiwylliant, iaith, bwyd, ac amodau byw newydd. Yn aml iawn yn y weinidogaeth, oedden ni’n gweld effaith tlodi, addysg wael, a gorthrwm. Daethon ni ar draws llawer o *
bobl oedd yn cario creithiau corfforol ac emosiynol o ganlyniad i ryfel a thrais.Roedd y weinidogaeth yn anhygoel! Er enghraifft, un tro wnes i gyfarfod merch fach drist 13 mlwydd oed o’r enw Maria. * Roedd ei mam wedi marw rai blynyddoedd ynghynt, a phrin oedd hi’n gweld ei thad. Fel llawer o blant o’i hoed hi, doedd Maria ddim yn gwybod beth i’w wneud â’i bywyd. Dw i’n cofio un adeg wnaeth hi grio wrth dywallt ei chalon. Ond, doedd gen i ddim syniad beth oedd hi’n ei ddweud, oherwydd doeddwn i ddim yn siarad ei hiaith hi’n rhugl eto. Gweddïais ar Jehofa gan ofyn iddo fy helpu i’w hannog hi, ac yna dechreuais ddarllen adnodau calonogol iddi. Dros y blynyddoedd nesaf, gwelais y gwirionedd yn trawsnewid agwedd Maria, ei gwisg a thrwsiad, a’i bywyd cyfan. Cafodd ei bedyddio, a bellach mae hi’n cynnal astudiaethau Beiblaidd ei hun. Heddiw, mae gan Maria deulu ysbrydol mawr ac yn teimlo ei bod hi’n perthyn.
Mae Jehofa’n bendithio’r gwaith yn Nwyrain Timor. Er bod y rhan fwyaf o gyhoeddwyr wedi cael eu bedyddio yn y deng mlynedd diwethaf, mae llawer yn gwasanaethu fel arloeswyr, gweision gweinidogaethol, neu henuriaid. Mae eraill yn gweithio yn y swyddfa gyfieithu ac yn helpu i baratoi bwyd ysbrydol mewn ieithoedd lleol. O’n i mor hapus i glywed nhw’n canu yn y cyfarfodydd, i weld nhw’n gwenu, ac i weld nhw’n tyfu’n ysbrydol.
ALLWN I DDIM DYCHMYGU BYWYD HAPUSACH
Roedd ein haseiniad yn Nwyrain Timor yn wahanol iawn i fywyd yn Awstralia, ond allwn i ddim fod wedi dychmygu bywyd hapusach. Weithiau, oedden ni wedi ein gwasgu mewn i fws llawn pobl, yn ogystal â physgod sych a thomenni o lysiau o’r farchnad leol. Rai dyddiau, bydden ni’n cynnal astudiaeth Feiblaidd mewn cartref bach poeth a chlòs gyda lloriau pridd, a ieir yn rhedeg o gwmpas. Ond eto, er gwaetha’r heriau, wnes i feddwl yn aml, ‘Mae hyn yn wych!’
Wrth edrych yn ôl, dw i’n ddiolchgar fod fy rhieni wedi gwneud eu gorau i fy magu yn ôl ffyrdd Jehofa, ac wedi fy nghefnogi, hyd yn oed yn ystod blynyddoedd heriol fy arddegau. Mae Diarhebion 22:6 wedi profi’n wir yn fy achos i. Mae Mam a Dad yn falch iawn ohono i ac Alex; maen nhw’n hapus iawn i weld ein bod ni’n cael ein defnyddio gan Jehofa. Ers 2016, ’dyn ni wedi bod yn gwasanaethu yn y gwaith cylch yn nhiriogaeth cangen Awstralasia.
Mae’n anodd credu mod i wedi ystyried y gwaith pregethu yn faich ar un adeg. Bellach dw i’n caru’r weinidogaeth! Dw i wedi sylweddoli, ni waeth beth sy’n digwydd mewn bywyd, mae hapusrwydd go iawn yn dod o wasanaethu Jehofa â’m holl galon. Mae’n rhaid imi ddweud, y 18 mlynedd diwethaf o wasanaethu Jehofa gydag Alex yw rhai hapusaf fy mywyd hyd yma. Dw i bellach yn deall gwirionedd geiriau’r salmydd Dafydd i Jehofa: “Gad i bawb sy’n troi atat ti am loches fod yn llawen! Gad iddyn nhw orfoleddu am byth! . . . Er mwyn i’r rhai sy’n caru dy enw di gael dathlu.”—Salm 5:11.