Crio Gyda’r Rhai Sy’n Crio
“Felly calonogwch eich gilydd, a daliwch ati i helpu’ch gilydd.”—1 THES. 5:11.
CANEUON: 90, 111
1, 2. Pam mae’n rhaid inni drafod sut y gallwn ni gysuro’r rhai sy’n galaru? (Gweler y llun agoriadol.)
“AM BRON i flwyddyn yn dilyn marwolaeth ein mab, roedd y boen yn annioddefol,” meddai Susi. Pan fu farw ei wraig yn sydyn, dywedodd un Cristion ei fod wedi dioddef “poen corfforol annisgrifiadwy.” Yn anffodus, mae llawer wedi dioddef poen o’r fath. Mae’n debyg na fyddai llawer yn y gynulleidfa Gristnogol wedi meddwl y byddai ei hanwyliaid yn marw cyn i Armagedon ddod. Os wyt ti wedi dioddef profedigaeth neu’n adnabod rhywun sy’n galaru, cwestiwn teg yw: ‘Pa help sydd ar gael i’r rhai sy’n galaru?’
2 Efallai dy fod ti wedi clywed pobl yn dweud mai amser yw’r meddyg gorau. Ond a ydy amser yn gallu mendio calon sydd wedi ei thorri? Dywed un wraig weddw: “Gwell fyddai dweud mai’r hyn mae rhywun yn ei wneud gyda’i amser sy’n ei helpu i wella.” Yn debyg i friw corfforol, gall poen emosiynol leddfu dros amser. Beth yn benodol all helpu unigolion sy’n galaru i wella’n emosiynol?
JEHOFA—Y “DUW SY’N CYSURO”
3, 4. Pam gallwn ni fod yn sicr fod Jehofa yn deall bod angen cysur ar rywun sy’n galaru?
3 Heb os, ffynhonnell pob cysur yw ein Tad nefol trugarog Jehofa. (Darllen 2 Corinthiaid 1:3, 4.) Jehofa yw’r esiampl orau o ddangos cydymdeimlad, a dywedodd: “Fi ydy’r un sy’n eich cysuro chi!”—Esei. 51:12; Salm 119:50, 52, 76.
4 Mae ein Tad trugarog hefyd wedi colli rhai oedd yn annwyl iddo, fel Abraham, Isaac, Jacob, Moses, a’r Brenin Dafydd. (Num. 12:6-8; Math. 22:31, 32; Act. 13:22) Yn ôl y Beibl, mae Jehofa yn dyheu am gael atgyfodi’r rhai y mae’n hiraethu amdanyn nhw. (Job 14:14, 15) Byddan nhw’n hapus ac yn berffaith iach. Cofia hefyd fod Mab Duw, yr un oedd “yn rhoi pleser pur iddo bob dydd” wedi ei ladd yn y ffordd fwyaf ofnadwy. (Diar. 8:22, 30) Nid yw geiriau’n gallu disgrifio’r boen roedd yn rhaid i Jehofa fod wedi ei dioddef.—Ioan 5:20; 10:17.
5, 6. Sut mae Jehofa yn ein cysuro ni?
5 Gallwn fod yn llawn hyder y bydd Jehofa yn gweithredu er ein lles. Ni ddylen ni feddwl ddwywaith cyn troi ato mewn gweddi i fynegi ein teimladau a’n galar. Braf yw gwybod bod Jehofa yn deall ein bod ni mewn poen ac yn rhoi’r cysur rydyn ni’n ei angen gymaint. Ond sut mae’n gwneud hynny?
6 Un ffordd mae Duw yn ein helpu ni yw trwy ddefnyddio’r ysbryd glân i’n hannog yn ein blaenau. (Act. 9:31) Mae grym gweithredol Duw yn rhoi pob cysur inni. Addawodd Iesu y byddai ei Dad nefol yn “siŵr o roi’r Ysbryd Glân i’r rhai sy’n gofyn iddo!” (Luc 11:13) Mae Susi, a ddyfynnwyd eisoes, yn dweud: “Ar adegau, gwnaethon ni syrthio ar ein pennau-gliniau ac erfyn ar Jehofa am gysur. Bob tro, roedd Duw, sy’n llawn heddwch, yn gwarchod ein calonnau a’n meddyliau.”—Darllen Philipiaid 4:6, 7.
IESU—ARCHOFFEIRIAD TRUGAROG
7, 8. Pam gallwn ni fod yn hyderus y bydd Iesu yn rhoi cysur?
7 Tra oedd ar y ddaear, roedd geiriau a gweithredoedd tyner Iesu yn adlewyrchu’n berffaith empathi ei Dad nefol. (Ioan 5:19) Anfonwyd Iesu i gysuro’r “rhai sydd wedi torri eu calonnau” a’r “rhai sy’n galaru.” (Esei. 61:1, 2; Luc 4:17-21) Dyna pam roedd yn tosturio ac yn cydymdeimlo gymaint, oherwydd ei fod mor ymwybodol o ddioddefaint pobl a’i fod eisiau lleddfu’r dioddefaint hwnnw o waelod ei galon.—Heb. 2:17.
8 Pan oedd yn ifanc, mae’n debyg y byddai Iesu wedi gorfod profi’r boen o golli anwyliaid. Yn ôl pob tebyg, bu farw Joseff, ei dad mabwysiadol, pan oedd Iesu yn ddyn ifanc. * Meddylia am Iesu, ac yntau yn ei arddegau neu yn ei ugeiniau cynnar, yn gorfod delio gyda’i alar ei hun, yn ogystal â phoeni am deimladau ei fam, ei frodyr, a’i chwiorydd.
9. Sut dangosodd Iesu ei gydymdeimlad pan fu farw Lasarus?
9 O’r cychwyn cyntaf, roedd gweinidogaeth Iesu yn dangos ei fod yn deall Ioan 11:33-36.
pobl ac yn cydymdeimlo â nhw. Gwelwn ni hyn ar waith pan fu farw ei ffrind annwyl Lasarus. Er bod Iesu yn gwybod ei fod am atgyfodi Lasarus, teimlodd i’r byw y boen a oedd wedi llifo dros Mair a Martha. Roedd wedi cynhyrfu drwyddo a dyma’n torri allan i wylo.—10. Pam gallwn ni fod yn hyderus y bydd Iesu yn cydymdeimlo â ni heddiw?
10 Sut gall cydymdeimlad a chysur Iesu ein helpu ni heddiw? Yn ôl yr Ysgrythurau, “Mae Iesu y Meseia yr un fath bob amser—ddoe, heddiw ac am byth!” (Heb. 13:8) Gan fod Iesu, “awdur bywyd,” yn deall yn union sut beth yw profedigaeth, “mae’n gallu’n helpu ni pan fyddwn ni’n wynebu temtasiwn,” neu brawf. (Act. 3:15; Heb. 2:10, 18) Felly, gallwn fod yn hyderus fod Crist yn parhau i gydymdeimlo â’n gofid, i ddeall ein galar, ac i roi cysur “pan mae angen help arnon ni.”—Darllen Hebreaid 4:15, 16.
ANOGAETH O’R YSGRYTHURAU
11. Pa adnodau sydd yn dy gysuro di?
11 Yn ogystal â’r hanes am Iesu’n galaru am Lasarus, mae Gair Duw yn llawn adnodau cysurlon. A does dim rhyfedd, oherwydd “cafodd pethau fel yma eu hysgrifennu yn y gorffennol i’n dysgu ni, er mwyn i’r ysgrifau sanctaidd ein hannog ni i fod yn amyneddgar wrth edrych ymlaen i’r dyfodol.” (Rhuf. 15:4) Os wyt ti’n galaru, gelli dithau hefyd ddod o hyd i gysur yn yr adnodau canlynol:
-
“Mae’r ARGLWYDD yn agos at y rhai sydd wedi torri eu calonnau. Mae e’n achub y rhai sydd wedi anobeithio.”—Salm 34:18, 19.
-
“Pan oeddwn i’n poeni am bob math o bethau, roedd dy gefnogaeth di yn fy ngwneud i’n llawen.”—Salm 94:19.
-
“Bydd ein Harglwydd Iesu Grist, a Duw ein Tad (sydd wedi’n caru ni, ac wedi bod mor hael yn rhoi hyder ddaw byth i ben a dyfodol sicr i ni), yn eich cysuro ac yn rhoi nerth i chi wneud a dweud beth sy’n dda.”—2 Thes. 2:16, 17. *
CYSUR Y GYNULLEIDFA
12. Beth yw un ffordd bwysig o fod yn gysur i eraill?
12 Gall y gynulleidfa Gristnogol hefyd roi cysur i’r rhai sy’n galaru. (Darllen 1 Thesaloniaid 5:11.) Sut gelli di gysuro rhai sydd ag “iselder ysbryd”? (Diar. 17:22) Cofia fod yna “amser i gadw’n dawel ac amser i siarad.” (Preg. 3:7) Mae Dalene yn esbonio: “Mae angen amser ar rai sy’n galaru er mwyn mynegi eu poen meddwl a’u teimladau. Felly, y peth gorau y medri di ei wneud ydy gwrando—heb dorri ar draws.” Ar ôl i frawd Junia ei ladd ei hun, dywedodd hi: “Er nad wyt ti’n gallu deall yn iawn yr hyn maen nhw’n ei ddioddef, yr hyn sy’n cyfrif ydy dy fod ti eisiau deall yr hyn maen nhw’n ei deimlo.”
13. Beth sy’n rhaid inni gadw mewn cof ynglŷn â galaru?
13 Cofia hefyd nad yw pawb yn mynegi eu galar yn yr un ffordd. Weithiau, gan fod poen emosiynol yn llechu yng nghalon person, gall fod yn anodd i’r unigolyn fynegi ei deimladau mwyaf dwfn. Dywed Gair Duw: “Dim ond y galon ei hun sy’n gwybod mor chwerw ydy hi, a does neb arall yn gallu rhannu Diar. 14:10) Hyd yn oed pan fydd person yn mynegi’r ffordd y mae’n teimlo, dydy hi ddim bob amser yn hawdd i eraill ddeall beth mae’n ceisio ei ddweud.
ei llawenydd.” (14. Sut gallwn ni roi gair o gysur i’r rhai sy’n galaru?
14 Teg yw dweud felly ei bod hi’n anodd gwybod beth i’w ddweud wrth rywun sydd wedi ei lethu gan brofedigaeth. Er hynny, dywed y Beibl fod “geiriau doeth yn iacháu.” (Diar. 12:18) Mae llawer wedi troi at y llyfryn Pan Fo Rhywun ’Rydych Yn Ei Garu Yn Marw er mwyn gwybod sut i helpu rhai sy’n galaru. * Yn aml na pheidio, y peth fydd yn helpu fwyaf yw crio gyda’r sawl sy’n crio. (Rhuf. 12:15) “Dagrau yw iaith fy nghalon bellach,” cyfaddefodd Gaby sydd wedi colli ei gŵr. “Dyna pam yr ydw i’n cael fy nghysuro pan fydd fy ffrindiau yn crio efo fi. Bryd hynny, dydw i ddim yn teimlo ar fy mhen fy hun yn fy ngalar.”
15. Sut mae’n bosibl inni roi cysur os ydyn ni’n ei chael hi’n anodd gwneud hynny wyneb yn wyneb? (Gweler hefyd y blwch “Geiriau o Gysur.”)
15 Os wyt ti’n ei ffeindio hi’n anodd siarad wyneb yn wyneb, un syniad fyddai cydymdeimlo drwy anfon cerdyn, e-bost, neges destun, neu lythyr. Gallet ti ddyfynnu adnod gysurlon, dwyn i’r cof rinweddau da’r sawl a fu farw, a hel atgofion hapus amdano. “Roedd derbyn neges fer galonogol neu wahoddiad i dreulio amser gyda fy nghyd-Gristnogion yn helpu yn fwy nag y gallaf ddweud,” meddai Junia. “Roedd y negeseuon hynny’n gwneud
imi deimlo bod fy mrodyr yn fy ngharu ac yn gofalu amdanaf.”16. Beth yw un ffordd effeithiol o roi cysur?
16 Gall ein gweddïau hefyd helpu ein brodyr sy’n galaru. Gallwn ni weddïo drostyn nhw neu hyd yn oed gyda nhw. Er byddai gweddïo a mynegi dy deimladau yn anodd mewn sefyllfa emosiynol o’r fath, gall dy weddi fod yn gysur mawr hyd yn oed os byddi di’n crio a dy lais yn crynu. “Weithiau, pan fydd chwiorydd yn dod i fy nghysuro,” meddai Dalene, “byddaf yn gofyn iddyn nhw a fydden nhw’n fodlon dweud gweddi. Maen nhw’n dechrau gweddïo, yn aml yn ei chael hi’n anodd siarad ar y cychwyn, ond bob amser, o fewn ychydig o frawddegau, mae’r llais yn cryfhau ac maen nhw’n rhoi gweddi hyfryd o’r galon. Mae eu ffydd gref, eu cariad, a’u consýrn wedi cryfhau fy ffydd.”
PARHAU I ROI CYSUR
17-19. Pam mae angen rhoi cysur yn barhaol?
17 Mae’r broses alaru yn amrywio o un person i’r llall. Felly, bydda’n barod i helpu, nid yn unig yn ystod y dyddiau cynnar pan fydd ffrindiau a’r teulu o gwmpas, ond hefyd yn y misoedd sy’n dilyn pan fydd eraill wedi mynd yn ôl i’r arferol. “Mae ffrind yn ffyddlon bob amser; a brawd wedi ei eni i helpu mewn helbul.” (Diar. 17:17) Dylen ni gysuro’r rhai sy’n galaru hyd nes iddyn nhw deimlo’n well.—Darllen 1 Thesaloniaid 3:7.
18 Pwysig yw cofio bod adegau penodol o’r flwyddyn, caneuon, ffotograffau, digwyddiadau, neu hyd yn oed arogleuon, synau, a thymhorau neilltuol yn gallu achosi cyfnodau o alar dwys iawn. Pan fydd gŵr neu wraig weddw yn gorfod gwneud rhywbeth ar eu pennau eu hunain am y tro cyntaf, fel mynd i’r cynulliad neu’r Goffadwriaeth, gall hyn fod yn boenus iawn. Esboniodd un brawd: “Roeddwn i’n disgwyl i fy mhen blwydd priodas cyntaf ar ôl iddi farw fod yn anodd, a dyna sut oedd hi. Ond gwnaeth ychydig o’r brodyr drefnu imi dreulio amser gyda fy ffrindiau gorau er mwyn imi beidio â bod ar fy mhen fy hun.”
19 Cofia hefyd fod angen anogaeth ar rai sy’n galaru drwy gydol yr amser. “Yn aml, mae’r help a’r cyfeillgarwch sy’n cael ei roi pan nad oes pen blwydd arbennig yn medru bod yn fuddiol dros ben,” esboniodd Junia. “Mae’r adegau annisgwyl hynny yn dod â chymaint o gysur imi.” Yn wir, ni allwn ni ddileu galar na llenwi’r bwlch a achoswyd gan brofedigaeth yn llwyr, ond gallwn roi mesur o gysur drwy helpu rhai sy’n galaru mewn ffyrdd ymarferol. (1 Ioan 3:18) Mae Gaby yn cofio: “Rwyf mor ddiolchgar i Jehofa am sicrhau bod henuriaid cariadus wedi fy arwain fesul cam drwy’r cyfnodau anodd. Maen nhw wedi gwneud imi deimlo breichiau cariadus Jehofa yn fy nghofleidio.”
20. Pam mae addewidion Jehofa yn rhoi cysur mawr inni?
20 Braf yw gwybod bod Jehofa yn mynd i ddileu galar am byth pan “fydd pawb sy’n eu beddau yn clywed llais Mab Duw ac yn dod allan”! (Ioan 5:28, 29) Yn ôl y Beibl: “Bydd marwolaeth wedi’i lyncu am byth. Bydd fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn sychu’r dagrau oddi ar bob wyneb.” (Esei. 25:8) Yna, yn hytrach na “chrio gyda’r rhai sy’n crio,” gallwn fod “yn llawen gyda phobl sy’n hapus.”—Rhuf. 12:15.
^ Par. 8 Ar ôl i Iesu droi’n 12 oed, does dim sôn am Joseff. Pan gyflawnodd Iesu ei wyrth gyntaf, sef troi’r dŵr yn win, does dim cyfeiriad at Joseff o gwbl yn yr hanes nac ar ôl hynny chwaith. Pan oedd Iesu ar y stanc, gofynnodd i’r apostol Ioan ofalu am ei fam Mair, rhywbeth na fyddai Iesu’n debygol o fod wedi ei wneud petai Joseff yn fyw o hyd.—Ioan 19:26, 27.
^ Par. 11 Adnodau eraill y mae rhai wedi cael cysur o’u darllen yw Salm 20:1, 2; 31:7; 38:8, 9, 15; 55:22; 121:1, 2; Eseia 57:15; 66:13; Philipiaid 4:13; a 1 Pedr 5:7.
^ Par. 14 Gweler hefyd yr erthygl “Comfort the Bereaved, as Jesus Did,” yn rhifyn 1 Tachwedd 2010 o’r Tŵr Gwylio Saesneg.