Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Sut i Wneud Dy Astudiaeth Bersonol o’r Beibl yn Fwy Effeithiol a Dymunol

Sut i Wneud Dy Astudiaeth Bersonol o’r Beibl yn Fwy Effeithiol a Dymunol

ROEDD rhaid i Josua arwain cenedl Israel i mewn i Wlad yr Addewid. Roedd hyn yn mynd i fod yn anodd iawn. Ond, roedd Jehofa wedi ei gryfhau a’i annog drwy ddweud: “Rhaid i ti fod yn gryf ac yn ddewr iawn!” Dywedodd wrth Josua, petai’n darllen ac yn dilyn y Gyfraith, byddai’n gwneud penderfyniadau doeth ac yn llwyddo.—Josua 1:7, 8.

Rydyn ni’n byw yn ystod “adegau ofnadwy o anodd,” felly mae ein bywydau ninnau’n gallu bod yn anodd. (2 Timotheus 3:1) Os ydyn ni eisiau llwyddo fel Josua, mae’n rhaid inni ddilyn y cyngor a roddodd Jehofa iddo. Mae angen inni ddarllen y Beibl yn rheolaidd a defnyddio’r hyn rydyn ni’n ei ddysgu i wneud penderfyniadau da.

Ond, efallai dydy rhai ohonon ni ddim yn gwybod sut i astudio, neu efallai dydyn ni ddim yn mwynhau astudio. Er hynny, mae astudiaeth bersonol o’r Beibl yn bwysig iawn. Wrth iti ystyried y blwch “ Tria’r Awgrymiadau Hyn,” byddi di’n gweld awgrymiadau a fydd yn dy helpu di i elwa ar dy astudiaeth a’i mwynhau’n fwy byth.

Canodd y salmydd: “Arwain fi i ddilyn llwybr dy orchmynion; dyna dw i eisiau’i wneud.” (Salm 119:35) Gelli dithau hefyd fwynhau astudio Gair Duw. Byddi di’n darganfod llawer o bwyntiau hyfryd wrth iti ddal ati i astudio’r Beibl.

Er nad oes rhaid iti arwain cenedl gyfan fel Josua, mae gen ti dy broblemau dy hun. Felly, fel Josua, astudia a dilyna Air Duw. Os byddi di’n gwneud hyn, byddi di’n gwneud penderfyniadau doeth ac yn llwyddo.