Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 31

Trysora’r Fraint o Weddïo

Trysora’r Fraint o Weddïo

“Derbyn fy ngweddi fel offrwm o arogldarth.”—SALM 141:2.

CÂN 47 Gweddïa ar Jehofa Bob Dydd

CIPOLWG a

1. Sut dylen ni deimlo am y fraint o weddïo ar Jehofa?

 MAE Jehofa wedi rhoi inni’r fraint anhygoel o fynd ato mewn gweddi. Meddylia pa mor arbennig ydy hynny. Jehofa sydd wedi creu’r nefoedd a’r ddaear, ond eto gallwn fwrw ein bol iddo ar unrhyw adeg, ac mewn unrhyw iaith, heb wneud apwyntiad. P’un a ydyn ni mewn carchar neu ysbyty, rydyn ni’n hollol sicr y bydd ein Tad cariadus yn gwrando arnon ni pan fyddwn ni’n gweddïo arno. Dyna rywbeth ddylen ni byth ei gymryd yn ganiataol.

2. Sut roedd y Brenin Dafydd yn dangos ei fod yn trysori’r fraint o weddïo?

2 Roedd y Brenin Dafydd yn trysori’r fraint o weddïo. Canodd i Jehofa: “Derbyn fy ngweddi fel offrwm o arogldarth.” (Salm 141:1, 2) Yn nyddiau Dafydd, roedd yr offeiriaid yn defnyddio arogldarth oedd wedi cael ei baratoi’n ofalus iawn. (Ex. 30:34, 35) Mewn ffordd debyg, roedd Dafydd eisiau meddwl yn ofalus am beth roedd am ei ddweud cyn iddo weddïo. A dyna rydyn ni eisiau ei wneud hefyd er mwyn i’n gweddïau fod yn hyfryd i Jehofa.

3. Beth ddylai ein hagwedd ni fod wrth weddïo, a pham?

3 Pan fyddwn ni’n gweddïo ar Jehofa, dylen ni fynd ato yn llawn parch. Meddylia am weledigaethau rhyfeddol Eseia, Eseciel, Daniel, ac Ioan. Er eu bod nhw i gyd yn wahanol, roedd pob un yn disgrifio Jehofa fel Brenin gogoneddus. Gwelodd Eseia Jehofa yn “eistedd ar orsedd uchel.” (Esei. 6:1-3) Gwelodd Eseciel Jehofa’n eistedd ar ei gerbyd nefol a “golau llachar yn disgleirio o’i gwmpas. Roedd mor hardd â’r enfys.” (Esec. 1:26-28) Gwelodd Daniel yr “Un Hynafol” yn gwisgo dillad gwyn a fflamau’n dod o’i orsedd. (Dan. 7:9, 10) A gwelodd Ioan Jehofa’n eistedd ar orsedd gydag enfys emrallt hardd o’i gwmpas. (Dat. 4:2-4) Yn bendant, mae Jehofa mor ogoneddus, does neb tebyg iddo, ac mae myfyrio ar hynny yn ein hatgoffa ni pa mor arbennig ydy hi i fynd o’i flaen mewn gweddi. Mae hefyd yn ein helpu ni i ddeall pam mae hi mor bwysig inni weddïo’n llawn parch. Ond sut dylen ni weddïo?

“DYMA SUT DYLECH CHI WEDDÏO”

4. Beth rydyn ni’n ei ddysgu am weddi o eiriau Iesu ym Mathew 6:9, 10?

4 Darllen Mathew 6:9, 10. Yn ei Bregeth ar y Mynydd, dysgodd Iesu ei ddisgyblion sut i weddïo mewn ffordd sy’n plesio Duw. Dechreuodd drwy ddweud, “Dyma sut dylech chi weddïo,” ac aeth yn syth ymlaen i sôn am y pethau pwysicaf—pethau fel sancteiddio enw Duw, y Deyrnas fydd yn cael gwared ar elynion Duw, a’r holl fendithion mae Duw wedi bwriadu ar gyfer y ddaear, a’r ddynolryw, yn y dyfodol. Drwy gynnwys pethau fel hyn yn ein gweddïau, byddwn ni’n dangos pa mor bwysig ydy ewyllys Duw inni.

5. A ydy hi’n briodol inni weddïo am bethau personol?

5 Yn rhan nesaf y weddi, dangosodd Iesu ei bod yn briodol inni weddïo am bethau personol. Gallwn ofyn i Jehofa roi digon o fwyd inni am y diwrnod, i faddau ein pechodau, i’n cadw ni rhag temtasiwn, ac i’n hachub ni rhag yr un drwg. (Math. 6:11-13) Pan fyddwn ni’n gofyn i Jehofa am y pethau hyn, rydyn ni’n cydnabod ein bod ni’n dibynnu arno, ac yn dangos ein bod ni eisiau ei blesio.

Beth gall gŵr weddïo amdano gyda’i wraig? (Gweler paragraff 6) b

6. Ai dim ond y pethau sydd yn y weddi enghreifftiol ydyn ni’n cael gweddïo amdanyn nhw? Esbonia.

6 Doedd Iesu ddim yn disgwyl i’w ddilynwyr ailadrodd y weddi hon air am air. Roedd Iesu hefyd yn gweddïo am bethau a oedd ar ei feddwl. (Math. 26:39, 42; Ioan 17:1-26) Gallwn ninnau weddïo am unrhyw beth sy’n ein poeni. Er enghraifft, gallwn ni weddïo am ddealltwriaeth a doethineb i wneud penderfyniad. (Salm 119:33, 34) Gallwn ni weddïo am help i wybod sut i fynd o gwmpas aseiniad anodd. (Diar. 2:6) Gall rhieni weddïo am eu plant, a gall plant weddïo am eu rhieni. A dylen ni i gyd weddïo am y rhai sy’n astudio’r Beibl, a’r rhai rydyn ni’n eu cyfarfod yn y weinidogaeth. Ond wrth gwrs, dylen ni wneud mwy na dim ond gofyn am bethau.

Pa bethau gallwn ni foli Jehofa a diolch iddo amdanyn nhw yn ein gweddïau? (Gweler paragraffau 7-9) c

7. Pam dylen ni roi clod i Jehofa yn ein gweddïau?

7 Does neb yn haeddu clod yn fwy na Jehofa, ac am reswm da hefyd. Mae “yn dda ac yn maddau.” Dywedodd y Salmydd wrth Jehofa: “Rwyt ti . . . mor drugarog a charedig, rwyt mor amyneddgar! Mae dy haelioni a dy ffyddlondeb di yn anhygoel!” (Salm 86:5, 15) Felly, mae’n hynod o bwysig ein bod ni’n moli Jehofa yn ein gweddïau.

8. Beth yw rhai o’r pethau gallwn ni ddiolch i Jehofa amdanyn nhw? (Salm 104:12-15, 24)

8 Yn ogystal â rhoi clod i Jehofa, mae gynnon ni gymaint o bethau i ddiolch iddo amdanyn nhw. Er enghraifft, yr holl flodau lliwgar, digonedd o fwyd blasus, a chwmpeini ffrindiau annwyl. Mae wedi rhoi hyn i gyd inni, a mwy, dim ond er mwyn ein gwneud ni’n hapus. (Darllen Salm 104:12-15, 24.) Ond yn bwysicach na hynny, rydyn ni’n diolch i Jehofa am y wledd o fwyd ysbrydol, a’r gobaith hyfryd sydd gynnon ni ar gyfer y dyfodol.

9. Beth all ein hatgoffa ni i ddiolch i Jehofa? (1 Thesaloniaid 5:17, 18)

9 Gall fod mor hawdd anghofio diolch i Jehofa am bopeth mae ef wedi ei wneud droston ni. Felly, beth am wneud rhestr o’r pethau penodol rwyt ti wedi gweddïo amdanyn nhw a checio bob hyn a hyn i weld sut mae Jehofa wedi ateb y gweddïau hynny. Yna, gweddïa ar Jehofa i ddiolch iddo am ei help. (Darllen 1 Thesaloniaid 5:17, 18.) Meddylia pa mor hapus ydyn ni pan fydd rhywun yn diolch inni am rywbeth. Mae’r un peth yn wir yn achos Jehofa. Pan fyddwn ni’n cofio diolch iddo am ateb ein gweddïau, rydyn ni’n gwneud ei galon yn llon. (Col. 3:15) Ond pa reswm pwysig arall sydd gynnon ni i ddiolch i Dduw?

DIOLCHA I JEHOFA AM EI FAB ANNWYL

10. Yn ôl 1 Pedr 2:21, pa reswm sydd gynnon ni i ddiolch i Jehofa am anfon Iesu i’r ddaear?

10 Darllen 1 Pedr 2:21. Anfonodd Jehofa ei Fab annwyl i’n dysgu ni. Pam dylen ni ddiolch i Jehofa am wneud hynny? Oherwydd, o edrych ar fywyd Iesu, rydyn ni’n dysgu cymaint am Jehofa ei hun, yn ogystal â sut i’w blesio. Mae dangos ffydd yn aberth Iesu hefyd yn agor y ffordd inni allu cael perthynas agos a heddychlon â Jehofa.—Rhuf. 5:1.

11. Pam rydyn ni’n gweddïo yn enw Iesu?

11 Rydyn ni’n ddiolchgar iawn bod Jehofa’n gadael inni weddïo arno drwy Iesu, ac yn defnyddio ei Fab fel sianel i ateb ein gweddïau. Felly, bydd Jehofa’n sicr o wrando ar ein gweddïau a’u hateb pan ydyn ni’n eu gofyn yn enw Iesu. Esboniodd Iesu: “Bydda i’n gwneud beth bynnag ofynnwch chi am awdurdod i’w wneud, fel bod y Mab yn anrhydeddu’r Tad.”—Ioan 14:13, 14.

12. Pa reswm arall sydd gynnon ni i ddiolch i Jehofa am ei Fab?

12 Mae Jehofa yn maddau ein pechodau ar sail aberth Iesu. Mae’r Beibl yn disgrifio Iesu fel ein Harchoffeiriad sy’n “eistedd . . . yn y nefoedd, ar yr ochr dde i’r Duw Mawr ei hun.” (Heb. 8:1) Hefyd, Iesu ydy’r un sydd “gyda’r Tad,” ac yn ein helpu ni. (1 Ioan 2:1) Rydyn ni mor ddiolchgar bod Jehofa wedi rhoi Archoffeiriad inni sydd, nid yn unig yn “pledio ar ein rhan ni,” ond sydd hefyd yn cydymdeimlo â ni, ac yn deall ein gwendidau. (Rhuf. 8:34; Heb. 4:15) Wedi’r cwbl, rydyn ni’n amherffaith, felly heb aberth Iesu fydden ni ddim yn gallu troi at Jehofa mewn gweddi. Allwn ni ddim diolch digon i Jehofa am yr anrheg amhrisiadwy mae ef wedi ei rhoi inni—ei Fab annwyl!

GWEDDÏA DROS DY FRODYR A CHWIORYDD

13. Ar y noson cyn iddo farw, sut dangosodd Iesu ei fod yn caru ei ddisgyblion?

13 Ar y noson cyn iddo farw, gweddïodd Iesu dros ei ddisgyblion am gyfnod hir, yn gofyn i’w Dad “eu hamddiffyn nhw rhag yr un drwg.” (Ioan 17:15) Meddylia pa mor gariadus oedd hynny! Roedd Iesu’n meddwl am ei ddisgyblion er ei fod ar fin wynebu treial difrifol ei hun.

Beth gallwn ni ei gynnwys yn ein gweddïau dros ein brodyr a chwiorydd? (Gweler paragraffau 14-16) d

14. Sut gallwn ni ddangos ein bod ni’n caru ein brodyr a chwiorydd?

14 Gallwn ni efelychu Iesu drwy weddïo’n aml dros ein brodyr a chwiorydd, yn hytrach na chanolbwyntio arnon ni’n hunain o hyd. Bydd gwneud hynny yn dangos ein bod ni’n dilyn gorchymyn Iesu i garu ein gilydd. Byddwn ni hefyd yn dangos i Jehofa cymaint rydyn ni’n caru ein brodyr a chwiorydd. (Ioan 13:34) Dydy gweddïau fel hyn byth yn wastraff amser. Wedi’r cwbl, mae Gair Duw yn dweud bod “gweddi daer rhywun sydd â pherthynas iawn gyda Duw yn beth grymus ac effeithiol.”—Iago 5:16.

15. Pam mae angen inni weddïo dros ein brodyr a chwiorydd?

15 Mae angen inni weddïo dros ein brodyr a chwiorydd am fod pawb yn wynebu treial o ryw fath. Gallwn ni ofyn i Jehofa yn benodol i helpu’r rhai sy’n dioddef oherwydd salwch, trychinebau naturiol, rhyfel, erledigaeth, neu anawsterau eraill. Gallwn ni hefyd weddïo dros y rhai sy’n gwneud aberthau er mwyn helpu’r rhai sydd mewn angen. Wyt ti’n adnabod rhywun sy’n wynebu heriau tebyg? Beth am eu henwi nhw yn dy weddïau personol? Drwy wneud hynny, byddwn ni’n dangos cariad go iawn.

16. Pam dylen ni weddïo dros y rhai sydd yn cymryd y blaen yn y gynulleidfa?

16 Mae ein gweddïau dros y rhai sy’n cymryd y blaen yn y gynulleidfa yn eu helpu nhw. Ac maen nhw’n gwerthfawrogi hynny’n fawr iawn. Roedd yr apostol Paul yn teimlo’r un fath. Ysgrifennodd: “Gweddïwch drosto i hefyd. Gweddïwch y bydd Duw’n rhoi’r geiriau iawn i mi bob tro bydda i’n agor fy ngheg, er mwyn i mi rannu dirgelwch y newyddion da yn gwbl ddi-ofn.” (Eff. 6:19) Heddiw hefyd, mae llawer o frodyr yn gweithio’n galed wrth gymryd y blaen. Drwy weddïo drostyn nhw, a gofyn i Jehofa fendithio eu gwaith, rydyn ni’n dangos ein bod ni’n eu caru.

WRTH WEDDÏO’N GYHOEDDUS

17-18. Pryd efallai bydd gofyn inni weddïo’n gyhoeddus, a beth dylen ni ei gofio?

17 Ar adegau, efallai bydd rhywun yn gofyn inni weddïo ar ran pobl eraill. Er enghraifft, efallai bydd chwaer yn mynd â chwaer arall ar astudiaeth Feiblaidd ac yn gofyn iddi ddweud gweddi. Os nad ydy’r chwaer arall yn adnabod y fyfyrwraig yn dda iawn, efallai bydd yn well ganddi ddweud y weddi ar ddiwedd yr astudiaeth yn hytrach nag ar y dechrau. Drwy wneud hynny, bydd hi’n gallu addasu’r weddi yn ôl anghenion y fyfyrwraig.

18 Ar y llaw arall, mae rhai brodyr yn cael y fraint o weddïo yng nghyfarfodydd y gynulleidfa neu ar gyfer y weinidogaeth. Dylai’r brodyr hynny gofio beth ydy pwrpas y cyfarfod. Dydy gweddi ddim yn gyfle i roi cyngor i’r gynulleidfa, nac i wneud cyhoeddiadau. Fel arfer, pum munud sydd wedi ei neilltuo ar gyfer cân a gweddi yn y cyfarfodydd, felly ddylai’r brawd sy’n gofyn gweddi ddim mynd “ymlaen yn ddiddiwedd,” yn enwedig ar ddechrau’r cyfarfod.—Math. 6:7.

GWNA WEDDI YN FLAENORIAETH

19. Beth fydd yn ein helpu ni i fod yn barod am ddydd barn Jehofa?

19 Wrth i ddydd barn Jehofa agosáu, mae hi mor bwysig inni wneud gweddi’n flaenoriaeth yn ein bywydau bob dydd. Fel dywedodd Iesu: “Cadwch eich llygaid yn agored! Gweddïwch y byddwch chi’n gallu osgoi’r pethau ofnadwy sy’n mynd i ddigwydd.” (Luc 21:36) Felly os ydyn ni’n gweddïo yn rheolaidd, bydd ein ffydd yn gryf, a fydd dydd barn Jehofa ddim yn ein dal ni allan.

20. Sut gall ein gweddïau fod fel arogldarth hyfryd i Jehofa?

20 Yn yr erthygl hon, rydyn ni wedi trafod pa mor arbennig ydy’r fraint o weddïo. Rydyn ni wedi gweld mai ewyllys Jehofa ydy’r peth pwysicaf y gallwn ni weddïo amdano. Ond gallwn ni hefyd diolch iddo am ei Fab a’i Deyrnas. Ar ben hynny, gallwn ni weddïo dros ein brodyr a chwiorydd yn ogystal â’n hanghenion corfforol ac ysbrydol ein hunain. Os byddwn ni’n meddwl yn ofalus am beth rydyn ni’n ei ddweud yn ein gweddïau, byddwn ni’n dangos ein bod ni’n trysori’r fraint anhygoel honno. Wedyn bydd ein geiriau fel arogldarth hyfryd i Jehofa, ac “yn ei blesio.”—Diar. 15:8.

CÂN 45 Myfyrdod Fy Nghalon

a Mae’n fraint mor arbennig i fynd at Jehofa mewn gweddi. Felly rydyn ni eisiau i’n gweddïau fod yn rhywbeth hyfryd sy’n ei blesio. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod beth sy’n addas i weddïo amdano, a byddwn ni hefyd yn ystyried beth dylen ni ei gofio pan fydd eraill yn gofyn inni weddïo ar eu rhan.

b DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae gŵr yn gweddïo gyda’i wraig am eu plant yn yr ysgol, am un o’u rhieni sy’n sâl, ac am rywun sy’n astudio’r Beibl.

c DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae brawd ifanc yn diolch i Jehofa am aberth Iesu, am ein planed hyfryd, ac am fwyd da.

d DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae chwaer yn gweddïo am i ysbryd Jehofa fod ar y Corff Llywodraethol, ac am iddo helpu’r rhai sy’n dioddef oherwydd trychinebau neu erledigaeth.