Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Llun agosach o’r llwyfan, a’r baner uwch ei phen

1922—Can Mlynedd yn Ôl

1922—Can Mlynedd yn Ôl

“DIOLCH i Dduw, mae ein Harglwydd Iesu Grist wedi rhannu ei fuddugoliaeth gyda ni!” (1 Cor. 15:57) Dyna oedd testun y flwyddyn ym 1922. Roedd yn atgoffa Myfyrwyr y Beibl y byddai Jehofa yn gwobrwyo eu ffyddlondeb. A dyna’n union wnaeth Jehofa y flwyddyn honno. Roedd ei gefnogaeth yn amlwg wrth iddyn nhw ddechrau printio a rhwymo eu llyfrau eu hunain, a sôn am y Deyrnas dros y radio. Ac yn sicr, roedd bendith Jehofa ar ei bobl yn hwyrach ymlaen ym 1922 pan wnaethon nhw gyfarfod mewn cynhadledd arwyddocaol yn Cedar Point, Ohio, UDA. Mae effeithiau’r gynhadledd honno yn dal i’w gweld hyd heddiw.

“SYNIAD CYFFROUS”

Wrth i’r gwaith pregethu gynyddu, roedd ’na fwy o angen am lenyddiaeth. Er roedd y brodyr yn cynhyrchu cylchgronau ym Methel Brooklyn, roedden nhw’n dal i ddibynnu ar gwmnïau printio allanol ar gyfer eu llyfrau clawr caled. Ond daeth cyfnod lle doedd hyd yn oed y cwmnïau printio ddim yn gallu cadw i fyny â’r gofyn. Felly, dyma’r Brawd Rutherford yn holi’r Brawd Robert Martin, oedd yn arolygwr yn ffatri Bethel, os oedd hi’n bosib printio eu llyfrau eu hunain.

Ffatri Stryd Concord yn Brooklyn, Efrog Newydd

Wrth gofio yn ôl, dywedodd y Brawd Martin, “Roedd yn syniad cyffrous oherwydd roedd yn golygu agor ffatri oedd yn gallu cynhyrchu llyfrau.” Felly, aeth y brodyr ati i rentio lle yn 18 Stryd Concord, Brooklyn, a chasglu’r holl offer fydden nhw ei angen.

Doedd pawb ddim yn hapus am hyn. Gwnaeth llywydd un o’r cwmnïau oedd wedi bod yn cynhyrchu ein llyfrau benderfynu galw heibio’r ffatri newydd. Dywedodd: “Ylwch, mae gynnoch chi’r holl offer crand ’ma, a dim syniad sut i’w defnyddio. Ymhen chwe mis, bydd y cwbl wedi malu’n rhacs gynnoch chi!”

“Oedd ganddo bwynt,” meddai’r Brawd Martin. “Ond doedd ef ddim wedi meddwl am yr Arglwydd. Oedden ni’n gwybod byddai Jehofa wastad yn ein helpu ni, yr un fath ag arfer.” Oedd y Brawd Martin yn llygaid ei le. Cyn pen dim, roedden nhw’n cynhyrchu 2,000 o lyfrau bob dydd!

Brodyr yn sefyll wrth ymyl eu peiriannau leinoteip yn y ffatri

CYRRAEDD MILOEDD DROS Y RADIO

Nid printio llyfrau oedd yr unig ffordd roedd Tystion Jehofa yn lledaenu’r newyddion da. Ar bnawn dydd Sul, Chwefror 26, 1922, dechreuon nhw ddarlledu dros y radio. Rhoddodd y Brawd Rutherford yr anerchiad “Miliynau’n Awr yn Fyw Ni Fyddant Feirw Byth,” ar orsaf radio KOG yn Los Angeles, Califfornia, UDA.

Gwrandawodd tua 25,000 o bobl ar y rhaglen honno. Gwnaeth rhai ohonyn nhw hyd yn oed anfon llythyrau i ddiolch am y darllediad. Daeth un o’r llythyrau hynny gan Willard Ashford o Santa Ana, Califfornia. Roedd yn canmol y Brawd Rutherford i’r cymylau am anerchiad “mor difyr a diddorol.” Aeth ymlaen i ddweud: “Gyda tri yn sâl yn tŷ, byddai wedi bod yn amhosib dod yno i wrando arnoch chi, hyd yn oed petasech chi ond lawr y lôn.”

Dros yr wythnosau nesaf, cafodd mwy o raglenni eu darlledu dros y radio. Erbyn diwedd y flwyddyn, gwnaeth y Tŵr Gwylio amcangyfrif bod “o leiaf 300,000 o bobl wedi clywed y neges dros y weiarles.”

Yn sgil yr ymateb gwych, gwnaeth Myfyrwyr y Beibl benderfynu adeiladu gorsaf radio ar Ynys Staten, doedd ddim yn bell o Fethel Brooklyn. Dros y blynyddoedd nesaf, byddai Myfyrwyr y Beibl yn gwneud defnydd mawr o’r orsaf WBBR i rannu neges y Deyrnas â llawer o bobl.

“ADV”

Roedd ’na gyhoeddiad cyffrous yn rhifyn Mehefin 15, 1922, y Tŵr Gwylio. Byddai cynhadledd yn cael ei chynnal yn Cedar Point, Ohio, o Fedi’r 5ed hyd y 13eg, 1922. Roedd ’na awyrgylch gwefreiddiol yn Cedar Point wrth i Fyfyrwyr y Beibl heidio yno.

Dywedodd y Brawd Rutherford yn ei anerchiad agoriadol: “Dw i’n hollol sicr y bydd yr Arglwydd yn bendithio’r gynhadledd yma, ac yn sicrhau fod y dystiolaeth fwyaf erioed yn cael ei roi ar y ddaear.” A gwnaeth siaradwyr y gynhadledd ategu hynny drwy annog y brodyr a chwiorydd sawl gwaith i bregethu.

Tyrfa o bobl yng nghynhadledd Cedar Point, Ohio, ym 1922

Yna, ar ddydd Gwener, Medi’r 8fed, heidiodd tua 8,000 o bobl i’r awditoriwm yn awyddus iawn i glywed beth roedd gan y Brawd Rutherford i’w ddweud. Roedden nhw ar bigau drain eisiau gwybod beth oedd ystyr “ADV” oedd wedi ei argraffu ar eu gwahoddiadau, a pham roedd ’na rholyn o gynfas uwchben y llwyfan? Roedd y Brawd Arthur Claus yn un o’r dorf. Roedd wedi teithio o Tulsa, Oklahoma, UDA. Llwyddodd i gael hyd i sêt lle byddai’n gallu clywed yn dda—roedd hynny’n dipyn o gamp cyn dyddiau’r meicroffon!

“Oedden ni’n dal ar bob gair”

Cyhoeddodd y cadeirydd y byddai’r drysau yn cau yn ystod anerchiad y Brawd Rutherford, fel bod neb yn gallu amharu ar yr anerchiad. Am hanner awr wedi naw y bore, dechreuodd y Brawd Rutherford gyda geiriau Iesu yn Mathew 4:17: “Mae teyrnas nefoedd wedi dod yn agos.” (Beibl Cymraeg Diwygiedig) Aeth ymlaen i sôn am sut byddai pobl ar y ddaear yn clywed am y Deyrnas honno. Dywedodd: “Cyhoeddodd Iesu ei hun y byddai’n cynaeafu ei bobl yn ystod ei bresenoldeb. Byddai’n casglu’r rhai ffyddlon a thriw ato.”

Wrth gofio yn ôl, dywedodd y Brawd Claus: “Oedden ni’n dal ar bob gair.” Ond dyma Arthur yn dechrau teimlo’n sâl, felly roedd rhaid iddo adael yr awditoriwm, er roedd yn gwybod na fyddai’n cael dod yn ôl i mewn.

Cyn bo hir, dechreuodd deimlo’n well. Ond ar ei ffordd yn ôl i’r awditoriwm, clywodd gymeradwyaeth swnllyd y dorf. Roedd ef ar dân eisiau gwybod beth oedd yn mynd ymlaen! Roedd rhaid iddo glywed gweddill yr anerchiad gwefreiddiol, hyd yn oed os oedd hynny’n golygu dringo ar ben y to. Ac yntau’n ddyn ifanc o 23 oed, dyna’n union wnaeth Arthur. Roedd ffenestri’r to ar agor a sylwodd ar unwaith ei fod yn gallu clywed bob gair.

Ond nid Arthur oedd yr unig un ar y to. Roedd rhai o’i ffrindiau yno hefyd. Frank Johnson oedd un ohonyn nhw, a rhedodd yntau draw ato i ofyn, “Oes gen ti gyllell boced siarp?”

“Wel, oes digwydd bod,” meddai Arthur.

“Ti’n ateb i’n gweddïau ni!” meddai Frank. “Weli di’r rholyn anferth wedi ei glymu i’r hoelion ’ma? Baner ydy o, felly gwranda’n astud ar y Barnwr, * a torra’r pedwar rhaff ’ma yr eiliad mae’n dweud, ‘mae’n rhai ichi gyhoeddi, gyhoeddi.’”

Felly, gyda’i gyllell yn ei law, disgwyliodd Arthur gyda’i ffrindiau am yr arwydd. Doedd dim rhaid iddyn nhw ddisgwyl yn hir nes i’r Brawd Rutherford gyrraedd uchafbwynt ei anerchiad. Yn llawn teimlad a sêl, mae’n debyg ei fod bron â gweiddi: “Byddwch yn Dystion ffyddlon a gwir i’r Arglwydd, ewch ymlaen yn y frwydr nes bod pob rhan o Fabilon fawr wedi chwalu’n llwyr. Pregethwch y neges ym mhobman, mae’n rhaid i’r byd wybod mai Jehofa sydd Dduw, ac mai Iesu Grist ydy Brenin brenhinoedd ac Arglwydd arglwyddi. Dyma’r adeg bwysicaf yn hanes—mae’r Brenin yn teyrnasu! A chi sydd wedi eich aseinio i ddweud wrth bawb am hyn. Felly cyhoeddwch, cyhoeddwch, cyhoeddwch y Brenin a’i Deyrnas!”

Unwaith i Arthur a’r brodyr eraill dorri’r rhaffau, rholiodd y baner i lawr yn dwt. A gyda hynny, gwnaeth y geiniog ddisgyn wrth i bawb sylweddoli ystyr “ADV”—“Advertise the King and Kingdom.”

GWAITH PWYSIG

Gwnaeth y gynhadledd yn Cedar Point helpu’r brodyr i ganolbwyntio ar y gwaith pwysig o bregethu am y Deyrnas. Ac aeth y rhai oedd yn barod, ac yn fodlon, ati’n syth i ddechrau’r gwaith hwnnw. Dywedodd un colporteur (arloeswr fel maen nhw’n cael eu galw erbyn hyn) o Oklahoma, UDA: “Oedden ni’n pregethu yn yr ardal o gwmpas y pyllau glo, ac oedd llawer o’r bobl yno yn dlawd ofnadwy.” Aeth ymlaen i ddweud bod y neges yn y cylchgrawn The Golden Age yn aml yn dod â “deigryn i lygaid” y bobl oedd yn ei chlywed. Ond “roedd hi’n fraint ac yn fendith i’w cysuro nhw.”

Cymerodd y rhai hynny eiriau Iesu yn Luc 10:2 o ddifri: “Mae’r cynhaeaf mor fawr, a’r gweithwyr mor brin!” Ac wrth i’r flwyddyn ddod i ben, roedden nhw’n fwy penderfynol nag erioed i gyhoeddi neges y Deyrnas i bawb.

^ Weithiau roedd y Brawd Rutherford yn cael ei alw’n farnwr am ei fod, ar adegau, wedi gweithio fel barnwr yn Missouri, UDA.