Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

HANES BYWYD

Y Bendithion o Wrando ar Jehofa

Y Bendithion o Wrando ar Jehofa

Gofynnwyd i’m gŵr a minnau, ynghyd â’m brawd a’i wraig, dderbyn aseiniad arbennig. Yn syth bin, fe ddywedon ni: “Rydyn ni’n derbyn!” Pam y gwnaethon ni dderbyn yr aseiniad hwnnw, a sut gwnaeth Jehofa ein bendithio ni? Yn gyntaf, gad imi adrodd fy hanes.

GANWYD fi ym 1923 yn Hemsworth, tref yn Swydd Efrog, Lloegr. Roedd gen i frawd hŷn, Bob. Pan oeddwn i’n naw oed, cafodd fy nhad lyfrau a esboniodd sut roedd gau grefydd wedi twyllo pobl. Gwnaeth hyn argraff fawr ar fy nhad oherwydd nad oedd yn hoff o’r ffaith fod arweinwyr crefyddol yn dysgu un peth ond yn gwneud rhywbeth hollol wahanol. Rai blynyddoedd yn ddiweddarach, daeth Bob Atkinson i’n tŷ a chwarae record o un o anerchiadau’r Brawd Rutherford. Sylweddolon ni fod y siaradwr yn perthyn i’r un grŵp a gyhoeddodd y llyfrau roedd fy nhad wedi bod yn darllen. Gofynnodd fy rhieni i’r Brawd Atkinson ddod draw am ei ginio bob nos a hefyd iddo ateb ein llu o gwestiynau am y Beibl. Cawson ni wahoddiad ganddo i fynychu cyfarfodydd a oedd yn cael eu cynnal yn nhŷ brawd ychydig o filltiroedd i ffwrdd. Dechreuon ni fynd i’r cyfarfodydd yn rheolaidd ac fe sefydlwyd cynulleidfa fechan yn Hemsworth. Yn fuan, roedd arolygwyr cylchdaith yn aros gyda ni ac roedd arloeswyr o gynulleidfaoedd cyfagos yn dod draw i gael bwyd. Roedd y brodyr a’r chwiorydd hynny’n ddylanwad da arnaf.

Ar y pryd, roedd ein teulu wedi cychwyn busnes. Ond dywedodd fy nhad wrth fy mrawd: “Os wyt ti eisiau dechrau arloesi, mi gawn ni wared ar y busnes.” Cytunodd Bob, a gadawodd y cartref i fynd i arloesi ac yntau’n 21 mlwydd oed. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, pan oeddwn yn 16, dechreuais innau hefyd arloesi. Ar y penwythnos, roeddwn i’n gweithio gydag eraill, ond yn ystod yr wythnos, roeddwn i’n gweithio’n bennaf ar fy mhen fy hun. Defnyddiais y ffonograff a’r cerdyn tystiolaethu, hynny yw, cerdyn bach a neges Feiblaidd arno. Gwnaeth Jehofa fy mendithio gydag astudiaeth Feiblaidd a wnaeth gynnydd da. Daeth llawer o deulu’r fyfyrwraig honno i mewn i’r gwirionedd. Y flwyddyn wedyn, cefais fy mhenodi’n arloeswraig arbennig, ynghyd â Mary Henshall. Ein haseiniad oedd gweithio tiriogaeth anghysbell yn Swydd Gaer.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd merched yn gorfod gwneud gwaith a fyddai’n cefnogi’r rhyfel. Doedd dim disgwyl i weinidogion crefyddol eraill fynd i’r fyddin, felly roedden ni’n meddwl nad oedd disgwyl i ninnau fynd chwaith gan ein bod ni’n arloeswyr arbennig. Ond doedd y llysoedd ddim yn cytuno, ac fe’m dedfrydwyd i 31 diwrnod o garchar. Y flwyddyn ddilynol, pan oeddwn yn 19, roedd yn rhaid imi fynd gerbron y llys ddwywaith yn rhagor oherwydd nad oedd fy nghydwybod yn caniatáu imi gefnogi’r rhyfel. Fodd bynnag, cefais fy rhyddhau ar y ddau achlysur hynny. Yn ystod y cyfnod hwnnw, fe wyddwn mai ysbryd glân Jehofa oedd yn fy helpu.—Eseia 41:10, 13.

CYMAR NEWYDD

Fe wnes i gwrdd ag Arthur Matthews ym 1946. Roedd Arthur newydd fod yn y carchar am dri mis oherwydd iddo wrthod mynd i ymladd. Yn syth ar ôl cael ei ryddhau, dyma’n ymuno â’i frawd Dennis, arloeswr arbennig, yn Hemsworth. Roedd eu tad wedi dysgu iddyn nhw am Jehofa o fod yn blant, ac fe gawson nhw eu bedyddio pan oedden nhw yn eu harddegau. Yn fuan ar ôl iddyn nhw ddechrau arloesi gyda’i gilydd, aseiniwyd Dennis i Iwerddon. Felly, roedd Arthur heb gymar. Gwnaeth ymddygiad yr arloeswr gweithgar hwn argraff ar fy rhieni. Felly, dyma nhw’n ei wahodd i aros gyda nhw. Pan oeddwn i’n mynd draw, roedd Arthur a minnau’n cynnig golchi’r llestri ar ôl bwyta. Yn y pen draw, dechreuon ni ysgrifennu at ein gilydd. Yn ystod 1948, roedd rhaid i Arthur fynd i’r carchar am dri mis arall. Priodon ni ym mis Ionawr 1949, ac ein nod oedd aros yn y gwasanaeth llawn-amser. Roedden ni’n ofalus iawn ynglŷn â’r ffordd roedden ni’n gwario ein harian, ac roedden ni’n defnyddio ein gwyliau i ennill tipyn bach o arian drwy gasglu ffrwythau. Gyda bendith Jehofa, roedden ni’n gallu parhau i arloesi.

Yn Hemsworth yn fuan ar ôl ein priodas ym 1949

Ychydig dros flwyddyn yn ddiweddarach, fe’n haseiniwyd i Ogledd Iwerddon, yn gyntaf i Armagh ac yna i Newry, trefi Catholig yn bennaf. Roedd rhagfarn grefyddol ym mhobman, ac roedden ni’n gorfod bod yn ofalus iawn wrth bregethu. Roedden ni’n cynnal ein cyfarfodydd yng nghartref brawd a chwaer a oedd yn byw 10 milltir i ffwrdd. Roedd tua wyth o bobl yn dod i’r cyfarfodydd. Weithiau, roedden ni’n aros dros nos. Bydden ni’n cysgu ar y llawr a mwynhau brecwast mawr y bore wedyn. Braf iawn yw gwybod bod llawer o Dystion yn byw yn yr ardal honno heddiw.

“RYDYN NI’N DERBYN!”

Roedd fy mrawd a’i wraig, Lottie, eisoes yn gwasanaethu fel arloeswyr arbennig yng Ngogledd Iwerddon, ac ym 1952 gwnaeth y pedwar ohonon ni fynd i gynhadledd ranbarth yn Belfast. Roedd un brawd yn garedig iawn ac fe gafodd y pedwar ohonon ni aros yn ei gartref ynghyd â Pryce Hughes, cydlynydd cangen Prydain ar y pryd. Un noson, roedden ni’n trafod y llyfryn newydd, God’s Way Is Love, a ysgrifennwyd yn fwriadol ar gyfer pobl yn Iwerddon. Esboniodd y brawd Hughes ei bod hi’n anodd iawn pregethu i Gatholigion yng Ngweriniaeth Iwerddon. Gorfodwyd ein brodyr i adael y llefydd roedden nhw’n aros ynddyn nhw, ac roedd yr offeiriaid yn annog pobl i ymosod ar y brodyr. Dywedodd Pryce: “Mae angen cyplau sy’n berchen ar geir i gymryd rhan mewn ymgyrch arbennig i ddosbarthu’r llyfryn drwy gydol y wlad.” * (Gweler y troednodyn.) Dyna pryd y dywedon ni: “Rydyn ni’n derbyn!”

Gydag arloeswyr eraill ar gefn beic modur a seicar

Roedd arloeswyr bob amser yn cael aros yn Nulyn yn nhŷ Ma Rutland, chwaer ffyddlon a oedd wedi gwasanaethu Jehofa am flynyddoedd. Aethon ni yno i aros am ychydig a gwerthu ychydig bach o’n pethau materol. Yna, aeth y pedwar ohonon ni ar gefn beic modur a seicar Bob er mwyn edrych am gar. Ar ôl dod o hyd i gar a oedd mewn cyflwr da, gofynnon ni i’r gwerthwr ddod â’r car aton ni oherwydd nad oedd yr un ohonon ni’n gallu gyrru. Treuliodd Arthur y noson gyfan yn eistedd ar y gwely ac yn cogio newid gêrs y car. Y bore wedyn, tra oedd yn ceisio gyrru’r car allan o’r garej, gwnaeth cenhades o’r enw Mildred Willett (a briododd John Barr yn ddiweddarach) daro heibio. Roedd hi’n gwybod sut i yrru! Gwnaeth hi ein helpu i ymarfer gyrru’r car, ac yna roedden ni’n barod i fynd ar ein ffordd.

Ein car a’n carafán

Nesaf, roedd rhaid dod o hyd i rywle i fyw. Roedd y brodyr wedi dweud wrthyn ni i osgoi byw mewn carafán rhag ofn i’r rhai a oedd yn gwrthwynebu ein gwaith ei rhoi ar dân. Felly, chwilion ni am gartref, ond heb lwyddiant. Y noson honno, cysgodd y pedwar ohonon ni yn y car. Y diwrnod wedyn, yr unig beth a welon ni oedd carafán ac iddi ddau wely bach. Dyna oedd ein cartref newydd. Er mawr syndod inni, ni chawson ni unrhyw broblem yn gosod y garafán ar dir ffermwyr cyfeillgar. Bydden ni’n pregethu mewn tiriogaeth 10 i 15 milltir i ffwrdd. Ar ôl symud i ardal newydd, roedden ni’n dychwelyd i bregethu i’r bobl a oedd yn byw lle’r oedd y garafán wedi ei pharcio.

Aethon ni i bregethu ar hyd a lled de-ddwyrain Gweriniaeth Iwerddon heb lawer o drafferth. Gosodon ni dros 20,000 o lyfrynnau, ac anfonon ni enwau pawb a ddangosodd ddiddordeb i swyddfa’r gangen ym Mhrydain. Mae cannoedd o Dystion yn y rhan honno o Iwerddon heddiw!

YN ÔL I LOEGR AC YNA I’R ALBAN

Rai blynyddoedd yn ddiweddarach, fe’n haseiniwyd i dde Llundain. Ar ôl ychydig o wythnosau, dyma’r brodyr yn swyddfa gangen Prydain yn galw Arthur a gofyn iddo fynd ar y gwaith cylch y diwrnod wedyn! Cawson ni wythnos o hyfforddiant ac yna teithion ni i’n cylchdaith yn yr Alban, felly doedd gan Arthur ddim amser o gwbl i baratoi ei anerchiadau. Ond roedd bob amser yn barod i wneud unrhyw aseiniad yng ngwasanaeth Duw, ni waeth pa mor anodd oedd hynny. Gwnaeth ei esiampl fy annog yn fawr iawn. Roedden ni wrth ein boddau yn gwneud y gwaith cylch. Ar ôl gweithio ardaloedd anghysbell am flynyddoedd lawer, braf iawn oedd cael bod ymhlith cymaint o frodyr.

Pan ofynnwyd i Arthur fynd i Ysgol Gilead ym 1962, roedd gennyn ni benderfyniad mawr i’w wneud. Roedd y cwrs yn para deng mis, ond doeddwn i ddim yn cael mynd gydag ef oherwydd doeddwn i ddim wedi derbyn gwahoddiad. Penderfynon ni y dylai Arthur fynd. Oherwydd y byddwn i heb gymar arloesi, fe’m hanfonwyd gan y gangen yn ôl i Hemsworth fel arloeswraig arbennig. Pan ddaeth Arthur yn ei ôl flwyddyn yn ddiweddarach, cawson ni’n haseinio i wneud gwaith rhanbarth yn yr Alban, gogledd Lloegr, a Gogledd Iwerddon.

ASEINIAD NEWYDD YN IWERDDON

Ym 1964, aseiniwyd Arthur i fod yn gydlynydd ar gangen Gweriniaeth Iwerddon. Ar y dechrau, roeddwn i’n pryderu am fynd i’r Bethel oherwydd fy mod i’n mwynhau’n fawr y gwaith teithio. O edrych yn ôl, bendith oedd gwasanaethu yn y Bethel. Rwy’n credu y bydd Jehofa yn wastad yn dy fendithio di os byddi di’n fodlon derbyn aseiniad hyd yn oed os nad wyt ti eisiau ei dderbyn. Yn y Bethel, fe wnes i waith swyddfa, pacio llenyddiaeth, coginio, a glanhau. Am gyfnod hefyd roedden ni’n gwneud y gwaith rhanbarth ac yn gallu cwrdd â brodyr drwy’r wlad i gyd. Roedd hyn, yn ogystal â gweld ein myfyrwyr Beiblaidd yn dod yn eu blaenau, wedi creu perthynas agos iawn â’r brodyr a’r chwiorydd yn Iwerddon. Am fendith!

DIGWYDDIAD PWYSIG YN IWERDDON

Cynhaliwyd y gynhadledd ryngwladol gyntaf yn Iwerddon yn Nulyn ym 1965. * (Gweler y troednodyn.) Er bod yna wrthwynebiad chwyrn, roedd y gynhadledd yn llwyddiant ysgubol. Roedd 3,948 yn bresennol, ac fe gafodd 65 eu bedyddio. Gwnaeth y 3,500 o gynadleddwyr rhyngwladol aros yn nhai pobl yn Nulyn. Cafodd pob un o’r deiliaid hynny lythyr yn diolch iddyn nhw am eu lletygarwch. Hefyd, gwnaeth y deiliaid ganmol ymddygiad da’r brodyr. Roedd hyn yn newid cadarnhaol i Iwerddon.

Arthur yn croesawu Nathan Knorr wrth iddo gyrraedd y gynhadledd yn 1965

Arthur yn rhyddhau’r llyfr Storïau o’r Beibl yn yr iaith Wyddeleg ym 1983

Ym 1966, roedd swyddfa’r gangen yn Nulyn yn gyfrifol am ogledd a de Iwerddon. Roedd yr undod hwn yn dra gwahanol i’r hyn a ddigwyddai ar yr ynys yn gyffredinol, lle’r oedd pobl yn rhanedig oherwydd gwleidyddiaeth a chrefydd. Roedden ni wrth ein boddau yn gweld cymaint o Gatholigion yn dod i mewn i’r gwirionedd ac yn gwasanaethu Jehofa gyda’i brodyr a oedd ar un adeg yn Brotestaniaid.

NEWID ASEINIAD YN LLWYR

Yn 2011, newidiwyd ein bywydau yn gyfan gwbl pan gyfunwyd canghennau Prydain ac Iwerddon a ninnau’n cael ein haseinio i Fethel Llundain. Bryd hynny, dechreuais boeni am iechyd Arthur. Dywedodd y meddygon fod clefyd Parkinson arno. Er mawr tristwch imi, bu farw fy nghymar ar ôl 66 blynedd o briodas ar 20 Mai 2015.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rwyf wedi teimlo’n ddigalon ac wedi galaru. Yn y gorffennol, roedd Arthur wedi bod yn gefn imi. Mae’n chwith hebddo! Ond pan fyddi di’n mynd trwy sefyllfaoedd o’r fath, rwyt ti’n agosáu at Jehofa. Rwy’n hapus pan fyddaf yn clywed cymaint roedd pobl eraill yn ei garu. Rwyf wedi derbyn llythyrau oddi wrth frodyr a chwiorydd yn Iwerddon, Prydain, a’r Unol Daleithiau. Mae’r llythyrau hyn, ynghyd â’r anogaeth rwyf wedi ei derbyn oddi wrth Dennis, brawd Arthur, a’i wraig Mavis, yn ogystal â’m dwy nith Ruth a Judy, i gyd wedi fy helpu mewn ffordd na allaf mo’i disgrifio.

Adnod sydd wedi fy annog yn fawr iawn ydy Eseia 30:18. Mae’n dweud: “Ond mae’r ARGLWYDD wir eisiau bod yn garedig atoch chi; bydd yn siŵr o godi i faddau i chi. Achos mae’r ARGLWYDD yn Dduw cyfiawn; ac mae’r rhai sy’n disgwyl amdano yn cael bendith fawr!” Cysur mawr yw gwybod bod Jehofa yn disgwyl yn amyneddgar er mwyn datrys ein holl broblemau ac i roi aseiniadau cyffrous inni yn y byd newydd.

Pan fyddaf yn edrych yn ôl, gallaf weld sut mae Jehofa wedi bendithio’r gwaith pregethu yn Iwerddon! Rwy’n teimlo anrhydedd mawr o fod wedi cael rhan yn y gwaith hwn. Y gwir yw bod gwrando ar Jehofa bob amser yn dod â bendithion.

^ Par. 12 Gweler y 1988 Yearbook of Jehovah’s Witnesses, tudalennau 101-102.

^ Par. 22 Gweler y 1988 Yearbook, tudalennau 109-112.