Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 42

Beth Bydd Jehofa yn Achosi Iti ei Fod?

Beth Bydd Jehofa yn Achosi Iti ei Fod?

“Mae Duw . . . yn creu’r awydd ynoch chi ac yn eich galluogi chi i wneud beth sy’n ei blesio fe.”—PHIL. 2:13.

CÂN 104 Anrheg Oddi Wrth Dduw—Yr Ysbryd Glân

CIPOLWG *

1. Beth gall Jehofa ei wneud er mwyn cyflawni ei bwrpas?

GALL Jehofa fod beth bynnag sydd ei angen er mwyn cyflawni ei bwrpas. Er enghraifft, mae Jehofa wedi dod yn Addysgwr, yn Gysurwr, ac yn Efengylwr. Dim ond rhai o’r pethau y mae Duw yn gallu eu bod yw’r rhain. (Esei. 48:17; 2 Cor. 7:6; Gal. 3:8) Eto, yn aml mae’n defnyddio bodau dynol i gyflawni ei bwrpas. (Math. 24:14; 28:19, 20; 2 Cor. 1:3, 4) Gall Jehofa hefyd roi’r doethineb a’r nerth sydd eu hangen ar bob un ohonon ni er mwyn inni fod beth bynnag sydd ei angen i gyflawni ei bwrpas. Mae hyn i gyd yn rhan o ystyr enw Jehofa, fel yr awgrymwyd gan nifer o ysgolheigion.

2. (a) Pam weithiau y gallwn ni amau nad ydy Jehofa yn ein defnyddio? (b) Beth byddwn ni’n ei ystyried yn yr erthygl hon?

2 Mae pob un ohonon ni eisiau bod yn ddefnyddiol i Jehofa, ond gall rhai amau nad ydy Jehofa yn eu defnyddio nhw. Pam? Gan eu bod nhw’n teimlo’n gyfyngedig oherwydd eu hoedran, eu hamgylchiadau, neu eu galluoedd. Ar y llaw arall, gall eraill deimlo’n fodlon ar yr hyn maen nhw’n ei wneud yn barod ac yn methu gweld yr angen i wneud mwy o gynnydd. Yn yr erthygl hon, byddwn yn trafod sut gall Jehofa ein harfogi ni er mwyn inni gyflawni ei bwrpas. Yna, byddwn yn edrych ar hanesion yn y Beibl a gweld sut roedd Jehofa yn rhoi i’w weision—ddynion a menywod fel ei gilydd—yr awydd a’r gallu i weithredu. Yn olaf, byddwn yn ystyried sut gallwn ni adael i Jehofa ein defnyddio ni.

SUT MAE JEHOFA YN EIN HARFOGI?

3. O edrych ar Philipiaid 2:13, sut gallai Jehofa roi inni’r awydd i weithredu?

3 Darllen Philipiaid 2:13. * Gall Jehofa roi inni’r awydd i weithredu. Sut gallai wneud hyn? Efallai ein bod ni’n dysgu am ryw angen penodol o fewn y gynulleidfa. Neu mae’r henuriaid yn darllen llythyr oddi wrth swyddfa’r gangen sy’n dweud wrthon ni am angen y tu allan i diriogaeth ein cynulleidfa. Gallwn ni ymateb drwy ofyn i ni’n hunain, ‘Beth galla’ i ei wneud i helpu?’ Neu efallai ein bod ni wedi cael ein gwahodd i dderbyn aseiniad heriol, ond dydyn ni ddim yn siŵr a ydyn ni’n ddigon da i’w wneud. Neu, ar ôl darllen rhai adnodau yng Ngair Duw, gallen ni ofyn, ‘Sut galla’ i roi’r adnodau hyn ar waith er mwyn helpu eraill?’ Ni fydd Jehofa yn ein gorfodi i wneud unrhyw beth. Ond pan fydd ef yn gweld ein bod ni’n meddwl am beth gallwn ni ei wneud, gall Jehofa roi inni’r awydd i weithredu ar y meddyliau hynny.

4. Sut gall Jehofa roi inni’r nerth i weithredu?

4 Gall Jehofa hefyd roi inni’r nerth i weithredu. (Esei. 40:29) Mae’n gallu defnyddio ei ysbryd glân i wella’r galluoedd sydd gennyn ni’n barod. (Ex. 35:30-35) Trwy ei gyfundrefn, gallai Jehofa ein dysgu ni sut i wneud tasgau penodol. Os nad wyt ti’n siŵr sut i wneud dy aseiniad, gofynna am help. Hefyd, ar unrhyw adeg, gelli di ofyn i’n Tad hael am y “grym anhygoel” sydd y tu hwnt i bob dychymyg. (2 Cor. 4:7; Luc 11:13) Mae’r Beibl yn cynnwys llawer o enghreifftiau o sut gwnaeth Jehofa arfogi dynion a menywod drwy roi iddyn nhw’r awydd a’r nerth i weithredu. Wrth inni ystyried rhai o’r hanesion hyn, meddylia am sut gall Jehofa dy ddefnyddio dithau mewn ffordd debyg.

YR HYN WNAETH JEHOFA HELPU I DDYNION EI FOD

5. Beth a ddysgwn o sut a phryd y gwnaeth Jehofa ddefnyddio Moses i arwain Ei bobl?

5 Gwnaeth Jehofa achosi i Moses fod yn arweinydd i’r Israeliaid. Ond pryd gwnaeth Jehofa ei ddefnyddio? Ai pan oedd Moses yn meddwl ei fod yn barod, ar ôl iddo gael “yr addysg orau yn yr Aifft”? (Act. 7:22-25) Nage, gwnaeth Jehofa ddefnyddio Moses dim ond ar ôl iddo ei helpu i fod yn ddyn gostyngedig ac addfwyn. (Act. 7:30, 34-36) Gwnaeth Jehofa helpu Moses i fod yn ddewr a sefyll o flaen y rheolwr mwyaf pwerus yn yr Aifft. (Ex. 9:13-19) Beth a ddysgwn o’r ffordd y gwnaeth Jehofa ddefnyddio Moses? Mae Jehofa’n defnyddio’r rhai sy’n ceisio efelychu ei rinweddau ac sy’n dibynnu arno ef am nerth.—Phil. 4:13.

6. Beth rydyn ni’n ei ddysgu o sut gwnaeth Jehofa ddefnyddio Barsilai i helpu’r brenin Dafydd?

6 Ganrifoedd wedyn, gwnaeth Jehofa ddefnyddio Barsilai i helpu’r brenin Dafydd. Roedd Dafydd a’r bobl “eisiau bwyd ac wedi blino, ac yn sychedig” tra oedden nhw’n ffoi rhag Absalom, mab Dafydd. Ynghyd ag eraill, gwnaeth Barsilai, hen ddyn erbyn hyn, risgio ei fywyd er mwyn darparu ar gyfer Dafydd a’r rhai gydag ef. Nid oedd Barsilai yn meddwl na allai Jehofa ei ddefnyddio oherwydd ei fod yn hen. Yn hytrach, rhoddodd yr hyn oedd ganddo yn hael i helpu gweision Duw a oedd mewn angen. (2 Sam. 17:27-29) Beth yw’r wers i ni? Beth bynnag fo’n hoedran, gall Jehofa ein defnyddio i gwrdd ag anghenion ein brodyr a’n chwiorydd, naill ai’n lleol neu mewn gwledydd eraill, lle mae pethau angenrheidiol bywyd yn brin. (Diar. 3:27, 28; 19:17) Hyd yn oed os na fedrwn ni ofalu amdanyn nhw’n bersonol, efallai gallwn ni gyfrannu tuag at y gwaith byd-eang fel bod ’na arian ar gael i’w helpu bryd bynnag a ble bynnag y bydd angen yn codi.—2 Cor. 8:14, 15; 9:11.

7. Sut gwnaeth Jehofa ddefnyddio Simeon, a pham mae hyn yn galonogol?

7 Gwnaeth Jehofa addo i Simeon, dyn oedrannus a ffyddlon yn Jerwsalem, na fyddai’n marw cyn iddo weld y Meseia. Mae’n debyg daeth yr addewid hwn â chysur mawr i Simeon, gan ei fod wedi bod yn disgwyl y Meseia am lawer o flynyddoedd. Cafodd ei wobrwyo am ei ffydd a’i ddyfalbarhad. Un diwrnod, ac yntau wedi ei arwain gan ysbryd glân Duw, fe aeth i mewn i’r deml. Gwelodd ef y plentyn bach Iesu yno, a dyma Jehofa’n defnyddio Simeon i roi proffwydoliaeth am y plentyn hwn a fyddai’n dod yn Grist. (Luc 2:25-35) Er, yn ôl pob tebyg, y bu farw cyn i Iesu ddechrau ei weinidogaeth ar y ddaear, roedd Simeon yn gwerthfawrogi’r fraint a gafodd, ac fe fydd yn cael llawer o bethau da yn y dyfodol! Yn y byd newydd, bydd y dyn ffyddlon hwnnw yn gweld sut bydd rheolaeth Iesu yn dod â bendithion i bob teulu ar y ddaear. (Gen. 22:18) Gallwn ninnau hefyd fod yn ddiolchgar am unrhyw fraint yr ydyn ni’n ei chael gan Jehofa.

8. Sut gall Jehofa ein defnyddio ni fel y gwnaeth yn achos Barnabas?

8 Yn y ganrif gyntaf OG, roedd dyn hael o’r enw Joseff yn fodlon cael ei ddefnyddio gan Jehofa. (Act. 4:36, 37) Oherwydd efallai roedd Joseff yn un da am gysuro eraill, gwnaeth yr apostolion ei alw’n Barnabas, sy’n golygu “yr anogwr.” Er enghraifft, ar ôl i Saul ddod yn Gristion, roedd llawer o’r brodyr yn ofni mynd ato oherwydd iddo erlid y cynulleidfaoedd yn y gorffennol. Sut bynnag, gwnaeth Barnabas gysuro a helpu Saul, ac mae’n debyg fod Saul wedi gwerthfawrogi ei garedigrwydd yn fawr iawn. (Act. 9:21, 26-28) Yn hwyrach ymlaen, teimlodd yr henuriaid yn Jerwsalem fod rhaid iddyn nhw annog y brodyr a oedd yn byw yn bell i ffwrdd yn Antiochia Syria. Pwy gwnaethon nhw ei anfon? Barnabas! Fe ddewison nhw’n dda. Fe welwn ni fod Barnabas “yn annog y rhai oedd wedi credu i aros yn ffyddlon i’r Arglwydd a rhoi eu hunain yn llwyr iddo.” (Act. 11:22-24) Yn yr un modd heddiw, gall Jehofa dy helpu i fod yn “anogwr” i dy gyd-Gristnogion. Er enghraifft, efallai bydd yn ein defnyddio ni i gysuro’r rhai sydd wedi colli anwyliaid mewn marwolaeth. Neu gallai ein hysgogi i ymweld â rhywun sy’n sâl neu’n isel ei ysbryd, neu i siarad ag ef ar y ffôn er mwyn rhannu ychydig o eiriau caredig. A fyddi di’n gadael i Jehofa dy ddefnyddio di fel y gwnaeth yn achos Barnabas?—1 Thes. 5:14.

9. Beth rydyn ni’n ei ddysgu o’r ffordd gwnaeth Jehofa helpu brawd o’r enw Vasily i fod yn fugail ysbrydol da?

9 Gwnaeth Jehofa helpu brawd o’r enw Vasily i fod yn fugail ysbrydol da. Pan gafodd Vasily ei benodi’n henuriad yn 26 oed, roedd yn poeni nad oedd ganddo ddigon o brofiad i helpu’r gynulleidfa yn ysbrydol, yn enwedig y rhai a oedd yn mynd trwy amseroedd caled. Fodd bynnag, fe gafodd hyfforddiant da gan henuriaid profiadol a thrwy fynychu Ysgol Gweinidogaeth y Deyrnas. Gweithiodd Vasily yn galed i wneud cynnydd. Er enghraifft, creodd restr o gamau bach. Wrth iddo gyflawni pob un, yn araf bach teimlodd yn fwy hyderus. Mae’n dweud nawr: “Mae’r hyn a achosodd imi fod yn ofnus yn y gorffennol yn dod â llawer o lawenydd imi nawr. Pan fydd Jehofa yn fy helpu i ddod o hyd i’r ysgrythur orau i gysuro brawd neu chwaer yn y gynulleidfa, mae’n dod â llawer o foddhad imi.” Frodyr, os byddwch chi’n efelychu Vasily drwy fod yn fodlon cael eich defnyddio gan Jehofa, gallai eich helpu i wneud mwy yn y gynulleidfa.

YR HYN WNAETH JEHOFA HELPU I FENYWOD EI FOD

10. Beth wnaeth Abigail, a pha wers rwyt ti’n ei dysgu oddi wrth ei hesiampl?

10 Roedd Dafydd a’i ddynion yn rhedeg i ffwrdd oddi wrth y brenin Saul, ac roedd angen help arnyn nhw. Gofynnodd dynion Dafydd i ddyn cyfoethog o’r enw Nabal am ychydig o fwyd, beth bynnag oedd ganddo. Roedden nhw’n teimlo’n rhydd i ofyn oherwydd eu bod nhw wedi bod yn edrych ar ôl defaid Nabal yn yr anialwch. Ond roedd Nabal yn hunanol a gwrthododd roi unrhyw beth iddyn nhw. Dyma Dafydd yn gwylltio ac yn bwriadu lladd Nabal a phob un o’i ddynion. (1 Sam. 25:3-13, 22) Sut bynnag, roedd gwraig brydferth Nabal, Abigail, yn ddoeth iawn. Yn hynod o ddewr, syrthiodd o flaen traed Dafydd gan ymbil arno i beidio â bod yn waed-euog drwy ladd Nabal a’i ddynion. Gwnaeth hi ei annog yn garedig i adael pethau yn nwylo Jehofa. Gwnaeth geiriau gostyngedig a gweithredoedd doeth Abigail gyffwrdd â chalon Dafydd. Sylweddolodd mai Jehofa oedd wedi ei hanfon hi. (1 Sam. 25:23-28, 32-34) Roedd Abigail wedi meithrin rhinweddau a wnaeth hi’n ddefnyddiol i Jehofa. Mewn modd tebyg, gall chwiorydd Cristnogol sy’n meithrin caredigrwydd a doethineb gael eu defnyddio gan Jehofa i gryfhau eu teuluoedd ac eraill yn y gynulleidfa.—Diar. 24:3; Titus 2:3-5.

11. Beth wnaeth merched Shalwm, a phwy sy’n eu hefelychu nhw heddiw?

11 Ganrifoedd wedyn, roedd merched Shalwm ymhlith y rhai a ddefnyddiwyd gan Jehofa i helpu i atgyweirio waliau Jerwsalem. (Neh. 2:20; 3:12) Er bod eu tad yn dywysog, roedd merched Shalwm yn fodlon gwneud y gwaith anodd a pheryglus hwnnw. (Neh. 4:15-18) Roedden nhw’n hollol wahanol i ddynion hunanbwysig Tecoa, dynion nad oedden nhw “ddim yn fodlon helpu gyda’r gwaith”! (Neh. 3:5) Dychmyga’r llawenydd a deimlodd merched Shalwm pan gafodd y prosiect ei gwblhau mewn dim ond 52 o ddiwrnodau! (Neh. 6:15) Yn ein dyddiau ni, mae llawer o chwiorydd yn fodlon ac yn hapus i wasanaethu Duw mewn ffordd arbennig—drwy wneud gwaith adeiladu a gwaith cynnal a chadw ar adeiladau sydd wedi eu cysegru i Jehofa. Mae eu sgiliau, eu brwdfrydedd, a’u ffyddlondeb yn hanfodol er mwyn i’r gwaith hwn lwyddo.

12. Sut gall Jehofa ein defnyddio fel y gwnaeth yn achos Tabitha?

12 Gwnaeth Jehofa ysgogi Tabitha i ‘wneud daioni a helpu pobl dlawd’ bob amser, yn enwedig i helpu’r gweddwon. (Act. 9:36) Oherwydd roedd hi mor hael a charedig, roedd llawer yn galaru ar ôl iddi farw. Ond roedden nhw wrth eu boddau pan wnaeth yr apostol Pedr ei hatgyfodi hi. (Act. 9:39-41) Beth a ddysgwn ni oddi wrth Tabitha? Boed yn hen neu’n ifanc, yn wryw neu’n fenyw, gall pob un ohonon ni wneud pethau ymarferol i helpu ein brodyr a’n chwiorydd.—Heb. 13:16.

13. Sut cafodd chwaer swil o’r enw Ruth ei defnyddio gan Jehofa, a beth ddywedodd hi?

13 Roedd chwaer swil o’r enw Ruth eisiau bod yn genhades. Pan oedd hi’n ferch fach, roedd hi’n rhuthro o dŷ i dŷ, yn dosbarthu taflenni printiedig. “Roeddwn i’n mwynhau’r gwaith hwn,” meddai hi. Ond eto, roedd siarad â phobl wrth y drws a dweud wrthyn nhw am Deyrnas Dduw yn her iddi. Er gwaethaf ei swildod, dechreuodd Ruth arloesi yn 18 oed. Ym 1946, aeth hi i Ysgol Feiblaidd Gilead y Watchtower ac yn hwyrach ymlaen fe wasanaethodd hi yn Hawäi a Japan. Gwnaeth Jehofa ei defnyddio hi mewn ffordd bwerus i ledaenu’r newyddion da yn y gwledydd hynny. Ar ôl cael rhan yn y weinidogaeth am 80 mlynedd bron, dywedodd Ruth: “Mae Jehofa wastad wedi fy nghryfhau. Mae wedi fy helpu i drechu fy swildod. Dw i wir yn credu y gall Jehofa ddefnyddio unrhyw un sy’n ymddiried ynddo ef.”

GAD I JEHOFA DY DDEFNYDDIO DI

14. Yn ôl Colosiaid 1:29, beth sy’n rhaid inni ei wneud i gael ein defnyddio gan Jehofa?

14 Trwy gydol hanes, mae Jehofa wedi achosi i’w weision gyflawni llawer o bethau yn ei wasanaeth. Beth bydd ef yn achosi i tithau ei fod? Mae’n dibynnu ar ba mor fodlon wyt ti i weithio’n galed. (Darllen Colosiaid 1:29.) Os wyt ti’n fodlon cael dy ddefnyddio gan Jehofa, gall ef achosi iti fod yn efengylwr selog, yn addysgwr effeithiol, yn gysurwr da, yn weithiwr medrus, yn ffrind cefnogol, neu’n beth bynnag arall mae angen iti ei fod er mwyn cyflawni ei ewyllys.

15. Yn ôl 1 Timotheus 4:12, 15, beth dylai brodyr ifanc heddiw ofyn yn daer i Jehofa amdano?

15 Beth am frodyr ifanc sydd ar fin troi’n oedolion? Mae ’na angen mawr am ddynion sy’n llawn egni i gymryd y cyfrifoldeb o fod yn weision gweinidogaethol. Mewn llawer o gynulleidfaoedd, mae ’na fwy o henuriaid na gweision gweinidogaethol. A allai rhai ohonoch chi frodyr ifanc feithrin yr awydd i ysgwyddo mwy o gyfrifoldebau yn y gynulleidfa? Ar adegau, mae rhai brodyr yn dweud, “Dw i’n hapus i wasanaethu fel cyhoeddwr.” Os wyt ti’n teimlo fel hynny, beth am erfyn ar Jehofa i dy helpu i feithrin yr awydd i fod yn was gweinidogaethol ac i roi’r nerth iti wneud popeth a fedri di i’w wasanaethu. (Preg. 12:1) Mae angen dy help di arnon ni!—Darllen 1 Timotheus 4:12, 15.

16. Beth dylen ni ei ofyn i Jehofa amdano, a pham?

16 Gall Jehofa achosi iti fod beth bynnag sydd ei angen er mwyn cyflawni ei ewyllys. Felly, gofynna iddo am yr awydd i wneud ei waith, ac yna gofynna iddo am y nerth sydd ei angen arnat ti. Boed yn hen neu’n ifanc, defnyddia dy amser, dy egni, a’r pethau eraill sydd gen ti i anrhydeddu Jehofa nawr. (Preg. 9:10) Pan fyddi di’n cael y cyfle i wneud mwy yng ngwasanaeth Jehofa, paid â bod yn gyflym i wrthod yr aseiniad oherwydd nad wyt ti’n teimlo dy fod ti’n gallu ei wneud. Am fraint sydd gan bob un ohonon ni i gael rhan fechan yn y gwaith pwysig o ddod â chlod haeddiannol i’n Tad cariadus!

CÂN 127 Y Math o Berson y Dylwn Fod

^ Par. 5 A wyt ti’n teimlo’n gyfyngedig yn dy wasanaeth i Jehofa? A wyt ti’n teimlo nad wyt ti’n ddefnyddiol iddo ef bellach? Neu a wyt ti’n methu gweld yr angen iti fod yn barod i wasanaethu Jehofa ym mha bynnag ffordd mae ef eisiau? Bydd yr erthygl hon yn trafod gwahanol ffyrdd y gall Jehofa roi’r awydd a’r gallu iti er mwyn iti fod beth bynnag sydd ei angen er mwyn cyflawni ei bwrpas.

^ Par. 3 Er y gwnaeth Paul ysgrifennu ei lythyr at Gristnogion y ganrif gyntaf, mewn egwyddor, mae ei eiriau’n berthnasol i bob un o weision Jehofa.