ERTHYGL ASTUDIO 32
Bobl Ifanc—Daliwch Ati i Wneud Cynnydd ar ôl Bedydd
“Gadewch i ni ddilyn y gwir mewn cariad, a thyfu ym mhob peth.”—EFF. 4:15, BCND.
CÂN 56 Gwna i’r Gwir Wir Fyw!
CIPOLWG a
1. Pa gamau mae llawer o bobl ifanc eisoes wedi eu cymryd?
BOB blwyddyn, mae miloedd o bobl ifanc yn cael eu bedyddio. Os wyt ti wedi cymryd y cam hwnnw, mae Jehofa a dy frodyr a chwiorydd wrth eu boddau! (Diar. 27:11) Meddylia pa mor bell rwyt ti wedi dod yn barod. Rwyt ti wedi astudio’r Beibl yn ofalus, efallai am nifer o flynyddoedd, a bellach rwyt ti’n hollol sicr mai Gair Duw ydy’r Beibl. Ar ben hynny, rwyt ti wedi dod i adnabod ac i garu Jehofa, Awdur y llyfr arbennig hwnnw. Oherwydd hynny, rwyt ti wedi cysegru dy hun iddo a chael dy fedyddio. Mae hynny’n wych!
2. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?
2 Mae’n siŵr wnest ti wynebu sefyllfaoedd wnaeth roi prawf ar dy ffydd cyn iti gael dy fedyddio. Ond fydd Satan byth yn stopio trio chwalu dy berthynas â Jehofa. Felly wrth iti fynd yn hŷn, byddi di’n wynebu heriau newydd. (Eff. 4:14) Mae’n rhaid iti ddal dy dir yn erbyn Satan. Beth all dy helpu i aros yn ffyddlon i Jehofa a chadw dy addewid i’w wasanaethu? Rhaid iti ddal ati a gweithio’n galed i fod yn Gristion aeddfed. (Heb. 6:1) Ond sut gelli di wneud hynny?
SUT GELLI DI AEDDFEDU FEL CRISTION?
3. Beth mae pob Cristion angen ei wneud ar ôl bedydd?
3 Rhoddodd yr apostol Paul gyngor i’r Cristnogion yn Effesus i aeddfedu fel Cristnogion. (Eff. 4:13, NWT) Yn syml, roedd yn eu hannog nhw i ddal ati i wneud cynnydd. Dylen ninnau hefyd ddilyn ei gyngor ar ôl bedydd. Cymharodd Paul dyfiant ysbrydol â thyfiant plentyn. Er bod rhieni yn dotio ar eu babi bach, dydy’r bychan ddim yn gallu aros yn fabi am byth. Yn y pen draw, bydd yn gorfod “stopio ymddwyn fel plentyn.” (1 Cor. 13:11) Mae’r un peth yn wir i ni fel Cristnogion. Ar ôl bedydd, mae’n rhaid inni ddal ati i dyfu’n ysbrydol. Gad inni weld beth all ein helpu ni i wneud hynny.
4. Pa rinwedd all dy helpu di i wneud cynnydd ysbrydol? Esbonia. (Philipiaid 1:9)
4 Cara Jehofa yn fwy ac yn fwy. Er dy fod ti eisoes yn caru Jehofa yn fawr, gelli di ei garu’n fwy byth. Mae geiriau’r apostol Paul yn Philipiaid 1:9 yn dangos bod hynny’n bosib. (Darllen.) Gweddïodd Paul y byddai cariad y Philipiaid yn “mynd o nerth i nerth.” Aeth ymlaen i ddweud bod rhaid iddyn nhw ‘dyfu yn eu dealltwriaeth o’r gwirionedd’ er mwyn gwneud hynny. Mae’r un fath i ni—y mwyaf rydyn ni’n caru Jehofa, y mwyaf byddwn ni’n caru ac yn gwerthfawrogi ei bersonoliaeth a’i ffordd o wneud pethau. O ganlyniad i hynny, byddwn yn awyddus i’w blesio ac i weld pethau o’i safbwynt ef. Byddwn ni eisiau byw yn unol â’i ewyllys a pheidio byth â’i siomi.
5-6. Sut gallwn ni ddod i garu Jehofa yn fwy byth? Esbonia.
5 Mae’n bosib dod i garu Jehofa yn fwy byth drwy ddod i adnabod ei Fab yn well. Wedi’r cwbl, mae Iesu’n adlewyrchu personoliaeth ei Dad yn berffaith. (Heb. 1:3) Y ffordd orau o ddod i adnabod Iesu ydy darllen y pedwar llyfr yn y Beibl sy’n sôn am ei fywyd. Os nad wyt ti wedi arfer darllen y Beibl bob dydd, beth am iti gychwyn arni heddiw? Wrth iti ddarllen, sylwa ar sut fath o berson oedd Iesu. Roedd yn un hawdd mynd ato, ac roedd hyd yn oed plant yn hapus braf yn ei gwmni. (Marc 10:13-16) Doedd ei ddisgyblion ddim yn ofni siarad yn gwbl agored ag ef. (Math. 16:22) Mae Jehofa union yr un fath. Gallwn ni fynd ato unrhyw bryd i fwrw ein bol mewn gweddi, a fydd ef ddim yn ein beirniadu. Mae’n ein caru ni ac yn gofalu amdanon ni.—1 Pedr 5:7.
6 Roedd Iesu hefyd yn teimlo dros bobl. Dywedodd yr apostol Mathew: “Roedd gweld tyrfaoedd o bobl yn ei gyffwrdd i’r byw, am eu bod fel defaid heb fugail, ar goll ac yn gwbl ddiymadferth.” (Math. 9:36) Beth am Jehofa? Dywedodd Iesu: “Dydy’ch Tad yn y nefoedd ddim am i unrhyw un o’r rhai bach yma gael eu colli.” (Math. 18:14) Onid ydy hynny mor arbennig? Wrth inni ddod i adnabod Iesu’n well, byddwn ni’n dod i garu Jehofa yn fwy byth.
7. Sut gall treulio amser gyda Christnogion aeddfed dy helpu di?
7 Gall brodyr a chwiorydd aeddfed yn y gynulleidfa hefyd dy helpu di i fod yn fwy cariadus ac i wneud cynnydd fel Cristion. Sylwa pa mor hapus ydyn nhw. Beth am ddod i’w hadnabod nhw’n well? Mae ganddyn nhw gymaint o brofiad a dydyn nhw erioed wedi difaru eu penderfyniad i wasanaethu Jehofa. Gofynna iddyn nhw am rai o’u profiadau yng ngwasanaeth Jehofa, ac am gyngor pan fydd gen ti benderfyniad pwysig i’w wneud. Wedi’r cwbl, “mae llwyddiant yn dod gyda digon o gyngor doeth.”—Diar. 11:14.
8. Beth gelli di ei wneud os wyt ti’n dechrau amau beth mae’r Beibl yn ei ddweud?
8 Trecha dy amheuon. Fel dywedon ni ym mharagraff 2, mae Satan eisiau dy stopio di rhag closio at Jehofa. Un ffordd mae’n gwneud hynny yw drwy blannu hadau amheuaeth am y Beibl yn dy feddwl. Er enghraifft, rywbryd neu’i gilydd, mae’n debyg y bydd rhywun yn trio dweud wrthot ti ein bod ni yma oherwydd esblygiad, a bod ’na ddim ffasiwn beth â Chreawdwr. Efallai nad wyt ti wedi meddwl ryw lawer am y peth cyn hyn, ond nawr dy fod ti’n hŷn, mae ’na siawns go dda y bydd y pwnc yn codi yn yr ysgol. Efallai bydd yr hyn mae’r athrawon yn ei ddweud am esblygiad i weld yn gwneud synnwyr. Ond mae’n debygol nad ydyn nhw erioed wedi ystyried y posibilrwydd bod ’na Greawdwr. Cofia’r egwyddor yn Diarhebion 18:17: “Mae’r cyntaf i gyflwyno ei dystiolaeth yn ymddangos yn iawn nes i rywun ddod a’i groesholi.” Felly mae’n rhaid bod yn ofalus. Cyn iti dderbyn popeth rwyt ti’n ei glywed yn yr ysgol fel ffaith, beth am ystyried beth sydd gan Air Duw, y Beibl, i’w ddweud. Gwna ymchwil yn ein cyhoeddiadau. Siarada â brodyr a chwiorydd oedd yn credu mewn esblygiad ar un adeg. Beth wnaeth eu perswadio nhw bod ’na Greawdwr cariadus? Gall sgyrsiau fel hyn dy helpu di i ystyried y ffeithiau i gyd.
9. Beth rwyt ti’n ei ddysgu o brofiad Melissa?
9 Gwnaeth chwaer o’r enw Melissa drechu ei hamheuon drwy wneud ymchwil ar greadigaeth. b Dywedodd hi: “Yn yr ysgol, mae esblygiad yn cael ei gyflwyno mewn ffordd sydd i weld yn gwneud synnwyr. Rhaid imi gyfaddef, roedd hyn yn codi amheuon yn fy meddwl, ond roedd gen i ofn eu hwynebu. O’n i’n poeni bod ’na dyllau yn yr hyn o’n i’n ei gredu fel Tyst. Ond ar yr un pryd, o’n i’n gwybod bod Jehofa eisiau inni ofyn cwestiynau er mwyn profi pethau droston ni’n hunain. Felly dyna wnes i. Darllenais y llyfr Is There a Creator Who Cares About You? a’r llyfrynnau A Gafodd Bywyd ei Greu? a The Origin of Life—Five Questions Worth Asking. Dyna’n union beth o’n i ei angen, a dw i’n difaru na wnes i eu darllen yn gynt.”
10-11. Beth all dy helpu di i aros yn foesol lân? (1 Thesaloniaid 4:3, 4)
10 Arhosa yn foesol lân. Yn dy arddegau, gall teimladau rhywiol fod yn gryf ofnadwy, ac efallai bydd eraill yn rhoi pwysau arnat ti i wneud rhywbeth anfoesol. Dyna’n union mae Satan eisiau iti ei wneud. Beth all dy helpu di i wrthod y temtasiwn? (Darllen 1 Thesaloniaid 4:3, 4.) Gweddïa ar Jehofa a dweud wrtho’n union sut rwyt ti’n teimlo. Gofynna iddo dy gryfhau. (Math. 6:13) Cofia fod Jehofa eisiau dy helpu, nid dy feirniadu di. (Salm 103:13, 14) Mae’r Beibl hefyd yn help mawr. Roedd chwaer o’r enw Melissa yn arfer ei chael hi’n anodd gwrthod meddyliau anweddus, ond dywedodd hi: “Roedd darllen y Beibl bob dydd yn fy helpu i ddal ati i frwydro yn erbyn y meddyliau hynny. Roedd yn fy atgoffa i fy mod i’n perthyn i Jehofa ac eisiau ei wasanaethu.”—Salm 119:9.
11 Paid â thrio delio â dy broblemau ar dy ben dy hun. Siarada amdanyn nhw gyda dy rieni. Er nad ydy hynny’n hawdd bob tro, mae’n hynod o bwysig. Dywedodd Melissa: “Wnes i weddïo am hyder cyn imi siarad â nhad am y mater. O’n i’n teimlo’n llawer gwell wedyn ac yn gwybod bod Jehofa yn prowd ohono i.”
12. Sut gelli di wneud penderfyniadau da?
12 Gad i egwyddorion y Beibl dy helpu. Wrth iti dyfu, cei di fwy o ryddid i wneud dy benderfyniadau dy hun. Ond er gwaethaf dy ddiffyg profiad, sut gelli di osgoi gwneud camgymeriadau a fydd yn effeithio ar dy berthynas â Jehofa? (Diar. 22:3) Sylweddolodd chwaer o’r enw Kari bod ’na ddim rheol benodol ar gyfer pob sefyllfa. Dywedodd hi: “Er mwyn bod yn Gristion aeddfed, mae angen deall egwyddorion y Beibl yn hytrach na dim ond y rheolau.” Roedd hynny’n ei helpu i wneud penderfyniadau gwell. Gelli di wneud rhywbeth tebyg drwy ofyn cwestiynau fel hyn i ti dy hun wrth ddarllen y Beibl: ‘Beth rydw i’n ei ddysgu fan hyn am y ffordd mae Jehofa yn meddwl? Oes ’na egwyddorion yma a all fy helpu i wneud y peth iawn? Os felly, sut bydda i’n elwa o’u rhoi nhw ar waith?’ (Salm 19:7; Esei. 48:17, 18) Drwy feddwl am bethau fel hyn wrth iti ddarllen y Beibl, bydd hi’n haws iti wneud penderfyniadau sy’n plesio Jehofa. Wrth iti wneud cynnydd, byddi di’n sylweddoli nad oes angen rheol benodol ar gyfer pob sefyllfa, oherwydd byddi di’n deall sut mae Jehofa yn teimlo.
13. Sut gall ffrindiau da dy helpu di? (Diarhebion 13:20)
13 Dewisa ffrindiau sy’n caru Jehofa. Bydd y ffrindiau rwyt ti’n eu dewis yn cael effaith fawr ar dy gynnydd ysbrydol. (Darllen Diarhebion 13:20.) Ar un adeg, roedd chwaer o’r enw Sara yn dechrau colli ei llawenydd, ond fel dywedodd hi: “Wnes i ffeindio ffrindiau da ar yr union adeg iawn. O’n i’n astudio’r Tŵr Gwylio bob wythnos gyda chwaer ifanc, a gwnaeth ffrind arall fy helpu i ddechrau rhoi atebion yn y cyfarfodydd. Oherwydd dylanwad da fy ffrindiau, dechreuais gymryd pethau fel gweddi ac astudiaeth bersonol o ddifri. Ac oherwydd hynny roedd fy mherthynas â Jehofa yn gryfach, a wnes i ddechrau cael fy llawenydd yn ôl.”
14. Sut llwyddodd Julien i wneud ffrindiau da?
14 Sut gelli di wneud ffrindiau a fydd yn ddylanwad da arnat ti? Dywedodd Julien, sydd bellach yn henuriad: “Pan o’n i’n ifanc, wnes i ffrindiau da drwy fynd ar y weinidogaeth. Roedden nhw’n selog iawn a gwnaethon nhw helpu fi i fwynhau’r weinidogaeth, a gosod y nod o wneud hynny’n llawn amser. Wnes i hefyd sylweddoli mod i’n colli allan drwy beidio â chwilio am ffrindiau o bob oedran. Yn hwyrach ymlaen, wnes i ffrindiau da yn y Bethel, a gwnaeth eu hesiampl nhw fy helpu i ddewis fy adloniant yn well. Gwnaeth hynny ddod â fi’n agosach at Jehofa.”
15. Pa rybudd a roddodd Paul i Timotheus am ddewis ffrindiau? (2 Timotheus 2:20-22)
15 Beth os wyt ti’n sylweddoli bod rhywun yn y gynulleidfa yn ddylanwad drwg arnat ti? Roedd yr apostol Paul yn gwybod nad oedd pawb yn y gynulleidfa yn bobl ysbrydol. Dywedodd wrth Timotheus am gadw draw oddi wrthyn nhw. (Darllen 2 Timotheus 2:20-22.) Rydyn ni wedi gweithio’n galed i gael perthynas â Jehofa, ac mae’n rhywbeth gwerthfawr iawn. Felly mae angen inni ei hamddiffyn a pheidio byth â gadael i neb wanhau’r berthynas honno.—Salm 26:4.
SUT GALL GOSOD AMCANION DY HELPU DI I WNEUD CYNNYDD YSBRYDOL?
16. Pa fath o amcanion dylet ti eu dewis?
16 Gosoda amcanion a fydd o les iti. Dewisa amcanion a fydd yn cryfhau dy ffydd ac yn dy helpu di i fod yn Gristion mwy aeddfed. (Eff. 3:16) Beth am wella dy rwtîn o ddarllen y Beibl a gwneud astudiaeth bersonol? (Salm 1:2, 3) Opsiwn arall ydy gweddïo’n amlach, a hynny o dy galon. Neu efallai dy fod ti eisiau dangos mwy o hunanreolaeth yn y ffordd rwyt ti’n defnyddio dy amser ac wrth ddewis adloniant. (Eff. 5:15, 16) Bydd Jehofa wrth ei fodd yn dy weld di’n gweithio’n galed ac yn gwneud cynnydd.
17. Pa effaith bydd helpu eraill yn ei chael arnat ti?
17 Bydd helpu eraill yn dy helpu di i dyfu’n ysbrydol. Fel dywedodd Iesu: “Mae rhoi yn llawer gwell na derbyn.” (Act. 20:35) Bydd defnyddio dy amser a dy egni i helpu eraill yn dy wneud di’n hapus. Un ffordd gallet ti wneud hynny ydy drwy helpu’r rhai hŷn yn y gynulleidfa, efallai drwy nôl pethau o’r siop, neu drwy eu helpu nhw i ddefnyddio dyfeisiau electronig. Os wyt ti’n frawd, gelli di osod y nod o fod yn was gweinidogaethol er mwyn helpu dy frodyr a chwiorydd yn fwy. (Phil. 2:4) Hefyd, gelli di ddangos cariad at y rhai sydd ddim yn rhan o’r gynulleidfa drwy rannu’r newyddion da â nhw. (Math. 9:36, 37) A beth am osod y nod o wasanaethu Jehofa yn llawn amser?
18. Sut gall pregethu’n llawn amser dy helpu di i dyfu’n ysbrydol?
18 Gall arloesi’n llawn amser agor llawer o ddrysau iti, a dy helpu di i wneud cynnydd. Er enghraifft, gall arwain at fynd i’r Ysgol ar Gyfer Pregethwyr y Deyrnas, gwasanaethu yn y Bethel, neu weithio ar brosiectau adeiladu theocrataidd. Dywedodd un arloeswraig ifanc o’r enw Kaitlyn: “Y peth oedd yn help mawr imi glosio at Jehofa ar ôl cael fy medyddio oedd treulio amser ar y weinidogaeth gyda brodyr a chwiorydd profiadol. O ganlyniad, o’n i’n fwy awyddus i astudio’r Beibl ac i wella fy sgiliau dysgu.”
19. Pa fendithion gelli di eu mwynhau wrth iti ddal ati i wneud cynnydd ysbrydol?
19 Mae llawer o fendithion i’w cael wrth iti ddal ati i wneud cynnydd ysbrydol. Byddi di’n osgoi gwastraffu dy amser yn mynd ar ôl pethau yn y byd hwn sy’n dda i ddim. (1 Ioan 2:17) Yn hytrach na theimlo’r boen sy’n dod o wneud penderfyniadau gwael, byddi di’n cael llwyddiant a hapusrwydd go iawn. (Diar. 16:3) Ar ben hynny, bydd dy esiampl dda yn calonogi dy frodyr a chwiorydd o bob oedran. (1 Tim. 4:12) Ac yn fwy na dim, byddi di’n mwynhau’r heddwch a’r boddhad sy’n dod o blesio Jehofa a bod yn ffrind agos iddo.—Diar. 23:15, 16.
CÂN 88 Dysga Dy Ffyrdd i Mi