Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 34

“Byw’n Ffyddlon i’r Gwir”

“Byw’n Ffyddlon i’r Gwir”

“Byw’n ffyddlon i’r gwir.”—3 IOAN 4.

CÂN 111 Rhesymau Dros Ein Llawenydd

CIPOLWG a

1. Sut rydyn ni’n elwa o siarad am sut daethon ni i mewn i’r gwir?

 UN O’N hoff gwestiynau ydy, “Sut dest ti i mewn i’r gwir?” Mae’n ein helpu ni i ddod i adnabod ein gilydd yn well. Rydyn ni wrth ein boddau yn rhannu ein hanesion a sôn am gymaint mae’r gwir yn ei olygu inni. (Rhuf. 1:11) Mae sgyrsiau o’r fath yn ein helpu ni i werthfawrogi’r ffaith ein bod ni yn y gwir a bod yn fwy penderfynol byth o ‘fyw’n ffyddlon i’r gwir,’ hynny yw mewn ffordd sy’n plesio Jehofa.—3 Ioan 4.

2. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

2 Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod pam rydyn ni’n caru’r gwir, a sut gallwn ni barhau i ddangos hynny. Heb os, bydd hynny yn ein gwneud ni’n fwy diolchgar byth am bopeth mae Jehofa wedi ei wneud i’n denu ni at y gwir, yn ogystal â chryfhau ein hawydd i rannu’r gwir ag eraill.—Ioan 6:44.

PAM RYDYN NI’N CARU’R GWIR

3. Beth ydy’r prif reswm pam rydyn ni’n caru’r gwir?

3 Mae gynnon ni lawer o resymau i garu’r gwir, ond y rheswm pennaf ydy am ein bod ni’n caru Jehofa, ffynhonnell y gwir. Mae ei Air wedi ei gwneud hi’n bosib inni ddod i’w adnabod, nid yn unig fel y Creawdwr hollalluog, ond fel Tad cariadus sy’n gofalu amdanon ni. (1 Pedr 5:7) “Mae’n Dduw caredig a thrugarog; mae mor amyneddgar, a’i haelioni a’i ffyddlondeb yn anhygoel!” (Ex. 34:6) Mae Jehofa yn caru cyfiawnder. (Esei. 61:8) Mae’n teimlo i’r byw pan fyddwn ni’n dioddef, ac mae’n edrych ymlaen yn arw at yr adeg pan fydd yn dod â’n holl ddioddefaint i ben. (Jer. 29:11) Does dim rhyfedd ein bod ni’n caru Jehofa gymaint!

Mae Gwirionedd y Beibl Fel . . . Angor

Yn union fel mae angor yn sefydlogi cwch, mae ein gobaith yn gallu ein sadio ni yn ystod treialon stormus. Mae gwirionedd y Beibl hefyd yn ein cymell ni i rannu ein gobaith am y dyfodol ag eraill (Gweler paragraffau 4-7)

4-5. Pam gwnaeth yr apostol Paul gymharu ein gobaith ag angor?

4 Rydyn ni hefyd yn caru’r gwir oherwydd ei fod o les inni. Er enghraifft, mae’n rhoi gobaith inni ar gyfer y dyfodol. “Mae’r gobaith hwn,” meddai’r apostol Paul, “yn obaith sicr—mae fel angor i’n bywydau ni, yn gwbl ddiogel.” (Heb. 6:19) Yn union fel mae angor yn cadw llong yn sefydlog, mae ein gobaith ni’n gallu ein sadio ni yn ystod treialon stormus.

5 Er bod Paul yn sôn yma am y gobaith nefol, mae ei eiriau yr un mor berthnasol i’r rhai sy’n gobeithio byw am byth ar y ddaear. (Ioan 3:16) Mae’n debyg y byddi di’n cytuno bod y gobaith hwn wedi rhoi ystyr i fywydau pob un ohonon ni.

6-7. Sut mae dysgu’r gwir am y dyfodol wedi helpu Yvonne?

6 Ystyria brofiad chwaer o’r enw Yvonne. Chafodd hi ddim ei magu yn y gwir, a phan oedd hi’n blentyn roedd marwolaeth yn codi ofn mawr arni. Mae hi’n cofio darllen yn rhywle, “Ryw ddydd, fydd ’na ddim yfory.” Dywedodd hi: “Roedd y geiriau hynny’n cadw fi’n effro gyda’r nos yn meddwl am y dyfodol. O’n i’n meddwl i fi fy hun, ‘Mae’n rhaid fod ’na fwy i fywyd. Pam ydw i yma?’ Doeddwn i ddim eisiau marw!”

7 Yn ei harddegau, gwnaeth Yvonne gyfarfod Tystion Jehofa. Sylwa ar sut mae dysgu’r gwir wedi ei helpu. Dywedodd hi: “Wnes i ddechrau credu y gallwn i gael y gobaith o fyw am byth ym Mharadwys ar y ddaear. Dw i ddim bellach yn gorwedd yn effro gyda’r nos yn poeni am y dyfodol, nac am farwolaeth.” Mae’n amlwg bod Yvonne yn caru’r gwir yn fawr, ac mae hi wrth ei bodd yn rhannu ei gobaith am y dyfodol ag eraill.—1 Tim. 4:16.

Mae Gwirionedd y Beibl Fel . . . Trysor

Mae gwasanaethu Jehofa heddiw, a chael y gobaith o wneud hynny am byth o dan ei Deyrnas, yn drysor ynddo’i hun. Mae’n werth unrhyw aberth (Gweler paragraffau 8-11)

8-9. (a) Sut roedd y dyn yn nameg Iesu yn teimlo ar ôl cael hyd i’r trysor? (b) Pa mor werthfawr ydy’r gwir i ti?

8 Oherwydd y gwirioneddau sydd yn y Beibl, rydyn ni hefyd yn gwybod y newyddion da am Deyrnas Dduw. Cymharodd Iesu’r gwirionedd hwnnw â thrysor cudd. Dywedodd Iesu ym Mathew 13:44: “Mae teyrnasiad yr Un nefol fel trysor wedi ei guddio mewn cae. Dyma rywun yn ei ffeindio ac yna’n ei guddio eto, wedyn mynd yn llawen a gwerthu popeth oedd ganddo er mwyn gallu prynu’r cae hwnnw.” Sylwa nad oedd y dyn yn chwilio am y trysor, ond pan ddaeth ar ei draws, gwnaeth ef bopeth a allai i gael gafael arno. Gwerthodd bopeth oedd ganddo am ei fod yn gwybod bod y trysor yn llawer mwy gwerthfawr na’r aberth.

9 Ai dyna sut rwyt ti’n teimlo am y gwir? Yn sicr, does dim byd yn y system hon yn cymharu â’r llawenydd o wasanaethu Jehofa, na’r gobaith o fyw am byth o dan ei Deyrnas. Meddylia am y fraint anhygoel sydd gynnon ni o gael perthynas agos â Jehofa. Onid ydy hynny’n fwy gwerthfawr nag unrhyw aberth rydyn ni’n ei wneud? Wedi’r cwbl, rydyn ni eisiau ei “blesio fe ym mhob ffordd.”—Col. 1:10.

10-11. Beth wnaeth gymell Michael i wneud newidiadau mawr yn ei fywyd?

10 Mae llawer ohonon ni wedi gwneud aberthau mawr er mwyn plesio Jehofa. Mae rhai wedi cefnu ar yrfaoedd llwyddiannus yn y byd, neu wedi rhoi’r gorau i geisio bod yn gyfoethog. Mae eraill wedi cefnu’n llwyr ar eu ffordd o fyw ar ôl dod i adnabod Jehofa. Dyna’n union wnaeth Michael. Chafodd ef ddim ei fagu yn y gwir, a dysgodd karate pan oedd yn ifanc. Dywedodd: “Roedd bod yn gryf ac yn ffit yn bwysig iawn imi. Felly dyna oedd yn dod yn gyntaf bob tro. Ar adegau, o’n i’n teimlo doedd neb yn gallu fy stopio.” Ond pan ddechreuodd astudio’r Beibl, gwelodd sut roedd Jehofa yn teimlo am drais. (Salm 11:5) Wrth sôn am y cwpl wnaeth astudio gydag ef, dywedodd: “Wnaethon nhw erioed ddweud wrtho i fod rhaid imi roi’r gorau i karate. Gwnaethon nhw jest ddysgu gwirioneddau’r Beibl imi.”

11 Wrth i Michael ddysgu mwy am Jehofa, yn enwedig am y ffordd mae’n teimlo dros y rhai sy’n ei addoli, daeth i’w garu’n fwy. Yn y pen draw, sylweddolodd Michael fod angen iddo wneud newidiadau mawr. “Doeddwn i erioed yn meddwl y byddwn i’n rhoi’r gorau i karate. Dyna oedd fy mywyd i. Ond o’n i wedi dod i garu Jehofa yn fwy nag unrhyw beth arall. Felly, roedd yr aberth yn bris bychan i’w dalu er mwyn ei blesio.” Roedd Michael wedi sylweddoli pa mor werthfawr oedd y gwir, a dyna wnaeth ei gymell i wneud newidiadau mawr yn ei fywyd.—Iago 1:25.

Mae Gwirionedd y Beibl Fel . . . Lamp

Mae lamp yn ein helpu ni i ffeindio ein ffordd yn y tywyllwch. Yn yr un ffordd, mae Gair Duw yn dangos inni pa ffordd i fynd ym myd tywyll Satan (Gweler paragraffau 12-13)

12-13. Sut gwnaeth gwirioneddau’r Beibl helpu Mayli?

12 Mae’r Beibl yn esbonio pa mor werthfawr ydy’r gwir drwy ei gymharu â lamp yn disgleirio yn y tywyllwch. (Salm 119:105; Eff. 5:8) Mae Mayli, o Aserbaijan yn gwerthfawrogi’r ffordd mae Gair Duw wedi taflu goleuni ar ei bywyd. Roedd ei thad yn Fwslim, a’i mam yn Iddewes. Dywedodd hi: “Wnes i erioed gwestiynu bodolaeth Duw, ond roedd gen i gwestiynau. O’n i’n gofyn, ‘Pam gwnaeth Duw ein creu ni? Pam ‘dyn ni yma ond i ddioddef ein holl fywydau ac wedyn dioddef yn fwy byth yn uffern?’ Roedd pawb yn dweud mai Duw oedd yn gyfrifol am bopeth, felly o’n i’n meddwl, ‘Ydw i jest yn byped yn nwylo Duw sy’n mwynhau ein gweld ni’n ddioddef?’”

13 Daliodd Mayli ati i chwilio am atebion i’w chwestiynau. Ymhen amser, astudiodd y Beibl gyda Thystion Jehofa, a dod i mewn i’r gwir. Dywedodd hi: “Roedd atebion cadarn y Beibl yn gwneud gymaint o synnwyr imi, a gwnaeth hynny newid fy mywyd yn llwyr. Ces i dawelwch meddwl a hapusrwydd go iawn.” Fel Mayli, mae’n siŵr dy fod ti’n ddiolchgar iawn i Jehofa, “yr Un alwodd [ni] allan o’r tywyllwch i mewn i’w olau bendigedig.”—1 Pedr 2:9.

14. Sut gallwn ni garu’r gwir yn fwy? (Gweler hefyd y blwch “ Cymariaethau Eraill.”)

14 Rydyn ni ond wedi trafod ychydig o enghreifftiau sy’n dangos pa mor werthfawr ydy’r gwir. Mae’n debyg y gelli di feddwl am lawer mwy. Beth am wneud prosiect bach yn dy astudiaeth bersonol i feddwl am fwy o resymau pam dylen ni garu’r gwir? Y mwyaf rydyn ni’n caru’r gwir, y mwyaf byddwn ni’n gallu dangos hynny.

SUT RYDYN NI’N DANGOS EIN BOD NI’N CARU’R GWIR

15. Sut gallwn ni ddangos ein bod ni’n caru’r gwir?

15 Un ffordd gallwn ni ddangos ein bod ni’n caru’r gwir ydy drwy astudio’r Beibl a’n cyhoeddiadau yn rheolaidd. Wedi’r cwbl, mae ’na wastad mwy i’w ddysgu, ni waeth pa mor hir rydyn ni wedi bod yn y gwir. Fel dywedodd rhifyn cyntaf y cylchgrawn hwn: “Mae’r gwir yn debyg i flodyn bach yng nghanol anialwch bywyd, bron iawn yn cael ei dagu gan chwyn celwyddau sy’n tyfu’n drwchus o’i gwmpas. Er mwyn cael hyd iddo, mae’n rhaid dal ati i chwilio amdano, ac mae’n rhaid gwneud ymdrech os wyt ti am ei gadw. Paid â bodloni ar ddim ond un blodyn o wirionedd. Chwilia yn fanwl, a chasgla yn gyson.” Er bod astudio yn waith caled, mae’n werth pob ymdrech.

16. Pa ddull astudio sy’n gweithio orau i ti? (Diarhebion 2:4-6)

16 Dydy darllen ac astudio ddim yn dod yn hawdd i bob un ohonon ni. Ond mae Jehofa eisiau inni ddal ati i “geisio” a “chwilio” am y gwir, a’i ddeall yn well. (Darllen Diarhebion 2:4-6.) Byddwn ni bob tro ar ein hennill o wneud yr ymdrech. Sylwa sut mae Corey yn mynd ati i astudio’r Beibl. Mae’n canolbwyntio ar un adnod ar y tro. Dywedodd: “Bydda i’n darllen pob troednodyn, yn edrych ar bob cyfeiriad, ac wedyn yn gwneud ymchwil pellach. . . . Dw i’n cael cymaint allan o fy astudiaeth drwy ei gwneud fel hyn!” P’un a ydyn ni’n gwneud rhywbeth tebyg i Corey, neu’n defnyddio dull gwahanol, mae rhoi amser ac ymdrech i mewn i astudio Gair Duw yn dangos ein bod ni’n gwerthfawrogi’r gwir.—Salm 1:1-3.

17. Beth mae’n ei olygu i fyw yn unol â’r gwir? (Iago 1:25)

17 Wrth gwrs, dydy astudio’r gwir ddim yn ddigon ynddo’i hun. Er mwyn elwa’n llawn ohono, a chael hapusrwydd go iawn, mae’n rhaid inni roi ar waith yr hyn rydyn ni’n ei ddysgu, a byw yn unol â’r gwir. (Darllen Iago 1:25.) Sut gallwn ni sicrhau ein bod ni’n gwneud hynny? Mae un brawd yn awgrymu ein bod ni’n pwyso a mesur ein cryfderau a’n gwendidau i weld lle gallwn ni wella. Fel dywedodd yr apostol Paul: “Gadewch i ni fyw yn gyson â beth dŷn ni eisoes yn ei wybod sy’n wir.”—Phil. 3:16.

18. Pam rydyn ni’n gwneud ein gorau i ‘fyw’n ffyddlon i’r gwir’?

18 Fel rydyn ni wedi gweld, rydyn ni’n elwa mewn cymaint o wahanol ffyrdd pan ydyn ni’n “byw’n ffyddlon i’r gwir.” Nid yn unig ydyn ni’n gwella ein bywydau ein hunain, ond rydyn ni hefyd yn gwneud Jehofa a’n brodyr a chwiorydd yn hapus. (Diar. 27:11; 3 Ioan 4) Yn sicr, does dim rheswm gwell dros garu’r gwir a byw yn unol â’r gwir.

CÂN 144 Canolbwyntiwch ar y Wobr!

a Yn aml iawn, byddwn ni’n defnyddio’r term “y gwir” i gyfeirio at ein daliadau a’n ffordd o fyw fel Tystion. P’un a ydyn ni wedi bod yn y gwir ers tro byd, neu ond am ychydig o amser, mae’n dda inni ystyried pa mor arbennig ydy hynny bob hyn a hyn. Wedyn, byddwn ni’n fwy penderfynol byth o blesio Jehofa.