ERTHYGL ASTUDIO 1
Trystia Jehofa a Phaid â Chynhyrfu
TESTUN Y FLWYDDYN AR GYFER 2021: “Eich cryfder fydd peidio â chynhyrfu a bod yn llawn hyder.”—ESEI. 30:15, NWT.
CÂN 3 Ein Nerth, Ein Gobaith, Ein Hyder
CIPOLWG *
1. Fel y Brenin Dafydd, beth all rhai ohonon ni ei ofyn?
RYDYN ni i gyd eisiau bywyd tawel a heddychlon. Does neb yn hoffi pryderu. Ond ar adegau, efallai byddwn ni’n brwydro â phryderon. Dyna pam gall rhai o weision Jehofa ofyn yr un cwestiwn a ofynnodd y Brenin Dafydd i Jehofa: “Am faint mwy mae’n rhaid i mi boeni f’enaid, a dal i ddioddef fel yma bob dydd?”—Salm 13:2.
2. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?
2 Er na allwn ni fod yn hollol rydd rhag pryderon, mae ’na lawer gallwn ni ei wneud i’w rheoli. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod yn gyntaf rai o’r pethau allai achosi pryder inni. Yna byddwn ni’n trafod chwe ffordd ymarferol gallwn ni beidio â chynhyrfu wrth inni ddelio â’n problemau.
BETH ALL WNEUD INNI BRYDERU?
3. Pa bethau all wneud inni boeni, a faint o reolaeth sydd gynnon ni drostyn nhw?
3 Hwyrach mai ychydig, os nad dim rheolaeth sydd gynnon ni dros y pethau all wneud inni bryderu. Er enghraifft, does gynnon ni ddim rheolaeth dros faint bydd costau bwyd, dillad, a rhent yn codi bob blwyddyn; allwn ni ddim chwaith reoli pa mor aml bydd ein cyd-weithwyr neu’n cyd-ddisgyblion yn ceisio’n temtio ni i fod yn anonest neu’n anfoesol. Ac allwn ni ddim stopio pobl rhag troseddu yn ein hardal ni. Rydyn ni’n wynebu’r heriau hyn oherwydd ein bod ni’n byw mewn byd lle nad yw Math. 13:22; 1 Ioan 5:19) Does dim rhyfedd fod y byd yn llawn dop o sefyllfaoedd sy’n achosi straen inni!
pobl yn dilyn egwyddorion y Beibl. Mae Satan, duw y byd hwn, yn gwybod y bydd rhai pobl yn “rhy brysur yn poeni am hyn a’r llall,” ac felly yn stopio gwasanaethu Jehofa. (4. Sut gallen ni ymateb i broblemau mawr?
4 Gallen ni gael ein llethu gan bryder o ganlyniad i broblemau mawr. Er enghraifft, gallen ni bryderu na fyddwn ni’n ennill digon o arian i ofalu am ein hanghenion, neu bryderu y byddwn ni’n mynd yn sâl ac yn methu gweithio neu hyd yn oed yn colli ein swydd. Efallai ein bod ni hefyd yn pryderu y byddwn ni’n anffyddlon pan gawn ni ein temtio i dorri cyfraith Duw. Bydd Satan yn fuan yn achosi i’r rhai mae’n eu rheoli ymosod ar bobl Dduw, felly efallai ein bod ni’n poeni am sut byddwn ni’n ymateb i’r ymosodiad hwnnw. Efallai ein bod ni’n meddwl, ‘Ydy hi’n anghywir imi bryderu am y pethau hyn?’
5. Beth oedd Iesu’n ei olygu pan ddywedodd: “Peidiwch poeni”?
5 Gwyddon ni fod Iesu wedi dweud wrth ei ddilynwyr: “Peidiwch poeni.” (Math. 6:25) Ydy hyn yn golygu ei fod yn disgwyl inni beidio â phryderu o gwbl? Nac ydy wir! Wedi’r cyfan, roedd rhai o weision ffyddlon Jehofa yn y gorffennol yn brwydro â phryder, ond wnaethon nhw ddim colli cymeradwyaeth Jehofa. * (1 Bren. 19:4; Salm 6:3) Mewn gwirionedd, roedd Iesu yn ein cysuro ni. Doedd ef ddim eisiau inni fynd i boeni’n ormodol am bethau bob dydd, ac i hynny effeithio’n negyddol ar ein gwasanaeth i Dduw. Sut felly gallwn ni reoli teimladau o bryder?—Gweler y blwch “ Sut i Fynd Ati.”
CHWE PHETH A FYDD YN EIN HELPU I BEIDIO Â CHYNHYRFU
6. Yn ôl Philipiaid 4:6, 7, beth all dawelu ein pryderon?
6 (1) Gweddïa’n aml. Pan wyt ti’n poeni am broblem, gelli di weddïo ar Jehofa am help. (1 Pedr 5:7) Gall Jehofa ateb dy weddïau drwy roi iti yr “heddwch perffaith mae Duw’n ei roi—y daioni sydd tu hwnt i bob dychymyg” dynol. (Darllen Philipiaid 4:6, 7.) Mae Jehofa’n tawelu ein pryderon drwy ddefnyddio ei ysbryd glân pwerus.—Gal. 5:22.
7. Beth dylen ni gofio wrth weddïo ar Dduw?
7 Wrth iti weddïo ar Jehofa, agora dy galon iddo. Bydda’n benodol. Dyweda wrtho beth ydy’r broblem ac esbonio iddo sut rwyt ti’n teimlo amdani. Os oes ’na ffordd o ddatrys y broblem, gofynna iddo am y doethineb i’w ffeindio a’r nerth i’w rhoi ar waith. Os yw ateb dy broblem y tu hwnt i dy reolaeth, gofynna i Jehofa dy helpu i beidio â phoeni’n ormodol amdani. Pan wyt ti’n benodol yn dy weddïau, ymhen amser byddi di’n gweld yn gliriach sut mae Jehofa wedi eu hateb nhw. Os nad ydy’r ateb yn dod yn syth ar ôl iti weddïo, paid â rhoi’r gorau iddi. Mae Jehofa eisiau iti wneud mwy na bod yn benodol yn dy weddïau, mae hefyd eisiau iti ddal ati yn dy weddïau.—Luc 11:8-10.
8. Beth dylen ni gynnwys yn ein gweddïau?
8 Wrth iti fwrw dy bryder ar Jehofa mewn gweddi, cofia gynnwys gair o ddiolch. Mae’n dda inni gyfri ein 2 Cron. 18:31; Rhuf. 8:26.
bendithion, hyd yn oed pan fydd ein hamgylchiadau yn arbennig o anodd. Os ar brydiau rwyt ti’n methu cael hyd i’r union eiriau i fynegi dy emosiynau dwysaf, cofia fod Jehofa’n ateb gweddïau mor syml â ‘Plîs helpa fi!’—9. Sut gallwn ni gael diogelwch go iawn?
9 (2) Dibynna ar ddoethineb Jehofa, nid dy ddoethineb dy hun. Yn ôl yn yr wythfed ganrif COG, roedd pobl Jwda yn ofni ymosodiad gan yr Asyriaid. Mewn ymgais fyrbwyll i osgoi dod o dan iau Asyria, gwnaethon nhw droi at yr Aifft baganaidd. (Esei. 30:1, 2) Rhybuddiodd Jehofa y byddai ymddiried yn yr Eifftiaid yn dod â thrychineb ar eu pennau. (Esei. 30:7, 12, 13) Trwy Eseia, dywedodd Jehofa wrth y bobl sut gallen nhw gael diogelwch go iawn. Dywedodd: “Eich cryfder fydd peidio â chynhyrfu a bod yn llawn hyder” yn Jehofa.—Esei. 30:15b, NWT.
10. Beth yw rhai sefyllfaoedd gallwn ni ddangos ein bod ni’n trystio Jehofa?
10 Sut gallen ni ddangos ein bod ni’n trystio Jehofa? Ystyria rai esiamplau. Dyweda dy fod ti’n cael cynnig swydd sy’n talu’n well ond fydd yn gofyn am fwy o dy amser ac yn amharu ar dy rwtîn ysbrydol. Neu, dyweda fod rhywun yn y gweithle yn dangos diddordeb rhamantus ynot ti, ond dydy’r person hwnnw ddim wedi ei fedyddio yn un o weision Duw. Neu, dychmyga fod anwylyn yn rhoi wltimatwm iti: “Rhaid iti ddewis rhyngddo i a dy Dduw.” Ym mhob un o’r sefyllfaoedd hyn, bydd gen ti benderfyniad anodd i’w wneud, ond ym mhob achos, bydd Jehofa’n rhoi’r arweiniad sydd ei angen arnat ti. (Math. 6:33; 10:37; 1 Cor. 7:39) Y cwestiwn ydy, A fyddi di’n trystio’r arweiniad hwnnw ddigon i’w roi ar waith?
11. Pa hanesion o’r Beibl gallen ni eu hastudio er mwyn peidio â chynhyrfu yn wyneb gwrthwynebiad?
11 (3) Dysga oddi wrth esiamplau da a drwg. Mae’r Beibl yn cynnwys llawer o esiamplau sy’n pwysleisio pa mor bwysig ydy ymddiried yn Jehofa a pheidio â chynhyrfu. Wrth iti astudio’r hanesion hyn, sylwa ar beth helpodd weision Duw i beidio â chynhyrfu yn wyneb gwrthwynebiad cryf. Er enghraifft, pan orchmynnodd goruchaf lys yr Iddewon i’r apostolion stopio pregethu, doedd ganddyn nhw ddim ofn. Yn hytrach, dywedon nhw’n ddewr: “Mae’n rhaid i ni ufuddhau i Dduw, dim i ddynion meidrol fel chi!” (Act. 5:29) Hyd yn oed ar ôl cael eu chwipio, wnaeth yr apostolion ddim panicio. Pam? Oherwydd roedden nhw’n gwybod bod Jehofa ar eu hochr nhw. Roedden nhw’n ei blesio. Felly, dalion nhw ati i bregethu’r newyddion da. (Act. 5:40-42) Yn yr un modd, pan oedd y disgybl Steffan ar fin cael ei ladd, arhosodd mor heddychlon a digynnwrf roedd ei wyneb yn edrych “fel wyneb angel.” (Act. 6:12-15) Pam? Oherwydd roedd yn sicr fod ganddo gymeradwyaeth Jehofa.
12. Yn ôl 1 Pedr 3:14 a 4:14, pam gallwn ni fod yn hapus pan gawn ein herlid?
12 Roedd gan yr apostolion dystiolaeth glir fod Jehofa gyda nhw. Roedd wedi rhoi’r gallu iddyn nhw wneud gwyrthiau. (Act. 5:12-16; 6:8) Does gynnon ni ddim y gallu hwnnw heddiw. Er hynny, mae Jehofa yn ei gariad yn ein sicrhau drwy ei Air o hyn: Pan fyddwn ni’n dioddef o achos cyfiawnder, byddwn ni’n ei blesio a bydd ei ysbryd gyda ni. (Darllen 1 Pedr 3:14; 4:14.) Felly, yn lle hel meddyliau ynglŷn â sut bydden ni’n ymateb i erledigaeth lem yn y dyfodol, rydyn ni angen canolbwyntio ar yr hyn gallwn ni ei wneud nawr i gryfhau ein hyder yng ngallu Jehofa i’n cynnal ni a’n hachub. Yn union fel y gwnaeth y disgyblion cynnar, mae’n rhaid i ninnau ymddiried yn addewid Iesu: “Bydda i’n rhoi’r geiriau iawn i chi. Fydd gan y rhai sy’n eich gwrthwynebu chi ddim ateb!” Mae Iesu hefyd wedi addo inni: “Wrth sefyll yn gadarn y cewch chi fywyd.” (Luc 21:12-19) A phaid byth ag anghofio bod Jehofa yn cofio’r manylion lleiaf am ei weision sy’n marw’n ffyddlon iddo. Gyda’r wybodaeth honno, fe fydd yn eu hatgyfodi.
13. Sut gallwn ni elwa o ystyried hanesion y rhai a gynhyrfodd ac a fethodd â thrystio Jehofa?
13 Gallwn ni hefyd ddysgu oddi wrth hanesion y rhai a gynhyrfodd ac a fethodd â thrystio Jehofa. Bydd astudio’r esiamplau drwg hynny yn ein helpu i osgoi gwneud yr un camgymeriadau. Er enghraifft, pan ddaeth Asa yn frenin Jwda, dibynnodd ar Jehofa pan ymosododd byddin enfawr arno, a rhoddodd Jehofa fuddugoliaeth iddo. (2 Cron. 14:9-12) Ond yn hwyrach ymlaen, pan ymosododd y Brenin Baasha o Israel arno â byddin llawer llai, talodd Asa yr Asyriaid am help milwrol yn hytrach na throi at Jehofa am achubiaeth fel roedd wedi ei wneud yn y gorffennol. (2 Cron. 16:1-3) A thua diwedd ei fywyd, pan aeth yn ddifrifol wael, wnaeth ef ddim dibynnu ar Jehofa i’w helpu.—2 Cron. 16:12.
14. Beth gallwn ni ei ddysgu o gamgymeriadau Asa?
14 Ar y cychwyn, roedd Asa yn troi at Jehofa pan oedd ganddo broblemau. Ond yn hwyrach, methodd â dibynnu ar ei Dduw am help, roedd yn well ganddo ddelio â materion ar ei ben ei hun. Yn ôl pob golwg, gallai cynllun Asa i droi at y Syriaid am help yn erbyn Israel fod wedi ymddangos yn ymarferol iawn. Ond wnaeth ei lwyddiant ddim para’n hir. Dywedodd Jehofa wrtho drwy broffwyd: “Am dy fod wedi gofyn am help brenin Syria yn lle trystio’r ARGLWYDD, dy Dduw, wnei di byth orchfygu byddin Syria.” (2 Cron. 16:7) Mae’n rhaid inni fod yn ofalus i beidio â meddwl ein bod ni’n gallu datrys ein problemau ar ein pennau’n hunain heb ofyn i Jehofa am arweiniad drwy ei Air. Hyd yn oed pan fydd rhaid inni wneud penderfyniad cyflym, dylen ni ddibynnu ar Jehofa heb gynhyrfu, a bydd yn ein helpu i lwyddo.
15. Beth gallen ni ei wneud wrth ddarllen y Beibl?
15 (4) Dysga adnodau o’r Beibl ar dy gof. Pan fyddi di’n dod ar draws adnodau o’r Beibl sy’n dangos pa mor bwysig ydy hi i drystio Jehofa a pheidio â chynhyrfu, tria eu dysgu nhw ar dy gof. Er mwyn gwneud hynny, beth am eu darllen yn uchel, neu eu hysgrifennu i lawr ac edrych arnyn nhw’n aml. Cafodd Josua ei orchymyn i ddarllen llyfr y Gyfraith mewn islais er mwyn ymddwyn yn ddoeth. Byddai’r hyn a ddarllenodd yno hefyd yn ei helpu i beidio ag ofni ond i fagu’r dewrder roedd ei angen i arwain pobl Dduw. (Jos. 1:8, 9) Gall llawer o adnodau yng Ngair Duw dawelu dy feddwl a dy galon mewn sefyllfaoedd a fyddai fel arfer yn gwneud iti bryderu neu’n codi ofn arnat ti.—Salm 27:1-3; Diar. 3:25, 26.
16. Sut mae Jehofa’n defnyddio’r gynulleidfa i’n helpu ni i drystio ynddo ac i beidio â chynhyrfu?
16 (5) Treulia amser gyda phobl Dduw. Heb. 10:24, 25) Hefyd, cawn ein calonogi’n fawr wrth fynegi ein teimladau i’n ffrindiau agos yn y gynulleidfa. Gall “gair caredig” gan ffrind ein helpu i bryderu llai.—Diar. 12:25.
Mae Jehofa yn defnyddio ein brodyr a chwiorydd i’n helpu ni i drystio ynddo ac i beidio â chynhyrfu. Yn ein cyfarfodydd, rydyn ni’n elwa ar yr hyfforddiant sy’n cael ei gyflwyno o’r llwyfan, sylwadau’r gynulleidfa, a’r sgyrsiau adeiladol rydyn ni’n eu cael gyda’n brodyr a chwiorydd. (17. Yn ôl Hebreaid 6:19, sut gall ein gobaith roi sefydlogrwydd inni er gwaethaf amgylchiadau heriol?
17 (6) Cadwa dy obaith yn gryf. Mae ein gobaith “fel angor i’n bywydau ni,” sydd yn rhoi sefydlogrwydd inni er gwaethaf amgylchiadau heriol neu bryderon. (Darllen Hebreaid 6:19.) Myfyria ar addewid Jehofa o ddyfodol lle fydd dim byd i bryderu amdano. (Esei. 65:17) Dychmyga dy hun yn y byd newydd heddychlon, lle fydd pethau drwg byth yn digwydd. (Mich. 4:4) Byddi di hefyd yn cryfhau dy obaith drwy ei rannu ag eraill. Gwna bopeth elli di yn y gwaith o bregethu a gwneud disgyblion. Drwy wneud hynny, bydd yn bosib “derbyn yn llawn y cwbl dych chi’n edrych ymlaen ato.”—Heb. 6:11.
18. Beth all ddigwydd yn y dyfodol, a beth gallwn ni wneud amdano?
18 Wrth i’r system hon dynnu at ei therfyn, byddwn ni’n wynebu mwy o heriau allai achosi inni bryderu. Gall testun y flwyddyn 2021 ein helpu i beidio â chynhyrfu a wynebu’r heriau, nid yn ein nerth ein hunain, ond drwy drystio Jehofa. Dros y flwyddyn nesaf, gad inni ddangos drwy ein gweithredoedd fod gynnon ni ffydd yn addewid Jehofa: “Eich cryfder fydd peidio â chynhyrfu a bod yn llawn hyder.”—Esei. 30:15, NWT.
CÂN 8 Jehofa Yw Ein Noddfa
^ Par. 5 Mae testun y flwyddyn ar gyfer 2021 yn pwysleisio pwysigrwydd trystio Jehofa wrth ddelio â phroblemau sy’n gwneud inni bryderu nawr ac yn y dyfodol. Bydd yr erthygl hon yn trafod ffyrdd ymarferol y gallwn ni roi’r cyngor yn nhestun y flwyddyn ar waith.
^ Par. 5 Mae rhai brodyr a chwiorydd ffyddlon yn dioddef teimladau o bryder neu banig llethol. Mae’r math yna o bryder yn gyflwr iechyd difrifol, ond nid dyna’r math o bryder roedd Iesu’n sôn amdano.
^ Par. 63 DISGRIFIAD O’R LLUN: (1) Drwy gydol y diwrnod, mae chwaer yn gweddïo’n daer am ei phryderon.
^ Par. 65 DISGRIFIAD O’R LLUN: (2) Yn ystod amser cinio yn y gweithle, mae hi’n troi at Air Duw am ddoethineb.
^ Par. 67 DISGRIFIAD O’R LLUN: (3) Mae hi’n myfyrio ar esiamplau da a drwg o’r Beibl.
^ Par. 69 DISGRIFIAD O’R LLUN: (4) Mae hi’n rhoi adnod galonogol ar ei hoergell, un mae hi eisiau ei dysgu ar ei chof.
^ Par. 71 DISGRIFIAD O’R LLUN: (5) Mae hi’n mwynhau cwmni da ar y weinidogaeth.
^ Par. 73 DISGRIFIAD O’R LLUN: (6) Mae hi’n cryfhau ei gobaith drwy feddwl am y dyfodol.