ERTHYGL ASTUDIO 2
CÂN 19 Swper yr Arglwydd
Wyt Ti’n Barod ar Gyfer Diwrnod Pwysica’r Flwyddyn?
“Parhewch i wneud hyn er cof amdana i.”—LUC 22:19.
PWRPAS
Ystyria pam mae’r Goffadwriaeth mor bwysig, sut gallwn ni baratoi ar ei chyfer, a sut gallwn ni helpu eraill i fod yn bresennol.
1. Pam mai’r Goffadwriaeth yw diwrnod pwysica’r flwyddyn? (Luc 22:19, 20)
COFFADWRIAETH marwolaeth Iesu yw diwrnod pwysica’r flwyddyn i bobl Jehofa. Dyma’r unig beth gwnaeth Iesu orchymyn ei ddilynwyr i’w goffáu. (Darllena Luc 22:19, 20.) Rydyn ni’n edrych ymlaen at y Goffadwriaeth am sawl rheswm. Gad inni ystyried rhai ohonyn nhw.
2. Pam rydyn ni’n edrych ymlaen at y Goffadwriaeth?
2 Mae’r Goffadwriaeth yn ein helpu ni i feddwl am werth aberth Iesu. Mae’n ein hatgoffa ni o ffyrdd gallwn ni ddangos ein bod ni’n ddiolchgar am ei aberth. (2 Cor. 5:14, 15) Mae hefyd yn rhoi’r cyfle “inni i gyd gael ein calonogi” gan ein brodyr a’n chwiorydd. (Rhuf. 1:12) Bob blwyddyn mae nifer o rai anweithredol yn mynd i’r Goffadwriaeth. Oherwydd y croeso cynnes, mae rhai ohonyn nhw hyd yn oed yn cael eu cymell i droi’n ôl at Jehofa. Ac mae llawer o rai sydd â diddordeb yn cael eu cymell i gychwyn ar y ffordd i fywyd oherwydd beth maen nhw’n ei weld a’i glywed. Does dim syndod felly bod y Goffadwriaeth mor agos at ein calonnau.
3. Sut mae’r Goffadwriaeth yn uno ein brawdoliaeth fyd-eang? (Gweler hefyd y llun.)
3 Meddylia hefyd am sut mae’r Goffadwriaeth yn uno ein brawdoliaeth fyd-eang. Mae Tystion Jehofa yn cyfarfod gyda’i gilydd wrth i’r haul fachlud yn raddol o gwmpas y byd. Rydyn ni i gyd yn clywed anerchiad sy’n pwysleisio pwysigrwydd y pris a gafodd ei dalu. Rydyn ni’n canu dwy gân o fawl, yn pasio’r elfennau, ac yn dweud “amen” i bedair gweddi. O fewn tua 24 awr bydd pob cynulleidfa wedi dilyn yr un patrwm. A elli di ddychmygu pa mor hapus ydy Jehofa ac Iesu o’n gweld ni’n eu hanrhydeddu fel hyn?
4. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?
4 Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod y cwestiynau hyn: Sut gallwn ni baratoi ein calonnau ar gyfer y Goffadwriaeth? Sut gallwn ni helpu eraill i elwa ohoni? A sut gallwn ni helpu rhai anweithredol? Bydd yr atebion i’r cwestiynau hyn yn ein helpu ni i fod yn barod ar gyfer y digwyddiad pwysig hwn.
SUT GALLWN NI BARATOI EIN CALONNAU AR GYFER Y GOFFADWRIAETH?
5. (a) Pam dylen ni ystyried gwerth aberth Iesu? (Salm 49:7, 8) (b) Beth rwyt ti wedi ei ddysgu o’r fideo Pam Roedd Rhaid i Iesu Farw?
5 Un ffordd bwysig inni baratoi ein calonnau ar gyfer y Goffadwriaeth yw drwy ystyried gwerth aberth Iesu. Fydden ni byth yn gallu ein hachub ein hunain rhag pechod a marwolaeth. (Darllen Salm 49:7, 8; gweler hefyd y fideo Pam Roedd Rhaid i Iesu Farw?) a Felly trefnodd Jehofa i Iesu roi ei fywyd i’n hachub. Roedd hyn yn aberth mawr i Jehofa ac i Iesu. (Rhuf. 6:23) Mwya’n y byd rydyn ni’n meddwl yn ddwfn am beth mae Jehofa ac Iesu wedi ei aberthu, mwya’n y byd y byddwn ni’n gwerthfawrogi’r pris a gafodd ei dalu. Rydyn ni am ystyried y gost i Jehofa ac i Iesu. Ond yn gyntaf, beth oedd y pris a gafodd ei dalu?
6. Beth oedd y pris a gafodd ei dalu?
6 Y pris ydy’r hwn a gafodd ei dalu er mwyn prynu rhywbeth yn ei ôl. Roedd Adda, y dyn cyntaf, yn berffaith pan gafodd ei greu. Pan bechodd Adda, gwnaeth ef golli’r cyfle i fyw am byth, nid yn unig iddo ef ei hun, ond hefyd i’w blant. Er mwyn prynu’n ôl beth roedd Adda wedi ei golli, gwnaeth Iesu aberthu ei fywyd perffaith ei hun. Yn ystod ei fywyd ar y ddaear, “ni wnaeth [Iesu] bechu o gwbl, na dweud geiriau twyllodrus.” (1 Pedr 2:22) Ar adeg ei farwolaeth, roedd bywyd perffaith Iesu yn werth union yr un fath â’r hyn roedd Adda wedi ei golli.—1 Cor. 15:45; 1 Tim. 2:6.
7. Pa heriau wynebodd Iesu pan oedd ar y ddaear?
7 Er gwaetha’r heriau a wynebodd Iesu ar y ddaear, arhosodd yn hollol ufudd i’w Dad nefol. Fel plentyn, roedd rhaid i Iesu ildio i awdurdod ei rieni amherffaith er ei fod wedi cael ei eni’n berffaith. (Luc 2:51) Yn ei arddegau, byddai wedi gorfod gwrthod pwysau i fod yn anufudd. Fel oedolyn, roedd rhaid i Iesu wrthsefyll temtasiynau gan Satan y Diafol, gan gynnwys ymosodiadau uniongyrchol ar ei ffyddlondeb i Dduw. (Math. 4:1-11) Roedd Satan yn benderfynol o wneud i Iesu bechu fel na fyddai’n gallu talu’r pris.
8. Pa heriau eraill wynebodd Iesu?
8 Yn ystod ei weinidogaeth ar y ddaear, roedd Iesu’n wynebu heriau eraill. Roedd ei elynion yn ei erlid ac yn ceisio ei ladd. (Luc 4:28, 29; 13:31) Roedd rhaid iddo ddelio ag amherffeithion ei ddilynwyr. (Marc 9:33, 34) Cafodd ei arteithio ac roedd pobl yn chwerthin am ei ben yn y llys. Yna cafodd ei ladd mewn ffordd hynod o boenus a chywilyddus. (Heb. 12:1-3) Roedd rhaid iddo fynd drwy ran olaf ei fywyd ar ei ben ei hun heb Jehofa yn ei amddiffyn na’i warchod. b—Math. 27:46.
9. Sut rydyn ni’n teimlo am aberth Iesu? (1 Pedr 1:8)
9 Yn amlwg, talodd Iesu bris uchel iawn. Pan ydyn ni’n meddwl am yr holl bethau roedd Iesu yn barod i’w haberthu droston ni, rydyn ni’n ei garu yn fwy byth.—Darllen 1 Pedr 1:8.
10. Pa bris roedd rhaid i Jehofa ei dalu?
10 Beth roedd Jehofa yn barod i’w aberthu er mwyn i Iesu dalu’r pris? Mae gan Jehofa ac Iesu’r berthynas agosaf y gall Tad a Mab eu chael. (Diar. 8:30) Meddylia am sut roedd gweld Iesu’n mynd drwy lawer o dreialon ar y ddaear yn effeithio ar Jehofa. Mae’n rhaid ei fod wedi ei frifo i’r byw o weld ei Fab yn cael ei gam-drin, ei wrthod, a’i brofi.
11. Defnyddia eglureb i ddangos sut mae’n rhaid bod Jehofa wedi teimlo pan gafodd Iesu ei ladd.
11 Mae unrhyw riant sydd wedi colli plentyn mewn marwolaeth yn gwybod pa mor boenus ydy’r golled honno. Mae gynnon ni ffydd gref yn yr atgyfodiad, ond dydy hynny ddim yn cael gwared ar y boen rydyn ni’n ei theimlo pan fydd rhywun rydyn ni’n ei garu’n marw. Mae’r eglureb hon yn ein helpu ni i ddeall sut mae’n rhaid bod Jehofa wedi teimlo pan welodd ei Fab annwyl yn dioddef a marw ar Nisan 14, 33 OG. c—Math. 3:17.
12. Beth gallwn ni ei wneud rhwng nawr a’r Goffadwriaeth?
12 Rhwng nawr a’r Goffadwriaeth, beth am wneud prosiect astudiaeth personol neu brosiect Addoliad Teuluol sy’n canolbwyntio ar y pris a gafodd ei dalu? Defnyddia Llawlyfr Cyhoeddiadau Tystion Jehofa neu adnoddau ymchwil eraill i ddysgu mwy am y pwnc. d Hefyd, gwna’n siŵr dy fod ti’n dilyn rhaglen Darllen y Beibl ar gyfer y Goffadwriaeth sydd i’w gweld yn Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd. Ac ar ddiwrnod y Goffadwriaeth, paid ag anghofio gwylio’r rhaglen arbennig o Addoliad y Bore. Drwy baratoi ein calonnau ar gyfer y Goffadwriaeth byddwn ni’n gallu helpu eraill i elwa ohoni hefyd.—Esra 7:10, NWT.
HELPU ERAILL I ELWA
13. Beth yw’r cam cyntaf i helpu eraill i elwa o’r Goffadwriaeth?
13 Sut gallwn ni helpu eraill i elwa o’r Goffadwriaeth? Y cam cyntaf wrth gwrs ydy eu gwahodd nhw. Yn ogystal â’r rhai rydyn ni’n eu cyfarfod yn ein gweinidogaeth arferol, gallwn ni hefyd greu rhestr o bobl rydyn ni eisiau eu gwahodd. Gall y rhain gynnwys ein perthnasau, ein cyd-weithwyr, ein cyd-ddisgyblion, ac eraill. Hyd yn oed os nad oes gynnon ni ddigon o wahoddiadau printiedig, gallwn ni rannu linc i’r fersiwn digidol. Pwy a ŵyr faint fydd yn ymateb!—Preg. 11:6.
14. Eglura’r effaith gall rhoi gwahoddiad personol ei chael.
14 Gall gwahoddiad personol gael effaith enfawr. Un diwrnod, dywedodd gŵr wrth ei wraig ei fod am ddod i’r Goffadwriaeth. Gwnaeth hyn ei synnu hi oherwydd doedd ef ddim yn Dyst ac roedd hi wedi ei wahodd sawl gwaith o’r blaen. Roedd ef wastad wedi dweud na. Beth oedd wedi gwneud iddo newid ei feddwl? “Ces i wahoddiad personol,” meddai ef, ac esboniodd fod henuriad roedd yn ei adnabod wedi ei wahodd. Daeth y gŵr i’r Goffadwriaeth y flwyddyn honno ac am lawer o flynyddoedd wedyn.
15. Beth byddai’n dda inni ei gofio wrth wahodd pobl i’r Goffadwriaeth?
15 Efallai bydd gan y rhai sy’n dod gwestiynau, yn enwedig os nad ydyn nhw erioed wedi bod i un o’n cyfarfodydd o’r blaen. Byddai’n dda inni feddwl o flaen llaw am ba gwestiynau gallen nhw eu gofyn a pharatoi i’w hateb nhw. (Col. 4:6) Er enghraifft, efallai bydd rhai’n gofyn: ‘Beth fydd yn digwydd yno?’ ‘Pa mor hir bydd yn para?’ ‘Beth dylen ni ei wisgo?’ ‘Oes rhaid talu am fynediad?’ ‘A fydd ’na gasgliad?’ Wrth wahodd rhywun i’r Goffadwriaeth gallwn ni ofyn, “Oes gen ti unrhyw gwestiynau?” ac yna ceisio eu hateb. I helpu’r person i ddeall sut mae ein cyfarfodydd yn cael eu trefnu, gallwn ni hefyd ddefnyddio’r fideos Cofio Marwolaeth Iesu a Beth Sy’n Digwydd yn Neuadd y Deyrnas? Ac mae gwers 28 yn y llyfr yn cynnwys nifer o bwyntiau gallwn ni eu rhannu. Mwynhewch Fywyd am Byth!
16. Pa gwestiynau eraill gallai’r rhai sy’n dod i’r Goffadwriaeth eu gofyn?
16 Ar ôl i rai newydd ddod i’r Goffadwriaeth, efallai byddan nhw’n gofyn pethau eraill fel pam nad oedd neb, neu ddim ond ychydig, yn bwyta’r bara ac yn yfed y gwin. Gallen nhw hefyd ofyn pa mor aml rydyn ni’n cadw’r Goffadwriaeth. Ac efallai byddan nhw eisiau gwybod a yw pob cyfarfod Tystion Jehofa yn cael ei gynnal yn yr un ffordd. Er bod llawer o’r pwyntiau hyn yn cael eu trafod yn anerchiad y Goffadwriaeth, efallai bydd rhai newydd eisiau mwy o esboniad. Mae’r erthygl “Pam Mae Tystion Jehofa yn Wahanol i Grefyddau Eraill yn y Ffordd Maen Nhw’n Dathlu Swper yr Arglwydd?” ar jw.org yn gallu ein helpu ni i ateb rhai o’u cwestiynau. Rydyn ni eisiau gwneud popeth a allwn ni—cyn, yn ystod, ac ar ôl y Goffadwriaeth—i helpu’r rhai sydd “â’r agwedd gywir” i elwa o’r dathliad hwn.—Act. 13:48.
HELPU’R RHAI ANWEITHREDOL
17. Sut gall henuriaid helpu rhai anweithredol? (Eseciel 34:12, 16.)
17 Sut gall henuriaid helpu rhai anweithredol yn ystod adeg y Goffadwriaeth? Drwy roi sylw caredig iddyn nhw. (Darllen Eseciel 34:12, 16.) Cyn y Goffadwriaeth, ceisia alw ar gymaint â phosib. Gwna’n siŵr eu bod nhw’n gwybod dy fod ti’n eu caru ac eisiau eu helpu mewn unrhyw ffordd bosib. Rho wahoddiad iddyn nhw i’r Goffadwriaeth. Ac os ydyn nhw’n dod, rho groeso cynnes iddyn nhw. Ar ôl y Goffadwriaeth, cadw mewn cysylltiad â’r rhai annwyl hyn, a rho unrhyw help ysbrydol sydd ei angen arnyn nhw er mwyn troi yn ôl at Jehofa.—1 Pedr 2:25.
18. Sut gallwn ni i gyd helpu rhai anweithredol? (Rhufeiniaid 12:10)
18 Gall pawb yn y gynulleidfa helpu rhai anweithredol sy’n dod i’r Goffadwriaeth. Sut? Drwy eu trin nhw’n garedig ac yn barchus. (Darllen Rhufeiniaid 12:10.) Cofia, efallai bydd y rhai annwyl hyn wedi bod yn nerfus cyn dod yn ôl i’r cyfarfod. Efallai roedden nhw’n ofni na fydden nhw’n cael croeso. e Felly bydda’n ofalus i beidio â gofyn cwestiynau all godi cywilydd arnyn nhw, neu ddweud rhywbeth a allai eu brifo. (1 Thes. 5:11) Mae’r brodyr a’r chwiorydd hyn yn gyd-addolwyr inni. Rydyn ni’n hapus eu bod nhw’n addoli gyda ni unwaith eto!—Salm 119:176; Act. 20:35.
19. Sut rydyn ni’n elwa o gofio marwolaeth Iesu?
19 Rydyn ni’n ddiolchgar bod Iesu wedi dweud wrthon ni am gofio ei farwolaeth bob blwyddyn. Ac rydyn ni’n deall pam mae hyn mor bwysig. Drwy fynychu’r Goffadwriaeth, rydyn ni ac eraill yn elwa. (Esei. 48:17, 18) Mae ein cariad at Jehofa ac Iesu yn tyfu. Rydyn ni’n dangos pa mor ddiolchgar ydyn ni am beth maen nhw wedi ei wneud droston ni. Rydyn ni’n cryfhau ein perthynas â’n cyd-addolwyr. Ac efallai byddwn ni’n gallu helpu eraill i ddysgu sut gallan nhw gael yr holl fendithion sy’n dod o aberth Iesu. Gad inni i gyd, felly, wneud y gorau ag y medrwn ni i fod yn barod ar gyfer y Goffadwriaeth eleni—diwrnod pwysica’r flwyddyn!
SUT GALLWN NI . . .
-
baratoi ein calonnau ar gyfer y Goffadwriaeth?
-
helpu eraill i elwa o’r Goffadwriaeth?
-
helpu’r rhai anweithredol?
CÂN 18 Gwerthfawrogi’r Pridwerth
a Defnyddia’r blwch chwilio ar jw.org i gael hyd i’r erthyglau a fideos yn yr erthygl hon.
b Gweler yr erthygl “Cwestiynau Ein Darllenwyr” yn rhifyn Ebrill 2021 o’r Tŵr Gwylio.
c Gweler y llyfr Draw Close to Jehovah, pen. 23, par. 8-9.
d Gweler y blwch “ Awgrymiadau ar Gyfer Gwneud Ymchwil.”
e Gweler y lluniau a’r blwch “ Beth Oedd Ymateb y Gynulleidfa?” Mae brawd anweithredol yn teimlo’n nerfus am fynd i Neuadd y Deyrnas, ond yn penderfynu mynd. Mae’n cael croeso cynnes ac yn mwynhau cwmni’r brodyr a’r chwiorydd.
f DISGRIFIADAU O’R LLUN: Wrth i bobl Jehofa ddathlu’r Goffadwriaeth mewn un rhan o’r byd, mae eu brodyr a’u chwiorydd mewn ardaloedd eraill yn paratoi am y digwyddiad pwysig hwnnw.