Enw Beiblaidd ar Lestr Hynafol
Yn ddiweddar, mae darnau mân o lestr seramig tair mil oed a gafodd eu codi o’r pridd yn 2012 wedi ennyn diddordeb ymchwilwyr. Beth oedd mor arbennig am y darganfyddiad? Nid y teilchion oedd yn bwysig ond beth oedd wedi ei ysgrifennu arnyn nhw.
Pan wnaeth archaeolegwyr roi’r arteffact at ei gilydd, roedden nhw’n gallu dehongli’r sgript Canaaneaidd hynafol. Darllen yr oedd: “Eshbaal Ben [mab] Beda.” Dyma’r tro cyntaf i archaeolegwyr ddod ar draws ei enw ar hen arysgrif.
Mewn gwirionedd, mae sôn yn y Beibl am Eshbaal arall—un o feibion y Brenin Saul. (1 Cron. 8:33; 9:39) Mae’r Athro Yosef Garfinkel, a gymerodd ran yn y cloddio, yn dweud: “Diddorol yw sylwi bod yr enw Eshbaal yn ymddangos yn y Beibl, a rŵan hefyd yn y cofnod archaeolegol, dim ond yn ystod teyrnasiad y Brenin Dafydd.” Mae rhai’n meddwl ei fod yn enw sy’n unigryw i’r cyfnod hwnnw. Unwaith eto, mae manylyn sydd yn y Beibl yn cael ei ategu gan dystiolaeth archaeolegol.
Mewn mannau eraill yn y Beibl, mae’r enw Eshbaal yn cael ei ysgrifennu fel Ish-bosheth, a’r gair “baal” yn cael ei ddisodli gan “bosheth.” (2 Sam. 2:10) Pam? “Mae hi’n ymddangos bod Ail Lyfr Samuel yn amharod i ddefnyddio’r enw Eshbaal, a oedd yn dwyn i gof y duw Canaaneaidd Baal, sef duw’r stormydd” esboniodd yr ymchwilwyr, “ond cafodd yr enw gwreiddiol . . . ei gofnodi yn Llyfr y Cronicl.”