Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Cadw Dy Lygad ar y Peth Pwysicaf

Cadw Dy Lygad ar y Peth Pwysicaf

“Byddan nhw’n deall wedyn mai ti ydy’r ARGLWYDD, ie, ti yn unig! Ti ydy’r Duw Goruchaf sy’n rheoli’r byd i gyd!”—SALM 83:18.

CANEUON: 46, 136

1, 2. (a) Pa fater pwysig sy’n wynebu pawb? (b) Pa mor bwysig yw ein hagwedd tuag at y mater pwysig hwn?

I LAWER o bobl heddiw, arian yw’r peth pwysicaf. Maen nhw’n gwneud eu gorau i gasglu cyfoeth neu i ddal eu gafael ar y pethau materol sydd ganddyn nhw. I bobl eraill, y pethau sy’n hawlio eu sylw yw’r teulu, iechyd, neu lwyddiannau personol.

2 Fodd bynnag, y peth a ddylai hawlio ein sylw ni yn fwy na dim byd arall yw cefnogi sofraniaeth Jehofa. Mae’n rhaid gwarchod rhag colli ein golwg ar y mater pwysig hwn. Sut gall hyn ddigwydd? Hawdd fyddai rhoi ein holl sylw i faterion bob dydd ac anghofio am bwysigrwydd cefnogi sofraniaeth Duw. Neu, efallai, gallwn ni adael i bwysau mawr ein treialon personol ein rhwystro rhag gweld y pethau pwysig. Ar y llaw arall, mwya’n y byd y byddwn ni’n gwerthfawrogi pwysigrwydd cefnogi sofraniaeth Jehofa, y mwyaf cymwys y byddwn ni i ddelio gydag anawsterau. Bydd gwerthfawrogi hyn yn dod â ni’n agosach at Jehofa.

PAM EI FOD MOR BWYSIG?

3. Beth mae Satan yn ei honni ynglŷn â brenhiniaeth Duw?

3 Mae gweithredoedd Satan wedi cwestiynu hawl brenhinol Jehofa. Honni y mae fod brenhiniaeth Duw yn llwgr a bod Jehofa yn gwrthod rhoi’r hyn sydd orau inni. Yn ôl Satan, byddai pobl yn llawer hapusach petasen nhw’n eu rheoli eu hunain. (Gen. 3:1-5) Mae Satan hefyd wedi awgrymu na fyddai neb yn ffyddlon i Dduw petaen nhw’n dod o dan bwysau mawr. (Job 2:4, 5) Er mwyn ateb her y Diafol, mae Jehofa yn caniatáu i amser fynd heibio i ddangos pa mor anobeithiol yw bywyd heb frenhiniaeth Duw.

4. Pam mae’n rhaid i awdurdod brenhinol Jehofa gael ei brofi?

4 Wrth gwrs, mae Jehofa yn gwybod mai celwyddau yw cyhuddiadau Satan. Pam, felly, mae Duw wedi dewis caniatáu i’r mater barhau, gan roi cyfle i Satan i geisio profi ei bwynt? Mae pob person ac angel yn rhan o’r ateb. (Darllen Salm 83:18.) Wedi’r cwbl, gwrthododd y pâr dynol cyntaf, a llawer ers hynny, frenhiniaeth Jehofa. Gall hyn achosi i rai feddwl bod y Diafol yn iawn. Cyhyd â bod y cwestiwn hwn yn aros ym meddyliau pobl neu angylion, bydd tensiwn yn codi ymhlith cenhedloedd, llwythau, teuluoedd, ac unigolion. Ond ar ôl i Jehofa ddangos bod ganddo’r hawl i reoli, bydd pawb yn ildio am byth i’w frenhiniaeth gyfiawn. Bydd heddwch wedi ei adfer ym mhobman.—Eff. 1:9, 10.

5. Sut gallwn ni ddangos ein bod ni’n sefyll o blaid sofraniaeth Jehofa?

5 Bydd sofraniaeth Jehofa wedi ei chyfiawnhau a bydd ymdrechion Satan a bodau dynol i reoli’r byd yn cael eu chwalu. Bydd Teyrnas Dduw yn llwyddo a bydd pobl ffyddlon wedi profi ei bod hi’n bosibl i fodau dynol gefnogi Jehofa fel rheolwr. (Esei. 45:23, 24) Wyt ti eisiau bod yn un o’r rhai ffyddlon hynny sy’n cefnogi sofraniaeth Jehofa? Mae’n siŵr dy fod ti. I fod yn ffyddlon, mae’n rhaid inni beidio ag anghofio am y ddadl bwysig hon.

SOFRANIAETH DUW YN BWYSICACH NA IACHAWDWRIAETH

6. Pa mor bwysig yw cefnogi sofraniaeth Jehofa?

6 Fel y dywedwyd, mae cefnogi sofraniaeth Jehofa yn fater hanfodol bwysig i ddynolryw. Mae’n bwysicach na hapusrwydd unigolion. Ydy’r ffaith honno’n awgrymu nad yw ein hiachawdwriaeth yn bwysig i Jehofa? Nac ydy. Pam felly?

7, 8. Pam mae cyflawni addewidion Jehofa yn rhan o gyfiawnhau ei sofraniaeth?

7 Mae Jehofa yn ein caru ni. Roedd yn barod i aberthu ei Fab i’n hachub ni unwaith ac am byth. (Ioan 3:16; 1 Ioan 4:9) Petai Jehofa yn peidio â chyflawni ei addewidion, byddai gan y Diafol reswm i alw Duw yn gelwyddog a’i gyhuddo o fod yn rheolwr annheg. Ac nid heb reswm y byddai gwrthwynebwyr yn gallu gofyn: “Wnaeth e ddim addo dod yn ôl? Ble mae e felly? Er bod y genhedlaeth gyntaf wedi marw, does dim wir wedi newid—mae bywyd yn mynd yn ei flaen yr un fath ers dechrau’r byd!” (2 Pedr 3:3, 4) Felly, wrth gyfiawnhau ei sofraniaeth, bydd Jehofa yn arbed pobl ffyddlon! (Darllen Eseia 55:10, 11.) Ar ben hynny, mae cariad Jehofa yn sail i’w sofraniaeth. Felly, gallwn ni fod yn sicr y bydd Duw bob amser yn caru ei weision ffyddlon ac yn eu gwerthfawrogi.—Ex. 34:6.

8 Nid yw cydnabod pwysigrwydd sofraniaeth Jehofa yn golygu ein bod ni’n dibrisio ein hiachawdwriaeth. Yn hytrach, rydyn ni’n edrych ar sofraniaeth a iachawdwriaeth yn y ffordd iawn. Mae hynny’n bwysig er mwyn medru cadw ein golwg ar yr hyn sy’n bwysig a sefyll o blaid brenhiniaeth gyfiawn Jehofa.

CADW PERSBECTIF

9. Beth oedd Satan yn ei honni yn achos Job? (Gweler y llun agoriadol.)

9 Mae’r angen i gadw persbectif yn cael ei bwysleisio yn llyfr Job, un o lyfrau cynta’r Beibl i gael ei ysgrifennu. Ynddo, rydyn ni’n dysgu bod Satan wedi dadlau y byddai Job yn gwrthod Duw yn wyneb treialon ofnadwy. Awgrymodd Satan y dylai Jehofa achosi treialon Job. Ni wnaeth Jehofa hynny, ond caniataodd i Satan brofi Job, gan ddweud: “Cei wneud beth bynnag rwyt ti eisiau i’w eiddo.” (Darllen Job 1:7-12.) Yn fuan wedyn, collodd Job ei weision, ei fywoliaeth, a’i ddeg plentyn annwyl. Ymosododd Satan ar Job gan wneud iddi ymddangos mai Jehofa ei hun oedd yn gyfrifol am drafferthion Job. (Job 1:13-19) Nesaf, cafodd Job ei boenydio gan Satan â salwch ofnadwy. (Job 2:7) Dechreuodd Job anobeithio’n fwy byth ar ôl clywed geiriau cas ei wraig a’r tri chyfaill a oedd yn honni eu bod nhw’n ffrindiau iddo.—Job 2:9; 3:11; 16:2.

10. (a) Beth wnaeth Job a oedd dangos pa mor ffyddlon oedd i Dduw? (b) Beth oedd ei gamgymeriad?

10 Y canlyniad? Daeth yn amlwg fod cyhuddiad Satan yn gelwydd. Ni chefnodd Job ar Dduw. (Job 27:5) Am gyfnod, fodd bynnag, nid oedd Job yn edrych ar bethau o’r safbwynt cywir. Rhoddodd ei holl sylw ar geisio profi ei gyfiawnder ei hun, gan ofyn hyd yn oed am reswm dros ei ddioddefaint. (Job 7:20; 13:24) O gofio am ei holl dreialon, hawdd yw cydymdeimlo ag ef. Ond eto, roedd yn rhaid i Dduw gywiro agwedd Job. Beth ddywedodd Jehofa wrtho?

11, 12. Beth gwnaeth Jehofa helpu Job i’w gydnabod, a beth oedd ymateb Job?

11 Mae geiriau Duw i Job yn llenwi pedair pennod yn llyfr Job—penodau 38 i 41. Ond does dim sôn yn y Beibl fod Duw wedi egluro wrth Job beth oedd y rheswm dros ei ddioddefaint. Nid bwriad Jehofa oedd esbonio pam roedd Job yn dioddef, fel petasai Duw yn gorfod ei gyfiawnhau ei hun. Yn hytrach, roedd Jehofa eisiau helpu Job i gydnabod pa mor fychan oedd ef o’i gymharu â mawredd Duw. Gwnaeth hefyd helpu Job i sylweddoli bod pethau llawer pwysicach i feddwl amdanyn nhw. (Darllen Job 38:18-21.) Gwnaeth hyn helpu Job i gadw persbectif.

12 A oedd Jehofa yn llym yn rhoi cyngor di-flewyn-ar-dafod i Job ac yntau wedi dioddef treialon ofnadwy? Nac oedd, a doedd Job ddim yn meddwl hynny chwaith. Er gwaethaf ei anawsterau, yn y pen draw, dechreuodd Job siarad mewn ffordd ostyngedig. Dywedodd: “Dw i’n tynnu’r cwbl yn ôl, ac yn edifarhau mewn llwch a lludw.” Dyna oedd effaith cyngor plaen ond adfywiol Jehofa. (Job 42:1-6) Yn gynharach, roedd Job hefyd wedi derbyn cyngor gan y gŵr ifanc Elihw. (Job 32:5-10) Ar ôl i Job ymateb i gyngor Duw a chywiro ei ffordd o feddwl, gwnaeth Jehofa sôn wrth eraill am ffyddlondeb Job o dan brawf.—Job 42:7, 8.

13. Sut byddai cyngor Jehofa wedi helpu Job ar ôl i’w dreialon orffen?

13 Byddai cyngor Jehofa yn parhau i helpu Job hyd yn oed ar ôl i’w dreialon orffen. Sut felly? Er bod Jehofa wedi “bendithio Job fwy yn y blynyddoedd ar ôl hynny nag roedd wedi gwneud yn y blynyddoedd blaenorol,” byddai wedi cymryd amser iddo i deimlo’n well. Yn ddiweddarach, “cafodd saith mab a thair merch.” (Job 42:12-14) Ond, teg yw dweud y byddai Job wedi hiraethu am ei blant a fu farw’n gynharach. Ar adegau, mae’n debyg y byddai wedi hel meddyliau am ei ddioddefaint poenus. Er iddo yn y pen draw ddeall yn well y rheswm dros ei dreialon, hawdd fyddai iddo, o bryd i’w gilydd, fynd i ofyn pam roedd hi’n angenrheidiol iddo ddioddef i’r fath raddau. Beth bynnag oedd yn mynd trwy ei feddwl, gallai fyfyrio ar gyngor Duw. Byddai gwneud hynny wedi ei helpu i gadw persbectif a chael cysur.—Salm 94:19.

A allwn ni edrych y tu hwnt i’n problemau a gweld yr hyn sy’n wirioneddol bwysig? (Gweler paragraff 14)

14. Beth gallwn ni ei ddysgu o brofiad Job?

14 Gallwn ninnau hefyd ddysgu gweld pethau o’r safbwynt cywir a chael cysur drwy ddarllen hanes Job. Wedi’r cwbl, rhodd oddi wrth Jehofa yw’r hanes sy’n ein “dysgu ni, er mwyn i’r ysgrifau sanctaidd ein hannog ni i fod yn amyneddgar wrth edrych ymlaen i’r dyfodol.” (Rhuf. 15:4) Beth yw’r wers i ni? Inni beidio â gadael i bethau bob dydd hawlio ein holl sylw fel ein bod ni’n colli golwg ar y mater pwysig hwn—cefnogi sofraniaeth Jehofa. Pwysig hefyd yw cydnabod pa mor bwysig yw aros yn ffyddlon hyd yn oed o dan amgylchiadau anodd iawn, er mwyn i ninnau chwarae ein rhan fel y gwnaeth Job.

15. Beth mae bod yn ffyddlon o dan brawf yn ei gyflawni?

15 Pam mae myfyrio ar bwysigrwydd ein ffyddlondeb personol yn rhoi cysur inni? Oherwydd y mae’n dangos bod dioddef treialon yn cyflawni pwrpas. Yn hytrach na mynegi dicter Jehofa, mae treialon yn rhoi’r cyfle inni i ddangos ein bod ni’n cefnogi sofraniaeth Duw. (Diar. 27:11) Yn wir, “mae’r gallu i ddal ati yn cryfhau ein cymeriad ni,” ac yn gwneud ein gobaith yn fwy sicr. (Darllen Rhufeiniaid 5:3-5.) Mae hanes Job yn dangos bod “tosturi a thrugaredd yr Arglwydd mor fawr!” (Iago 5:11) Felly, gallwn fod yn sicr y bydd Duw yn gwobrwyo pawb sy’n cefnogi ei sofraniaeth. Mae gwybod hyn yn ein helpu ni i fedru “dal ati yn amyneddgar” ac yn llawen.—Col. 1:11, 12.

CANOLBWYNTIO

16. Pam y dylen ni ein hatgoffa ein hunain o bwysigrwydd cefnogi sofraniaeth Jehofa?

16 Heb os, gall cofio am bwysigrwydd cefnogi sofraniaeth Jehofa fod yn her. Hawdd yw cael ein llyncu gan ein problemau ar brydiau. Gall hyd yn oed y problemau bychain lenwi ein meddyliau petawn ni’n caniatáu i hynny ddigwydd. Felly, peth call fyddai ein hatgoffa ni’n hunain yn rheolaidd o bwysigrwydd cefnogi sofraniaeth Duw pan fyddwn ni’n wynebu amgylchiadau anodd.

17. Sut mae cadw’n brysur yng ngwaith Jehofa yn ein helpu i ganolbwyntio ar sofraniaeth Duw?

17 Gall parhau i gadw’n brysur yng ngwaith Jehofa ein helpu ni i ganolbwyntio ar ei sofraniaeth. Er enghraifft, roedd Tyst o’r enw Renee wedi cael strôc ac yn dioddef o boen cronig a chanser. Pan oedd hi’n mynd i’r ysbyty, roedd hi’n tystiolaethu i’r staff, y cleifion, a’r ymwelwyr. Mewn un ysbyty, treuliodd hi 80 awr yn tystiolaethu mewn pythefnos a hanner yn unig. Hyd yn oed pan oedd hi ar fin marw, roedd sofraniaeth Jehofa yn bwysig iddi. Gwnaeth hynny yn ei dro leddfu tipyn ar ei phoen meddwl.

18. Sut mae profiad un chwaer yn dangos bod cefnogi sofraniaeth Jehofa yn dod â buddion?

18 Wrth gwrs, mae angen i ninnau roi ein sylw i gefnogi sofraniaeth Jehofa yn wyneb pryderon bywyd ac anawsterau. Treuliodd Jennifer dridiau mewn maes awyr yn disgwyl hedfan gartref. Cafodd un daith hedfan ar ôl y llall ei chanslo. A hithau’n teimlo’n unig ac yn flinedig, hawdd fyddai iddi deimlo bechod drosti hi ei hun. Yn hytrach, gweddïodd ar Jehofa i ofyn sut y gallai hi helpu pobl yn ysbrydol sydd yn yr un sefyllfa. Y canlyniad? Tystiolaethodd i lawer o bobl a gosod llawer o gyhoeddiadau. Dywedodd: “Roeddwn i’n teimlo bod Jehofa yn fy mendithio er gwaethaf sefyllfa anodd a rhoddodd ddigon o gryfder imi i gyhoeddi ei enw.” Yn wir, cadwodd ei llygad ar bwrpas Jehofa.

19. Ble mae pobl Jehofa’n sefyll o ran ei sofraniaeth?

19 Yn wahanol i gau grefyddau, mae gwir Gristnogion yn deall pwysigrwydd sofraniaeth Jehofa. Mae pobl Dduw yn wastad wedi cefnogi ei sofraniaeth. Fel rhai sydd o blaid gwir addoliad, dylen ninnau hefyd ymdrechu i feithrin yr un agwedd.

20. Sut mae Jehofa yn teimlo am dy ymdrechion i gefnogi ei sofraniaeth?

20 Gelli di fod yn hyderus fod Jehofa yn gwerthfawrogi dy ymdrechion i ddyfalbarhau a sefyll o blaid ei sofraniaeth er gwaethaf treialon. (Salm 18:25) Bydd yr erthygl nesaf yn rhoi sylw pellach i’r rheswm pam y dylen ni gefnogi sofraniaeth Jehofa a sut gallwn ni barhau i wneud hynny.