Sgrôl Hynafol “Wedi ei Dadlapio”
Roedd dernyn llosg Ein Gedi yn annarllenadwy ers iddo gael ei ddarganfod ym 1970. Mae sgan 3D wedi datgelu bod rhan o Lefiticus yn y sgrôl, a bod y rhan honno’n cynnwys enw personol Duw
YM 1970, cafodd sgrôl a oedd wedi ei llosgi’n ddifrifol ei thyrchu o’r pridd gan archaeolegwyr yn Ein Gedi, Israel, wrth ymyl glan orllewinol y Môr Marw. Cawson nhw hyd i’r sgrôl wrth ddatgloddio synagog, a losgwyd pan gafodd y pentref ei ddinistrio, yn y chweched ganrif OG yn ôl pob tebyg. Roedd cyflwr y sgrôl yn ei gwneud hi’n amhosib i’w darllen a doedd ’na ddim modd ei dadrolio heb ei thorri. Sut bynnag, diolch i dechneg sganio 3D, fe gafodd y sgrôl ei “dadlapio.” Gyda chymorth meddalwedd golygu delweddau, mae’n bosib ei darllen.
Beth mae’r sgan wedi ei ddatgelu? Testun Beiblaidd yw’r sgrôl. Mae’r hyn sydd ar ôl yn cynnwys adnodau o ran agoriadol llyfr Lefiticus. Mae’r adnodau yn cynnwys y Tetragramaton, sef enw personol Duw yn Hebraeg. Mae’n ymddangos bod y darganfyddiad yn dyddio o’r cyfnod rhwng ail hanner y ganrif gyntaf OG a’r bedwaredd ganrif OG, sy’n golygu mai’r sgrôl hon yw’r hynaf a ddarganfuwyd ers llawysgrifau Qumran. “Hyd nes cafodd dernyn Ein Gedi o lyfr Lefiticus ei dadrolio yn rhithiol,” meddai Gil Zohar yn y Jerusalem Post, “roedd bwlch o fileniwm rhwng Sgroliau’r Môr Marw 2,000 o flynyddoedd oed, yn dyddio o gyfnod yr Ail Deml, a’r Codex Aleppo canoloesol a ysgrifennwyd yn y 10fed ganrif.” Yn ôl yr arbenigwyr, mae’r sgrôl a gafodd ei dadlapio yn rhithiol yn dangos bod testun Masoretaidd y Tora “wedi cael ei gadw’n ddigyfnewid am filoedd o flynyddoedd, heb gamgymeriadau copïwyr yn sleifio i mewn.”