Cwestiynau Ein Darllenwyr
Mae Diarhebion 24:16, BCND, yn dweud: “Er i’r cyfiawn syrthio seithwaith, eto fe gyfyd [fe goda].” Ydy hyn yn cyfeirio at rywun sy’n syrthio i bechod dro ar ôl tro, ac yna’n cael ei faddau gan Dduw?
Nac ydy, nid dyna ydy pwynt yr adnod hon. Yn hytrach, mae’n cyfeirio at rywun sy’n syrthio, hynny yw, un sy’n wynebu llawer o broblemau, ond sy’n codi yn yr ystyr o ddod at ei hun.
Ystyria’r adnod yn ei chyd-destun: “Paid â llechu fel drwgweithredwr wrth drigfan y cyfiawn, a phaid ag ymosod ar ei gartref. Er i’r cyfiawn syrthio seithwaith, eto fe gyfyd [fe goda]; ond fe feglir y drygionus gan adfyd. Paid â llawenhau pan syrth dy elyn, nac ymfalchïo pan feglir ef.”—Diar. 24:15-17, BCND.
Mae rhai pobl yn meddwl bod adnod 16 yn sôn am rywun sy’n syrthio i bechod ond yn edifarhau ac yn dod at ei hun. Ysgrifennodd ddau glerigwr o Loegr fod “pregethwyr yr amser a fu, a heddiw, yn aml wedi defnyddio’r testun” yn y ffordd honno. Dywedon nhw hefyd y byddai’r esboniad hwn yn golygu ei bod hi’n bosib i “ddyn da bechu’n ddifrifol, ond i barhau i garu Duw a chael ei gymeradwyaeth am ei fod yn edifarhau.” Gallai barn o’r fath apelio at rywun sydd ddim eisiau brwydro yn erbyn pechod. Efallai bydd yn meddwl, hyd yn oed petai’n pechu dro ar ôl tro, bydd Duw wastad yn maddau iddo.
Ond nid dyna ydy gwir ystyr adnod 16.
Gall y gair Hebraeg a drosir “syrthio” a “syrth” yn adnodau 16 ac 17 gael ei ddefnyddio mewn gwahanol ffyrdd. Gall olygu syrthio’n llythrennol—ych yn syrthio ar y ffordd, rhywun yn syrthio oddi ar y to, a cherrig mân yn disgyn i’r ddaear. (Deut. 22:4, 8; Amos 9:9) Gall y gair gael ei ddefnyddio mewn ffordd ffigurol hefyd, fel yn y canlynol: “Mae’r ARGLWYDD yn sicrhau llwyddiant yr un sy’n byw i’w blesio. Bydd yn baglu weithiau ond fydd e ddim yn syrthio ar ei wyneb, achos mae’r ARGLWYDD yn gafael yn ei law.”—Salm 37:23, 24; Diar. 11:5; 13:17; 17:20.
Sut bynnag, sylwa ar beth ddywedodd yr Athro Edward H. Plumptre: “Dydy’r gair Hebraeg am [“syrthio”] byth yn cael ei ddefnyddio ar gyfer syrthio i bechod.” Felly, mae ysgolhaig arall yn esbonio adnod 16 fel hyn: “Mae cam-drin pobl Dduw yn ddi-fudd, oherwydd byddan nhw wastad yn llwyddo, ond ni fydd y drygionus!”
Felly, yn hytrach na “syrthio” yn yr ystyr o bechu, mae Diarhebion 24:16 yn cyfeirio at wynebu problemau neu anawsterau, hyd yn oed droeon. Yn y byd drwg sydd ohoni, efallai bydd rhywun cyfiawn yn wynebu salwch neu broblemau eraill. Efallai bydd yn wynebu erledigaeth lem gan y llywodraeth hyd yn oed. Ond gall fod yn hyderus bod Duw yn gefn iddo ac fe fydd yn ei helpu i ymdopi a llwyddo. Meddylia pa mor aml rwyt ti wedi gweld pethau’n gweithio allan er gwell i weision Duw. Pam mae hynny’n digwydd? Mae Jehofa yn ein sicrhau y bydd yn “cynnal pawb sy’n syrthio, ac yn gwneud i bawb sydd wedi eu plygu drosodd sefyll yn syth.”—Salm 41:1-3; 145:14-19.
Dydy rhywun “cyfiawn” ddim yn cael cysur o’r ffaith fod eraill yn cael problemau. Yn hytrach, mae’n cael ei gysuro o wybod y “bydd hi’n well ar y rhai sy’n parchu Duw yn y pen draw, am eu bod nhw’n dangos parch ato.”—Preg. 8:11-13; Job 31:3-6; Salm 27:5, 6.