ERTHYGL ASTUDIO 51
‘Mae Jehofa’n Achub y Rhai Sydd Wedi Anobeithio’
“Mae’r ARGLWYDD yn agos at y rhai sydd wedi torri eu calonnau. Mae e’n achub y rhai sydd wedi anobeithio.”—SALM 34:18.
CÂN 30 Fy Nhad, Fy Nuw a’m Ffrind
CIPOLWG a
1-2. Beth byddwn ni’n ei ystyried yn yr erthygl hon?
AR BRYDIAU, efallai byddwn ni’n meddwl am y ffaith fod bywyd yn fyr a’n dyddiau “yn llawn trafferthion.” (Job 14:1) Weithiau, mae hyn yn ein gwneud yn ddigalon. Roedd nifer o weision Jehofa yn adeg y Beibl yn teimlo fel ’na. Roedd rhai hyd yn oed eisiau marw. (1 Bren. 19:2-4; Job 3:1-3, 11; 7:15, 16) Ond dro ar ôl tro, fe wnaeth Jehofa—y Duw roedden nhw’n ei drystio—eu calonogi a’u hatgyfnerthu. Cafodd eu hanesion eu cofnodi er mwyn ein cysuro a’n dysgu ni.—Rhuf. 15:4.
2 Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n ystyried rhai o weision Jehofa a ddaliodd ati er gwaethaf treialon anodd, sef Joseff fab Jacob, y wraig weddw Naomi a’i merch yng nghyfraith Ruth, y Lefiad a ysgrifennodd Salm 73, a’r apostol Pedr. Sut gwnaeth Jehofa eu hatgyfnerthu nhw? A pha wersi gallwn ni’n bersonol eu dysgu o’u profiadau? Mae’r atebion yn ein sicrhau fod Jehofa “yn agos at y rhai sydd wedi torri eu calonnau,” a’i fod yn “achub y rhai sydd wedi anobeithio.”—Salm 34:18.
WYNEBODD JOSEFF ANGHYFIAWNDER CREULON
3-4. Beth ddigwyddodd i Joseff pan oedd yn ddyn ifanc?
3 Roedd Joseff tua 17 mlwydd oed pan gafodd ddwy freuddwyd oddi wrth Dduw. Roedd y breuddwydion hyn yn golygu y byddai Joseff un diwrnod yn rhywun pwysig y byddai ei deulu yn parchu. (Gen. 37:5-10) Ond yn fuan ar ôl i Joseff gael y breuddwydion hynny, newidiodd ei fywyd er gwaeth. Bryd hynny, doedd ei frodyr ddim yn ei barchu o gwbl, felly gwnaethon nhw ei werthu fel caethwas. Ymhen amser, cafodd ei hun yn nhŷ un o swyddogion yr Aifft o’r enw Potiffar. (Gen. 37:21-28) Mewn dim o dro, aeth Joseff o fod yn fab annwyl i’w dad i fod yn gaethwas di-nod i swyddog paganaidd yn yr Aifft.—Gen. 39:1.
4 Aeth pethau o ddrwg i waeth i Joseff. Cafodd ei gyhuddo ar gam gan wraig Potiffar o geisio ei threisio. Heb ymchwilio i’r cyhuddiad, taflodd Potiffar Joseff i’r carchar, lle cafodd ei roi mewn cyffion. (Gen. 39:14-20; Salm 105:17, 18) Roedd Joseff yn ddyn ifanc, felly dychmyga sut roedd yn teimlo pan gafodd ei gyhuddo ar gam o geisio treisio rhywun. A dychmyga’r gwarth allai hynny fod wedi dod ar enw Jehofa. Roedd gan Joseff bob rheswm i fod yn ddigalon!
5. Sut gwnaeth Joseff drechu digalondid?
5 Tra oedd yn gaethwas, ac wedyn yn y carchar, doedd dim llawer gallai Joseff ei wneud i newid ei sefyllfa. Beth wnaeth ei helpu i gadw golygwedd bositif? Yn lle canolbwyntio ar yr hyn roedd yn methu ei wneud, cadwodd yn brysur yn ei waith. Ac yn fwy na dim, rhoddodd Jehofa yn gyntaf yn ei fywyd. Oherwydd hynny, bendithiodd Jehofa bopeth roedd Joseff yn ei wneud.—Gen. 39:21-23.
6. Sut efallai gwnaeth breuddwydion Joseff ei gysuro?
6 Efallai fod Joseff hefyd wedi cael ei galonogi drwy feddwl am y breuddwydion roddodd Jehofa iddo flynyddoedd ynghynt. Roedden nhw’n golygu y byddai’n gweld ei deulu eto ac y byddai ei sefyllfa yn gwella. A dyna ddigwyddodd. Pan oedd Joseff tua 37 mlwydd oed, dechreuodd ei freuddwydion proffwydol gael eu cyflawni mewn ffordd anhygoel!—Gen. 37:7, 9, 10; 42:6, 9.
7. Yn ôl 1 Pedr 5:10, beth fydd yn ein helpu i ymdopi â threialon?
7 Gwersi i ni. Cawn ein hatgoffa bod y byd yma yn greulon, ac y bydd pobl yn ein trin yn annheg. Gall hyd yn oed brawd neu chwaer ein brifo ni. Ond os ydyn ni’n ystyried Jehofa yn Graig ac yn Noddfa inni, ni fyddwn ni’n digalonni nac yn stopio ei wasanaethu. (Salm 62:6, 7; darllen 1 Pedr 5:10.) Cofia hefyd, efallai roedd Joseff tua 17 pan roddodd Jehofa’r breuddwydion hynny iddo. Yn amlwg felly, mae gan Jehofa hyder yn ei weision ifanc. Heddiw, mae llawer o rai ifanc yn debyg i Joseff. Mae ganddyn nhwthau ffydd yn Jehofa. Mae rhai ohonyn nhw wedi cael eu carcharu yn annheg oherwydd eu bod yn gwrthod anufuddhau i Dduw.—Salm 110:3.
DWY WRAIG WEDI EU LLETHU GAN ALAR
8. Beth ddigwyddodd i Naomi a Ruth?
8 Roedd newyn difrifol wedi gorfodi Naomi a’i theulu i adael eu cartref yn Jwda a byw mewn gwlad estron o’r enw Moab. Yno, bu farw gŵr Naomi, Elimelech, gan ei gadael hi ar ôl gyda’u dau fab. Ymhen amser, priododd y ddau ferched o Foab, Ruth ac Orpa. Tua deng mlynedd wedyn, bu farw dau fab Naomi hefyd, heb adael plant. (Ruth 1:1-5) Mae’n rhaid fod hyn wedi llorio’r tair ohonyn nhw! Wrth gwrs, roedd Ruth ac Orpa yn gallu ailbriodi. Ond pwy fyddai’n gofalu am Naomi yn ei henaint? Roedd Naomi mor ddigalon ar un adeg ei bod hi wedi dweud: “Peidiwch galw fi yn ‘Naomi’. Galwch fi’n ‘Mara’. Mae’r Un sy’n rheoli popeth wedi gwneud fy mywyd i’n chwerw iawn.” Â’i chalon wedi ei thorri, penderfynodd Naomi ddychwelyd i Fethlehem, ac aeth Ruth gyda hi.—Ruth 1:7, 18-20.
9. Yn ôl Ruth 1:16, 17, 22, sut gwnaeth Ruth annog Naomi?
9 Yr hyn a helpodd Naomi oedd cariad ffyddlon. Er enghraifft, dangosodd Ruth gariad ffyddlon tuag at Naomi drwy lynu wrth ei hochr. (Darllen Ruth 1:16, 17, 22.) Ym Methlehem, gweithiodd Ruth yn galed yn lloffa haidd ar ei chyfer hi a Naomi. O ganlyniad, enillodd y ddynes ifanc enw da am weithio’n galed.—Ruth 3:11; 4:15.
10. Ym mha ffyrdd gwnaeth Jehofa ddangos cariad tuag at y rhai mewn angen fel Naomi a Ruth?
10 Roedd Jehofa wedi rhoi cyfraith dosturiol i’r Israeliaid oedd yn gofalu am y rhai mewn angen fel Naomi a Ruth. Dywedodd wrth ei bobl am beidio â chynaeafu ymylon y cae fel bod y rhai tlawd yn gallu lloffa yno. (Lef. 19:9, 10) Felly doedd dim rhaid i Naomi a Ruth gardota am fwyd. Roedden nhw’n gallu ei gael mewn ffordd oedd yn cadw eu hurddas.
11-12. Sut rhoddodd Boas reswm i Naomi a Ruth fod yn hapus?
11 Roedd Ruth yn lloffa haidd mewn cae dyn cyfoethog o’r enw Boas. Roedd ffyddlondeb a chariad Ruth tuag at Naomi, ei mam yng nghyfraith, wedi creu argraff fawr ar Boas. Felly, yn nes ymlaen, priododd Boas Ruth ac ail-brynu etifeddiaeth eu teulu. (Ruth 4:9-13) Cafodd y cwpl blentyn o’r enw Obed; daeth yntau yn daid i’r Brenin Dafydd.—Ruth 4:17.
12 Dychmyga lawenydd Naomi wrth iddi ddal Obed bach yn ei breichiau a diolch o’i chalon i Jehofa! Ond mae’r gorau eto i ddod i Naomi a Ruth. Ar ôl cael eu hatgyfodi, cân nhw wybod bod Obed wedi bod yn un o hynafiaid y Meseia Addawedig, Iesu Grist!
13. Pa wersi gwerthfawr gallwn ni eu dysgu o hanes Naomi a Ruth?
13 Gwersi i ni. Pan fyddwn ni’n wynebu treialon, efallai byddwn ni’n anobeithio, neu hyd yn oed yn torri’n calonnau. Efallai nad ydyn ni’n gweld ffordd o ddatrys ein problemau. Ar adegau felly, dylen ni ymddiried yn llwyr yn ein Tad nefol ac aros yn agos at ein brodyr a chwiorydd yn y gynulleidfa. Wrth gwrs, efallai na fydd Jehofa’n cael gwared ar y treial. Wedi’r cwbl, wnaeth ef ddim dod â gŵr a meibion marw Naomi yn ôl iddi. Ond fe fydd yn ein helpu ni i ymdopi, weithiau drwy gariad ffyddlon ein teulu ysbrydol.—Diar. 17:17.
LEFIAD A FU BRON Â BAGLU
14. Pam aeth un Lefiad yn ddigalon iawn?
14 Roedd ysgrifennwr Salm 73 yn Lefiad. Felly roedd ganddo’r fraint anhygoel o wasanaethu yn nhŷ Jehofa. Er hynny, roedd ’na gyfnod yn ei fywyd pan aeth yn ddigalon. Pam? Daeth yn genfigennus o’r drygionus a’r balch, nid oherwydd eu drygioni, ond am eu bod nhw i weld yn llwyddo. (Salm 73:2-9, 11-14) Roedd hi’n edrych fel petai ganddyn nhw bopeth—cyfoeth, bywyd da, a dim pryderon. O weld hyn, aeth y Lefiad yn ddigalon iawn a dywedodd: “Mae’n rhaid fy mod i wedi cadw fy nghalon yn lân i ddim byd, wedi bod mor ddiniwed wrth olchi fy nwylo!” Yn amlwg, roedd mewn peryg ysbrydol mawr.
15. Yn ôl ei eiriau yn Salm 73:16-19, 22-25, sut trechodd y Lefiad ei ddigalondid?
15 Darllen Salm 73:16-19, 22-25. Aeth y Lefiad “i mewn i deml Dduw.” Yno, ymysg ei gyd-gredinwyr, roedd yn gallu meddwl yn glir heb gynhyrfu, a gweddïo am ei sefyllfa. O ganlyniad, sylweddolodd bod ei ffordd o feddwl wedi troi’n ffôl, a’i fod wedi cychwyn ar lwybr peryglus a fyddai’n ei wahanu oddi wrth Jehofa. Daeth hefyd i ddeall bod y drygionus “mewn lleoedd llithrig,” ac y byddan nhw’n “cael eu dinistrio.” I gael gwared ar ei genfigen a’i ddigalondid, roedd rhaid i’r Lefiad weld pethau o safbwynt Jehofa. Unwaith iddo wneud hynny, cafodd ei heddwch mewnol yn ôl, ac roedd yn hapus. Dywedodd: “Does gen i eisiau neb ond [Jehofa] ar y ddaear.”
16. Pa wersi gallwn ni eu dysgu oddi wrth y Lefiad?
16 Gwersi i ni. Ddylen ni byth genfigennu wrth bobl ddrygionus sydd i weld yn llwyddo. Mae eu hapusrwydd yn arwynebol, ac ond yn para dros dro; fyddan nhw ddim yn byw am byth. (Preg. 8:12, 13) Os ydyn ni’n genfigennus ohonyn nhw, byddwn ni ond yn digalonni a gallen ni hyd yn oed golli ein perthynas â Jehofa. Felly os wyt tithau’n dechrau teimlo’n genfigennus o lwyddiant arwynebol y drygionus, gwna fel y gwnaeth y Lefiad. Ufuddha i gyngor cariadus Jehofa, a chymdeithasa ag eraill sy’n gwneud ei ewyllys. Pan fyddi di’n caru Jehofa yn fwy na dim, byddi di’n wirioneddol hapus. A byddi di’n aros ar y llwybr i “fywyd go iawn.”—1 Tim. 6:19.
ROEDD GWENDIDAU PEDR YN EI DDIGALONNI
17. Pa resymau oedd gan Pedr i fod yn ddigalon?
17 Roedd yr apostol Pedr yn llawn brwdfrydedd; ond roedd yn gallu bod yn fyrbwyll. O ganlyniad, roedd ar brydiau yn dweud neu’n gwneud pethau dim ond i’w difaru wedyn. Er enghraifft, pan ddywedodd Iesu wrth ei apostolion y byddai’n dioddef ac yn marw, dywedodd Pedr y drefn wrtho, gan ddweud: “Wnaiff hynny byth ddigwydd i ti, Arglwydd!” (Math. 16:21-23) Yna, cywirodd Iesu Pedr. Pan ddaeth torf i arestio Iesu, gwnaeth Pedr, heb feddwl, dorri clust gwas yr archoffeiriad i ffwrdd. (Ioan 18:10, 11) Cywirodd Iesu yr apostol unwaith eto. Hefyd, roedd Pedr wedi brolio, hyd yn oed petai’r apostolion eraill yn troi cefn ar Iesu, fyddai ef byth yn gwneud! (Math. 26:33) Ond doedd Pedr ddim mor gryf ag yr oedd yn meddwl. Yn hwyrach y noson honno, cafodd ofn dyn y gorau ohono, a gwadodd Iesu deirgwaith. Wedi digalonni’n llwyr, “aeth [Pedr] allan yn beichio crio.” (Math. 26:69-75) Mae’n rhaid ei fod wedi poeni na fyddai Iesu byth yn gallu maddau iddo.
18. Sut gwnaeth Iesu helpu Pedr i drechu digalondid?
18 Er hyn i gyd, wnaeth Pedr ddim caniatáu i’w ddigalondid ei rwystro rhag gwasanaethu Jehofa. Ar ôl iddo faglu, daeth at ei hun, a daliodd ati i wasanaethu Jehofa gyda’r apostolion eraill. (Ioan 21: 1-3; Act. 1:15, 16) Beth helpodd Pedr i ddod at ei hun? Cofiodd fod Iesu wedi gweddïo na fyddai’n colli ei ffydd, a bod Iesu wedi ei annog i ddychwelyd ac atgyfnerthu ei frodyr. Atebodd Jehofa y weddi daer honno. Yn hwyrach ymlaen, ymddangosodd Iesu i Pedr yn bersonol, er mwyn ei annog mae’n debyg. (Luc 22:32; 24:33, 34; 1 Cor. 15:5) Ar ôl i’r apostolion gael noson siomedig o bysgota, ymddangosodd iddyn nhwthau hefyd. Ar yr achlysur hwnnw, rhoddodd Iesu gyfle i Pedr ddweud wrtho gymaint yr oedd yn ei garu. Roedd Iesu wedi maddau i’w ffrind annwyl, a rhoddodd fwy o waith iddo.—Ioan 21:15-17.
19. Sut mae Salm 103:13, 14 yn ein helpu i weld ein pechodau drwy lygaid Jehofa?
19 Gwersi i ni. Mae’r ffordd y deliodd Iesu â Pedr yn pwysleisio trugaredd Iesu, ac mae Iesu yn adlewyrchu ei Dad yn berffaith. Felly pan fyddwn ni’n gwneud camgymeriadau, ddylen ni ddim anobeithio a meddwl na fydd Jehofa’n maddau inni. Cofia fod Satan eisiau inni ildio i’r fath deimladau. Yn hytrach, gad inni geisio gweld ein hunain—a’r rhai sy’n ein brifo ni—drwy lygaid tosturiol a chariadus ein Tad nefol.—Darllen Salm 103:13, 14.
20. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl nesaf?
20 Mae esiamplau Joseff, Naomi a Ruth, y Lefiad, a’r apostol Pedr yn ein sicrhau bod Jehofa “yn agos at y rhai sydd wedi torri eu calonnau.” (Salm 34:18) Mae’n caniatáu inni ddioddef treialon a theimlo’n ddigalon ar brydiau. Ond, pan fyddwn yn goddef treialon yn llwyddiannus gyda help Jehofa, mae ein ffydd yn cryfhau. (1 Pedr 1:6, 7) Yn yr erthygl nesaf, byddwn ni’n trafod mwy am sut mae Jehofa’n cefnogi ei weision ffyddlon sy’n ddigalon, efallai oherwydd eu hamherffeithrwydd neu oherwydd amgylchiadau anodd.
CÂN 7 Jehofa, Ein Nerth
a Profodd Joseff, Naomi a Ruth, Lefiad, a’r apostol Pedr dreialon a achosodd iddyn nhw ddigalonni. Yn yr erthygl hon, byddwn yn gweld sut gwnaeth Jehofa eu cysuro a’u hatgyfnerthu. Byddwn ni hefyd yn ystyried beth allwn ni ei ddysgu o’u hesiamplau ac o’r ffordd dosturiol y deliodd Duw â nhw.
b DISGRIFIAD O’R LLUN: Roedd Naomi, Ruth, ac Orpa yn drist ac yn ddigalon oherwydd marwolaeth eu gwŷr. Yn hwyrach ymlaen, roedd Ruth a Naomi yn llawenhau gyda Boas dros enedigaeth Obed.