Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Y Beibl—Ffynhonnell Ddibynadwy o Wirionedd

Y Beibl—Ffynhonnell Ddibynadwy o Wirionedd

Drwy gydol hanes, mae pobl o wahanol gefndiroedd wedi ystyried y Beibl yn ffynhonnell ddibynadwy o wirionedd. Heddiw, mae miliynau yn dilyn ei ddysgeidiaethau. Ond mae eraill yn ei ddiystyru, gan deimlo ei fod yn amherthnasol ac yn llawn straeon ffug. Beth yw’ch barn chi? A allwch chi gael hyd i’r gwir yn y Beibl?

PAM GALLWCH YMDDIRIED YN Y BEIBL

A oes rhesymau da dros benderfynu ymddiried yn y Beibl? Ystyriwch yr eglureb ganlynol: Os yw ffrind wedi dweud y gwir wrthych chi yn gyson am flynyddoedd, mae’n debyg eich bod yn ei drystio. Ydy’r Beibl, fel y ffrind dibynadwy hwnnw, wedi dweud y gwir yn gyson? Sylwch ar rai esiamplau.

Ysgrifenwyr Gonest

Roedd ysgrifenwyr y Beibl yn onest iawn, ac yn aml yn datgelu eu camgymeriadau a’u methiannau eu hunain. Er enghraifft, ysgrifennodd y proffwyd Jona am ei anufudd-dod i Dduw. (Jona 1:1-3) Yn wir, gorffennodd Jona ei lyfr drwy sôn am sut gwnaeth Duw ei geryddu, ond heb dynnu sylw at sut y cywirodd ei agwedd ei hun. (Jona 4:1, 4, 10, 11) Mae gonestrwydd holl ysgrifenwyr y Beibl yn dangos bod y gwir yn bwysig iawn iddyn nhw.

Gwirionedd Ymarferol

Ydy’r Beibl wastad yn rhoi cyngor doeth ynglŷn â phethau ymarferol? Ydy wir. Er enghraifft, sylwch beth mae’n ei ddweud am gadw eich perthynas ag eraill yn gryf: “Dylech chi bob amser drin pobl eraill fel byddech chi’n hoffi iddyn nhw’ch trin chi.” (Mathew 7:12) “Mae ateb caredig yn tawelu tymer; ond dweud pethau cas yn gwylltio pobl.” (Diarhebion 15:1) Mae gwirioneddau’r Beibl yr un mor ymarferol heddiw ag yr oedden nhw y diwrnod cawson nhw eu hysgrifennu.

Yn Hanesyddol Gywir

Dros y blynyddoedd, mae llawer o ddarganfyddiadau archaeolegol wedi profi cywirdeb hanesyddol y Beibl wrth iddo sôn am ddigwyddiadau, llefydd, a phobloedd. Er enghraifft, ystyriwch y dystiolaeth sy’n cefnogi un manylyn bychan. Dywed y Beibl fod Tyriaid (Phoeniciaid o Tyrus), a oedd yn byw yn Jerwsalem yn adeg Nehemeia, yn “dod â physgod a phob math o gynnyrch arall.”—Nehemeia 13:16.

A oes tystiolaeth i gefnogi’r adnod hon? Oes. Mae archaeolegwyr wedi darganfod nwyddau yn Israel a ddaeth o Phoenicia, sy’n awgrymu yr oedd masnach rhwng y ddwy genedl. Ar ben hynny, cafodd gweddillion pysgod o Fôr y Canoldir eu codi o’r pridd yn Jerwsalem. Creda archaeolegwyr fod masnachwyr wedi cludo’r pysgod o’r arfordir pell. Ar ôl dadansoddi’r dystiolaeth, daeth un ysgolhaig i’r casgliad: “Mae’r datganiad yn Nehemeia 13:16 fod y Tyriaid yn gwerthu pysgod yn Jerwsalem yn gredadwy.”

Yn Wyddonol Gywir

Yn bennaf, llyfr am grefydd a hanes yw’r Beibl, ond eto, mae’n wyddonol gywir bob tro mae’n sôn am faterion gwyddonol. Nodwch un esiampl.

Tua 3,500 o flynyddoedd yn ôl, dywedodd y Beibl fod y ddaear yn hongian “uwch y gwagle.” (Job 26:7) Roedd hyn yn hollol wahanol i’r camsyniadau a oedd yn dweud bod y ddaear yn arnofio ar ddŵr, neu’n cael ei chario gan grwban enfawr. Tua 1,100 o flynyddoedd wedi i lyfr Job gael ei ysgrifennu, roedd pobl yn parhau i gredu na allai’r ddaear hongian ar ddim, a bod rhaid iddi orffwys ar rywbeth. Dim ond tua thair canrif yn ôl, ym 1687, cyhoeddodd Isaac Newton ei ymchwil ar ddisgyrchiant, gan esbonio bod grym anweledig yn cadw’r ddaear yn ei chylchdro. Roedd y garreg filltir wyddonol hon yn cadarnhau’r hyn a ddywedodd y Beibl dros 3,000 o flynyddoedd ynghynt!

Proffwydoliaethau Dibynadwy

Pa mor gywir ydy proffwydoliaethau niferus y Beibl? Ystyriwch un esiampl, sef proffwydoliaeth Eseia am ddistryw Babilon.

Y Broffwydoliaeth: Yn yr wythfed ganrif COG, cyn i Fabilon fod yn brifddinas i ymerodraeth rymus, proffwydodd Eseia y byddai hi’n cael ei dinistrio, ac y byddai neb yn byw ynddi yn y pen draw. (Eseia 13:17-20) Aeth Eseia cyn belled ag enwi Cyrus fel y dyn fyddai’n gorchfygu’r ddinas. Hefyd, disgrifiodd Eseia strategaeth Cyrus, gan ddweud y caiff afonydd eu “sychu.” Ac fe ragfynegodd y byddai giatiau’r ddinas yn cael eu gadael yn agored.—Eseia 44:27–45:1.

Y Cyflawniad: Tua 200 mlynedd ar ôl proffwydoliaeth Eseia, ymosododd Brenin o Bersia ar Fabilon. Ei enw? Cyrus. Roedd Babilon yn ddinas gaerog, felly trodd Cyrus ei sylw at Afon Ewffrates a oedd yn llifo drwy’r ddinas ac o’i chwmpas. Cloddiodd ei ddynion gamlas yn uwch i fyny’r afon er mwyn ailgyfeirio’r dŵr i gors. Gostyngodd lefel y dŵr at gluniau’r milwyr, ac roedden nhw’n gallu cerdded drwy’r afon wrth ymyl waliau’r ddinas. Yn anhygoel, roedd y Babiloniaid wedi gadael y giatiau a oedd yn wynebu’r afon yn agored! Cerddodd byddin Cyrus drwy giatiau agored Babilon a’i gorchfygu.

Ond beth am y manylyn sy’n dweud na fyddai neb yn byw ym Mabilon bellach? Roedd pobl yn byw yno am ganrifoedd wedyn. Ond heddiw, mae adfeilion Babilon ger Baghdad yn Irac yn profi bod y broffwydoliaeth wedi ei chyflawni’n llwyr. Ydy, mae’r Beibl yn ddibynadwy hyd yn oed wrth drafod y dyfodol.